English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Tuag at adferiad cyfrifol – gwerth ychwanegol sefydliadau tai

Caroline Macfarland yn tanlinellu gallu sefydliadau tai i ychwanegu gwerth yng nghyd-destun cynildeb.

Ailategodd Datganiad Hydref y Canghellor fod cyfnod caled o’n blaenau, gyda gostyngiad yn yr amcanestyniadau twf, mesurau cynildeb parhaus a thoriadau i fudd-daliadau cysylltiedig â gwaith yn ddim ond rhai o’r arwyddion. A gosod y dadleuon gwleidyddol i’r naill ochr, cymerwyd y camau hyn i gyflymu adferiad economaidd sydd yn arafach nag a ragwelwyd.

Sut olwg fydd ar y fath adferiad? Wrth i ni edrych ymlaen at Brydain ‘yn y du’, dylem hefyd gofio, ar ôl dirwasgiadau blaenorol, mai’r di-waith tymor-hir, pobl ar incymau isel a’r cymunedau tlotaf yn aml yw’r olaf i elwa ar dwf. Felly peth cibddall fyddai sôn am dwf economaidd yn unig. Mae darlun mwy cyflawn yn creu cysyniad o adferiad sy’n cydgreu cyfle mewn cymunedau lleol.

Gwelwyd ymdrechion i adfywio yn y gorffennol fel mentrau oddi uchod sy’n mynd i’r afael â methiant y farchnad, y cyflewnwad tai a buddsoddi mewn isadeiledd. Er na ellir gwadu eu pwysigrwydd, yn aml mae’r ffyrdd hyn o fynd ati wedi bod yn gyfrwng ymylu anghenion a dyheadau’r cymunedau a’r cymdogaethau lleol eu hunain. Byddai adferiad mwy cyfrifol, felly, yn creu’r amodau ar gyfer newid o dan arweiniad lleol, gan gynnwys gweithredwyr lleol a rhoi i’r rheini y pŵer a’r adnoddau i arwain y broses hon.

Mae gan gymdeithasau tai ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth. Gwelsom newid pwyslais yn swyddogaeth darparwyr tai, o ddarparu cefnogaeth yn y tymor byr i fynd i’r afael ag achosion gwraidd dibyniaeth ar les. Efallai yr ymddengys hyn yn optimistaidd. Mae cymdeithasau tai o dan bwysau eu hunain gyda newidiadau i’r system fudd-daliadau a diwygiadau eraill. Nododd Jules Birch yn rhifyn mis Hydref o WHQ y bydd y dreth stafell-wely yn effeithio ar gyfran uwch o denantiaid cymdeithasol yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU – gan effeithio, wrth gwrs, ar ddarparwyr tai cymdeithasol.

Felly, yn wyneb y fath her, beth yw’r gwerth ychwanegol a greir drwy i gymdeithasau tai yrru adferiad cyfrifol?

Archwiliodd adroddiad diweddar ResPublica ran cymdeithasau tai mewn gyrru agenda gymunedol yn ei blaen, gan weithredu fel man lle gallai grwpiau cyhoeddus, preifat a chymunedol elwa ar adnoddau sydd ar gael. Nodai’r adroddiad allu cymdeithasau tai i hyrwyddo a darparu mwy o werth cymdeithasol, yng ngoleuni’r ddeddfwriaeth newydd sy’n dod i rym o fis Ionawr 2013, a gellir cymhwyso hynny at wasanaethau tai ac at rai heb fod yn ymwneud â thai mewn mannau lle mae gan landlordiaid grynhoad o stoc. Mewn geiriau syml, mae gwerth cymdeithasol yn awgrymu gwerth cymdeithasol torfol i gymuned y tu hwnt i ddarpariaethau cytundeb. Yn naturiol, bydd yn amrywio ar lefel leol, gyda disgwyl i weithredwyr lleol ymateb i anghenion a dyheadau eu cymunedau.

Mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa ddelfrydol i hwyluso economi gymdeithasol ar sail cymdogaeth, gan ymgorffori egwyddorion eu gweithgaredd eu hunain, trwy fod yn ddeorfeydd a gwarantwyr mentrau cymdeithasol, a hefyd ysbrydoli gwerth cymdeithasol yn ehangach ar draws marchnadoedd preifat. Yn hollbwysig, dadl yr adroddiad yw na ddylid gweld y mentrau hyn fel elfen atodol ychwanegol ond fel rhan o’r model busnes a’r ethos craidd.

Pe gweithredai cymdeithasau tai ar sail eu swyddogaeth gymdeithasol a’u gallu i ganfod a meithrin asedion lleol fel sgiliau preswylwyr a dyheadau am newid, a’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau cymunedol sydd eisoes yn bwydo i mewn i strwythurau cefnogi lleol, yna gellid gwireddu’r posibilrwydd o adeiladu economi leol, gyfranogol.

