English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Hwb i’r cyfeiriad anghywir …. ?

Felly, allan â’r ‘wladwriaeth nani’, yn dweud wrthym beth i’w wneud a sut i’w wneud, ac i mewn â’r ‘wladwriaeth hybu’ (nudge state), sy’n darparu fframwaith a all arwain pobl i wneud dewisiadau doethach er eu lles eu hunain tra’n dal i’w gadael yn rhydd i ddewis fel y mynnan nhw. Neu, mewn geiriau eraill, ein galluogi ni, y dinasyddion, i wneud ‘y peth iawn’, yn enwedig mewn meysydd sydd ag oblygiadau cymdeithasol eang, e.e. colli pwysau, yfed llai o alcohol, cadw’n heini neu sicrhau swydd (well). Mae’r ffordd hon o fynd ati yn awgrymu y dylai’r wladwriaeth annog dinasyddion i wneud dewisiadau mwy cyfrifol o safbwynt cymdeithas trwy gynnig cymhellion cryf a chreu’r sefyllfa waelodol orau bosibl.

Mae’r Papur Gwyn diweddar ar iechyd yn Lloegr, Healthy Lives Healthy People, yn amlwg wedi mabwysiadu’r ffordd hon o fynd ati. Mae’n cynnig y dylai awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am roi’r hwb angenrheidiol i bobl, gan mai nhw sy’n fwyaf cyfarwydd â phroblemau lleol. Yr ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o ordewdra, alcoholiaeth ac afiechydon eraill yn gysylltiedig â bwyta’n wael ac yfed a bwyta’n ormodol fydd yn cael y symiau mwyaf o arian o gyllideb neilltuedig er mwyn cyrchu eu nodau iechyd cyhoeddus.

A beth am ddiwygiadau yn y meysydd tai a lles? Does bosib nad yw’r posibilrwydd o golli eich cartref os ceisiwch well bywyd trwy gynyddu eich incwm yn hwb i’r cyfeiriad cwbl anghywir? Ond efallai y bydd gorfod talu 80% o rent y farchnad er mwyn byw mewn tai cymdeithasol yn hwb i rai pobl ddewis y sector preifat yn lle hynny? Ac os yw’r awdurdod lleol lle mae pobl yn ymgeisio am dai cymdeithasol yn penderfynu gwahardd llawer o bobl rhag cofrestru’r ffaith fod angen tai arnynt? Byw yn y sector preifat, a darganfod na allwch fforddio talu’r bwlch rhwng y lwfans tai lleol a’r rhent? Mae hyn i fod yn hwb i’ch landlord i ostwng y rhent . . . A byw mewn ardal lle nad oes nemor ddim gwaith heb allu fforddio i symud i rywle arall? Beth yn union y disgwylir i’r hwb a greir trwy ostwng neu atal incwm o fudd-daliadau ei gyflawni?

Tamsin Stirling editor@176.32.230.6


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »