English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi – Mawrth 2012

Datblygiadau polisi

Effaith diwygio’r gyfundrefn les

Mae’r cynigion i ddiwygio’r gyfundrefn les yn cael eu gwireddu. Ym mis Ionawr 2012, gosodwyd terfyn uchaf ar fudd-daliadau tai o £250 yr wythnos am gartrefi un-llofft i £400 yr wythnos am bedair llofft, Yn ychwanegol at hynny, o fis Ionawr 2012 ymlaen, cyplyswyd lefelau Lwfans Tai Lleol wrth draean isaf rhenti pob ardal.

Mae tystiolaeth yn dod i law am effeithiau tebygol y newidiadau hyn a rhai eraill:

  • mae ymchwil gan y Sefydliad Tai Siartredig (STS) yn amcangyfrif y bydd 30,640 o gartrefi yng Nghymru y tu hwnt i gyrraedd pobl sy’n derbyn budd-dâl tai o ganlyniad i newidiadau Ionawr 2012
  • mae’r UK Housing Review a gyhoeddir gan y STS yn rhybuddio am gynnydd mewn digartrefedd o ganlyniad i’r newidiadau hyn a rhai sydd i ddod mewn budd-dâl tai www.ukhousingreview.org.uk
  • edrychodd ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt ar y newidiadau tan-ddefnydd gofod arfaethedig i fudd-dâl tai mewn pedair cymdogaeth. Daeth yr ymchwil i’r casgliad:
    • bod diffyg sylweddol o ran y nifer o gartrefi un-llofft sydd ar gael o’i gymharu â’r nifer o deuluoedd sydd ag angen llety o’r fath
    • bydd y teuluoedd yr effeithir arnynt yn wynebu caledi difrifol
    • nid yw’r arbedion a ragwelir gan y llywodraeth yn debyg o gael eu gwireddu
      www.cchpr.landecon.cam.ac.uk
  • mae adroddiad gan Bwyllgor Dethol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar fudd-daliadau anabl yn codi nifer o broblemau ynglŷn â chyflwyno Taliadau Annibyniaeth Bersonol, yn enwedig effeithiau cynyddol diwygio Lwfans Byw Anabl a Budd-dal Anallu www.publications.parliament.uk

A Ydy’r Rhaglen Waith yn gweithio?

Edrychodd adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012 ar sut y cyflwynodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) y Rhaglen Waith yn 2011, sy’n cymryd lle’r rhan fwyaf o’r rhaglenni O Fudd-dâl i Waith yr arferai’r DWP eu rhedeg yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae’n cynnig cymorth i bobl ddiwaith a fu’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cynnal Cyflogaeth i’w helpu i sicrhau swyddi a’u cadw.

Y casgliadau allweddol yw

  • bod gan gynlluniau budd-dâl i waith yn y Deyrnas Unedig hanes o risg cynhenid a llwyddiant cyfyngedig, ond mae nifer o nodweddion arloesol yn perthyn i’r Rhaglen Waith sy’n mynd i’r afael â gwendidau rhaglenni budd-dâl i waith blaenorol
  • mae ymarferoldeb y Rhaglen Waith yn seiliedig ar ragdybiaethau ynglŷn â pherfformiad tebygol, ond mae cryn berygl bod y rhain yn or-obeithiol. Mae gwahaniaeth barn rhwng y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r Adran ynghylch yr amcangyfrif gorau o berfformiad tebygol
  • roedd darparwyr yn cynnig lefelau perfformio hyd yn oed yn uwch nag amcangyfrif yr Adran, a gostyngiadau ar brisiau
  • mae yna ansicrwydd ynglŷn â rhagdybiaethau sy’n sail i’r Rhaglen Waith; un ansicrwydd allweddol yw cyflwr yr economi yn y dyfodol
  • mae cychwyn gweithredu’r Rhaglen Waith mor gyflym wedi golygu derbyn risg, neu gyfyngu ar fesurau amddiffynnol, a allai ddylanwadu ar lwyddiant neu fethiant y Rhaglen
  • bydd gwerth am arian yn dibynnu’n helaeth ar i ba raddau y gall y DWP sicrhau bod darparwyr yn cadw at y cynigion a wnaed ganddynt a sicrhau fod gwasanaeth da yn cael ei ddarparu, yn enwedig yn wyneb amodau economaidd cyfnewidiol

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.nao.org.uk

Dyfodol Tariffau Bwydo-i-mewn a’r Fargen Werdd

Mae papur ymgynghori gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC), a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2012, yn amlinellu cynlluniau ar gyfer strwythur newydd ar gyfer Tariffau Bwydo-i-mewn yn ogystal ag egluro nifer o benderfyniadau diweddar. Bydd tariff o 21c y kWa yn dod i rym o’r 1 Ebrill 2012 ar gyfer paneli solar maint-cartref, gyda dyddiad cymhwyster o’r 3 o Fawrth. Bydd gostyngiadau tariff eraill ar gyfer cynlluniau mwy. Mae DECC yn ymgynghori ar gynnig y dylai tai cymdeithasol, projectau cymuned a chynlluniau dosbarthu ynni gael eu heithrio o’r cyfraddau tariff aml-gynllun hyn.

Ceir cyfres o ddogfennau ynglŷn â Thariffau Bwydo-i-mewn gan DECC ar-lein yn
www.decc.gov.uk

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd DECC ymchwil defnyddwyr yn ymwneud â’r Fargen Werdd a’r sector rhentu preifat, a oedd yn nodi nifer o ffyrdd y gellid gwneud y Fargen Werdd yn fwy deniadol i landlordiaid a thenantiaid y sector rhentu preifat. Mae’r ymchwil ar-lein yn www.decc.gov.uk


Cyhoeddiadau

10 i’w nodi

1 – Resilient people, resilient planet – a future worth chosing – yn cynnwys 56 argymhelliad ar gyfer gweithredu datblygiad cynaliadwy a’i brif-ffrydio i mewn i bolisi economaidd cyn gynted ag sy’n bosibl – Adroddiad Panel Lefel-uchel y Cenhedloedd Unedig ar gynaliadwyedd byd-eang, Ionawr 2012

www.un.org

2 – The Housing Europe Review 2012 – the nuts and bolts of European housing systems – CECODHAS, 2012

www.housingeurope.eu

3 – Wales 2030 – perspectives on the future – yn seiliedig ar arolwg o fusnesau yng Nghymru yng nghyd-destun cystadleuaeth gynyddol gan wledydd BRIC – Canolfan Ansawdd Cymru, Chwefror 2012

www.walesqualitycentre.org.uk

4 – A vicious cycle – the heavy burden of credit on low income families – Barnardo’s, Rhagfyr 2011

www.barnardos.org.uk

5 – Build to let – rethinking the use of housing benefit to help families out of temporary accommodation – Y Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd, Rhagfyr 2011

www.nlgn.org.uk

6 – Does size matter? or does culture drive value for money? – Y Sefydliad Tai Siartredig Ionawr 2012

www.cih.org

7 – Co-operative capitalism – a new economic model from the carnage of the old – Co-ops UK, 2011

http://uk.coop

8 – Does debt advice pay for landlords? Adroddiad a phecyn adnoddau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, a’r nod o helpu cymdeithasau tai i amcangyfrif gwerth cyngor ynglŷn â dyledion o safbwynt lleihau ôl-ddyledion rhent – Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, 2011

www.housing.org.uk

9 – From the poor law to welfare to work – what have we learned from a century of anti-poverty policies? – Sefydliad Smith, Ionawr 2012

www.smith-institute.org.uk

10 – Localism that works – how housing associations make things happen – PlaceShapers Group, Rhagfyr 2011

www.placeshapers.org


Llywodraeth Cymru

Comisiwn Silk

Lansiwyd Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan ar 11 Hydref 2011. Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Daeth y cyfnod cyntaf o gasglu tystiolaeth a ganolbwyntiai ar ddyfodol cyllidol Cymru yn gynnar ym mis Chwefror 2012 a bydd y Comisiwn yn adrodd ar yr elfen hon erbyn hydref 2012.

Ceir mwy o wybodaeth am Gomisiwn Silk yn cynnwys y dystiolaeth a roddwyd ger bron gan amryw o fudiadau ar-lein yn http://commissionondevolutioninwales

Y Gyllideb Atodol

Yn gynnar ym mis Chwefror 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllideb atodol a oedd yn cynnwys penderfyniad i drosglwyddio £97 miliwn o refiniw i gyfalaf, gyda thai yn un o’r meysydd a fydd yn elwa. Clustnodwyd £3 miliwn ar gyfer addasiadau cyfleusterau anabl i dai cymdeithasol a £18.1 miliwn i gynyddu’r cyflenwad a’r dewis o dai; bydd £8.9 miliwn o hyn yn talu am gynlluniau tai trwy ddarpariaethau’r Grant Tai Cymdeithasol.

Mae’r Gyllideb Atodol ar-lein yn http://new.wales.gov.uk

Asesiad o risgiau newid hinsawdd i Gymru

Gwnaed asesiad cenedlaethol o’r peryglon a’r cyfleoedd posibl sy’n wynebu Cymru am weddill y ganrif hon o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Nodir mai’r prif fygythion a chyfleoedd mewn perthynas ag adeiladau ac is-adeiledd yw:

  • mwy o lifogydd. Gall yswiriant llifogydd ar gyfer rhai adeiladau fynd yn ddrud neu’n amosibl ei gael
  • mae effeithiau gwres yn debyg o gynyddu o fewn adeiladau ac yn yr amgylchedd trefol ehangach
  • lleihad yn y cyflenwad o ddŵr a fydd ar gael
  • mwy o lifogydd yn effeithio ar isadeiledd hollbwysig, gan arwain at fethiannau yn y cyflenwadau dŵr a thrydan a gwasanaethau hanfodol eraill

Rhagwelir y bydd llifogydd ar ffyrdd a rheilffyrdd yn cynyddu, gan arwain at oedi ac anhrefn, a mwy o gostau atgyweirio

  • galw ychwanegol am ynni i oeri adeiladau yn yr haf, er bod hyn yn dal i fod yn llai na’r galw am ynni i wresogi yn y gaeaf, galw sy’n debyg o leihau

Mae’r adroddiad ar-lein yn http://wales.gov.uk

Ymgynghori

Mae papurau ymgynghori cyfredol Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Darparu cymorth gyda’r dreth gyngor yng Nghymru – Ceisio barn ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynlluniau newydd yng Nghymru i ddarparu cymorth gyda’r dreth gyngor wedi i system bresennol Budd-dâl y Dreth Gyngor gael ei diddymu gan lywodraeth y DU ar 31 Mawrth 2013. Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 5 Ebrill 2012
  • Ymgynghoriad ar opsiynau i ddisodli Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng ar gyfer Treuliau Byw y Gronfa Gymdeithasol
    Mae\’r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar ddisodli\’r Grantiau Gofal Cymunedol a\’r Benthyciadau Argyfwng ar gyfer treuliau byw unwaith y caiff yr arian ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2013
  • Cydamcanu – cydymdrechu – Ymgynghori ar ganllawiau statudol newydd sydd â’r nod o integreiddio’r broses o gynllunio gwasanaethau lleol, symleiddio’r cydweithio, a chryfhau swyddogaeth strategol ac atebolrwydd y bwrdd gwasanaethau lleol. Dyddiad cau ar gyfer ymateb 30 Mawrth 2012.
  • Canllawiau statudol drafft ar sail y Mesur Llywodraeth Leol
    Mae Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn cyflwyno dyletswyddau a phwerau newydd ym meysydd hybu a chefnogi aelodaeth o awdurdodau lleol, gwasanaethau democrataidd awdurdodau lleol, swyddogaethau awdurdodau lleol, pwyllgorau trosolwg a chraffu a phwyllgorau archwilio. Mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried.

Mae papurau ymgynghori Llywodraeth Cymru ar-lein yn http://new.wales.gov.uk

Pecyn o gefnogaeth i’r lluoedd arfog

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i gymunedau’r lluoedd arfog yn Nghymru, yn seiliedig ar The Armed Forces Covenant: Today and Tomorrow. Ynglŷn â thai, mae’n dweud:

  • rhoddir blaenoriaeth i bersonél a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn y cynllun Cymorth Prynu. Estynnwyd hyn i gynnwys gwŷr a gwragedd gweddw personél a laddwyd yn ystod eu gwasanaeth.
  • mae gan gyn-filwyr yr hawl i dderbyn Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (GCAiau) gan awdurdodau lleol. Ym mis Mai 2009, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiwygiadau i’r Rheoliadau Adnewyddu Tai, sydd bellach yn golygu na fydd arian a dderbynir gan aelod o’r Lluoedd Arfog trwy gyflog ymddeol neu bensiwn penodol o dan Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth (Anabledd a Marwolaeth) Lluoedd Llyngesol, Milwrol ac Awyr etc 2006 a lwfans gweini cyson yn cael ei ystyried wrth bennu incwm nad yw’n enillion yn y prawf modd ar gyfer GCAiau.
  • mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad i atal digartrefedd ymhlith cyn-filwyr yn ei Chynllun Digartrefedd Deng Mlynedd. Rhoddwyd arian i Gymorth Cymru ar gyfer y gwaith o ddatblygu cyfeiriadur o wasanaethau i gyn-filwyr a allai fod mewn perygl o fod yn ddigartref
  • Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chyd-swyddfa Gwasanaethau Cyngor Tai’r Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud yn siŵr bod pobl yn y Lluoedd Arfog yn cael cyngor ar faterion tai cyn cael eu rhyddhau.

Mae’r ddogfen ar-lein yn http://new.wales.gov.uk

Rheoliadau Adeiladu

O’r 31 Rhagfyr 2011, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am reoliadau adeiladu yn gyfangwbl i Lywodraeth Cymru.

Nod gweinidogion Cymru yw lleihau allyriadau carbon o welliant o 55% ar ofynion 2006 ar gyfer cartrefi newydd erbyn Ebrill 2013. Er mwyn gwneud hynny, mae gweinidogion wrthi’n adolygu Atodlen 1 i Ran L Rheoliadau Adeiladu 2010 sy\’n ymwneud ag arbed tanwydd a phŵer. Disgwylir i Weinidog yr Amgylchedd ymgynghori ynglŷn â’r cynigion hyn yn ystod mis Mawrth 2012.

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi cyhoeddi penodiad wyth aelod i Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.

Ceir mwy o wybodaeth ar-lein yn www.wales.gov.uk

£5 miliwn ar gyfer cartrefi gwag

O fis Ebrill 2012, bydd Cronfa Benthyciadau Ailgylchol ‘Troi Tai’n Gartrefi’ £5 miliwn newydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig benthyciadau i landlordiaid i ailwampio eiddo preswyl gwag sydd wedi mynd â’i ben iddo, i’w droi’n gartrefi i’w gwerthu neu rentu. Bydd landlordiaid yn ad-dalu’r benthyciad di-log o fewn cyfnod penodol, gan ailgylchu’r arian yn fenthyciadau pellach i wella mwyfwy o dai i’w defnyddio fel cartrefi unwaith eto.

Arolwg o bolisi adfywio

Mae’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wedi cyhoeddi arolwg o bolisi adfywio a bydd yn ystyried polisi cyfredol Llywodraeth Cymru, yn enwedig y dull Ardal Adfywio o fynd ati, a chyfeiriad adfywio yng Nghymru yn y dyfodol. Nododd y gweinidog y byddai’n cyflwyno ei flaenoriaethau adfywio ar gyfer y dyfodol yn sgil yr adolygiad yn gynnar yn 2013.


Cymru

Oes newydd i dai cyngor yng Nghaerdydd

Mae tai cyngor yng Nghaerdydd ar drothwy cyfnod newydd, gyda chlustnodi £33 miliwn ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd yn y pum mlynedd nesaf ar safleoedd tir llwyd sy’n eiddo i’r cyngor ledled y ddinas. Bydd y project yn darparu 1,000 o gartrefi newydd yn y ddinas, gyda rhyw 400 yn gartrefi fforddiadwy i’w rhentu. Rhagwelir y bydd y cynlluniau hyn yn cefnogi 250 o swyddi ac yn gryn ysgogiad i’r economi leol.

Y diweddaraf am SATC

Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais ar drosglwyddo stoc yng Nghaerffili ar yr 17 Chwefror 2012. Pleidleisiodd bron 67% o’r tenantiaid, gyda 65.2% yn pleidleisio yn erbyn trosglwyddo i Gastell Mynydd a 34.8% o blaid.

NPT homes

Ymwelodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, â chartrefi NPT i weld sut roedd y rhaglen wella SATC yn dod yn ei blaen. Ymwelodd â Jeanette Lord, un o’r tenantiaid cyntaf i elwa ar gegin a stafell ymolchi newydd mewn eiddo yn Alltywerin mae’n ei rannu gyda’i mab.

Newport City Homes (NCH)

Fel rhan o amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi a gefnogir gan Gartrefi Dinas Casnewydd ac sy’n agored i’w holl breswylwyr yn rhad ac am ddim, mynychwyd cwrs DIY Easy Peasy gan rai o’r trigolion. Roedd y cwrs yn gyfle i ddysgu sgiliau sylfaenol fel dad-flocio sinciau a thai bach, newid wasieri tapiau, a pheintio ac addurno.

Y diweddaraf am y strategaeth cyfranogiad tenantiaid lleol

Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid wedi anfon eu Strategaethau Cyfranogiad Tenantiaid Lleol (SCTLlau) i mewn ar gyfer yr ail rownd, ond cafodd nifer estyniad, ac mae rhai heb ddod i law o hyd. Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid yn asesu’r SCTLlau ar ran Llywodraeth Cymru. Dylai adroddiad ar yr asesiad yn ei grynswth fod yn barod erbyn diwedd Mawrth 2012.

Sgwrs gyda

Comisiynwyd Beaufort Research ym mis Medi 2011 gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) i archwilio canfyddiadau o’r sefydliad yng nghyd-destun anghenion aelodau. Darganfu canlyniadau’r ymchwil a wnaed gydag aelodau sy’n landlordiaid cydeithasol cofrestredig lefelau uchel o foddhad gyda’r gwasanaethau a ddarperir gan CCC, ond nodai hefyd dair thema sy’n ymddangos o bwys neilltuol at y dyfodol:

  • y gred ymhlith rhai nad yw CCC yn llawn amgyffred o hyd sut mae’r sector yn newid a beth mae hynny’n ei olygu i aelodau a’u hanghenion
  • y diffyg ymwybyddiaeth ac eglurdeb, i bob golwg, ynglyn â threfn lywodraethol
  • y ffordd y mae lefelau boddhad yn gwanhau ychydig mewn perthynas â gwerth am arian, ynghyd â diffyg gwybodaeth am yr hyn mae sefydliadau’n ei dderbyn am eu taliadau aelodaeth

Mewn ymateb i gasgliadau’r ymchwil, mae CCC wedi sefydlu pedwar grŵp gorchwyl a gorffen ar drefn lywodraethol, lobïo a chynrychiolaeth, cyfathrebu ac ymgysylltu ag aelodau, a dysgu.

Mae’r adroddiad a mwy o wybodaeth am y grwpiau gorchwyl a gorffen ar-lein yn
www.chcymru.org.uk

Yr Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol

National Apprenticeship Week

Bu nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn dathlu’r Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol ym mis Chwefror 2012. O’r chwith i’r dde – prentisiaid yng Nghlwyd Alyn, Grŵp Tai Cynon, Daniel Jarvis, prentis gyda Tai Charter, yn derbyn ei wobr Cyflawniad Eithriadol 2011 yng Ngwobrau’r Diwydiant Adeiladu yng Nghasnewydd, a Tai’r Canolbarth.

Cynllun peilot taliadau uniongyrchol

Tai Cymunedol Bron Afon, yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Thai Charter, fydd yn rhedeg cynllun peilot taliadau uniongyrchol Cymru.
Bydd y projectau arddangos yn digwydd o Fehefin 2012 tan Fehefin 2013, i brofi gallu hawlwyr i ymdopi â budd-daliadau tai misol, cyn i’r Credyd Hollgyffredinol ddod i rym o fis Hydref 2013.

Cyngor ar y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae project Cenedl Hyblyg Chwarae Teg wedi cynhyrchu cyfres o ffeithlenni am y Ddeddf Cydraddoldeb a gellir eu lawrlwytho o wefan y Genedl Hyblyg. Maent yn cynnig gorolwg ar y Ddeddf, yn cyflwyno’r 9 Nodwedd a Ddiogelir, ac yn egluro manteision busnes y gall cydraddoldeb ac amrywiaeth eu cynnig.

Mae’r ffeithlenni ar gael yn www.cymraeg.agilenation.co.uk

Cynllun ymyriad teuluol

Mae cynllun ymyriad teuluol Charter a Solas, ‘Lasting Solutions’, wedi cael ei werthuso. Y casgliadau cyffredinol oedd bod y cynllun yn sicrhau llawer o ganlyniadau positif i deuluoedd, a’i fod yn cynnig gwerth eithriadol am arian, gyda chyfradd elw net o 426% ar fuddsoddiad. Derbyniodd y cynllun £6,000 yn ddiweddar gan Gynllun Grantiau Gweithlu Cymuned NatWest, wedi pleidlais gan y cyhoedd, i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y gymuned.

Mae’r adroddiad gwerthuso ar-lein yn www.charterhousing.co.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »