Natur a chwmpas cymhorthdal
Clywn lawer am faint o ‘gymhorthdal’ sy’n mynd i ddarparu tai cymdeithasol a faint o ‘gymhorthdal’ y bydd unigolion yn ei dderbyn ar ffurf budd-daliadau tai a rhai eraill. A’r ffaith na allwn fforddio’r lefel yma o gymhorthdal, boed yn dod trwy gyllidebau cyfalaf neu refiniw, na’r gyfundrefn fudd-daliadau lles.
Fodd bynnag, roedd erthygl yn y Guardian ar y 27 Ionawr 2012 gan John Perry yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn gytbwys wrth sôn am ble mae cymhorthdal yn mynd. Ar sail ffigyrau Arolwg Tai’r DU eleni, dangosai’r erthygl i ba raddau y cynorthwyir perchenogion tai gan y llywodraeth:
- mae pob perchennog yn dal i dderbyn eithriad treth enillion cyfalaf, gwerth bron £6 biliwn
- mae’r rheini sydd heb forgais neu ddim ond un bach yn elwa hefyd trwy beidio â chael eu trethu ar werth eu cartref (fel oedd yn digwydd o dan yr hen dreth Atodlen A). Mae’r eithriad treth yma yn werth mwy nag £11 biliwn bellach
- gall perchenogion sydd mewn trafferth gael cymorth gyda thaliadau morgais
- mae pob llywodraeth wedi darparu cymhorthdal ar gyfer cyd-berchenogaeth
- darparwyd cymhorthdal sylweddol trwy’r gostyngiadau o dan y cynllun Hawl i Brynu
Ar ôl ystyried y doll stamp mae pwrcaswyr cartrefi yn ei thalu, amgangyfrifir fod cyfanswm y ‘cymhorthdal’ a ddarperir ar gyfer perchenogion cartrefi ledled y DU trwy gyfrwng yr uchod yn £1.6 biliwn yn 2010/11. A yw cymaint â hynny o gymhorthdal yn sicrhau’r canlyniadau gorau o safbwynt ateb anghenion tai?
Mae hefyd yn ddiddorol ystyried y ffeithiau hyn ochr yn ochr â’r:
- cwestiynu parhaus ar dderbynwyr budd-daliadau anabledd a’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi ar incymau isel parthed a ydynt yn gwario eu harian ar y pethau ‘iawn’
- dadleuon diweddar ynglŷn â lefelau cyflog yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn cynnwys taliadau bonws
Efallai nad yw yn ein synnu bod rhesymeg wahanol yn cael ei defnyddio yn achos gwahanol grwpiau o bobl. Ond, fel sy’n wir am gymaint o agweddau ar dai, wrth benderfynu ynglŷn â chyfeiriad a pholisi’r dyfodol, dylem fod yn fwy ymwybodol o’r ffeithiau am bob agwedd ar y gyfundrefn tai, yn hytrach na dim ond ystyried rhai rhannau ohoni. A derbyn rhyng-gysylltiad tai â’r systemau treth a budd-daliadau sy’n dal heb eu datganoli, mae gweithredu’n ymarferol ar hynny yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru.