Prin bod unrhyw ddadl ynglŷn â’r angen am dai ychwanegol – ym mhob deiliadaeth, ond yn enwedig tai y gall teuluoedd ar incwm isel eu fforddio. Mae’r Gweinidog yn ddiweddar wedi ymrwymo i osod targed ar gyfer cartrefi newydd – ond mae am iddo fod yn fwy eang ei gwmpas na chartrefi newydd a adeiledir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn unig, boed gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol neu hebddo.
Ond y cwestiwn mawr yw sut y gellir cyllido cartrefi newydd i ateb lefelau o angen sy’n cynyddu beunydd. Gwyddom fanylion cyllideb Llywodraeth Cymru am 2012-13 erbyn hyn. Er nad yw’r darlun cyffredinol yn un positif, rhoddwyd hwb i’r gwaith o sicrhau fod cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio gan ddyraniad o £5 miliwn i awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun benthyciadau a ailgylchir.
Gwyddom hefyd y bydd arian yn dod i Gymru o ganlyniad i rewi’r dreth gyngor ac elfennau o ddatganiad hydref y Canghellor. O safbwynt y cyntaf o’r rhain, dyrannwyd bron 50% o’r cyfanswm o £38.9 miliwn i dai; buddsoddir £6 miliwn ym Mhroject Tai Melin Trelái yng Nghaerdydd dros y ddwy flynedd nesaf, gwerir £9.26 miliwn i ddarparu 130 o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru, a £3 miliwn arall i ehangu cynllun effeithlonrwydd ynni cartref Arbed. O safbwynt datganiad yr hydref, bydd £216 miliwn ar gael. Mae tai yn faes delfrydol o ran defnyddio’r arian hwn yn ddoeth – gan greu cartrefi, swyddi a llefydd hyfforddi, cyfrannu at gymunedau a chyfuno buddsoddi cyhoeddus â ffynonellau eraill.
Efallai y deillia rhai syniadau ynglŷn â sut i gyllido tai newydd fforddiadwy o ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol sydd wedi derbyn tystiolaeth gan fwy na 30 o gyrff. Mae’r rhan fwyaf o’r cyflwyniadau yn nodi’r angen am fynd ati mewn modd cyfannol i ymdrin â’r prinder cyflenwad tai. Mae llawer o’r cyflwyniadau hefyd yn pwysleisio swyddogaeth barhaol nawdd y llywodraeth i sicrhau fod tai’n fforddiadwy i rai ar incwm isel ac yn dadlau’r achos o blaid blaenoriaethu buddsoddi cyfalaf mewn tai oherwydd ei allu i gynhyrchu buddiannau economaidd a chymdeithasol tra’n ychwanegu at y nifer o gartrefi. Mae consensws sylweddol yn datblygu ar y mater hwn ar lefel wleidyddol hefyd. Ym mis Rhagfyr 2011 sgrifennodd y Grŵp Tai Traws-bleidiol at y Prif Weinidog i ofyn am gyfarfod i drafod blaenoriaethu’r adnoddau ychwanegol a oedd ar gael yn sgîl datganiad hydref y Canghellor. Efallai ein bod yn gweld ambell i eginyn gwyrdd yng nghanol y gaeaf?
Tamsin Stirling