English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Menter gymdeithasol newydd yn mynd ati i lanhau ei chymuned

Menter gymdeithasol newydd yn mynd ati i lanhau ei chymuned

Mae’r elusen iechyd meddwl Gofal wedi lawnsio ail fenter gymdeithasol, gyda’r nod o roi cyfleoedd i wirfoddoli a gwaith cyflog i bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl.

Ganed PS Services o’r project ‘Ein Busnes’ a sefydlwyd yn 2009 gan Gofal ar y cyd â Chymdeithasau Tai Taf, Cadwyn, United Welsh, a Chymuned Caerdydd. Cefnogwyd y project gan gyllid grant rheolaeth tai cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad.

Nod Ein Busnes oedd estyn allan at denantiaid tai cymdeithasol yng Nghaerdydd, ymgysylltu â nhw a dysgu iddynt y sgiliau, hyder a’r gwytnwch seicolegol i allu manteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac i ddatblygu menter gymdeithasol gynaliadwy hefyd.

Ers i Ein Busnes ddechrau gweithredu ym mis Hydref 2009, mae’r project wedi derbyn mwy na 90 o atgyfeiriadau, wedi datblygu ei gwrs magu hyder ei hun, a chafodd pobl eu cefnogi i ddilyn amrywiaeth o gyrsiau addysg a hyfforddiant – yn cynnwys Rhaglen ‘Camau’ Sefydliad y Môr Tawel.

Mae’n Cysgysylltydd Project Busnes, Steve Sparrow, wedi bod ynghlwm wrth y fenter o’r cychwyn cyntaf. Meddai:

‘Un o nodau’r project erioed oedd datblygu menter gymdeithasol gynaliadwy. Pan gynhaliwyd ein trafodaethau dechreuol ynglŷn â beth allai fod yn fenter gymdeithasol hyfyw, roeddem yn glir ein bod am ddatblygu rhywbeth a fyddai’n rhoi gwerth ychwanegol i’n cwsmeriaid, a darparu gwasanaeth a fyddai’n gallu cadw llygad anffurfiol ar les tenantiaid diamddiffyn gyda gwên gyfeillgar.’

Roeddem yn credu fod gwasanaeth glanhau a chynnal a chadw gerddi yn wasanaeth delfrydol ar gyfer tenantiaid, a dyna sut y ganed PS Services.’

‘People Space’ yw ystyr y ‘PS’ yn yr enw, a’r nod yw hyrwyddo lles meddyliol, hyder a hunan-barch y rheini a gyflogir, gan recriwtio’n egnïol o blith y cymunedau a wasanaethir.

Mae llawer o astudiaethau wedi dangos budd gwaith i bobl sydd, neu a fu’n, dioddef o broblem iechyd meddwl. Gall gwaith fod yn ffynhonnell cyflawniad, boddhad, ac yn hwb i hunan-barch.

Ychwanegodd Steve Sparrow:

‘Gwyddom fod gweithgaredd ystyrlon yn elfen allweddol mewn adferiad wedi salwch meddwl, ond gwyddom hefyd y gall diweithdra effeithio’n wael ar iechyd meddwl a lles pobl. Gyda PS Services, roeddem am fynd i’r afael â’r agenda lles meddyliol ehangach a gallu cynnig cyfleoedd i rai nad oedd o anghenraid wedi cael diagnosis o salwch meddwl ond a oedd yn dioddef o ddiffyg hyder a diffyg hunan-barch o ganlyniad i fod heb waith am gyfnod maith.’

Yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddoli, gall PS Services hefyd gynnig lleoliadau gwaith cyflog chwe mis o hyd diolch i gytundeb Marchnad Lafur Ganolradd y GGE a sicrhawyd drwy gyfrwng y WCVA. Mae’r cytundeb yn caniatáu lleoliadau gwaith gyda phob un o’r partner-sefydliadau yn ogystal â sefydliadau eraill yn y trydydd sector. Mae’r lleoliadau gwaith yn gyfle gwych i’r rheini sydd am ddatblygu eu sgiliau a dychwelyd i amgylchedd gwaith.

Hyd yn hyn, cynigwyd cytundebau i PS Services gan dair cymdeithas tai ac mae wedi dechrau mynd yn gyfrifol am ddyletswyddau glanhau holl swyddfeydd Gofal. Wrth i’r busnes ehangu, caiff mwy o gyflogaeth a chyfleoedd am leoliadau gwaith eu creu.

Am fwy o wybodaeth am broject Ein Busnes neu Fenter Gymdeithasol PS Services, da chi, cysylltwch â Steve Sparrow ar 02920 453840, ebost p.s.services@gofal.org.uk

Gwefan Gofal yw www.gofal.org.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »