Golygyddol: rhai diolchiadau personol
Gwêl y rhifyn hwn o WHQ rai newidadau i’r cylchgrawn. Rydym yn canu’n iach ac yn diolch i ddau aelod o’r bwrdd cynghorol – Kellie Beirne a Peter Williams. Mae Peter yn un o sylfaenwyr WHQ – mae’r ffaith bod y cylchgrawn yn dal i gael ei gyhoeddi bron 23 blynedd wedi’r rhifyn cyntaf i’w briodoli i raddau helaeth i Peter. Gobeithiwn elwa ar wybodaeth arbenigol Peter yn y blynyddoedd i ddod, boed hynny ar hyd braich yn unig.
Rydym hefyd yn croesawu dau aelod newydd i’r bwrdd cynghorol:
- Ben Black, Rheolydd Cyfathrebu a Marchnata gyda Thai Cymunedol Bron Afon a chyd-gadeirydd rhwydwaith cysylltiadau cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru
- Clare Way, Rheolydd Cefnogi Cymdogaeth Cartrefi NPT
Diolchwn iddynt o flaen llaw am eu cyfraniad ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn mynychu cyfarfod nesaf y bwrdd cynghorol. Diolch hefyd i’r holl ddarllenwyr WHQ hynny a ymatebodd i’r arolwg ar-lein – mae’r canlyniadau’n dra defnyddiol o ran arddangos cyrhaeddiad y cylchgrawn o fewn sector tai ac adfywio Cymru, yn ogystal â dylanwadu ar benderfyniadau’r bwrdd cynghorol yn y dyfodol ynglŷn â fformat WHQ.
Dyma fy rhifyn olaf fel golygydd WHQ. Rwyf wedi mwynhau cydweithio â Jules Birch, y golygydd newydd, yn fawr iawn a gwn yr â WHQ o nerth i nerth o dan ei olygyddiaeth. Rwyf bellach yn gweithio am bedwar diwrnod yr wythnos fel Cyngorydd Polisi Arbenigol i Weinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, a thu allan i hynny byddaf yn parhau i weithio ar nifer o feysydd, yn cynnwys llywodraethiant.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud WHQ yr hyn ydyw – aelodau’r bwrdd cynghorol (gyda diolch arbennig i’r cadeirydd, Judy Wayne), Prifysgol Caerdydd a STS Cymru, yr holl bobl sydd wedi sgrifennu ar gyfer y cylchgrawn yn ddi-dâl, hysbysebwyr, noddwyr, tanysgrifwyr, gweithwyr llawrydd a Llywodraeth Cymru sy’n darparu rhywfaint o gefnogaeth ariannol i’r cylchgrawn.
Yn sicr, ein nod yw bod y sector tai ac adfywio yn gweld WHQ fel ei eiddo ef ei hun, a phan gyfrifir faint o bobl a sefydliadau sy’n cyfrannu at y cylchgrawn yn y naill ffordd neu’r llall, ac sy’n ei ddarllen, dwi’n credu ein bod gyda’n gilydd wedi cyflawni’r nod honno.
Tamsin Stirling