Anghydraddoldeb, annhegwch a thegwch
Clywir llawer o sôn am degwch ac anghydraddoldeb y dyddiau yma, boed mewn perthynas â chyflogau, pensiynau neu’r gyfundrefn fudd-daliadau lles. Ac mae’r cysyniadau yn sicr yn destun pryder i lu o wahanol sefydliadau – dim ond dwy enghraifft yw cyhoeddiad Reform, The Fairness Test a chyfrol Will Hutton, Them and Us. Mae cyhoeddiad Llywodraeth flaenorol y Cynulliad, Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, yn defnyddio’r cysyniad o annhegwch iechyd yn hytrach nag anghydraddoldeb. Mae’n nodi bod ‘annhegwch iechyd yn canolbwyntio ar yr agwedd foesol – lle gellid osgoi’r fath wahaniaethau, mae’n annheg ac yn anfoesol ein bod yn eu goddef.’
Cyfrol benodol ynglŷn â Chymru sydd o gymorth gwirioneddol yw cyhoeddiad diweddar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Pa Mor Deg yw Cymru?. Mae hwn yn cynnig gwaelodlin ar gyfer mesur a yw penderfyniadau a wnaed yng Nghymru yn ei helpu i symud tuag at gymdeithas decach. Ni ddylai’r canlyniadau fod yn destun syndod i ddarllenwyr WHQ. Mae’r dystiolaeth a geir yn y ddogfen yn peintio darlun o Gymru lle mae anghydraddoldeb yn ddyfnwreiddiedig, lle nad yw mantais, pŵer ac adnoddau wedi eu dosbarthu’n deg. Rhai o’r prif benawdau yw:
- nad yw pobl o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf, ar gyfartaledd, yn mwynhau’r un ansawdd bywyd â phobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch
- bod anghydraddoldeb ar sail rhyw yn parhau er gwaethaf llawer o newidiadau yn swyddogaethau’r ddau ryw, gyda menywod dan anfantais ym meysydd allweddol cyflogaeth ac incwm
- bod anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd yn drawiadol, yn effeithio ar gyflogaeth, addysg ac enillion
- bod ethnigrwydd yn gymhleth ond, ar y cyfan, bod canlyniadau grwpiau ethnig lleiafrifol yn llai ffafriol o’u mesur yn erbyn dangosyddion mesur lles allweddol
- bod oedran hefyd yn ddarlun cymhleth: tra bod bod yn ifanc yn golygu cyflogau is a mwy o berygl dioddef troseddu treisiol, i rai, daw bod yn hŷn â diffyg cyflogaeth, iechyd gwael a diffyg urddas mewn gofal
Felly, daw’r adroddiad i’r casgliad bod ‘rhaid mynd i’r afael ag anghyfartaleddau sosio-economaidd sydd wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ond hefyd, ar y llaw arall, rhaid eu hintegreiddio’n effeithiol gyda gwaith hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y “grwpiau a ddiogelir” a gweddill y gymdeithas.’
Mae tegwch yn gysyniad a fydd bob amser yn ddadleuol – dichon na fydd yr hyn sy’n deg i’r naill berson yn deg i un arall. Ac mae gwahaniaeth barn ynglŷn â’r cwestiwn a yw anghydraddoldeb yn anorfod neu a ddylid ymdrechu i’w leihau. Er gwaetha’r anawsterau hyn, mae’n dal yn fuddiol meddwl ynglŷn â sut y byddwn yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael am anghydraddoldeb ac annhegwch yng Nghymru fel rhan o’n proses benderfynu.
Tamsin Stirling
Golygydd