English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Datblygiadau polisi

Hawliau Dynol Gartref

[cover]

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer darparwyr tai cymdeithasol. Bwriedir i’r canllawiau fod yn ddyfais ymarferol a fydd yn creu dealltwriaeth a magu hyder yng ngallu swyddogion i nodi ac ymdrin â phroblemau hawliau dynol. Mae’n cynnig enghreifftiau o sut y gall hawliau dynol fod yn berthnasol ledled y maes tai, o ddyrannu eiddo i derfynu tenantiaeth. Mae hefyd yn darparu rhestr wirio i helpu darparwyr tai cymdeithasol i adolygu eu polisïau a’u harferion o safbwynt cydymffurio â hawliau dynol ac ymdrin ag unrhyw broblemau yn effeithiol.

Mae’r canllawiau ar lein yn www.equalityhumanrights.com/uploaded_files/humanrights/human-rights-at-home-welsh.doc

Asesiadau effaith yr AGPh

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi asesiadau o effaith nifer o’r newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn les. Nododd yr asesiad o effaith newidiadau i fudd-dâl tai yn deillio o dan-ddefnydd tai cymdeithasol amrywiaeth o gostau yn gysylltiedig â gweithredu’r cynigion:

• mae’r rhan fwyaf o hawlwyr (mwy na 70%) yn debyg o ddioddef gostyngiadau o lai na £15 yr wythnos, yn seiliedig ar brisiau 2013/14

• bydd yr effaith ar denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yr un fath

• amcangyfrifir ei bod yn debygol yn effeithir ar tua 32% o denantiaid budd-dâl tai o oed gweithio yn y sector rhentu cymdeithas ledled Prydain (42% yng Nghymru)

• bydd symudiadau tenantiaid o fewn y sector rhentu cymdeithasol o ganlyniad i’r mesur hwn yn dibynnu nid yn unig ar eu parodrwydd hwy eu hunain i symud, ond ar argaeledd llety o faint addas yn yr ardal, a sut y bydd y landlord yn mynd ati i hwyluso’r fath symudiadau. Ar hyn o bryd, nid yw hi’n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar ddewisiadau hawlwyr y mae’n debyg yr effeithir arnynt gan y mesur.

• efallai y bydd gwahanol gostau ar landlordiaid cymdeithasol o ganlyniad i ddechrau defnyddio’r meini prawf maint, yn cynnwys costau rhedeg cynlluniau i helpu tenantiaid yr effeithir arnynt i symud, cyfnodau pan fydd eiddo’n wag, a chostau casglu rhent

• Mae awdurdodau lleol sy’n gweinyddu budd-dâl tai yn debyg o fynd i gostau ychwanegol, yn cynnwys addasu systemau TG budd-dâl tai, newidiadau i ddeunydd cyhoeddusrwydd, hyfforddi, cynnydd mewn ceisiadau am Daliadau Tai Disgresiynol, a mwy o ymholiadau ac apeliadau gan hawlwyr yr effeithiwyd arnynt

Mae asesiadau effaith yr AGPh ar-lein (yn Saesneg yn unig) yn www.dwp.gov.uk/publications/impact-assessments/equality-impact-assessments

Cyhoeddiadau

10 i edrych allan amdanyn nhw

1 Charity Bank/Cartrefi Cymunedol Cymru (Mawrth 2011) The Collective Entrepreneur – Social Enterprise and the Smart State – gweledigaeth o Gymru lle mae mathau newydd o fenter cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig mewn ysgogi twf a swyddi yng Nghymru, yn ogystal â darparu cenhedlaeth newydd o wasanaethau cyhoeddus mewn iechyd, tai, addysg a gofal cymdeithasol
www.charitybank.org/news/collective-entrepreneur-%E2%80%93-social-enterprise-and-smart-state

2 Building and Social Housing Foundation (Ebrill 2011) Housing benefit claimant numbers and the labour market – galw sylw at ba mor sensitif yw gwariant ar Fudd-dâl Tai i newidiadau yn y farchnad lafur www.bshf.org/published-information/publication.cfm?thePubID=4E36E822-15C5-F4C0-9910CF24FAAC301E

3 Y Sefydliad Tai Siartredig (Ebrill 2011) The local authority role in housing markets – y nod yw hybu a dylanwadu ar ddialog rhwng awdurdodau lleol, darparwyr cofrestredig, a budd-ddeiliaid eraill â rhan yn y farchnad dai leol
www.cih.org/policy/fpp-LArolehousingmarkets-Apr11.pdf

4 ResPublica (Mai 2011) – At the Crossroads: a progressive future for housing associations – dadlau y dylai’r llywodraeth a’r cymdeithasau tai ill dau fanteisio ar y cyfle i ailystyried swyddogaeth, pwrpas a phosibiliadau’r sector
www.respublica.org.uk/sites/default/files/At%20the%20Crossroads.pdf

5 Y Sefydliad Tai Siartredig (Ebrill 2011) Improving financial inclusion and capability in social housing – arfer da a chyngor i landlordiaid cymdeithasol
http://members.cih.org/bookshop/Catalogue.aspx

6 Y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) (Rhagfyr 2010) Productive local economies: creating resilient places – esbonio’r fframwaith hydwythedd a ddatblygwyd gan CLES a chynnig rhai casgliadau cynnar ar sail ymchwil beilot a wnaed ledled y DU www.cles.org.uk/publications/productive-local-economies-creating-resilient-places-2

7 Sefydliad Joseph Rowntree (Ebrill 2011) Improving housing outcomes for young people: practical ideas – cyflwynir 27 o enghreifftiau ymarferol o’r sector tai www.jrf.org.uk/publications/improving-housing-outcomes-young-people

8 Human City Institute (Mai 2011) Living on the Edge: financial exclusion and social housing – yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 252 o denantiaid tai cymdeithasol
www.humancity.org.uk/reportList.htm

9 Llywodraeth Cymru (May 2011) Amcangyfrifon Poblogaeth yn ôl Grŵp Ethnig, 2001-2009 – dengys yr ystadegau, sy’n rhestru amcangyfrifon poblogaeth fesul grŵp ethnig, y cynyddodd canran pobl Cymru sydd o grwpiau ethnig lleiafrifol o 2.1 y cant i 4.1 y cant rhwng 2001 a 2009.

http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/population2011/110518/?lang=cy

10 ARCH (May 2011) Home Truths: Tenants’ Tales of Council Housing – cyfweliadau gyda thenantiaid ynglŷn â’u profiadau o dai cyngor
www.arch-housing.org.uk

Llywodraeth Cymru

Ymgynghoriad cod canllawiau

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn diwygiedig o’r Cod Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar ddyrannu llety a digartrefedd. Defnyddir y Cod gan awdurdodau tai lleol wrth baratoi polisïau dyrannu ac ymdrin â phobl ddigartref ac mae hefyd yn berthnasol i gymdeithasau tai a’u gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Yn ychwanegol at hynny, mae llawer o’r gweithgareddau a drafodir yn y Cod yn mynnu cyd-gynllunio a gwaith ar y cyd rhwng awdurdodau tai lleol, gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau iechyd, asiantaethau atgyfeirio eraill, mudiadau sector gwirfoddol a chyrff eraill.

Gofynnir am ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 30 Mehefin; mae’r papur ymgynghori ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/codehomelessness/?lang=cy

Hynt SATC

Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniadau arolwg i fonitro perfformiad o ran gwella tai cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y canlyniadau:

• y bydd 78% o gartrefi cymdeithasau tai (yn cynnwys y trosglwyddiadau stoc diweddar) yn gallu bodloni SATC erbyn 2012/13

• y bydd 87% o gartrefi awdurdod lleol yn gallu bodloni’r safon erbyn 2012/13, ac eithrio’r rheini heb bleidlais a’r rhai sy’n mynd i bleidlais. Pan gynhwysir yr awdurdodau hynny heb bleidlais a’r rhai a fydd yn cynnal pleidlais, 39% o gartrefi awdurdodau lleol a fydd yn gallu bodloni SATC erbyn 2012/13

• yn achos y cymdeithasau hynny sy’n gweithio i ddyddiad cau yn 2012, bod 86% o’u catrefi yn debygol o allu bodloni’r safon erbyn 2012/13 a 98% erbyn 2016/17

• bydd 100% o gartrefi pob un o’r pum cymdeithas tai sydd ag estyniad tan 2014/15 (Cartrefi Conwy, Cartrefi Cymoedd Merthyr, Cartrefi Dinas Casnewydd, Tai Calon a Thai Ceredigion) yn bodloni’r safon ym mhob elfen allweddol erbyn y dyddiad hwnnw

• bod pedwar o’r deuddeg awdurdod a oedd yn dal yn berchen ar eu stoc erbyn Mawrth 2011 yn rhagweld cyrraedd SATC erbyn 2012/13, un arall erbyn 2014/15 ac un arall erbyn 2016/17. Ar adeg sgrifennu’r erthygl hon, roedd tri awdurdod lleol yn bwriadu cynnal pleidlais i denantiaid, roedd un wedi trosglwyddo’i stoc ac roedd dau awdurdod lleol wedi cynnal pleidlais a chael pleidlais ‘na’. Mae gan Gaerfyrddin estyniad tan 2014/15 i gyrraedd SATC a Phowys tan 2017/18. Mae’r ddogfen yn nodi nad oes gan Abertawe na Wrecsam gynllun busnes dichonadwy

Mae’r adroddiad ar-lein (Saesneg yn unig) yn http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/measuringprogress/?lang=cy

Cyngor ar ddarparu gwasanaethau i bobl ag ASA

[cover x 2]

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu dau ganllaw ar gyfer gweithwyr tai i’w helpu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig (ASA). Mae’r canllawiau ar gyfer gweithwyr digartrefedd a gweithwyr cynghori am dai, a rhai sy’n gweithio mewn rheolaeth tai. Maent yn darparu llawer o wybodaeth ac awgrymiadau ymarferol ar sut i addasu gwasanaethau ar gyfer pobl ag ASA.

Mae’r canllawiau ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/health/nhswales/majorhealth/autism/?lang=cy

Canlyniadau iechyd tecach i bawb

[report cover]

Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddwyd Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb: Cynllun Gweithredu Strategol i Leihau Annhegwch mewn Iechyd. Galwai fframwaith strategol iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Ein Dyfodol Iach, am ddull newydd o fynd i’r afael â’r bylchau mewn iechyd a lles. Yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru o greu cymdeithas deg a chyfiawn, galwai am ganolbwyntio ar annhegwch yn hytrach nag anghydraddoldeb mewn iechyd. Tra bod ‘anghydraddoldeb iechyd’ yn cyfeirio at wahaniaethau mewn canlyniadau iechyd rhwng grwpiau (er enghraifft, cyfradd uwch o achosion o gancr yr ysgyfaint mewn gwahanol ardaloedd), mae annhegwch iechyd yn canolbwyntio ar yr agwedd foesol – lle gellid osgoi’r fath wahaniaethau, mae’n annheg ac yn anfoesol ein bod yn eu goddef.

Gweledigaeth Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb yw gwell iechyd a lles i bawb, gyda chyflymdra’r gwelliant yn cyflymu yn gymesur â’r lefel o anfantais.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, dyhead Llywodraeth Cymru, erbyn 2020, yw gwella disgwyliadad bywyd iach pawb a chau’r bwlch rhwng pob cwintel o amddifadedd o 2.5% ar gyfartaledd.

Mae’r ddogfen ar-lein (Saesneg yn unig) yn http://new.wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/fairer/?lang=cy

Rheoliad

Derbyniodd pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ddyfarniad hyfywedd ariannol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011. Ni chyhoeddodd Llywodraeth Cymru y dyfarniadau hyn; cyfrifoldeb LCCiaid unigol yw gwneud hynny. Derbyniodd y rhan fwyaf ddyfarniad ‘pasio’ a chafodd nifer fach ddyfarniad ‘pasio gyda monitro’.

Gofynnwyd i bob LCC gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno hunan-asesiad erbyn diwedd Mawrth 2011. Derbyniodd LCCiaid unigol adborth ysgrifenedig, a hunan-asesu oedd prif ffocws cyfarfod rhwydwaith rheoliad Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Mai 2011. Bydd aelodau o dîm rheoliad Llywodraeth Cymru yn awr yn cwrdd â LCCiaid unigol.

Cymru

Y diweddaraf am SATC

• Pleidleisiodd tenantiaid ym Mro Morgannwg o drwch blewyn yn erbyn trosglwyddo stoc. Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais ar y 5 Ebrill 2011; roedd 49.2% o blaid trosglwyddo a 50.8% yn erbyn, gyda 68.4% o’r tenantiaid yn pleidleisio

• Dathlodd Cartrefi Dinas Casnewydd ei ail benblwydd ym mis Mawrth 2011 – mae mwy na 4,500 o gartrefi wedi elwa ar y rhaglen fuddsoddi sy’n cael ei chyflawni gan brif bartneriaid contractio’r sefydliad: Ian Williams, Mi Space, PH Jones, SERS, Solar Windows, Wrekin Windows a Wates Living Space

[report cover]

• Er mwyn deall buddiannau iechyd ei raglen SATC i denantiaid a’r buddiannau i wasanaethau iechyd lleol, sefydlodd Cyngor Sir Gaerfyrddin astudiaeth effaith ar iechyd. Mae’r astudiaeth beilot ddechreuol wedi dangos:

o gwelliant o ran iechyd meddwl – nododd 21% o denantiaid mewn eiddo oedd heb ei wella eu bod yn derbyn triniaeth am iselder, o’i gymharu â dim ond 7% o’r tenantiaid sy’n byw mewn eiddo sydd wedi’i gwblhau

o gwelliant o ran heintiau anadlol – nododd 67% o denantiaid sy’n byw mewn eiddo sydd wedi’i gwblhau nad ydynt yn dioddef o haint anadlol megis peswch ac annwyd o’i gymharu â 52% mewn eiddo heb ei wella

o llai o bobl yn ymweld â’u meddyg teulu – roedd 23% o’r ymatebwyr mewn eiddo heb ei wella wedi ymweld â’u meddyg teulu fwy na phedair gwaith mewn cyfnod o dri mis o’i gymharu â 14% mewn eiddo wedi’i gwblhau

Mae’r adroddiad ar yr astudiaeth beilot ar-lein yn www.carmarthenshire.gov.uk/cymraeg/tai/pages/healthimpact.aspx

Canllawiau ac ymchwil TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru:

• wedi cynhyrchu cyhoeddiad Solutions newydd ar arolygwyr o denantiaid

• wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer Strategaethau Cyfranogiad Tenantiaid Lleol yn 2011

• yn mynd i gyhoeddi pecyn cymorth ar fonitro a gwerthuso; mae’n chwilio am enghreifftiau o arfer da y gallai eu bwydo i mewn i’r pecyn

• yn gwneud ymchwil a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ffurf gyfredol cyfranogiad tenantiaid o fewn landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. Pwrpas yr ymchwil yw asesu datblygiad cyfranogiad tenantiaid trwy gymharu cyflwr presennol cyfranogiad tenantiaid gyda’r sefyllfa yn 2005, a ddisgrifiwyd gan gyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad, Gwerthuso Cyfranogiad Tenantiaid mewn Rheoli a Dylunio Tai
• yn mynd i gwblhau asesiad o’r ail rownd o Stratregaethau Cyfranogiad Tenantiaid Lleol, ar sail gyffelyb i’r asesiad a gynhyrchwyd ar gyfer y rownd gyntaf gan TPAS Cymru. Bydd TPAS Cymru yn ymgynghori â landlordiaid a thenantiaid ynglŷn â meini prawf asesu diwygiedig

Gwefan TPAS Cymru yw www.tpascymru.org.uk

Gweithio gydag ysgolion

[pic]

Fel rhan o Broject Dyheadau Cartrefi Dinas Casnewydd, gwahoddodd y sefydliad ddisgyblion blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd St Woolos i ymweld â’i swyddfeydd yn Nhŷ Nexus. Nod yr ymweliad oedd cyflwyno’r plant i’r gwahanol swyddogaethau a chyfleoedd gwaith a geir o fewn y sefydliad a’i hysbrydoli i ddewis yn ddoeth yn ystod cyfnod nesaf eu haddysg yn yr ysgol uwchradd.
www.newportcityhomes.com

Tai Calon yn adeiladu pontydd

[pic]

Cafodd saith person ifanc o Stadau Brynfarm a Gurnos, Brynmawr, flas ar y diwydiant adeiladu fel rhan o’r project ‘Adeiladu Pontydd’, a drefnwyd gan Tai Calon ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu. Darparodd y project gwrs rhagflas pum-wythnos ar gyfer y bobl ifanc mewn adeiladu sylfaenol a sgiliau saer. O ganlyniad i’r project, mae pump o’r bobl ifanc wedi cofrestru i ddilyn cwrs BTEC mewn gwaith saer neu OCN mewn gwaith plymer.
www.taicalon.org

Homesearch Sir Fynwy

[pic]

Lansiwyd ffordd newydd o ddod o hyd i gartref yn sir Fynwy ar ddiwedd mis Mawrth 2011, a olygai sefydlu cofrestr tai a pholisi tai cyffredin rhwng Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cartrefi Melin, Tai Charter a Chyngor Sir Fynwy. Mae’r cynllun sy’n cynnig dewis wrth osod wedi ei seilio ar system fandio.
www.monmouthshirehomesearch.co.uk

Gwobrau, gwobrau

Enillwyr gwobrau cyfranogiad TPAS Cymru 2011

[pics Forward Together Panel and Tai Calon team]

Enillwyr gwobrau TPAS Cymru 2011 oedd:

• Cyfathrebu mewn Tai yng Nghymru – Landlord – Gwasanaeth Allanol ‘Bus Stop’ i Ieuenctid Digartref, Partneriaeth Tai Gogledd Cymru, Cymdeithas Tai Clwyd a Chartrefi Conwy

• Cyfathrebu mewn Tai yng Nghymru – Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr – Preswylwyr Danymynydd – Adrodd straeon digidol

• Cyflawniad Eithriadol mewn Cyfranogiad – Pip Williams

• Prif-ffrydio Cyfranogiad Tenantiaid – Panel Ymlaen gyda’n Gilydd Cymdeithas Tai Charter

• Projectau Cyfranogiad Tenantiaid – Project MUGA Barracksfield

• Ymbweru Pobl i Wella Gwasanaethau – Tenantiaid a Phreswylwyr yn Gweithredu – Tai Calon

• Cynhwysedd Gweithredol – Fforwm Tenantiaid Cymdeithas Tai Sir Fynwy

• Cyd-weithiwr sy’n Ysbrydoliaeth – Rob Carey, Cymdeithas Tai Sir Fynwy

• Gwella’r Amgylchedd – The Growing Space, Y Pîl

Wedi’r seremoni wobrwyo, dywedodd John Drysdale, Cyfarwyddydd TPAS Cymru: ‘Gwych yw gweld mwyfwy o ddatblygiadau a gwelliannau ymarferol mewn cyfranogiad tenantiaid yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r projectau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2011 yn dangos bod llawer o syniadau newydd y gallwn eu rhannu a’u gwerthfawrogi. Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd ac i enillwyr gwobrau eleni.’

Gwobr ddylunio

[pic]

Mae cynllun cyntaf Tai’r Canolbarth i’w gwblhau o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghlos Esgob, Trecastell wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol De Cymru 2011 yn y Categori Tai Fforddiadwy/ Cymdeithasol.

Cwmnïau gorau

Mae nifer o sefydliadau tai Cymreig wedi ennill achrediad cwmnïau gorau:

• dyfarnwyd statws dwy seren i Grŵp Tai’r Glannau, Llamau Cyf, Grŵp Tai Pennaf , a Chymdeithas Tai Wales & West

• dyfarnwyd statws un seren i Gymdeithas Tai Cadwyn

www.bestcompanies.co.uk

[Michael Sheen gyda staff a defnyddwyr gwasanaethau Dewis yn ystod eu project adrodd straeon digidol]

[Sheila Jennick a Rhiannon Richards o Celtic Home Care, Simon Jones a Judith North, Cyfarwyddwyr Corfforaethol gyda Seren, yn dathlu prynu Celtic Home Care, cwmni teuluol sy’n darparu gofal cartref, gofal personol a chefnogaeth liw nos i bobl hŷn a rhai diamddiffyn, trwy wasanaethau byw â chefnogaeth Reach]

[plastrwyr yn gweithio ar eiddo cyngor yn Heol Tregoning a Stryd Westbury, Morfa, Llanelli, lle caniataodd grant i’r cyngor wella cartrefi â defnydd inswleiddio allanol y talwyd amdano gan Nwy Prydeinig a chynllun Arbed Llywodraeth Cymru]


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »