Safbwynt personol Jane Mudd ar ei phrofiad o gymryd rhan mewn project Ewropeaidd.
Cefndir
Yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, mae gan y Ganolfan Gwyddorau Cymdeithasol Cymwysedig gefndir cadarn mewn gwaith rhyng-broffesiynol, rhannu gwybodaeth a sgiliau, a datblygu arfer da ar draws sbectrwm eang o ofal cymdeithasol. Rhwng 2008 a 2010, cyfranogodd staff academaidd a myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol, Tai ac Iechyd, a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â phartneriaid o chwe gwlad Ewropeaidd arall, ym mhroject INCOSO (Cymhwysedd Rhyng-ddiwylliannol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol). Roedd y project hwn, a gyllidir gan yr UE, yn cynnig cyfle i rannu gwybodaeth a sgiliau a datblygu arfer da mewn gofal cymdeithasol yn y cyd-destun Ewropeaidd.
Daeth INCOSO â staff a myfyrwyr mewn addysg, hyfforddiant ac arfer gofal cymdeithasol ynghyd o Estonia, y Ffindir, Awstria, yr Almaen, Groeg, Gwlad Belg a Chymru. Diolch i gyllid gan Raglen Ddysgu Gydol Oes Leonardo da Vinci, gallodd y partneriaid deithio i gwrdd â phartneriaid ar y project yn eu gwahanol wledydd; y Ffindir, yr Almaen, Gwlad Belg, Estonia a Chymru. Defnyddiwyd ein cyfarfodydd, gyda nifer fawr o staff a myfyrwyr, i gyfnewid syniadau, cyd-drefnu cynlluniau ar gyfer datblygu ymchwil, dysgu rhywfaint am arferion addysgol pob gwlad ac, wrth gwrs, blasu gwahanol ddiwylliannau.
Croesawodd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (APCC) ymweliad y project â Chaerdydd, a oedd yn cynnwys gweithdai astudio a sesiynau ymarferol a chyflwyniad i agweddau mwy diwylliedig ar fywyd yng Nghymru. Cafodd y grŵp wahoddiad i ymweld â Chanolfan y Mileniwm, trwy haelioni Cymorth Cymru, ar achlysur lansio Arddangosfa Gelf Life Begins@Home a roddodd gyfle i bartneriaid ddysgu mwy am gefnogaeth yn gysylltiedig â thai yng Nghymru a mwynhau’r arddangosfa wych o waith defnyddwyr gwasanaethau. Aethom â’n hymwelwyr ar daith o gwmpas Bae Caerdydd, ymweliad â’r Amgueddfa Werin a thaith o gwmpas y Pwll Mawr ar brynhawn Sadwrn gwlyb a gwyntog dros ben! Ac wrth gwrs, fyddai’r un ymweliad â Chaerdydd yn gyflawn heb flasu ein danteithion traddodiadol … mwynhawyd cynnyrch gorau Stryd Caroline gan bawb!
Y project
Prif amcanion project INCOSO oedd cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cymhwysedd rhyng-ddiwylliannol, neu, a defnyddio terminoleg sydd efallai’n fwy cyfarwydd i ni yn y DU, materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth:
- mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol
- er mwyn datblygu argymhellion ar gyfer arfer da
- i sefydlu cronfa o adnoddau i gefnogi gweithredu
Dewisodd y project ganolbwyntio ar wahaniaethau ethnig, ieithyddol a chrefyddol o fewn gwladwriaethau a rhyngddynt. Cytunodd y grŵp mai’r weledigaeth a rannai i’r perwyl hwn oedd: ‘y gallu i gynnig cystal gwasanaeth i rywun o ddiwylliant gwahanol ag i rywun o’r un cefndir diwylliannol â chi’.
Gwnaeth pob gwlad ymchwil ddechreuol gyda myfyrwyr, addysgwyr a chyflogwyr gan archwilio anghenion dysgu mewn perthynas â chymhwysedd rhyng-ddiwylliannol. Datgelodd yr ymchwil amrywiaeth go sylweddol mewn addysg, hyfforddi ac arfer rhwng y partner-wledydd. Roedd disgwyliadau darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau yn amrywio’n sylweddol o wlad i wlad, gan adlewyrchu’r ffaith fod y partneriaid yn y project yn cynrychioli cyd-destunau cenedlaethol gwahanol iawn o fewn Ewrop. Er enghraifft, bu gan wledydd fel Gwlad Belg a Chymru gymunedau lleiafrifol ethnig ers amser maith, a chafwyd mewnfudiad diweddarach o lawer o wahanol wledydd a grwpiau ethnig a chrefyddol. Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i Estonia, lle ceir un diwylliant lleiafrifol yn unig, o dras Rwsiaidd, â hanes a pherthynas neilltuol o sensitif gyda’r boblogaeth fwyafrifol. Roedd yr ymchwil ddechreuol yn sail i ddatblygu ymarferion gweithdy ar gyfer dysgu cymhwysedd rhyng-ddiwylliannol, yr arbrofwyd â nhw gan y partneriaid, ac fe nodwyd argymhellion o arfer da.
Argymhellion y project
Mae’r Undeb Ewropeaidd yn darparu fframwaith ar gyfer cymathu dinasyddion newydd i mewn i aelod wladwriaethau, and mae gwahaniaethau sylweddol rhwng deddfwriaeth a pholisi cymdeithasol y gwahanol wledydd. Gwnaeth y project amryw o argymhellion: mae rhai o’r rhain yn berthnasol ym mhob cyd-destun cenedlaethol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe’u cefnogir gan amrywiaeth o argymhellion penodol ar gyfer gwledydd unigol.
Un o’r prif argymhellion oedd y dylid gweld hyfforddi mewn cymhwysedd rhyng-ddiwylliannol fel rhan graidd o hyfforddiant gweithwyr yn y cyd-destun gofal cymdeithasol ehangach, a dylid ei gynnwys yng nghwricwlwm pob rhaglen hyfforddi. Mae’r argymhelliad hwn eisoes wedi ei wreiddio’n gadarn yng Nghymru. Fodd bynnag, ledled Ewrop, mae agweddau tuag at hyfforddi ac, yn wir, ansawdd y ddarpariaeth yn amrywio’n fawr. O fewn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol fod hyfforddiant yn cynnwys ‘deall eich diwylliant eich hun a’i dderbyn fel un persbectif posibl ymhlith nifer. Roedd y project yn cydnabod mai:
‘Un o effeithiau globaleiddio yw fod pobl, yn gynyddol, yn creu hunaniaethau deublyg neu luosog, gan gyflwyno wyneb gwahanol a dilyn rheolau ymddygiad gwahanol yn y cartref ac yn y gweithle. Fodd bynnag, gall dysgu rhai agweddau cyferbyniol ar ddiwylliannau eraill ein helpu i ddeall ein diwylliant ein hunain yn well a’n helpu i weld ein diwylliant ein hunain fel un persbectif ymhlith nifer.’
Er fod y dirwedd bolisi o fewn y DU yn amrywio’n gynyddol, gall budd sylweddol ddeillio o edrych y tu hwnt i’n ffiniau er mwyn datblygu ffordd o fynd ati ar y cyd a deall materion sy’n effeithio arnom oll.
O edrych yn ôl arno, roedd y profiad o gyfranogi yn y project yn ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth. O safbwynt proffesiynol, fel addysgwyr, dysgasom lawer iawn am lefelau ymwybyddiaeth, dulliau dysgu ac arfer da yn y cyd-destun Ewropeaidd. Ar lefel bersonol, rwyf wedi datblygu a gloywi fy ngwybodaeth a’m sgiliau fy hun, yn cynnwys rhai y gallem fod yn eu cymryd yn ganiataol, fel sgiliau cyfathrebu, a oedd o bwys hanfodol i’r project. Yn wir, yr her fwyaf oedd cytuno ar ddiffiniad y gallem ei rannu o gymhwysedd rhyng-ddiwylliannol yn ein cyfarfod project cyntaf yn y Ffindir! Cawsom fwynhau bwydydd, diwylliant a gwledydd ein gilydd, cydweithio i gynhyrchu deunyddiau dysgu, ac rydym wedi cadarnhau ein perthynas â’n gilydd mewn ysbryd o weithio fel partneriaid yn y cyd-destun Ewropeaidd.
Ceir adroddiad y project, deunydd hyfforddi a gwybodaeth gefnogol yn http://incoso.wikidot.com/start
Jane Mudd yw Cyfarwyddydd Rhaglen – Tai APCC
Materion Ewropeaidd
Arweiniad cryno gan WHQ i rai sefydliadau a rhwydweithiau Ewropeaidd sy’n berthnasol i dai ac adfywio.
Rhwydwaith trawswladol Ewropeaidd yw Menter Adfywio Tir Brown Ewrop a sefydlwyd er mwyn rhannu profiadau a chydweithio ar ddatblygu tir brown o fewn Ewrop.
CECODHAS yw’r rhwydwaith Ewropeaidd sy’n hyrwyddo hawl pawb i lety cymwys. Mae ei aelodau’n cynnwys 45 o ffederasiynau rhanbarthol a chenedlaethol sydd gyda’i gilydd yn cynrychioli mwy na 39,000 o fentrau tai cyhoeddus, gwirfoddol a chydweithredol mewn 19 o wledydd, sy’n darparu mwy na 21 miliwn o gartrefi ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan CECODHAS gangen ymchwil o’r enw yr Arsyllfa.
Europa – gwefan sy’n borth i wybodaeth ynglŷn â’r Undeb Ewropeaidd.
Nod Rhwydwaith Ecoleg Tai Ewrop yw nodi a datblygu arfer da ym mhob agwedd ar ecoleg sydd ynghlwm wrth, neu sy’n effeithio ar, ddarparu, rheoli a gwasanaethu tai.
Mae Fforwm Tai Ewrop yn hyrwyddo pwysigrwydd y sector tai yn Ewrop trwy greu ymwybyddiaeth ymhlith gwneuthurwyr polisi Ewropeaidd o effeithiau nifer gynyddol o benderfyniadau’r UE ar bolisïau tai domestig.
Mae Rhwydwaith Ymchwil Tai Ewrop yn cynnwys ymchwilwyr o amrywiaeth o wyddorau cymdeithasol sy’n ymdrin â materion trefol a thai.
Nod Rhwydwaith Gwybodaeth Trefol Ewrop yw hwyluso cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd mewn datblygu trefol ledled Ewrop, gan gwmpasu polisi trefol, ymchwil ac arfer.
Clymblaid yw Feantsa, Ffederasiwn Ewrop o Gyrff Cenedlaethol sy’n gweithio gyda’r Digartref, o fudiadau dim-am-elw sy’n cyfrannu at neu gyfranogi yn y frwydr yn erbyn digartrefedd yn Ewrop.