English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol Gwadd

Dull marchnad-gyfan o fynd i’r afael â’r argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru?

Ar ôl gweithio’n flaenorol mewn cymdeithas adeiladu ac eistedd ar fwrdd cymdeithas tai, deuthum i’r Cynulliad yn 2003 yn poeni bod tai wedi llithro i lawr i dabl cynghrair blaenoriaethau’r llywodraeth.

Dywedodd adroddiad gan Gyngor Defnyddwyr Cymru yn 2004 ‘Oni chynyddir adeiladu tai ac adnewyddu cartrefi presennol, gallai Cymru wynebu argyfwng tai yn y blynyddoedd sydd i ddod.’ Dywedodd tystion yn adroddiad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad 2012 i’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Ngymru bod ‘yr argyfwng tai gyda ni yn awr’, gan alw am ddull ‘marchnad-gyfan’ o fynd ati. Argymhellai adroddiad Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad ar y Sector Tai Rhent Preifat ‘y dylai Llywodraeth Cymru geisio’n egniol i hyrwyddo delwedd gyhoeddus bositif o’r sector rhentu preifat fel deiliadaeth ddeniadol i’w dewis yng Nghymru’.

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, sydd wedi arwain y ffordd gydag asiantaethau gosod eiddo cymdeithasol ac achredydu landlordiaid, wedi dweud wrthyf bod tsunami’n dod a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda nhw i wneud rhywbeth ar frys neu wynebu mwy byth o ddigartrefedd.

Mae Ceidwadwyr Cymru yn croesawu Grant Refiniw £4 miliwn Llywodraeth Cymru i gefnogi darparu tai fforddiadwy, y disgwylir y bydd yn denu £100 miliwn, ond mae angen eglurdeb ynglŷn â ffurf y cyllid, a gweithredu ar fyrder.

Gydag amcangyfrif o 22,000 o gartrefi gwag ledled Cymru, rydym yn cefnogi’r rhaglen Troi Tai’n Gartrefi genedlaethol. Rydym hefyd yn croesawu’r Cynllun Gwarantu Morgais, ond yn gresynu y cyhoeddwyd hyn flwyddyn gyfan yn ddiweddarach na chynlluniau tebyg yn yr Alban a Lloegr. Mae ar Gymru angen cynllun perchenogaeth cartref cost-isel. Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid FirstBuy ar gyfer 26,500 o brynwyr tro-cyntaf yn Lloegr, ond dim ond 33 o bobl a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i brynu cartrefi o dan ei chynllun Homebuy y llynedd.

Mae adeiladu tai yng Nghymru ar ei lefel isaf er yr Ail Ryfel Byd. Argymhellodd Comisiwn Ewrop y dylai pedair gwladwriaeth yn y GE wella eu polisïau tai, yn cynnwys y DU – a Chymru, felly – gan ddweud y dylem weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu’r cyflenwad a gwella fforddiadwyedd o fewn y cyfnod 2012/13.

Fodd bynnag, dywedodd Cadeirydd Grŵp cwmni adeiladu yng ngogledd Cymru wrthyf nad yw adeiladu tai yng Nghymru yn cynhyrchu elw bellach ac na allant, yn wahanol i Lywodraeth Cymru, barhau i wario arian oni bydd y cynnyrch terfynol yn talu’r costau, o leiaf. Fel y dadleua Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi, trwy gynyddu’r cyflenwad cyffredinol, bydd mwy o dai yn mynd yn fwy fforddiadwy i fwy o bobl.

Mark Isherwood AC, Llefarydd yr Wrthblaid dros Ogledd Cymru, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »