Datblygiadau polisi
Papur Gwyn ar iechyd y cyhoedd
[report cover]
Mae Llywodraeth EM wedi cyhoeddi papur ymgynghori o’r enw Healthy Lives, Healthy People sy’n crynhoi agenda’r llywodraeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yn Lloegr. Mae’r papur yn ymateb i Arolwg Marmot o iechyd, ac yn amlinellu dull o fynd ati a fydd yn:
• gwarchod y boblogaeth rhag bygythiadau i iechyd – dan arweiniad y llywodraeth ganol, gyda system gref i’r rheng flaen
• ymbweru arweinyddiaeth leol a meithrin cyfrifoldeb ehangach ledled cymdeithas er mwyn gwella iechyd a lles pawb, a mynd i’r afael â’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu arnynt
• canolbwyntio ar ganlyniadau allweddol, gan sicrhau hynny trwy wneud yr hyn sy’n gweithio, gydag eglurder canlyniadau a fydd yn hwyluso atebolrwydd trwy fframwaith canlyniadau iechyd cyhoeddus newydd arfaethedig
• adlewyrchu gwerthoedd craidd y llywodraeth, sef rhyddid, tegwch a chyfrifoldeb trwy atgyfnerthu hunan-barch, hyder a chyfrifoldeb personol; hyrwyddo yn bositif ffyrdd iach o ymddwyn; ac addasu’r amgylchedd er mwyn gwneud dewisiadau iachus yn haws
• cydbwyso rhyddid unigolion a sefydliadau gyda’r angen am osgoi niwed i eraill, gan ddefnyddio ‘ysgol’ o ymyriadau er mwyn canfod y ffordd leiaf ymwthiol o fynd ati i sicrhau’r effaith a fynnir, ac anelu at gael dulliau gwirfoddol i weithio cyn troi at reoliad
Mae’r pwyntiau allweddol yn y papur yn cynnwys:
• swyddogaeth glir ac adnoddau ar gyfer llywodraeth leol yn gysylltiedig â’r agenda lleoliaeth
• gwasanaeth iechyd cyhoeddus newydd, integredig
• cyllid neilltuedig ar gyfer iechyd cyhoeddus o fewn cyllideb gyffredinol y GIG
Cyfeirir at dai yn y ddogfen mewn perthynas â dyluniad ac ansawdd cartrefi, effeithlonrwydd ynni, a chydnabod tai fel ‘gwasanaeth cefnogi ehangach.’
Caiff elfennau craidd y system newydd eu cynnwys mewn Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r ddogfen ar-lein yn www.dh.gov.uk/en/Publichealth/Healthyliveshealthypeople/index.htm
Galw am ddiweddu trais yn erbyn merched a menywod
[report cover]
Mae Llywodraeth EM wedi cyhoeddi strategaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn merched a menywod. Mae’n seiliedig ar weledigaeth o gymdeithas lle na fydd yn rhaid i’r un ferch na’r un fenyw ofni trais. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, rhaid i gymdeithas:
• atal y fath drais rhag digwydd trwy herio’r agweddau a’r ymddygiad sy’n ei feithrin ac ymyrryd yn gynnar lle bo hynny’n bosibl er mwyn ei atal
• darparu lefelau digonol o gefnogaeth lle bo trais yn digwydd
• gweithio mewn partneriaeth i sicrhau’r canlyniad gorau i ddioddefwyr a’u teuluoedd, a
• gweithredu i leihau’r perygl i fenywod a merched sy’n dioddef y troseddau hyn a sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn ger bron llys
Mae’r ddogfen ar-lein yn www.homeoffice.gov.uk/crime/violence-against-women-girls/strategic-vision
Cyhoeddiadau
Adeiladu tai fforddiadwy
[report covers]
Mae adroddiad y New Economics Foundation, One million homes, yn disgrifio mesurau a fydd, yn ôl y sefydliad, yn ei gwneud hi’n bosibl adeiladu miliwn o gartrefi mewn cyfnod o gwtogi ar lefelau buddsoddi cyhoeddus. Mae’r ffyrdd a awgrymir o fynd ati yn cynnwys:
• mesurau i leihau cost tir: newidiadau i’r dreth enillion cyfalaf, a rheolau cynllunio sy’n helpu i sicrhau fod trethdalwyr a thenantiaid yn elwa mwy ar y gwerth a greir gan benderfyniadau cynllunio
• mesurau i leihau cost codi cyfalaf ar gyfer cartrefi newydd: bondiau gyda’r enillion arnynt yn gysylltiedig â’r mynegai prisiau manwerthu, wedi eu llunio i ganiatáu i fudd-dal tai gael ei dalu’n uniongyrchol i ddeiliaid bondiau, gan gyfuno hynny â strwythurau cyllidol newydd
• mesurau i gynyddu elw gweithredu landlordiaid: lefel o dai rhwng tai cymdeithasol presennol a’r sector preifat, gyda rhenti rhywfaint yn uwch a chostau gweithredu is nag ar hyn o bryd
Mae’r adroddiad ar-lein yn www.neweconomics.org/publications/one-million-homes
Mae’r Policy Exchange wedi cynhyrchu adroddiad ar ddyfodol tai fforddiadwy hefyd. Mae Housing people; financing housing, a ysbrydolwyd gan sefydliadau llwyddiannus eraill, yn amlinellu tri strwythur gwahanol ar gyfer ‘sefydliadau tai menter cymdeithasol’, sef
• model ar ddull ‘BUPA’
• model ar ddull ‘Partneriaeth John Lewis’, a
• model ar ddull y ‘Co-op’
a fyddai’n ei gwneud hi’n bosibl dod o hyd i ffyrdd amgen o ddod ag ecwiti i mewn i gymdeithasau tai.
Mae’r ddogfen ar-lein yn www.policyexchange.org.uk/publications/publication.cgi?id=205
Ble nesaf i’r Sefydliad Rheoli Hyd-braich (ALMO)?
[report cover]
Mae adroddiad newydd gan DouglasWood a HouseMark wedi datgelu, er gwaethaf deng mlynedd o lwyddiant, a gyda llawer o awdurdodau lleol yn cydnabod fod sefydliadau ALMO ar y cyfan wedi cyflawni neu ar fin cwblhau eu rhaglenni tai teilwng, bod rhai awdurdodau lleol, serch hynny, yn ystyried peidio ag adnewyddu pan ddaw cytundebau rheoli cyfredol i ben. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn rhybuddio awdurdodau lleol rhag ‘cadw’r brych a lluchio’r babi’.
Mae’n nodi y bydd awdurdodau lleol yn awr yn gwerthuso’r dewisiadau mewn perthynas â sut i fuddsoddi mewn stoc yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, mae awdurdodau’n ymwybodol mai eu heiddo nhw yw’r stoc, ond dylent sicrhau fod buddiannau tenantiaid wrth graidd eu penderfyniad, gan ystyried pa ddewis fydd orau o safbwynt darparu ar gyfer eu tenantiaid a’u preswylwyr.
Mae’r adroddiad ar-lein yn www.housemark.co.uk/hmresour.nsf/lookup/WhoseStockIsItAnyway.pdf/$File/WhoseStockIsItAnyway.pdf
Cyhoeddiadau’r STS
[report covers]
Ers rhifyn diwethaf WHQ, mae’r Sedydliad Tai Siartredig wedi cyhoeddi:
• Running a business from home – canllawiau i gymdeithasau tai ar y modd priodol o gefnogi tenantiaid sydd am redeg busnes o’u cartref
• Greening your organisation – cyngor ar ddefnyddio llai o ynni a gwneud gwell defnydd o adnoddau trwy leihau neu ailgylchu gwastraff, cyfyngu ar deithio gan staff, neu osod paneli solar, a sut y gall hyn gwtogi ar gostau sefydliadau tai yn y tymor hwy
Mae cyhoeddiadau’r STS ar gael ar-lein yn www.cih.org/policy/free-publications.htm
Cyhoeddiadau SJR
Mae cyhoeddiadau ymchwil diweddar Sefydliad Joseph Rowntree yn cynnwys:
• Monitoring poverty and social exclusion 2010
• A review of benefit sanctions
• Young people and housing in 2020: identifying key drivers for change
• A young people’s charter on housing
• The UK private rented sector as a source of affordable accommodation
Mae cyhoeddiadau SJR ar-lein yn www.jrf.org.uk
Y Cynulliad
Mesur Tai Cymru
Gosodwyd y Mesur Tai arfaethedig i gefnogi darparu tai fforddiadwy yng Nghymru mewn modd mwy effeithiol ger bron y Cynulliad. Mae’r Mesur yn cynnwys dwy elfen:
• bwrw ymlaen â’r ymrwymiad a wnaed yn nogfen clymblaid Cymru’n Un i alluogi Gweinidogion Cymru, ar gais Awdurdod Tai Lleol, i atal dros dro yr Hawl i Brynu mewn ardaloedd sydd o dan bwysau oherwydd prinder tai.
• rhoi pwerau gorfodi ac ymyriad i Weinidogion Cymru parthed y ddarpariaeth o dai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel rhan o’r fframwaith rheoleiddio newydd.
Daeth yn bosibl cyflwyno’r Mesur ar ôl i’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Dai a Llywodraeth Leol gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf eleni.
Mae’r Mesur ar-lein yn www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/bus_legislation_measure_housing.htm
Darpariaeth yn erbyn targed Cymru’n Un
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mwy na chyflawni ei nod o ddarparu 6,500 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon, flwyddyn ynghynt na’r amserlen, yn ôl ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Darparwyd 2,472 o dai fforddiadwy ychwanegol rhwng Ebrill 2009 a Mawrth 2010, sef cyfanswm o 6,707 yn ystod dim ond tair blynedd gyntaf tymor y llywodraeth hon.
Mae’r cyhoeddiad stategol ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/theme/housing/?lang=cy&status=closed
Ymchwiliad pwyllgor i’r sector tai rhent preifat
Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i’r sector tai rhent preifat yng Nghymru i:
• geisio canfod a yw’n bosibl defnyddio’r sector rhentu preifat yn fwy effeithiol i ysgafnhau’r pwysau ar restrau aros tai cymdeithasol a darparu llety ar gyfer y rhai na allant fforddio i brynu cartref
• nodi newidiadau strategol a allai godi safonau o fewn y sector
• edrych ar rwystrau tybiedig sy’n atal pobl rhag defnyddio’r sector rhentu preifat, fel fforddiadwyedd rhent a sicrwydd deiliadaeth, a nodi unrhyw bosibilrwydd o’u diwygio
• archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio mwy o gartrefi gwag unwaith eto fel llety ar rent.
Ceir y cyfraniadau i’r ymchwiliad ar-lein yn www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-ccc-home/cc_inquiries/cc_3__rent_responses_received_.htm
Canllawiau ar gartrefi gwag
[report cover – Welsh version]
Mae lywodraeth y Cynulliad wedi lansio canllawiau arfer da gyda chartrefi gwag a gynhyrchwyd ar y cyd â Shelter Cymru. Bwriad y canllawiau yw galluogi awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau cartrefi gwag yn unol â nodau ac amcanion a geir yn Cartrefi Cynaliadwy: Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru, Arolwg Essex a Cymru’n Un. Mae’n nodi’r pwerau a’r mesurau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio â chartrefi gwag. Mae hefyd yn darparu enghreifftiau o arfer da a strategaethau effeithiol i’w helpu i ddatblygu a chynnal eu strategaethau eu hunain.
Mae’r canllawiau ar-lein yn http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/emptyhomes/?lang=cy
Cymru
Coflyfr yr Ombwdsmon
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi coflyfr chwarterol yn crynhoi cwynion yr ymchwiliodd iddynt, yn cynnwys problemai tai. Gwnaed ymchwiliadau yn y maes hwnnw mewn perthynas ag atgyweirio a chynnal a chadw, gwrthdaro rhwng cymdogion ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a dyrannu.
Mae’r coflyfr a chyhoeddiadau eraill yr Ombwdsmon ar gael ar-lein yn www.ombudsman-wales.org.uk/cy/cyhoeddiadau
Llwyddiant i Gymru yng Ngwobrau Tai’r DU
Sefydlwyd gwasanaeth gosod eiddo Cadwyn, Calon Lettings, yn 2007 gyda’r nod o leihau digartrefedd trwy ddarparu cartrefi o ansawdd uchel o’r sector preifat ar gyfer pobl ag angen llety. Mae’r project wedi tyfu’n aruthrol yn y tair blynedd ddiwethaf, ac y mae bellach yn rheoli mwy na 200 o unedau eiddo yng nghylch Caerdydd. Enillodd Calon Lettings Wobr Tai y DU am Ddarparu Arloesedd ac Effeithlonrwydd.
Aeth y wobr am gyflawniad ethriadol mewn tai yng Nghymru i Gartrefi Melin am ei fenter cynhwysedd digidol, Getting Connected.
Ceir gwybodaeth am enillwyr Gwobrau Tai Cymru 2010 yn yr erthygl am STS Cymru, tt. 50-51.
Gwobr Pat Chown
Cyhoeddwyd enillydd gwobr Pat Chown Cartrefi Cymunedol Cymru yng nghynhadledd Partneriaethau Tai 2010 STC – sef Solas Cymru am ei broject H2H i helpu pobl ifanc ddigartref, project partneriaeth sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Bron Afon a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Sefydlwyd y project fel ymateb i broblemau ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y gymuned leol, gyda staff yn gweithio gydag asiantaethau i ddarparu gweithdai/sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â thenantiaeth a bod yn ddinesydd da. Mae’n seiliedig ar system wobrwyo lle bydd cleientiaid yn ennill pwyntiau am bob sesiwn a fynychir ganddynt. Dyfernir tystysgrifau a nwyddau’r cartref, a chaiff cleientiaid sy’n ennill gwobr aur wahoddiad i wirfoddoli a rhedeg y project.
Seren yn croesawu ymwelwyr o Japan
[photo]
Roedd yn bleser gan y darparwyr tai a chefnogaeth, Grŵp Seren, groesawu tri aelod o dîm ymchwil o Brifysgol Hokkaido, Japan, i dde Cymru ar ymweliad deuddydd. Ymwelodd y tîm ymchwil, a gyllidir gan Weinyddiaeth Iechyd, Llafur a Lles Japan, â rhai o brojectau’r Grŵp yng Nghasnewydd i ddysgu sut mae mentrau cyflogaeth a chefnogi annibyniaeth llwyddiannus yn helpu pobl i symud o ddibyniaeth ar fudd-daliadau i mewn i swyddi.
Swyddi trwy effeithlonrwydd ynni
[photo]
Mae Tai Cymoedd i’r Arfordir yn gweithio ar y cyd â’r Ganolfan Hyfforddi mewn Adeiladu ym Maesteg a Wetherby, cynhyrchydd system inswleiddio, i greu swyddi a hyfforddiant yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad.
Gan gychwyn gyda buddsoddiad o filiynau o bunnau i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng nghymoedd Llynfi ac Ogwr, nododd y bartneriaeth fwlch sgiliau ym maes effeithlonrwydd ynni, sector sy’n tyfu ar garlam, gan ddatblygu atebion a fydd yn rhoi hwb economaidd i’r bwrdeistref sirol.
Mae’r partneriaid wedi creu cwrs hyfforddi newydd a redir o’r ganolfan ym Maesteg, ac a fydd yn fan cychwyn i bawb dan hyfforddiant ar y project. Bydd y buddsoddiad yn darparu gwerth mwy na 700 wythnos o hyfforddiant yn y chwe mis nesaf, ynghyd â chymwysterau Adeiladu NVQ Lefelau 1 a 2 i lawer o’r rhai dan hyfforddiant sy’n elwa ar y project.
Taf yn gwneud gwahaniaeth
Helpodd gwirfoddolwyr o Gymdeithas Tai Taf i loywi’r amgylchedd yng Nghanolfan Chwarae Glan-yr-afon, Caerdydd fel rhan o gyfraniad Tai Taf i Ddydd Gwneud Gwahaniaeth y CSV, diwrnod mwyaf y DU o wirfoddoli. Gwisgodd staff o dimau cynnal a chadw a thenantaid Tai Taf ofyrôls a mynd ati i drawsnewid y caeadau yng Nghanolfan Chwarae Glan-yr-afon ar Ffordd Parc Ninian yn waith celf disglair a lliwgar.
Llwyddiant loteri Cymdeithas Tai’r Rhondda
Dyfarnwyd grant o fwy na £200,000 i Gymdeithas Tai’r Rhondda o’r Gronfa Loteri Fawr i helpu i gynyddu gwybodaeth tenantiaid am faterion ariannol ac atal dyled bersonol.
Bydd y grant yn helpu i dalu am y project tair-blynedd Count me in, sy’n cynnig cefnogaeth i denantiaid, preswylwyr a’u teuluoedd i wella eu sgiliau ariannol a helpu i amddiffyn y rheini sydd debycaf o ddioddef caledi oherwydd diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth ariannol.
Cymdeithasau tai yn gyflogi gweithwyr Connaught a Rok
Mae Cartrefi Dinas Casnewydd wedi cyflogi saith o gynweithwyr Connaught er mwyn diogelu swyddi a sicrhau fod y cynllun gwasanaethu offer nwy yng nghartrefi tenantiaid yn parhau. Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyflogi tîm o saith o gynweithwyr Rok i wneud gwaith gwresogi a phlymio arbenigol yn ei bortffolio o fwy na 2,300 o gartrefi.
Cymuned Caerdydd yn gweithio dros gymunedau
[photos]
Ffeiriodd holl weithlu Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CTCC) ddiwrnod yn y stafell gyfarfod am sesiwn ymarferol o weithio ar wahanol brojectau yn y ddinas. Cododd y tîm o 80 o CTCC rofiau a brwshys paent a threulio eu diwrnod yn garddio, addurno, atgyweirio ac ati yn Ysgol Gynradd Baden Powell, Canolfan Chwarae Sblot, Eglwys a Gardd St German, a Chanolfan Gymuned Trowbridge. Rhoddodd contractwyr sy’n gweithio i CTCC o’u hamser a chyfrannu defnyddiau i helpu hefyd. Cefnogwyd y fenter gan Busnes yn y Gymuned a hyfforddodd wyth o staff CTCC i’w helpu i drefnu’r ymdrech wirfoddoli, a helpu i’w rhoi mewn cysylltiad â gwahanol brojectau cymunedol hefyd.
Partner newydd yng nghwmni Hugh James
[photo]
Mae Hugh James wedi penodi’r arbenigwr sector cyhoeddus a phrojectau (PFI a PPP) Shaun Jamieson yn bartner yn yr adran eiddo. Cyn hynny, bu Shaun yn gweithio gyda Chyngorau Sir Gwent a De Morgannwg.
Mae Cyngor Sir Gâr wedi bod yn brysur!
[photos x2]
[Caption] – Elwyn Morgan sy’n teithio i bob cwr a chornel o Sir Gaerfyrddin i wneud gwaith atgyweirio hanfodol ar gyfer pobl hŷn
Mae rhaglen Safon Cartrefi Sir Gaerfyrddin yn gwneud cryn argraff ledled y sir. Mae’r project £200 miliwn i wella’r 9,200 o gartrefi cyngor sydd yn y sir wedi bod yn wythïen gyfoethog o swyddi. Crewyd swyddi ar gyfer cwmnïau lleol ac mae mwy na 100 o brentisiaid wedi cael lleoliadau gwaith yn ystod cyfnod economaidd anodd. Mae ymchwil yn dangos fod y cynllun Safon Cartrefi yn chwistrellu rhyw £25 miliwn y flwyddyn i mewn i’r diwydiant a’r economi leol.
Mae’r cyngor yn bwriadu gwneud asesiad manwl o effaith y gwelliannau tai ar iechyd. Gan weithio gyda phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, bydd yn asesu effeithiau’r rhaglen welliannau ar iechyd tenantiaid.
Mae Sir Gâr yn gwneud gwaith sylweddol hefyd i wella effeithlonrwydd ynni ledled y sir. Sicrhaodd £500,000 gan raglen Arbed ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni yn ward Glanymor ar 62 o gartrefi sy’n anaddas ar gyfer gwaith waliau ceudod. Yn ychwanegol at hynny, bydd bwyleri gwres canolog newydd yn cael eu gosod mewn 111 o gartrefi mewn perchenogaeth breifat yn yr ardal.
Mae’r cyngor hefyd yn cynlluniau sioeau teithiol a fydd yn cynghori ar ffyrdd o arbed arian, a chynelir digwyddiadau hyrwyddo yn yr ardaloedd hynny sy’n dioddef fwyaf o dlodi tanwydd. Mae Pecyn Cyngor ar Ynni Cartref ar gael sy’n llawn awgrymiadau ar arbed ynni, ac mae cynghorydd effeithlonrwydd ynni arbenigol wrth law i gefnogi preswylwyr.