English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dadgarboneiddio cartrefi presennol Cymru – ffordd gymunedol o fynd ati

Christina Hirst yn dangos y ffordd ymlaen yn glir i ddarllenwyr WHQ.

Mae llywodraethau a gwneuthurwyr polisi wedi rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu adeiladau carbon-isel a dim-carbon. Yma yng Nghymru, mae gennym rai enghreifftiau ardderchog: mae project Cartrefi Cymru’r Dyfodol ar hen safle’r gwaith dur yng Nglyn Ebwy (adroddiad yn rhifyn Hydref 2010 o WHQ) yn dangos yr hyn y gellir ei wneud ac efallai beth a ddeil y dyfodol o ran cynlluniau adeiladu newydd. Mae’n cynnwys tri thŷ fforddiadwy a chanolfan ymwelwyr a adeiladwyd yn benodol fel enghreifftiau o adeiladau carbon-isel. Cafodd un o’r tai ei ddylunio i fodloni amodau lefel 6 y Cod Cartrefi Cynaliadwy – cartref dim-carbon – y cyntaf i gyflawni hynny yng Nghymru.

Mae’n wych gweld mentrau o’r fath yma yng Nghymru, ond rhaid cofio’r her sy’n ein hwynebu hefyd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i leihau tarthiadau carbon o 80% erbyn 2050 a gyda thai yn gyfrifol am 27% o darthiadau CO2, mae pwysau ar y sector tai i wneud rhywbeth. Ac eto, mae 80% o’r cartrefi a fydd yn bodoli yn 2050 eisoes wedi cael eu hadeiladu! Er mwyn cyrraedd y nod, rhaid cymryd camau digonol nid yn unig i wella safonau adeiladau newydd, ond i wella perfformiad ynni ein stoc tai presennol. Ac os nad yw hynny’n ddigon, tanlinellir cost defnydd ynni uchel tai presennol gan yr ystadegau diweddaraf sy’n dangos yr amcangyfrifir fod 332,000 o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd (h.y. eu bod yn gwario mwy na 10% o’u hincwm ar filiau ynni) yn 2008, cynnydd o 198,000 ers 2004. Mae hyn yn golygu, yn 2008, yr amcangyfrifwyd fod rhyw 26% o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd.

Mae’r £30 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar yn y rhaglen effeithlonrwydd ynni strategol, Arbed, wedi galluogi mwy na 6,000 o gartrefu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru i dderbyn gwelliannau ynni cartref. Mae cam cyntaf y rhaglen hon yn golygu gweithio gyda darparwyr tai cymdeithasol i wneud cymunedau mewn ardaloedd tlawd yn fwy ynni-effeithlon. Gwneir hynny trwy fesurau fel inswleiddio wal-solet a thechnolegau adnewyddadwy fel paneli solar a phympiau gwres.

Mae’n haelodau RICS yn hyrwyddo yn egnïol yr amryfal gamau y gall perchenogion tai unigol a landlordiaid eu cymryd i wella effeithlonrwydd ynni adeiladu presennol yn sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys inswleiddio, diddosi rhag drafft, gwydro dwbl ac eilaidd, uwchraddio bwyleri, a gwell systemau gwresogi y gellir eu rheoli’n fwy effeithiol.

Fodd, bynnag, trwy ddod ynghyd (efallai o dan arweiniad aelod o RICS), gallai cymunedau a busnesau elwa yn ariannol ac yn amgylcheddol a mynd i’r afael â phroblemau tarthiadau carbon a thlodi tanwydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod targedau uchel wrth gyrchu economi garbon-isel, gyda’r nod o gynhyrchu dwywaith cymaint o ynni trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2025 o’i gymharu â heddiw.

Ar hyn o bryd, mae cynlluniau ynni adnewyddadwy naill ai ar raddfa fawr iawn neu raddfa neilltuol o fach. Fodd bynnag, mae digon o bosibiliadau nad ydym yn elwa i’r eithaf arnynt ar hyn o bryd i sefydlu projectau canolig eu maint a rhai ar y cyd yng Nghymru, a dyma lle y ceir cyfleoedd anferth.

Datblygir projectau o’r fath trwy fod aelodau o’r gymuned yn dod ynghyd i ffurfio consortiwn neu fenter ynni gydweithredol. Mae pawb yn buddsoddi yn y dechnoleg, ac yn elwa arni wedi hynny. Mae hynny’n cynnwys arbed arian ar filiau trydan gan fod ynni’n cael ei gynhyrchu yn adnewyddadwy, a gwneud arian trwy werthu’r pŵer sydd dros ben i’r Grid Cenedlaethol, ac elwa ar incwm Tariff Bwydo i Mewn lle bo hynny’n briodol. Gall projectau gynnwys unrhyw beth, o ddatblygu tyrbeiniau gwynt, defnyddio paneli solar (efallai trwy rannu gofod to neu eu gosod i sefyll ar wahân), neu hyd yn oed gydweithredu ar system wresogi biomas sy’n gweithio trwy dreulio anerobig; cynhyrchu gwres trwy wastraff, math o gynllun a fydd nid yn unig yn creu ynni cost-effeithiol, ond hefyd yn ymdrin â gwastraff y gymuned a’i leihau.

Er mwyn cyflawni nodau’r Cynulliad, mae’n hollbwysig cefnogi mwy o gynlluniau cymuned ledled Cymru. Dylem ymdrechu i ennyn angerdd a chymhelliant mewn pobl i beri iddynt ystyried y cyfleoedd sydd ar gael.

Mae Cymru eisoes wedi gweld sawl enghraifft o brojectau ynni adnewyddadwy a ffurfiwyd gan fenter gydweithredol rhwng cymunedau lleol a busnesau. Fodd bynnag, eithriad yw’r rheini, nid y norm – ac er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tlodi tanwydd a newid hinsawdd yng Nghymru, rhaid i ni sicrhau mae’r rheini fydd y norm.

Christina Hirst, BSc(Anrh), MSc, FRICS yw Cyfarwyddydd Gweithredol Sefydliad Brenhinol Tirfesurwyr Siartredig (RICS) Cymru [email protected]


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »