English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Hydref 2011

Gwyliwch eich iaith!

Clywn lawer am yr amserau anodd rydym yn gweithio ynddynt. Prin bod wythnos yn mynd heibio heb i adroddiad gael ei gyhoeddi yng nghyd-destun polisi Lloegr. Strategaethau tenantiaid, sut mae gwneud i renti fforddiadwy weithio, sut mae’n amhosibl i rent fforddiadwy weithio mewn llawer o ardaloedd, beth a ddaw ar ôl y rhaglen fuddsoddi gyfredol sy’n dod i ben yn 2015, beth am y cyfwyneb gyda diwygio budd-daliadau lles?

Yng Nghymru, er nad yw’r adroddiadau’n dod yn fân ac yn aml, mae digon o bethau ar y gweill: datblygiad Partneriaeth Tai Cymru, archwilio posibiliadau cronfeydd pensiwn, a’r posibilrwydd o ddatblygu Bond Tai Cymreig, i enwi ond ychydig.

Mae’r cwbl yn gyffrous; syniadau a meddyliau newydd. Ond mae un peth yn fy mhoeni. Mae rhent fforddiadwy wedi ei ddiffinio’n benodol iawn yng nghyd-destun polisi Lloegr, sef 80% o’r rhent marchnad. Mae’n ddigon posib fod hynny’n fforddiadwy i rai pobl mewn rhai ardaloedd ac mae’n sicr yn anfforddiadwy i eraill, ond mae dealltwriaeth gyffredinol ynglŷn ag ystyr y term.

Mae nifer o erthyglau diweddar yn y wasg Gymreig wedi defnyddio’r term rhenti fforddiadwy. Dydy hi ddim yn glir a ydyn nhw’n golygu rhenti cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru), rhenti canolradd (a all amrywio’n sylweddol fel cyfran o rhenti marchnad) neu renti ar lefelau Lwfans Tai Lleol. Heb ddymuno bod yn bedantig, mae arnom angen cywirdeb yn ein hiaith, oherwydd mae iaith yn effeithio ar ddealltwriaeth a disgwyliadau. Nid ydym wedi cynnal trafodaeth ar lefel genedlaethol i archwilio p’run ai a allai cyfeiriad polisi Lloegr, o ran symud oddi wrth renti cymdeithasol tuag at renti fforddiadwy, weithio yng Nghymru. Ac fe fyddai’n gas gen i feddwl ein bod yn llithro i’r cyfeiriad hwnnw, yn rhannol oherwydd defnydd aflêr o iaith.

Dylem fod yn glir ein bwriad, yn glir yn ein defnydd o iaith, a sicrhau fod y modd y defnyddir arian cyhoeddus yn gwbl agored ac cael ei ddeall yn glir.

Felly, er mwyn sicrhau mwy o ‘unedau’ allan o gyllideb Grant Tai Cymdeithasol fechan, a ddylem ymestyn y grant yn deneuach a darparu tai am renti ‘fforddiadwy’? Neu a ddylem ddefnyddio mecanweithiau eraill i ymestyn y Grant, fel gwneud defnydd o dir sydd eisoes ym meddiant sefydliadau tai, er galluogi’r Grant Tai Cymdeithasol i gynyddu’r nifer o dai sydd ar gael i’w rhentu am rent ‘cymdeithasol’? Ac efallai archwilio dyfeisiau cyllidol eraill a allai gefnogi datblygu cartrefi am renti uwch, boed y rheini’n rhenti canolradd neu ar lefelau Lwfans Tai Lleol?

Dim ond rhai o’r cwestiynau y mae angen i ni eu hystyried ar y cyd.

Tamsin Stirling


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »