English | Cymraeg Tel: 07979 362076 Connect: LinkedIn

Golygydd – Hydref 2012

Mae’r her sy’n wynebu’r sector tai yng Nghymru yn anferthol ac ni all deddfwriaeth yn unig mo’i datrys, ni waeth pa mor bell-gyrhaeddol neu radicalaidd y bo mesur tai disgwyliedig Llywodraeth Cymru.

Mae angen diwygiadau, ond yr hyn sy’n allweddol i gynhyrchu mwy o gartrefi fforddiadwy, dod â rhai o’r 22,000 o unedau eiddo gwag yn y sector preifat yn ôl i mewn i ddefnydd, bodloni safon ansawdd tai Cymru a gwella llety rhentu preifat yw’r rhan a chwaraeir gan gynghorau lleol.

Nhw sydd â’r cyfrifoldeb strategol am dai yn lleol, ac os gallant weithio mewn modd traws-adrannol yn fewnol, ac yn effeithiol gyda phartneriaid allanol yn cynnwys Llywodraeth Cymru a LCCiaid, yna gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol, hyd yn oed gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael iddynt.

Mae swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol hefyd, wrth gwrs. Gall ddarparu cyllid ac mae ganddi’r modd i ddenu adnoddau ychwanegol, mae ganddi swyddogaeth reoleiddio ac, wrth gwrs, mae’n darparu proses bolisi a deddfwriaethol y mae pawb arall yn gweithredu o’i mewn.

Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn pennu targedau, a dyma un maes lle byddai pawb yn elwa ar fwy o eglurdeb. Rwyf yn cefnogi’r nod o 7,500 o dai newydd fforddiadwy erbyn 2016, er enghraifft, ond hoffwn fwy o fanylion am ba ddiffiniadau a ddefnyddir wrth asesu’r targed hwn, a sut y caiff ei gyflawni.

Pam y mae’r targed hwn yn is nag ymchwil y llywodraeth ei hun sydd wedi datgelu bod arnom angen 14,200 o gartrefi newydd ychwanegol bob blwyddyn ar gyfartaledd, 9,200 yn y sector marchnad a 5,100 tu allan iddo? Eisoes amcangyfrifir fod diffyg cyfredol o ryw 9,500 o deuluoedd ag anghenion tai heb eu diwallu.

Dylai’r Llywodraeth fod yn gliriach ynglŷn â sut y bydd cynghorau’n cyflawni eu dyletswyddau tai strategol fel rhan o’u swyddogaeth gynllunio, yn cynnwys gwell cydweithio, ac ystyried tai fforddiadwy yn rhan gynheid o’r broses CDLl.

Mae darpariaeth tai’r CDLl yn dibynnu’n helaeth ar dargedau’r llywodraeth ganol. Gall y rhain yn aml fod yn afrealistig ac yn anodd eu cyfiawnhau. A ddylai rhoi mwy o bwys ar Asesiadau Marchnad Tai lleol yn y broses CDLl? A oes angen mwy o eglurdeb ynglŷn â sut y cânt eu cynhyrchu er mwyn gallu eu cyfiawnhau fel rhai realistig a chymesur?

Credaf hefyd y dylai fod yn ddyletswydd ar bob cyngor lleol i gynhyrchu strategaeth cartrefi gwag, ac y dylid ategu hynny gan strategaeth genedlaethol ar gyfer cartrefi gwag.

Mae llawer iawn i’w wneud. Rhaid i ni gytuno ar agenda gyffredin yn fuan a gweithio gyda’n gilydd yn well i fynd â’r maen i’r wal.

Peter Black AC

Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar Dai


Sign up to our newsletter

Get the latest news & articles from the WHQ website straight to your inbox. Magazine subscribers also get access to the latest members-only articles

Sign up for the newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision-makers in Wales

Find out more »