English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

‘Llundain yn galw’ ar bwnc diwygio lles

Golygydd newydd WHQ Jules Birch yn asesu effaith diwygio lles mewn gwahanol rannau o’r DU.

Yng ngolwg San Steffan a Whitehall, mae’r ddadl o blaid diwygio lles yn berffaith synhwyrol.

Mae’r ymdrech ollbwysig i leihau’r diffyg yn golygu penderfyniadau poenus weithiau. Capiwyd y lwfans tai lleol er mwyn ymdopi â rhenti cynyddol Llundain, felly dyw hi ddim ond yn deg torri budd-dal tai tenantiaid cymdeithasol hefyd. Mae llety cymdeithasol yn y ddinas yn ddifrifol o orlawn, felly cosber tan-feddianwyr. Mae digon o swyddi rhan-amser ar gael yn Llundain, felly rhodder terfyn ar fudd-daliadau’r rheini sy’n gwrthod gweithio.

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen, yn llawn tybiaethau ynglŷn â diwygio lles yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr nad ydynt yn berthnasol yn yr un ffordd yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon na llawer o weddill Lloegr.

Pan fo Gweinidog Tai Cymru, Huw Lewis, yn ymosod ar y newidiadau mewn budd-daliadau fel ‘ anfadwaith cymdeithasol’, a Phrif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn eu disgrifio fel ‘y bygythiad mwyaf i urddas dynol’ yn yr Alban, mynegir nid yn unig anghytundeb gweleidyddol gyda’r glymblaid yn Llundain ond gwahaniaethau cenedlaethol clir hefyd. Mae’r un peth yn wir am Ogledd Iwerddon, a rhanbarthau Lloegr.

Cymerwch y dreth stafell-wely, y newid a fydd yn taro gyntaf ac yn galetaf. Mae gorlenwi’n llawer uwch (16.1% o denantiaid cymdeithasol yn ôl y safon stafell-wely) a than-feddiannu’n is (28%) yn Llundain nag yn unlle arall yn y DU, felly ymddengys yn ddoeth eu cydweddu. Ym mhobman arall mae llawer mwy o gartrefi wedi eu tan-feddiannu nag sy’n orlawn, felly os mai defnydd mwy effeithlon o’r stoc yw’r unig nod, gallai cymhellion weithio’n well na chosbi.

Tenantiaid cymdeithasol

Prin bod angen atgoffa tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru bod y 46% ohonynt sy’n wynebu cosb am dan-feddiannu yn gyfran llawer uwch nag yn unman arall. Mae’n fwy na dwywaith yn uwch nag yn Llundain a de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr, ond yng ngogledd-orllewin Lloegr a rhanbarth Swydd Efrog a Humberside, effeithir ar 43% o’r tenantiaid.

Ac felly, mae’r hyn a ymddengys fel ateb gweinyddol taclus (os hallt) yn Llundain yn dechrau ymddatod po bellaf yr ewch o Lundain. Dan lach ASau ac arglwyddi mewn cyfres o ddadleuon yn San Steffan, ailadroddir y mantra gan weinidogion y gall tan-ddefnyddwyr symud i dŷ llai, cadw lodjar neu ddod o hyd i swydd.

Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn wynebu problemau neilltuol gyda’r dreth stafell-wely (gweler y blychau) nad ystyriwyd gan ei dyfeiswyr yn Llundain, Ac eto, dros ardaloedd helaeth ym mhedair cenedl y DU, does gan landlordiaid ddim eiddo llai o faint ar gael, a byddai’n rhaid i dan-feddianwyr aros am flynyddoedd i symud i eiddo llai. Yng nghefn gwlad, gall fod bron yn amhosib symud ac aros yn agos at ffrindiau a theulu. Gall fod yn haws dod o hyd i waith yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, ond mae colli budd-daliadau eraill yn golygu nad yw hi mor syml ag yr honna gweinidogion i weithio ychydig o oriau rhan-amser er mwyn talu’r dreth stafell-wely. Ychydig o denantiaid yn unman sydd fel pe baent o ddifri yn ystyried cadw lodjar neu symud i gartref llai (ond drutach) yn y sector rhentu preifat.

Y tymor byr

Felly, yn y tymor byr o leiaf, ymddengys bod llawer o denantiaid yn barod i aros yn eu hunfan a cheiso pontio’r bwlch o’u budd-daliadau eraill neu efallai gyda help gan y teulu. Dyma un peth, o leiaf, na ddylai fod yn syndod yn Llundain, gan iddi fod yn glir ers peth amser mai’r unig ffordd y gall y gosb am dan-feddiannu arbed y symiau a ragwelir yw trwy iddi fethu dileu tan-feddiannu.

Mae nifer o’r un problemau yn wir am y diwygiad lles nesaf: y credyd cynhwysol. Dydy system a luniwyd er mwyn gwneud i waith dalu ffordd ddim yn gweithio cystal os nad oes gwaith ar gael. Mae talu’r elfen tai yn uniongyrchol i denantiaid yn llawer mwy o fygythiad i landlordiaid yn yr ardaloedd lle bu effeithiau’r dirwasgiad a’r dreth stafell-wely waethaf. Mae cynhwysedd digidol a hawlio ar-lein yn swnio’n iawn yn y dinasoedd, ond ni fydd hynny’n bosibl mewn ardaloedd cefn-gwlad lle nad oes derbyniad band llydan a ffôn symudol.

Mae Gogledd Iwerddon wedi negydu rhywfaint o hyblygrwydd (gweler y blwch) ond gadawyd landlordiaid yn Lloegr, yr Alban a Chymru i wylio profiad y projectau arddangos taliadau uniongyrchol er mwyn ceisio barnu’r effeithiau posibl. Nododd yr adroddiad cyntaf ôl-ddyledion o 8%, ond roedd hyn ymhlith tenantiaid dethol, gan eithrio’r mwyaf diymgeledd, a gyda chefnogaeth ddwys gan landlordiaid ac awdurdodau lleol.

Mae adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn amcangyfrif y bydd diwygio lles, yn ei grynswth, yn lleihau incwm teuluol yng Nghymru o £525 miliwn erbyn 2014/15. Dywed llywodraeth Cymru y bydd hyn yn ergyd ‘ddeifiol’, a all ddylanwadu hefyd ar iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a datblygiad economaidd.

Fel yng Ngogledd Iwerddon, ond heb yr un cwmpas, gall llywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban wneud pethau na ellir eu gwneud yn rhanbarthau Lloegr. Daethant ill dwy o hyd i arian ychwanegol i ddiogelu hawlwyr rhag effeithiau’r cwtogi ar fudd-dal treth gyngor (does dim treth gyngor gan Ogledd Iwerddon). Yn Lloegr, fodd bynnag, er i rai cynghorau ddod o hyd i arian ychwanegol o’u cyllidebau eu hunain, mae’r mwyafrif yn gweithredu gostyngiad a fydd yn costio £3 yr wythnos yn fwy ar gyfartaledd i hawlwyr, ar ben yr holl doriadau eraill.

Pwysau cynyddol

Yn ôl yn Llundain, wrth i Ebrill 2013 nesáu gorfodwyd gweinidogion i ymateb yn amddiffynnol gan y sylw helaeth a roddwyd gan y newyddion teledu i ddioddefwyr go iawn y diwygiadau lles. Ac yn y ddinas o’u cwmpas, mae oblygiadau diwygiad lles sy’n effeithio ar Lundain yn fwy nag unman arall yn dod yn glir. Roedd cynghorau eisoes yn wynebu prinder difrifol o ran llety rhentu preifat y gellid ei fforddio o fewn y terfyn lwfans tai lleol ar stafelloedd gwely. Bydd y cyfyngu ar fudd-daliadau teulu yn gwneud llety dros-dro ar gyfer pobl ddigartref yn anfforddiadwy ar draws rhannau helaeth o’r ddinas ac – er gwaethaf canllawiau swyddogol sy’n dweud y dylid lleoli pobl yn yr un ardal – mae nifer yn sôn yn agored am symud teuluoedd mor bell i ffwrdd â Hull, Birmingham a hyd yn oed Merthyr. Ni chyfrifwyd yr effeithiau a’r gost o ganlyniad i hyn ar ardaloedd eraill.

Yn y cyfamser, bydd y pwysau ar denantiaid a landlordiaid oherwydd diwygiadau eraill yn parhau i gynyddu. Ymddengys yn sicr y bydd hynny’n arwain ar fwy o ddigartrefedd a chostau cynyddol i awdurdodau lleol, sy’n achosi i rai holi a fydd San Steffan hyd yn oed yn cyflawni llawer o ran ei brif nod o leihau’r diffyg. Efallai ein bod, wedi’r cwbl, oll ynddi gyda’n gilydd. Yr unig broblem yw na wyddom eto pa beth rydym ynddo.


Gogledd Iwerddon

Mae’r elfennau o hyblygrwydd a negydwyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yn y credyd cynhwysol yn destun cenfigen i weddill y DU.

Ni fydd y budd-dal newydd yn cychwyn yno tan fis Ebrill 2014, chwe mis yn ddiweddarach nag ym Mhrydain (er bod yr amserlen yn dal yn ansicr, yn wyneb graddfa’r newidiadau).

Gellir talu’r budd-dal yn bythefnosol yn hytrach nag yn fisol ac i fwy nag un person yn y teulu, a ddylai helpu i leddfu pryderon ynglŷn â’r effaith ar hawlwyr sydd heb arfer â rheoli arian. Ac, o bwys hanfodol i sefydliadau tai, gall tenantiaid ddal i ddewis cael eu rhent wedi ei dalu’n uniongyrchol i’w landlord.

Achosodd y consesiynau alw am rywbeth tebyg yn yr Alban a Chymru. Fodd bynnag, mae hyn yn anwybyddu’r trefniadau cyfansoddiadol gwahanol yng Ngogledd Iwerddon o dan Gytundeb Gwener y Groglith. Mae yna hefyd fater bychan y ffaith bod Cynulliad Gogledd Iwerddon, wrth i WHQ fynd i’r wasg ddiwedd mis Chwefror, yn dal heb basio’i fesur cyfatebol i’r Ddeddf Diwygio Lles, ac y bydd yn rhaid iddo dalu cost unrhyw oedi o’i grant gyffredinol.

Ym mis Ionawr, adroddodd pwyllgor ad hoc ar agweddau cydraddoldeb a hawliau dynol y ddeddfwriaeth. Mae’r rhain yn neilltuol o bwysig yng Ngogledd Iwerddon, yn wyneb ei hanes diweddar. Efallai bod symud i eiddo llai o dan y dreth stafell-wely yn Belfast, er enghraifft, yn edrych fel mater syml o symud ychydig strydoedd i ffwrdd, ond gallai hefyd olygu mynd o ardal Babyddol yn bennaf i un Brotestannaidd, neu fel arall.

Mae’r oedi wedi ychwanegu dau gymhlethdod pellach. Yn gyntaf, ystyrir bellach mai go brin y gellid cadarnhau’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cysylltiedig erbyn mis Ebrill, gan adael landlordiaid heb nemor ddim amser i baratoi ar gyfer y manylion a thenantiaid heb yr un cyswllt a chefnogaeth ag a geir mewn mannau eraill, Yn ail, rhaid talu am unrhyw oedi o grant gyffredinol Gogledd Iwerddon. Llynedd amcangyfrifodd y Gweinidog Diwygio Lles, yr Arglwydd Freud, y gallai oedi am chwe wythnos gostio £15 miliwn.

Yr Alban

Mae gan awdurdodau lleol yr Alban broblem ychwanegol gyda’r dreth stafell-wely ar ben yr holl rai eraill a wynebir gan eu cymheiriaid yng ngweddill y DU.

Wrth i’r Ddeddf Diwygio Lles fynd trwy senedd San Steffan, dywedodd gweinidogion droeon y câi llety dros-dro ar gyfer pobl ddigartref ei eithrio rhag y gosb am dan-feddiannu, ac anadlodd cynghorau yn yr Alban a mannau eraill ochenaid o ollyngdod. Ond ym mis Hydref, cadarnhaodd cylchlythyr gan yr AGP mai dim ond llety dros-dro wedi ei rentu gan y sector preifat fyddai wedi ei eithrio. Yn yr Alban, mae 70% ohono yn perthyn i awdurdodau lleol, ac felly mae’r dreth stafell-wely mewn grym.

Roedd yr amseru hyd yn oed yn waeth i’r Alban oherwydd bod ei deddfwriaeth sy’n dileu angen blaenoriaethol ar fin dod i rym ddiwedd mis Rhagfyr. Golygai hynny, brin chwe mis cyn dyfodiad y dreth stafell-wely, eu bod yn wynebu cur pen ariannol anferthol na ellir ei drosglwyddo i denantiaid mewn llety dros-dro. Ni ddatgelwyd y tâl annisgwyl tan wedi i’r dyraniadau tai disgresiynol gael eu pennu. Amcangyfrifwyd y byddai’r effaith ar ddim ond un awdurdod cymhedrol ei faint yn £3.5 miliwn. Roedd trafodaethau rhwng sefydliadau tai ac awdurdodau lleol yn yr Alban, llywodraeth yr Alban a’r AGP yn parhau wrth i WHQ fynd i’r wasg.

Parthed y dreth stafell-wely yn gyffredinol, roedd ymgyrch yn tyfu yn yr Alban i atal pobl rhag cael eu troi allan oherwydd ôl-ddyledion ac roedd y sector tai yn dal i bwyso am wneud mwy i liniaru effeithiau’r toriadau.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »