Buwch binc gan Keith Towler
Ydych chi’n cofio’r gerdd Saesneg honno ynglyn â buwch biws? Dwi’n ei chofio o rywle’n ddwfn yng nghorneli’r meddwl. Atgof plentyndod efallai:
I never saw a purple cow,
I never hope to see one,
but I can tell you anyhow,
I\’d rather see than be one!
Daeth y gerdd i gof wrth i mi wylio un o ddwy ffilm a wnaed gan bobl ifanc sy’n rhan o dimau ymchwil ieuenctid Llamau. Fe ddaw popeth yn glir wrth i chi ddarllen ymlaen. Dangoswyd y ffilmiau mewn cyfarfod a gefais gyda thri grŵp o bobl ifanc o Sir y Fflint, Sir Benfro a Merthyr Tudful sydd wrthi’n gweithio ar syniadau am fentrau cymdeithasol sy’n cysylltu digartrefedd ieuenctid â dysgu, sgiliau a gwaith.
Ym mis Ebrill llynedd, ymwelais â Llamau yng Nghaerdydd ac un o’r bobl y cwrddais â nhw y diwrnod hwnnw oedd Russell Sykes. Yn ddiweddar, daeth gair oddi wrth Russ i ddweud fod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda a gofynnodd i fi gwrdd â’r timau ymchwil ieuenctid. Dywedodd wrthyf fod yr ymchwil a wnaeth Llamau y llynedd yn dangos fod 80% o’r bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau digartrefedd yn gobeithio dod o hyd i swydd, ond nad oedd y mwyafrif mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac roedd llawer yn dweud fod eu sefyllfa dai gyfredol yn ffactor allweddol a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i ddod o hyd i rywbeth. Roedd Llamau am adeiladu ar sail y canlyniadau hyn a sicrhaodd gyllid i redeg projectau ymgynghori penodol dan arweiniad defnyddwyr mewn pum ardal beilot. Gorchwyl y grwpiau hyn oedd datblygu cyfleoedd addysgu, sgiliau a gwaith ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau digartrefedd. Mae pob un wedi datblygu syniad menter gymdeithasol, ac fe gwrddais â thri o’r grwpiau.
Roedd yn rhaid i’r syniadau menter cymdeithasol fod yn fasnachol ymarferol a chynnwys cynlluniau busnes cadarn. Mae cynghorwyr ar gael o’r sector busnes, ac mae gan Llamau godwr arian a fydd yn gweithio gyda’r bobl ifanc i godi’r cyllid angenrheidiol.
Y cyntaf oedd Us UnLtd o Sir y Fflint. Maen nhw wedi datblygu cynllun busnes ar gyfer ‘The Getaway’ sy’n cynnig cyngor, llety a chyfleoedd i bobl ifanc ddigartref. Maen nhw wedi dod o hyd i un neu ddau eiddo posibl ac wedi cwblhau cynllun busnes. Roedd yn amlwg wrth i ni drafod eu cynigion y bydd y ffordd maen nhw wedi cael eu dylunio yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r cynllun busnes yn swnio’n eitha da hefyd. Mae ganddyn nhw dipyn o waith i’w wneud o hyd, ond maen nhw wedi cyflawni gwaith aruthrol mewn byr amser.
Roedd y ffilm nesaf yn dod o sir Benfro – Project y Fuwch Binc. Nid piws ond pinc, ond fe welwch chi nawr sut mae fy meddwl yn gweithio. Roedd y ffilm yn cynnwys pobl ifanc yn siarad o’u profiad eu hunain, gan amlinellu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc. ‘Pethau fel cael gafael ar fwyd. Cael cawod a ‘molchi. Gallwch gael cawod mewn canolfan hamdden, ond mae hynny’n costio arian’ – geiriau person ifanc a oedd wedi bod yn soffa-syrffio ac wedi bod yn byw mewn pabell nes i honno gael ei boddi gan lifogydd. Cynllun ar gyfer fferm laeth organig yw’r cynllun busnes, a fydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddigartref ddysgu sgiliau, ennill cymwysterau a chael gwaith. Syniad gwych, ac mae’r cynllun busnes yn barod. Mae hyd yn oed y fath beth â buwch binc yn bosibl, medden nhw, ond i chi roi dwysfwyd betys organig i’r gwartheg – maen nhw wedi meddwl am bopeth!
Roedd y trydydd grŵp o Ferthyr. Dydyn nhw ddim wedi bod yn gweithio ar hyn cyhyd â’r ddau arall, felly dydy’r ffilm ddim yn barod eto, Ond fel y ddau grŵp arall, maen nhw wedi symud ymlaen ar garlam, gan ddatblygu cynllun busnes ar gyfer caffi seibr dan reolaeth defnyddwyr a fydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref.
Mae grŵp yng Ngwynedd yn gweithio ar gynllun busnes ar gyfer pwll awyr-agored a gardd amgaeëdig yn Nolgellau. Mae un arall yn gweithio yng Nghonwy ar y syniad o Ganolbwynt Busnes lle byddai uned yn cael ei rhentu i fusnes lleol ar yr amod ei fod yn cyflogi prentis. Byddai’r canolbwynt yn cynnig cefnogaeth fusnes, ac wrth i’r busnes dyfu a symud ymlaen, byddai’r prentis yn aros ac yn sefydlu ei fusnes/busnes ei hun ac yn cyflogi prentis arall. Wrth i’r broses ei hailadrodd ei hunan, dylai busnesau bach dyfu.
Ar ddiwedd y cyfarfod, gofynnwyd i mi beth oedd fy marn. Sut allai’r holl syniadau busnes hyn fethu gwneud argraff? Dywedais wrth bawb fy mod wedi fy syfrdanu gan y cwbl roeddwn wedi ei weld.
Am ysbrydoliaeth, ac am grŵp ffantastig o bobl ifanc. Profiad real wedi ei gyplysu â gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a’i gefnogi gan gynllun busnes yn seiliedig ar ymarferoldeb masnachol. Yn rhy aml o lawer, mae cymdeithas yn barod i godemnio pobl ifanc ddigartref, a’u barnu cyn gwybod neu ddeall dim amdanyn nhw. Yma, mae gennym grwpiau o bobl yn gweithio ledled Cymru ar syniadau menter gymdeithasol a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Pa enghraifft well o’r pethau positif y gall pobl ifanc eu cyfrannu i gymdeithas ond iddyn nhw gael y cyfle?
Darn wedi ei olygu o flog Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler www.childcom.org.uk/en/keiths-blog.