Mae adroddiad ResPublica arall, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd, yn cydnabod adeiladu cymuned a chyfle fel seiliau cynaliadwyedd cymdeithasol a thwf lleol. Mewn llawer o’r ardaloedd tlotaf, lle mae cyllidebau’n cael eu torri a gwasanaethau’n cael eu dileu o ganlyniad, gallai cymdeithasau tai ddefnyddio’u hasedion er budd i’r gymdogaeth ehangach, cydweithio’n egnïol ar gyllidebu cymunedol, cefnogi a hwyluso trosglwyddo asedion a gwasanaethau datganoledig, ymhlith pethau eraill. Gallai llawer o’r gwaith fod ar y cyd â phrojectau datblygu dan arweiniad y gymuned, fel ymddiriedolaethau datblygu, neu gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Yn ogystal â bod yn ‘ddarparwyr’, gallai cymdeithasau tai fod yn alluogwyr hefyd, yn defnyddio’u gofod a’u hasedion fel canolfannau i hybu gweithgaredd economaidd. Does dim rhaid i’r rhain fod yn ganolfannau busnes sgleiniog â swyddfeydd ynddynt: gall olygu creu undeb credyd yn yr adeilad, er enghraifft. Yn yr ystyr yma, gallai tai cymdeithasol hwyluso twf lleol.

Efallai mai’r lle y ceir posibiliadau cymharol ddigyffwrdd yw mewn gwasanaethau cyflogaeth eu hunain. Pwysleisiai Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru mai\’r ffordd orau allan o dlodi yw trwy gyflogaeth ac adeiladu sgiliau. Mae’n hadroddiad yn edrych ar sut y gallai gwneuthurwyr polisi hybu ffyrdd datganoledig a chyfranogol o fynd i’r afael â nid yn unig gwariant ar les ond â’r gyfundrefn les ei hun ar lefel leol, gan drosglwyddo pŵer i ganolwyr cymunedau lleol fel mudiadau gwirfoddol a landlordiaid cymdeithasol i bennu a darparu’r holl wasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth o fewn eu cymunedau.

Fel y trafodwyd eisoes, mae gofynion a dyheadau cymuned yn naturiol yn dibynnu ar y cyd-destun lleol. Efallai y byddai rhai canolwyr lleol yn diffinio rhai mathau o waith gwirfoddol fel cyfraniad dilys i’r economi leol. Yn yr ystyr hon, gallai’r canolwyr lleol hyn ailddiffinio’r gofynion ceisio-gwaith traddodiadol a bennir yn ganolog sy’n rhoi’r flaenoriaeth i gysyniadau culach o hyfforddiant sgiliau. Mae DTA Cymru a Chyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol yn trafod cynigion o blaid cynllun peilot ar gyfer y ‘Lwfans Cymunedol’ gyda Llywodraeth Cymru. Byddai cynllun o’r fath yn caniatáu talu hawlwyr budd-daliadau i fynd ar leoliadau gwaith lleol tymor-byr sy’n gwella lles ac ansawdd bywyd y gymuned yn ei chrynswth, heb i hynny effeithio ar eu budd-daliadau. Byddai hynny’n diogelu eu sefyllfa les, yn gwella sgiliau a phrofiad gwaith, ac yn annog cydnabod pawb sy’n cyfrannu at economïau lleol, boed ar sail ffurfiol neu fwy ‘meddal’.

Nid yw’r rhaniad rhwng gwerth cymdeithasol a chyfraniad economaidd yn ddu a gwyn. Mae gan fudiadau cymunedol â thueddfryd cymdeithasol ran bwysig i’w chwarae mewn hybu economïau lleol anffurfiol a chyfalaf cymdeithasol. Mae’r buddiannau hyn yn fwy anodd i’w hegluro na GDP, ond yn llawn mor bwysig. Ac y tu hwnt i adferiad cyfrifol, bydd adferiad ymatebol yn gofyn am fentrau lleol sy’n ystyried hawliau economaidd a chymdeithasol, wedi eu gyrru gan fudiadau cymunedol eu sail. Mae gan gymdeithasau tai ran allweddol i’w chwarae ac ni ddylid tanbrisio eu gwerth lleol a chymdeithasol ychwanegol.

Caroline Macfarland yw Cyfarwyddydd Reolydd y felin drafod ResPublica – caroline.macfarland@respublica.org.uk. Cyhoeddir adroddiad ResPublica, Responsible recovery: A social contract for local growth ym mis Ionawr 2013 a bydd ar gael ar wefan ResPublica www.respublica.org.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »