Cafodd pobl ifanc ddigartref eu recriwtio i greu cylchgrawn newydd sy’n ceisio lleihau digartrefedd ymhlith ieuenctid. Mae Jeff Mitchell, Golygydd Rheoli Quids in!, yn disgrifio sut mae’r cyhoeddiad yn ymgysylltu â thenantiaid tai cymdeithasol, a’r gwersi y gall landlordiaid eu dysgu.
Cylchgrawn ynglŷn â rheoli arian yw Quids in! ar gyfer pobl ar incwm isel. Mae eisoes yn cyrraedd 130,000 o aelwydydd ledled Cymru a Lloegr, gydag archebion mawr gan gymdeithasau tai sy’n defnyddio’r cyhoeddiad ysgafn, sgleiniog fel atodiad i gylchlythyron tenantiaid. Mae’n eu helpu yn y frwydr yn erbyn eithrio ariannol. Yn awr, cafodd ei gomisiynu i gyhoeddi rhifyn pobl ifanc, a fydd yn rhoi golwg unigryw ar realiti digartrefedd trwy hyfforddi preswylwyr cynlluniau ‘foyer’ i chwarae rhan mewn cynhyrchu cyhoeddiad ar gyfer ysgolion.
Er mwyn gwneud hynny, bu’n rhaid i Quids in! ystyried y broses a arweiniodd at ei lwyddiant yntau. Dechreuodd yr holl beth yn ystod gweithdy ar gynhwysedd ariannol lle’r oedd undebau credyd, asiantaethau cynghori ar ddyled a swyddogion adfywio cymunedau yn gresynu am na allen nhw atal bygythiad benthycwyr diegwyddor a llog-uchel yn y cymunedau tlotaf. Roeddwn i yno yn cynrychioli’r project diweithdra dwi’n ei redeg, Clean Slate Training & Employment, ond gwnaeth i mi feddwl am fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr Reolwr The Big Issue. Mae cyhoeddi â phwrpas cymdeithasol yn rhywbeth dwi wedi parhau i’w wneud (gyda Welsh Housing Quarterly, fel un enghraifft) a gyda’r dull dosbarthu iawn, gallai gyrraedd y tlotaf yn ein cymunedau a’u harfogi â gwybodaeth.
Gyda’r nod yn glir, a gwybodaeth arbenigol ar gael, gallem ganolbwyntio ar y broses gyhoeddi. Fel sy’n digwydd bob tro y caiff cylchgrawn ei lawnsio aeth ein tîm o ddylunwyr, awduron a chyhoeddwyr profiadol ati i chwilota trwy silffoedd siopau papurau newydd, yn edrych am y teitlau y byddai’r gynulleidfa darged yn eu darllen. Buom yn edrych ar Take a Break, Heat a Now, yn ogystal ag atodiadau Sul y tabloids gan ddadansoddi’r iaith, eu defnydd o ddelweddau a’u triciau i ymgysylltu â darllenwyr – pytiau, dyfyniadau mewn print mawr, penawdau secsi. Fe ddysgon ni barch gwirioneddol at ddulliau cynhyrchu cylchgronau na fyddem, o anghenraid, wedi eu darllen ein hunain. Yna sylweddolais nad oedd gwerthu Quids in! yn mynd i fod yn fusnes hawdd – byddai’n rhaid i’r bobl sy’n dal llinynnau’r pwrs (rheolwyr cyfathrebu landlordiaid cymdeithasol) wir gefnogi cynhwysedd ariannol a’n ffordd ddigywilydd o boblogaidd ni o fynd ati.
Yn y foyer, rhedwyd gweithdai ar yr holl broses, yn cynnwys y tyndra creadigol rhwng cwsmeriaid a chyhoeddwyr (sydd â neges i’w hyrwyddo a gwerthiant i’w sicrhau), a newyddiadurwyr (sydd ddim ond am i’r peth gael ei ddarllen). Rhoddwyd hyfforddiant blas-ar-sgrifennu newyddion, proffilau a chynghorion call a chyfranogodd y bobl ifanc i greu golwg a dyluniad yr hyn a fyddai’n troi’n gyhoeddiad fformat map-plyg y gellid ei agor allan, ynghyd â phoster. Nhw oedd yn gyfrifol am yr iaith a’r arddull, a fyddai’n ceisio darbwyllo pobl ifanc i beidio â gadael cartref nes eu bod yn barod (ac eithrio os oedden nhw mewn perygl), gan greu cynnyrch terfynol y gallwn ei ddosbarthu’n hyderus i 10,000 o rai rhwng 16 a 24 oed.
Gan edrych i’r dyfodol, hoffem allu darparu’r hyfforddiant yma i gynulleidfa fwy. Gallai tenantiaid a swyddogion cymdeithasau tai sydd am wella gallu cylchlythyron i ymgysylltu â darllenwyr elwa ar y gweithdai bach y byddwn yn eu rhedeg i adolygu’r hyn maen nhw’n ei wneud a chynnig syniadau newydd. Gallem hyd yn oed ddatblygu partneriaethau newydd i helpu i gynhyrchu cynnwys i’w rannu gan nifer o gylchlythyron tenantiaid neu weithio ar ddatblygiad, dyluniad a chynhyrchiad cylchlythyron y cwsmeriaid eu hunain.
O’n rhan ni, hoffem ddysgu sut i allu mesur ein heffaith. Rydym wedi defnyddio Twitter a Facebook heb lawer o lwyddiant, ond gwyddom fod cystadlaethau’n gweithio – felly nawr, byddwn yn gofyn am sylwadau ar Quids in! bob tro y bydd darllenwyr yn cystadlu. Rydym hefyd yn ystyried mynd â’r hyn rydym wedi ei ddysgu am sut i ymgysylltu â phobl oddi ar y dudalen ac i mewn i gymunedau. Mae gennym gynnyrch cynhwysedd ariannol newydd i’w ddosbarthu – codwyd rhai aeliau gan ein cerdyn post Cynilo Call gyda’i ddelwedd flaen secsi, nes i bobl ddarllen y cefn a sylweddoli mai’r bwriad yw annog pobl i gynilo, ar gyfer gwyliau haf, efallai – a llwyth o gysylltiadau yn y maes cynhwysedd ariannol. Mae mwy o waith y gallwn ei wneud mewn cymunedau. O, ac mae gwaith yn cael ei gynnig nawr i’r bobl ifanc gafodd eu hyfforddi gennym yn y foyer.
Am fwy o wybodaeth, cysyllter â: jeff@cleanslateltd.co.uk
www.yourquidsin.com / www.cleanslateltd.co.uk