English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

WHQ yn gwneud cysylltiadau

Menter ar y cyd yw WHQ, yn anad dim byd arall. Mae’r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi gan Brifysgol Caerdydd, ei gefnogi gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, ac mae’n derbyn arian gan raglen Grant Rheolaeth Tai Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad. Mae SME Sparkleweb yn cynnal gwefan WHQ a’i datblygu, ac mae nifer o weithwyr llawrydd yn rhan o’r broses gynhyrchu. Mae ein noddwyr yn cefnogi’r cylchgrawn yn ariannol ac yn cyfrannu cynnwys gwerthfawr. Ac wrth gwrs, mae yna lu o unigolion sydd wedi sgrifennu erthyglau a darnau nodwedd ar gyfer y cylchgrawn dros y blynyddoedd, ar sail wirfoddol bob un ohonynt. Mewn gair, gellid ystyried WHQ yn enghraifft o gydgynhyrchu ar waith.

Mae WHQ wedi datblygu amrywiaeth o gysylltiadau hefyd gyda sefydliadau tai ac adfywio eraill. Mae gan WHQ adran ar Hysbysfwrdd Tai Cymru – www.whnb.org.uk – rhaid i chi gofrestru, ond mae’n rhad ac am ddim. Ac yn fwyaf diweddar, rydym wedi creu dolen gyswllt â New Start sydd bellach yn rhan o’r Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol (CLES). Bydd New Start yn cynnwys detholiad o erthyglau o WHQ ar y wefan – www.cles.org.uk – gan gyflwyno cynnwys WHQ i ymarferwyr yn Lloegr. Er mwyn gallu darllen holl gynnwys gwefan New Start/CLES, bydd yn rhaid ymaelodi.

Os hoffai’ch sefydliad chi ddatblygu dolen gyswllt gyda WHQ, da chi, anfonwch air.

Tamsin Stirling, Golygydd

editor@176.32.230.6


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »