English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Pethau’n poethi

Mae Cymru am dorri allyriadau carbon o 3% bob blwyddyn, ac mae tai ar flaen y gad yn y gwaith o gyflawni hyn. Ai profion MOT i gartrefi yw’r ateb? Dyma adroddiad Sally Sudworth, Cyfarwyddydd Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon.

Mae pethau’n poethi o ran torri allyriadau carbon yng Nghymru. Mae’r adroddiad diweddar gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (CCNH)(1) unwaith eto’n ailbwysleisio’r angen i bawb ledled Cymru ymdrechu i reoli ynni yn well a gwella’r ffordd y byddwn yn mynd ati o ran rheoli a rhedeg ysbytai, ysgolion, swyddfeydd a chartrefi.

Galwodd CCNH yn benodol ar Lywodraeth Cymru i rhoi mwy o bwys ar yr nod o leihau allyriadau carbon yng Nghymru o 3% y flwyddyn. Mae’n nod anodd ei chyrraedd ac mae angen i gapteiniaid diwydiant gynnig arweiniad, eglurdeb a dadl gref o blaid er mwyn argyhoeddi pawb o fuddiannau cwtogi ar garbon. Yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar dechnoleg newydd a dylunio arloesol, mae angen trawsnewid ein diwylliant. Os gellir newid meddyliau ac agweddau, yna gellir rheoli carbon yn well a gall Cymru gyrraedd ei nod. Ond mae gofyn i ni ddarbwyllo pobl bod hyn o fudd iddyn nhw.

Mae hyn yn arbennig o wir am y sector tai. Os gallwn newid ein ffordd o reoli gwres a defnyddio pŵer yn ein cartrefi, a gweld buddiannau personol, yna gallwn newid pethau ledled y wlad yn ein hadeiladau cyhoeddus a masnachol. Mae llawer o sefydliadau’n effro i’r posibilrwydd o arbed arian trwy fuddsoddi’n graff, ond nid yw rheoli carbon yn uchel iawn ar agenda’r rhan fwyaf o bobl. Os ychwaneger at hynny ddiffyg eglurdeb ynglŷn â’r Fargen Werdd a dryswch ynglŷn â thariffau bwydo i mewn, does dim rhyfedd fod diffyg hyder ymhlith y cyhoedd yn yr agenda newid hinsawdd.

Mae adrodd CCNH yn tanlinellu’r gwaith a wnaed i wella effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol, ac mae’r adborth o brojectau fel Arbed Cam 1 yn gyfle gwych i ddysgu. Dylai’r llywodraeth fod yn gwneud mwy i gefnogi cynlluniau ôl-ffitio uchelgeisiol, graddfa-fawr.

Dylem, fodd bynnag, fod yn realistig ynglŷn â gwella ein stoc presennol: dylem wneud hynny lle gellir, ond gall bwrw ati’n rhy frwdfrydig â mesurau newydd achosi niwed, yn enwedig gwelliannau strwythurol mawr neu fewnosod gormod o feicro-ddyfeisiau adnewyddu. Mae angen agwedd gytbwys; mae yna beth eiddo na ddylid ceisio ei achub. Mae yna eiddo arall y dylid ei achub ond na fydd byth yn ‘ynni-isel’, ac yn y fath achosion, dylem droi at adnoddau ynni adnewyddiadwy lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod galw eiddo o’r fath am ynni yn ddi-garbon. Mae angen canllawiau i asesu a ddylai adeilad gael ei ailddatblygu, ei ailwampio neu ei gyflenwi â phŵer adnewyddiadwy. Yn y cyd-destun hwn, dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r Fargen Werdd; gydag eiddo priodol, rhaid gallu gwarantu arbedion i berchenogion cartrefi er mwyn eu cymell i ymateb i’r cyfle.

Mae gan y Fargen Werdd, a fydd yn dechreu gweithredu yn yr hydref, oblygiadau mawr i denantiaid, perchenogion cartrefi, a’r gadwyn gyflenwi. Mecanwaith talu am osod mesurau arbed ynni yn y cartref ydyw: telir amdanynt trwy gyfrwng y biliau ynni is a ragwelir yn y dyfodol. Mae adroddiad CCNH yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod Cymru yn gwbl barod ar gyfer y Fargen Werdd, ac mae Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon wrthi’n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau i gefnogi diwydiant.

Un arall o’n projectau yw menter newydd y Morgais Gwyrdd. Y syniad yw bod darparwyr morgeisiau yn seilio cynnig o forgais ar Dystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) yr eiddo. O gydnabod y posibilrwydd o filiau tanwydd is, gall benthycwyr ddarparu lefel uwch o gyllid nag arfer ar sail y cynnydd tebygol yn incwm gwario’r benthycwr. Y nod yw ennyn diddordeb yng ngraddfeydd TPY cartrefi, nad ydynt ar orwelion neb ar hyn o bryd.

Un peth yw newid diwylliant, ond mater arall yw darparu’r modd i sicrhau’r toriad o 3% bob blwyddyn. Mae’n amlwg fod y syniad o arbed arian a gwneud eich cartref yn wyrddach ac yn fwy ynni-effeithlon yn y fargen yn ddeniadol i rai.

Rhaid gwneud hyn yn y ffordd iawn. Mae targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu cynaliadwy yn ei gwneud hi’n hanfodol sefydlu’r safon ddylunio orau posibl o ran cost, effeithlonrwydd ynni, a sicrhau’r biliau ynni cartref isaf posibl. Dylai tai sector preifat a chyhoeddus fod â nifer o safonau lleiafswm, nid cael eu gadael i’r hyn y bydd prynwyr heb lawer o ddewis yn gorfod ei dderbyn. Ond ni ddylai’r safonau hyn ffocysu ar fanion y gellid eu hunioni trwy ôl-ffitio ar raddfa fach; dylent ymwneud â gwneuthuriad sylfaenol yr ‘amlen’, er mwyn creu amlenni adeiladu o faint priodol, â gofynion ynni isel dros ben, heb eu llesteirio gan rwystrau strwythurol mewnol, a fydd yn ffurfio ‘cragen’ hirhoedlog y gellir ei haddasu i ofynion cenedlaethau i ddod. Gallai’r hyblygrwydd hwn ganiatáu, er enghraifft, i dair cenhedlaeth fyw yn yr un eiddo, neu greu fflatiau unigol pan fydd rhywun eisiau cartref llai o faint heb orfod symud, creu swyddfeydd cartref ac ati, yn yr un ffordd ag y mae’r tai Fictoraidd mwy o faint wedi profi i fod yn hirhoedlog ac yn hyblyg.

Lleiafswm maint fydd craidd y safonau dylunio. Yn y bon, mae tai sy’n rhy fach ac yn anhyblyg yn cyfyngu ar ein gallu i’w haddasu a’u hadnewid. Ymhlith dulliau eraill, dylem ddefnyddio grymoedd y farchnad i newid maint ein tai trwy bwyso ar/mynnu bod gwerthwyr tai yn marchnata eiddo ar sail eu maint (mewn metrau/troeddfedi sgwâr) yn y lle cyntaf, gyda nifer eu stafelloedd yn fater eilaidd.

Rhaid i dai newydd gael eu hadeiladu â’r gofynion ynni lleiaf posibl; mae ein stoc tai yn sefyll am gyfnod llawer rhy faith i unrhyw beth arall fod yn dderbyniol (ni sydd â’r stoc tai hynaf yn y byd gorllewinol). Rhaid cyfuno hynny ag ymgais gryfach i hyrwyddo TPYau (neu fersiwn gwell ohonynt), er mwyn i’r farchnad fod yn fwy ymwybodol o berfformiad, o bosib gan gynnwys ‘llyfrau cofnodion neu wasanaeth’ a fydd yn dangos biliau’r 12 mis diwethaf ynghyd â’r gwaith cynnal-a-chadw a wnaed ar y tŷ. Gellid ystyried prawf MOT ar gyfer cartrefi hefyd.

Rhaid pwyso a mesur arferion cyfredol o ran adeiladu tai newydd ac ôl-ffitio hefyd. Rydym yn creu cronfa ddata o ddefnyddiau cynaliadwy ardystiedig yng Nghymru (fel yr un a gynhyrchwyd ar gyfer Cyngor Sir Cernyw). Bydd hon yn cynnwys amrywiaeth o nwyddau a gynhyrchir gan gwmnïau a achredwyd gan gynlluniau trydydd-parti archwiliedig fel Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Caiff hyn ei lansio ar SCRIPT a bydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ymchwilio i gyflenwyr yn ôl pellter o leoliad daearyddol.

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy hirben ynglŷn â sicrhau gwerth llawn a’r buddiannau mwyaf wrth werthu tir. Trwy adfer y tir ei hunan a chreu’r isadeiledd ar gyfer datblygu, gallai Llywodraeth Cymru ei werthu fesul llain adeiladu. Pe cyfunid hynny â chaniatád i ohirio talu pris y tir (am 2 flynedd, dyweder), gellid creu marchnad a fyddai’n caniatáu cynnydd mewn tai wedi eu comisiynu’n unigol trwy ddileu’r rhwystrau ariannol ac ymarferol. Mae tai pwrpasol, a adeiladwyd ar gyfer y rhai fydd yn byw ynddynt, fel rheol yn fwy ynni-effeithiol, o well ansawdd, ac yn cael eu coleddu’n fwy, sydd oll yn tueddu i arwain at ddefnyddio llai o ynni, oes hwy i’r adeilad, a chartref mwy cynaliadwy.

Am y tro cyntaf yn hanes y genedl, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Rheoliadau Adeiladu a rheolaeth ar gynllunio. Mae’r diwydiant adeiladu yn ofni y bydd y pŵer hwn yn anghymelliad i ddatblygu; fodd bynnag, mae’r gallu ynddo i droi hynny’n gymhelliad. Rhaid adolygu’r Rheoliadau Adeiladu a chynllunio er mwyn creu sicrwydd a symlrwydd yn y gyfundrefn; bydd lleihau’r risg mewn cynllunio, o’i gymharu â’r gyfundrefn bresennol, yn anogaeth i fuddsoddi’n gyfrifol ac ar yr adeg iawn. Trwy leihau’r cymhlethdod, gellir canolbwyntio ar her sicrhau defnydd ynni isel a datblygu’n gynaliadwy yn hytrach nag ar y broses ddatblygu ei hunan.

O safbwynt tai newydd, dylai’r duedd yma o blaid symlrwydd ganolbwyntio ar ddarparu amlen ynni-isel o ddefnyddiau hirhoedlog; mae hyn yn golygu inswleiddio da iawn a lefelau uchel o aerglosrwydd, a’r cwbl wedi ei adeiladu â gofal a sylw manwl ar y safle. Dylai’r sicrwydd ddeillio o Werthoedd-U elfennol syml a thargedau aerglosrwydd, wedi eu mesur ‘wrth adeiladu’, a’u cyflawni trwy arfer adeiladu cymwys. Mae hyn yn rhoi gofynion clir, pendant i’r diwydiant ymateb iddynt, nid amrywiaeth cymhleth o atebion posibl.

O safbwynt y stoc tai presennol, rhaid cymedroli’r ymdrech ag asesiad realistig o’r hyn y gellir ei wneud â’r mathau o dai, ond yr un yw’r nodau cyffredinol. Fe fydd eithriadau, wrth gwrs: rhaid ymdrin yn ofalus â thai hanesyddol neu o bwys arbennig, ac yn y fan yma bydd y cyflenwad ynni adnewyddadwy yn dod yn fwy pwysig. Yn ychwanegol at hynny, dylid ystyried y pwyntiau yn ddwys pan fydd tai yn cael eu gosod neu eu gwerthu, a pha ofynion i wella o dan y Rheoliadau Adeiladu a allai fod yn briodol ar yr adeg hon. Ochr yn ochr â hyn, rhaid datblygu mecanwaith ar gyfer cael gwared o stoc tai amhriodol a fydd yn caniatáu i berchenogion preifat sicrhau cartref yn lle eiddo diffygiol heb golli eu buddsoddiad.

Wrth gwrs, deddfwriaeth yw’r ysgogiad mawr i newid pethau, a’u newid nhw’n gyflym. Mae Grŵp Cymru Carbon Isel/Dim Carbon yn archwilio’r posibilrwydd o wneud arddangos Tystysgrifau Arddangos Ynni a TPYau yn orfodol ar gyfer pob adeilad er mwyn ysgogi diddordeb (masnachol) a chreu sbardun cyllidol. Byddai’r cam hwn yn golygu newid ysgubol yn y modd y caiff adeiladau o bob lliw a llun (nid dim ond tai) eu comisiynu, eu dylunio a’u hadeiladu, ac yna eu rheoli a’u cynnal a’u cadw.

Roedd Grŵp Cymru Carbon Isel/Di-garbon yn rhan ganolog o trafodaeth yn yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd (2) yng Nghaerdydd ar y 14 Mawrth 2012, rhan o Wythnos yr Hinsawdd. (3)

I ddysgu mwy am ein gwaith a sut i leihau allyriadau carbon tai Cymru, cysyllter â Sally Sudworth yn swyddfa CEW ar 029 2049 3322 neu ebost [email protected]

(1) Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad blynyddol cyntaf, Ionawr 2012 http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/120131climateccreportcy.pdf

(2) http://www.cewales.org.uk/2012/03/climate-change-commission-for-wales-housing-and-the-built-environment-a-low-carbon-future-for-wales-cardiff/

(3) http://www.climateweek.com/


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »