Y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, yn rhoi cipolwg i ddarllenwyr WHQ ar ei swydd a sut y mae’n bwriadu datblygu ei bortffolio.
C – Allech chi ddweud wrth ddarllenwyr WHQ pam y dechreusoch chi ymwneud â gwleidyddiaeth?
A – Cefais fy magu yn Aberfan felly roedd hi’n anodd osgoi gwleidyddiaeth. Roedd fy nhad a’m tad-cu yn wleidyddol, ac roedd gwleidyddiaeth bob amser yn rhan o’n sgwrs fel teulu. Ond streic y glowyr a seliodd y peth i fi. Roeddwn ar fy ail flwyddyn yn y brifysgol ac ymunais â Myfyrwyr Llafur; buom yn codi arian i’r glowyr. Yn ystod y streic fe’m trawyd gan y graddau y gall llywodraeth newid cymunedau, er gwaeth, yn y cyfnod hwnnw. O 1984 ymlaen, gwleidyddiaeth oedd fy mhrif ffocws. Gweithias am gyfnod byr fel cynorthwydd ymchwil i AS a bûm yn dysgu am rai blynyddoedd cyn mynd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Plaid Lafur Cymru.
Roedd dechrau a chanol y 1980au yn gyfnod tanbaid, a dysgwyd nifer o wersi gwleidyddol mewn ffordd galed – yn ddi-os, mae’r hyn mae llywodraeth yn ei wneud yn effeithio ar bobl. Yn fy marn i, mae’r llywodraeth gyfredol yn San Steffan yr un mor benderfynol â llywodraeth Thatcher ei bod am newid pethau; mae’n llywodraeth asgell-dde radicalaidd.
C – Pa gyfleoedd a gynigir gan y gymysgedd o dai, adfywio a threftadaeth o fewn eich portffolio?
A – Dwi’n credu fod y cyfleoedd yn anferth. Mae’n bortffolio hynod sy’n cynrychioli cyfle ffantastig i mi yn bersonol am ei fod yn adlewyrchu fy niddordebau.
Byddwn yn gweithio i integreiddio gweithredu gan y llywodraeth o gwmpas tair elfen y portffolio; ni ddylid mynd ati i adfywio heb ystyried tai a threftadaeth hefyd. Mae’r portffolio yn cynnig cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth pobl o le, a gwella ansawdd bywyd pobl ledled Cymru.
Mae angen i lywodraeth ymyrryd mewn cymunedau am resymau da. Mae angen i ni ymgysylltu â phortffolios eraill ac edrych ar gymunedau mewn ffordd lawer mwy cyfannol nag a wnaed hyd yn hyn. Rhaid adlewyrchu’r ffaith hefyd ein bod yn gweithio o fewn cyllideb gyfyngedig iawn. Felly byddwn yn symud at sefyllfa lle bydd llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o waith dwys gyda chymunedau ond bydd llai o brojectau ar y gweill ar unrhyw adeg neilltuol. Enghraifft o’r ffordd fwy dwys yma o fynd ati yw strategaethau adnewyddu tai sydd ynghlwm wrth ymgais i adfywio pob agwedd ar gymuned neilltuol.
Gyda chyllidebau cyfyngedig, gallwn naill ai fod yn ddyfeisgar neu ysgwyd ein pennau a dweud y bydd y llywodraeth yn gwneud llai, a gobeithio y bydd y sector preifat yn llenwi’r bwlch. Mae i2i yn enghraifft dda o fod yn ddyfeisgar, gyda’i fudiadau cefnogi gwaith sy’n sicrhau’r budd mwyaf o bob caffaeliad i gymunedau lleol. Mae’n fodel ardderchog y gellid ei gymhwyso i bob portffolio gweinidogol.
C – Beth yn eich barn chi yw’r agweddau ar eich portffolio a fydd yn fwyaf o her, a sut fyddwch chi a’ch cydweithwyr yn mynd ati i ymateb iddynt?
A – Y cyfyngu ar gyllidebau yw’r her fwyaf sy’n ein hwynebu.
Rhaid i ni hefyd gyfleu i bob partner faint o ymrwymiad i gydweithio sy’n rhaid wrtho er mwyn gwneud i bethau weithio’n effeithiol er budd i gymunedau. Gall creu partneriaethau fod yn anodd. Mae rhai sefydliadau wedi bod yn llwyddiannus iawn ar eu telerau eu hunain, maent yn ymfalchïo yn hynny ac efallai heb fod yn rhy hoff o ffyrdd newydd o weithio. Gall datblygu a choethi partneriaethau gymryd amser.
Rhan o’m swyddogaeth i yw sicrhau fod pobl yn cael y cyfle i weithio gyda’i gilydd, hwyluso trafodaeth a sicrhau fod pawb yn dangos parch at ei gilydd fel y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd. Rydym wedi gwneud Cymru yn lle cymhleth, am wlad fechan; mae gennym lawer o sefydliadau, llawer o strwythurau a llawer o fentrau.
Bydd cydgysylltu elfennau fy mhortffolio yn her. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau gwych o ble mae adfywio, tai a threftadaeth wedi dod ynghyd, y gallwn adeiladu ar eu sail. Un o’r rhain yw Caernarfon, lle bu datblygu canolfan gelfyddydau ffantastig yn gatalydd i amrywiaeth o weithgareddau eraill. Enghreifftiau eraill yw’r Gelli (gyda’r ŵyl lenyddiaeth), Y Fenni (gyda’r ŵyl fwyd) a Blaenafon (gyda’i ffocws ar dreftadaeth). Mae ar bob cymuned angen más critigol o bobl fedrus a all feithrin a datblygu eu sgiliau yn lleol. Bydd gan wahanol gymunedau wahanol lwybrau tuag at ‘adferiad’ ; gall y catalydd ar gyfer adfywio ddod o unrhyw sector. Gall llywodraeth Cymru feithrin y ffordd hon o weithio; wrth wneud hynny, rhaid i ni sicrhau fod ein hymyriadau yn gall a’n rhaglenni’n gydlynol.
C – Sut, mewn termau ymarferol, ydych chi’n mynd i gydgysylltu pethau, o fewn eich portffolio eich hun, a gyda phortffolios gweinidogion eraill?
A – Does dim canllawiau ar gael ar sut i gydgysylltu pethau. Ond mae’r gwaith yn cychwyn gyda datganiad gwleidyddol o ewyllys y mae pawb yn y llywodraeth (yn weinidogion a gweision sifil) yn ddiffuant yn ei gylch. Mae angen rhoi sylw cyson i hyn hefyd, ac anogaeth, yn enwedig gan weinidogion, ond hefyd gan unrhyw un sydd â chyfrifoldeb fel rheolwr.
Mae’n hanfodol fod pawb â’r un ddealltwriaeth, felly mae angen gwaith cyfathrebu i egluro’r hyn rydym yn mynd ati i’w wneud.
Bob dydd, mae maint a natur yr ymyriad y bydd yn rhaid i mi ei wneud yn amrywio. Un diwrnod, gallwn fod yn cynnal trafodaethau strategol aruchel, ond rhaid cofio sut, yn ymarferol, y mae negeseuon yn gallu cael eu gwyrdroi. Fy nghred i yw mai’r ffordd fwyaf huawdl o gyfathrebu yw trwy ddangos project adfywio go iawn mewn cymuned go iawn i bobl.
Yn y misoedd sydd i ddod, byddaf yn sôn mewn termau penodol am ble mae pethau’n mynd i fod yn digwydd. Bydd darllenwyr WHQ yn sylweddoli bod tipyn o waith gwleidyddol i’w wneud cyn y gellir gwneud cyhoeddiadau mawr.
Gyda’n gilydd, rydym yn mynd i orfod newid yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn gallu cyflawni projectau adfywio dwysach a mwy cyfannol. Fodd bynnag, mae’n bwysig dweud y bydd ymrwymiadau presennol yn cael eu hanrhydeddu.
Mewn perthynas â thai, dydy canolbwyntio ar dai cymdeithasol yn unig ddim yn ddigon; gyda chyflwr y farchnad dai fel y mae, mae pobl sy’n berchenogion ac sy’n rhentu yn y sector preifat yn mynd i gael problemau anferth gyda fforddio cartref. Dwi’n eiddgar i archwilio modelau cydweithredol o berchenogaeth cartrefi a fydd yn ateb i rai pobl. O ran gwella ansawdd tai, rydym yn chwilio am fodelau cyllidol arloesol yn cynnwys ffyrdd newydd o fenthyca cyfalaf. Dwi ddim yn credu ein bod wedi gwerthfawrogi rhai partneriaid yn ddigonol yn y gorffennol, o ran yr hyn y gallant ei gynnig – fel cymdeithasau adeiladu, er enghraifft.
Dwi am ymdrin â fforddiadwyedd, ansawdd adeiladu a chyflenwad. Mae angen mynd i’r afael â’r tair problem hyn yn hytrach nag edrych ar y gwahanol fathau o ddeiliadaeth ar wahân. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyd-drefnu pethau yn dda er mwyn gwneud ein gorau dros gymunedau.
C – Mae llawer o bobl yn dechrau meddwl am Fesur Tai cyntaf Cymru. Sut hoffech chi weld cynnwys y Mesur yn cael ei ddatblygu?
A – Rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ailadeiladu cyfraith tai yng Nghymru. Mae fforest anferth o ddeddfwriaeth yn bodoli ar gyfer Cymru a Lloegr, ac ychydig iawn o bobl sy’n deall y cwbl.
Mae’n gyfle i ddechrau â dalen lân yn hytrach na dim ond gwneud rhyw fân newidiadau i’r hyn sydd gennym. Wrth wneud hynny, byddai’n ffôl i ni beidio â dysgu o’n profiad ein hunain ac eiddo gwledydd eraill, e.e. yr Alban lle bu nifer o ddeddfau tai ers datganoli. Gallwn fynd i’r afael â phopeth ond y ddeddfwriaeth defnyddwyr sy’n ymwneud â phrynu a gwerthu cartrefi.
Rwy’n tueddu i feddwl am y Mesur fel Mesur mawr, yn hytrach na’r cyntaf o nifer o rai llai, un â’r nod o wneud pob sector tai yn lle tecach i fod ynddo i bawb.
O ran manylion, gallem edrych ar beth mae digartrefedd yn ei olygu a’i ailddiffinio, ac edrych ar ddeiliadaeth a diffinio ffurfiau newydd. A rhaid i ni beidio ag anghofio’r sector rhentu preifat; mae sector preifat sy’n cael ei redeg yn dda fel y gall dyfu a ffynnu yn hanfodol, a wnawn ni ddim gadael y sector hwn i ddeddfau’r farchnad.
C – Beth, yn eich barn chi, fydd y prif newidiadau mewn tai ac adfywio a welir erbyn diwedd tymor Llywodraeth gyfredol Cymru?
A – O ran tai, hoffwn weld cynnydd mesuradwy yn y cyflenwad tai ar draws pob sector, gwahaniaeth mesuradwy yn ansawdd yr adeiladu, yn enwedig mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni, a’r sector rhentu preifat yn perfformio’n well fel sector. Hoffwn hefyd weld llai o bobl yn cael eu gwthio i mewn i’r gornel o fethu fforddio cartref (boed y rheini’n berchenogion neu rentwyr) nag a welir mewn rhannau eraill o’r DU.
O ran adfywio, hoffwn weld ein ffordd gyfannol o fynd ati yn darparu gwell ansawdd bywyd i bobl mewn llawer rhan o Gymru.
Ac ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, dylem allu arddangos ein bod yn gallu gwneud pethau yn dra gwahanol yng Nghymru.
C – I gloi, allwch chi ddweud rhywbeth wrth ein darllenwyr amdanoch eich hun nad ydyn nhw’n debyg o fod yn ei wybod eisoes?
A – Dwi wrth fy modd yn gwneud cinio cig rhost ar ddydd Sul. Dwi’n mwynhau coginio, ond mae gallu gwneud cinio dydd Sul yn golygu bod gen i ddydd Sul yn glir i baratoi bwyd a bwyta gyda fy nheulu.