English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi – Ionawr 2012

Datblygiadau polisi

Datganiad yr hydref

Roedd datganiad hydref y Canghellor yn dwyn ynghyd amcanestyniadau ariannol ar gyfer economi’r DU a wnaed gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) a chyfres o gamau y bwriada’r llywodraeth eu cymryd.

Mae amcanestyniad yr OBR yn ddiflas – twf economaidd arafach yn y dyfodol, llai o gynnyrch economaidd o safbwynt cynhyrchiant, a mwy o fenthyca yn ystod y cyfnod Arolwg Gwariant Cynhwysfawr cyfredol. Y rhesymau a roddir yw chwyddiant uwch na’r disgwyl, cynnydd ym mhrisiau nwyddau, ansefydlogrwydd ac ansicrwydd cynyddol yn yr Ewrobarth, ac ailgloriannu difrifoldeb argyfwng ariannol 2008/09.

Mae’r camau y bydd y llywodraeth yn eu gweithredu yn dod o dan dri phen, yn cynnwys:

  • gwarchod yr economi – ymestyn y mesurau llymder am ddwy flynedd arall hyd at 2016/17, codi oedran pensiwn gwladol, cyfyngu ar gyflogau cyhoeddus, a pheidio â bwrw ymlaen â’r cynnydd arfaethedig mewn rhai elfennau o Gredydau Treth
  • adeiladu economi gryfach ar gyfer y dyfodol – buddsoddi £6.5 biliwn mewn isadeiledd, denu cronfeydd pensiwn i fuddsoddi mewn isadeiledd, cynyddu’r Gronfa Twf Rhanbarthol, gydag arian yn deillio o hynny i Gymru a’r Alban, cynllun gwarantu benthyciadau ar gyfer busnesau bach, a chyfres o fesurau ar ddiweithdra. Cyflwynir mesurau penodol ar dai mewn cynllun indemniad adeiladau newydd i gynyddu’r cyflenwad o gyllid morgais fforddiadwy ar gyfer cartrefi newydd, ac ailfywiogi’r Hawl i Brynu i helpu tenantiaid cymdeithasol sydd am fod yn berchen eu cartref eu hunain
  • tegwch – cyfres o fesurau’n ymwneud â chost cludiant, a chyflwyno Cytundeb Ieuenctid gwerth cyfanswm o £940 miliwn dros gyfnod Arolwg Gwario 2010

Mae datganiad yr hydref ar-lein yn http://cdn.hm-treasury.gov.uk

Cynhyrchwyd dadansoddiad defnyddiol iawn o’r mesurau yn natganiad yr hydref a’u heffaith ar lywodraeth leol, datblygiad economaidd ac adfywio gan CLES www.cles.org.uk

Diwygio lles

Gohiriwyd lansio’r gyfundrefn credyd hollgyffredinol o Hydref 2013 tan Ebrill 2014 ar gyfer hawliadau newydd ac, ar gyfer hawlwyr cyfredol, tan ‘o gwmpas’ diwedd 2015.

Ceir diweddariad defnyddiol ar ddiwygiadau lles gan Swyddogion Rhent Cymru ar-lein yn www.chcymru.org.uk

Tariffau Bwydo i Mewn

Cyhoeddwyd newidiadau sylweddol i lefelau Tariff Bwydo i Mewn ym mhapur ymgynghori yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd; y dyddiad cau ar gyfer ymateb oedd 23 Rhagfyr 2011.

Mae’r cynllun Tariff Bwydo i Mewn a lansiwyd ym mis Ebrill 2010 yn talu 43.3c i bobl am bob awr kilowatt a gynhyrchir ganddynt. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig gostwng y taliad i 21c yr awr kilowatt ac, ar gyfer cynlluniau mawr, i 16.8c. Bydd y ddau dariff newydd yn dod i rym o’r 1af Ebrill 2012, a bydd cynlluniau a osodwyd i mewn ar y 12fed o Ragfyr 2011 neu wedi hynny yn derbyn y tariff cyfredol tan 1 Ebrill 2012 yn unig. Wedi’r dyddiad hwnnw, byddant yn derbyn y tariff newydd gostyngedig.

Bydd y newid hwn yn effeithio’n ddybryd ar ymarferoldeb llawer o gynlluniau arfaethedig ledled Cymru, ac mae llawer o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai wedi gorfod cyfyngu’n sylweddol ar brojectau i osod paneli ffotofoltaïg.

Mae’r papur ymgynghori ar-lein yn www.decc.gov.uk

Strategaeth Tai Lloegr

Cyhoeddwyd Laying the Foundations: a housing strategy for England ym mis Tachwedd 2011. Mae’r ddogfen yn ailddatgan polisi presennol a chyhoeddiadau a wnaed eisoes, ac yn nodi ymyriadau a dulliau newydd o fynd ati, yn cynnwys:

  • cynllun indemniad morgais ar gyfer prynu eiddo newydd-ei-adeiladu
  • cefnogaeth ar gyfer datblygiadau graddfa-fawr dan arweiniad lleol
  • ymdrechion pellach i ryddhau tir sector cyhoeddus
  • darparu cyllid datblygu ar gyfer safleoedd sydd bellach yn segur
  • cefnogaeth bellach ar gyfer tai pwrpasol (hunan-adeiladu)
  • y camau nesaf mewn diwygio cyllid tai cyngor
  • bwriadau cliriach parthed adfywiogi’r Hawl i Brynu
  • eglurdeb ar ganllawiau dyrannu tai cymdeithasol
  • cefnogaeth i fuddsoddi mewn cartrefi newydd yn y sector rhentu preifat
  • cefnogaeth ariannol ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â chartrefi gwag
  • ystyried ffyrdd o wella dewisiadau tai ar gyfer pobl hŷn

Mae’r strategaeth ar-lein yn www.communities.gov.uk

Ceir papur cefndir ar y strategaeth gan y STS yn www.cih.org


Cyhoeddiadau

10 i edrych allan amdanyn nhw

1 – Mesur yr effaith IV – yn asesu effaith cymdeithasau tai ar economi Cymru yn ystod 2010/11 – Cartrefi Cymunedol Cymru

http://www.chcymru.org.uk/chc_dev_final/publications/cy/weru-report.cfm

2 – Pulling up the ladder 2 – how we made life tough for our children and what we can do about it: A year of progress? – DTZ, gaeaf 2011

www.dtz.com/StaticFiles/UK/DTZ_Pulling_Up_The_Ladder_FINAL.pdf

3 – Broken Ladder 2 – Mind the Deposit Gap – galw am gynnydd sylweddol yn y cyflenwad tai – Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi, Tachwedd 2011

www.hbf.co.uk

4 – Unfreezing the Housing Market – CBI, Tachwedd 2011

www.cbi.org.uk/media/1157544/cbi_unfreezing_the_housing_market_november_2011.pdf

5 – Tackling the housing crisis – policy review and recommendations – Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Tachwedd 2011

www.fmb.org.uk/news/press-releases/2011/november/housing-demand-will-exceed-the-size-of-birmingham-by-2015-warns-fmb151111

6 – Local lettings agencies: a good practice guide – Providing access to the private rented sector while generating income – Crisis, Tachwedd 2011

www.privaterentedsector.org.uk/llaguide.asp

7 – Incapacity benefit reform – the local, regional and national impact – Prifysgol Sheffield, Tachwedd 2011

www.shu.ac.uk/_assets/pdf/cresr-final-incapacity-benefit-reform.pdf

8 – The Housing Report – Edition 1 – ymgais i ddarganfod a yw agwedd y llywodraeth ganol tuag at dai yn helpu, ac i sicrhau fod polisi tai yn parhau i fod wrth galon dadlau gwleidyddol yn ystod tymor senedd San Steffan – CIH, National Housing Federation, Shelter, Hydref 2011

www.housing.org.uk/publications/find_a_publication/general/housing_report_edition_1,_oct.aspx

9 – Housing LIN newsletter – llythyr newyddion rheolaidd sy’n hyrwyddo enghreifftiau o arfer da, adroddiadau a digwyddiadau eraill yn gysylltiedig â thai â gofal ar gyfer pobl hyn – Housing Learning and Improvement Network

www.housinglin.org.uk/News/Newsletters

10 – Pathways to Prevention – Maximising the opportunities of the integration of health with social care and housing for the benefit of low income, older home-owners – HACT, Tachwedd 2011

Click to access Pathways_to_prevention_new.pdf


Llywodraeth Cymru

Cwrdd â’r Her Tai

Ar yr 8 Rhagfyr 2011, lansiodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis ddatganiad o’r enw Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu. Mae’r ddogfen yn rhestru nifer o’r materion pwysig rhaid mynd i’r afael â nhw er mwyn ymateb i’r her sy’n wynebu’r sector tai. Nid papur ymgynghori nodweddiadol yn gwahodd sylwadau ar gynigion manwl mo hwn, ond gwahoddir barn ar y materion mae’n eu codi erbyn 17 Chwefror 2011.

Mae’r ddogfen yn ymdrin â’r materion a ganlyn:

  • rôl Llywodraeth Cymru o ran stiwardio’r system
  • fforddiadwyedd
  • y ddadl o blaid gwasanaeth cynghori ar dai mwy cynhwysfawr ledled Cymru
  • undebau credyd
  • tlodi tanwydd
  • y sectorau rhentu
  • cynyddu’r amrywiaeth o ddewisiadau cyllid tai trwy weithio gyda benthycwyr preifat
  • fforddiadwyedd parhaol a thai cydweithredol
  • y cyflenwad tai
  • tir
  • sicrhau cyfalaf ar gyfer tai cymorthdaledig
  • gwneud y defnydd gorau o’r cartrefi sydd ar gael eisoes
  • cartrefi gwag
  • cartrefi mewn parciau carafan a chartrefi symudol
  • ansawdd
  • atal digartrefedd a helpu pobl ddiymgeledd
  • gwella gwasanaethau cyhoeddus a safonau
  • gwireddu manteision buddsoddi mewn tai

Mae’r datganiad gweinidogol ar-lein yn http://wales.gov.uk/consultations

Y Gyllideb

Cyhoeddwyd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 ar 6 Rhagfyr 2011. Mae’r gyllideb derfynol yn cynnwys grant newydd – Grant Amddifadedd Disgyblion – a fydd yn cyfeirio cefnogaeth at blant sydd â mwyaf o’i hangen. Ceir gostyngiad canrannol bychan yn y cyllidebau tai yn eu crynswth.

Mae’r gyllideb ar-lein yn http://wales.gov.uk

Compact rhwng llywodraeth genedlaethol a lleol

Cytunwyd Compact ar gyfer Newid rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru sy’n gosod allan delerau perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, yn seiliedig ar barch o’r ddau du a phartneriaeth rhyngddynt. Mae ei ddarpariaethau a’r dull o’u cyflenwi yn ategu’r cyllid a ddarperir ar gyfer llywodraeth leol yn ystod y cyfnod 2012-14 ac yn gosod fframwaith a cherrig milltir realistig ar gyfer diwygiadau. Bwriad y diwygiadau hyn yw gwella perfformiad, effeithlonrwydd a chanlyniadau i bobl Cymru.

Mae’r Compact yn dwyn ynghyd gamau i weithredu Arolwg Simpson, arolwg o strwythur gwasanaethau addysg yng Nghymru, a datganiad polisi ar y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ddogfen yn nodi mai cydweithredu yw un o’r ffyrdd allweddol o ymdrin â’r her sy’n codi yn sgîl ansawdd amrywiol gwasanaethau, dulliau gweithredu tameidiog, dyblygu ymdrechion, a diffyg effeithlonrwydd, ond mae’n pwysleisio ei fod yn seiliedig ar ddatblygu cydweithredu gwirfoddol rhwng cynghorau.

Mae’r Compact yn cwmpasu tri chontract gweithredu – ar addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau eraill. Cynhwysir dau gam penodol yn y maes tai:

  • Llywodraeth Leol i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu Canllawiau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl a rôl a gweithrediad pwyllgorau rhanbarthol – erbyn Mawrth 2012
  • Llywodraeth Leol a darparwyr gwasanaethau i sefydlu Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl yn unol â’r canllawiau diwygiedig erbyn Mehefin 2012

Mae’r Compact ar-lein yn http://wales.gov.uk

Fframwaith Rheoleiddiol

Cyhoeddwyd fframwaith rheoleiddiol newydd ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, gan ddisodli’r Cod Rheoliadol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru. Disgwylir i gymdeithasau tai gydymffurfio â’r fframwaith newydd o 2 Rhagfyr 2011 ymlaen.

Mae deg “canlyniad cyflawni” (safonau perfformiad) yn y fframwaith yn ymwneud â darparu tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol. Mae tair prif egwyddor yn sail i\’r Fframwaith Rheoleiddiol:

  • lle canolog i denantiaid. Nod y fframwaith yw sicrhau bod gan denantiaid a\’u teuluoedd gartrefi teilwng, a’u bod yn derbyn gwasanaethau o\’r radd flaenaf
  • rhaid i gymdeithasau tai gymryd cyfrifoldeb llawn am eu gweithredoedd a\’u ffordd o weithredu
  • fframwaith yn seiliedig ar gydweithio agos rhwng Gweinidogion Cymru, cymdeithasau tai, eu tenantiaid a defnyddwyr eu gwasanaethau, a phartneriaid allweddol

Mae’r fframwaith ar-lein yn http://wales.gov.uk

Cyhoeddwyd adroddiad asesiad rheoleiddiol cyntaf Llywodraeth Cymru, ar Gymdeithas Tai Gogledd Cymru – mae ar-lein yn http://wales.gov.uk

Arolwg cynllunio Cymru

Sefydlwyd Grŵp Cynghori Annibynnol i adolygu’r system gynllunio gyfredol yng Nghymru ac i ystyried y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol. Bydd casgliadau’r Grŵp yn helpu i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Bil Cynllunio a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2013.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y canlynol ac yn gwneud argymhellion ynghylch:

  • opsiynau ar gyfer cynnal y system gynllunio gan gynnwys dull dewisol o fynd ati
  • y ddeddfwriaeth a\’r canllawiau polisi sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r opsiynau a\’r dull dewisol o fynd ati
  • asesiad o\’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r opsiynau a\’r dull dewisol
  • fynd ati – bydd hyn yn cynnwys nifer y staff a\’r costau
  • gwelliannau y gellir eu gweithredu yn gyflym ac yn hawdd

Mae’r Grŵp yn gofyn am dystiolaeth erbyn 3 Chwefror 2012 am:

  • yr amcanion polisi allweddol y dylai\’r system gynllunio eu bodloni
  • y ffordd fwyaf effeithlon o weithredu’r system gynllunio, a sut y gellir mesur hynny
  • y mecanweithiau cyflenwi cyfredol a\’r trefniadau sefydliadol, ac
  • unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau eraill y cred pobl eu bod yn berthnasol

Mae’r alwad am dystiolaeth ar-lein yn http://wales.gov.uk

Ymngynghoriadau

Mae ymgynghoriadau cyfredol Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • pŵer gorfodol newydd i gymryd meddiant oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol – ymatebion erbyn 10 Chwefror 2012 – http://wales.gov.uk
  • casglu data am ddigartrefedd. Mae papur ymgynghori yn cynnig newidiadau pellach i’r datganiad casglu data chwarterol a blynyddol cyfredol am digartrefedd, a chyflwyno datganiad casglu data yn ymwneud ag atal digartrefedd a mesurau i’w liniaru ddwywaith y flwyddyn. Gofynnir am ymateb erbyn 16 Ionawr 2012 http://wales.gov.uk

Yn ychwanegol at hynny, gwahoddir barn ar bapur trafod gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Datblygu Cynaliadwy. Mae Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned yn esbonio syniadau cyfredol Llywodraeth Cymru. Cyflwynir y Bil Datblygu Cynaliadwy yn y Cynulliad yn hydref 2013. http://wales.gov.uk

Fforwm hil newydd

Cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog sy’n gyfrifol am gydraddoldeb, ym mis Hydref 2011 y sefydlir fforwm hil newydd yng Nghymru. Bydd y grŵp yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru er cynorthwyo dealltwriaeth o’r problemau allweddol a’r rhwystrau i integreiddio o fewn cymunedau duon a lleiafrifol ethnig, ac yn edrych ar enghreifftiau ymarferol o sut y gall arfer gorau o fewn cymunedau oresgyn y rhwystrau.


Cymru

Cyfuno a chydweithio

Ffurfiwyd Diverse Cymru trwy gyfuno Awetu a Chlymblaid Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro. www.diversecymru.org.uk

Cyhoeddodd Llamau a Hafan Cymru bartneriaeth strategol rhwng y ddau sefydliad â’r nod o sicrhau y gellid cynnal gwasanaethau’r sefydliadau a’u dyfodol. Mae’r ddau sefydliad wedi mabwysiadu’n ffurfiol nifer o nodau cyffredin a fydd yn sail i gydweithio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol. www.llamau.org.uk www.hafancymru.co.uk

Gwobrau

Enillodd cylchgrawn chwarterol Tai Cymuned Bron Afon at gyfer tenantiaid, deiliaid prydlesi ac aelodau, Community News, wobr ‘cylchgrawn allanol gorau’ yng ngwobrau PRide y Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig ar gyfer Cymru.

Enillodd menter gymdeithasol Cartrefi RhCT, Grow Enterprise Wales, sy’n cynnig hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd busnes gwirioneddol, wobr Gorchest Eithriadol mewn Tai yng Nghymru yng Ngwobrau Tai’r DU yn Llundain ym mis Tachwedd 2011.

Enillodd cyn-brentis saernïaeth gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin, Shane Evans, Wobr Adeiladwr Ifanc y Flwyddyn y DU yn 2011. Enillodd Gadetiaeth Adeiladu gyda’r Cyngor.

Mae cwmni rheoli cyfleusterau Ian Williams yn cyflogi’r nifer fwyaf o brentisiaid yn ei hanes 60-mlynedd er mwyn rhoi troedle ar yr ysgol gyflogaeth i bobl ifanc, diolch i’w bartneriaeth gyda sefydliadau yn cynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd. Llun: Daniel Llewellyn.

Llun o agoriad datblygiad Mountain Road newydd Cartrefi Melin yng Nglynebwy.

Rheolydd datblygu busnes newydd yr elusen eithrio cymdeithasol Caer Las – Dan Jolley.

Cynhaliodd dau brif gontracwr rhaglenni gwella Cartrefi NPT, Mears a MiSpace, ddiwrnod recriwtio ym mis Tachwedd 2011 gan roi manylion am gyfleoedd gwaith lleol.

Croesawodd cynllun gofal ychwanegol Clwyd Alyn yn Wrecsam, Plas Telford, ei breswylydd newydd cyntaf. Gwelir Mr John Simmons (Jack) gyda’r Cynorthwydd Cymorth Tai, Karen Washington-Dyer.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »