Cyfarfu WHQ â Jocelyn Davies AC i drafod cwmpas ei phortffolio newydd.
C – Mae adfywiad yn air a ddefnyddir y aml, a gall olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Beth mae’r Cynulliad yn ei olygu wrth adfywiad yn ei strategaethau/bolisïau?
A – Dydy adfywiad ddim ynglŷn ag adfywio ffisegol yn unig – adnewyddu hen adeiladau, dymchwel pethau yr aeth eu hamser heibio – dyna’r rhan hawdd. Rydym bellach yn canolbwyntio’n fwy ar faterion sy’n ymwneud â phobl. Mae hyn yn wir am bob portffolio o fewn Llywodraeth y Cynulliad. Wrth gwrs, rhaid i hynny gwmpasu adfywio adeiladau ac ardaloedd yn ffisegol hefyd.
Mae dipyn yn wahanol i ymdrin â thai – gallwch gyfrif y nifer o dai rydych wedi eu hadeiladu a gwella cefnogaeth yn ymwneud â thai. Mae adfywiad yn fater llawer ehangach a mwy cymhleth ac mae weithiau’n cynnwys pethau na fyddech yn eu diffinio, ar yr olwg gyntaf, fel adfywio.
Er engraifft, fe ymwelais â grwp mamau sy’n bronfwydo yn Nhorfaen. Roedden nhw’n gysylltiedig â menter fwyd gydweithredol leol, ac am sicrhau bwyd mwy maethlon ac ansawdd bywyd gwell. Ymwelais â’r Rhyl hefyd, lle penderfynwyd dymchwel nifer o dai aml-feddiant sydd wedi golygu mwy o dir glas yn yr ardal. Felly gall adfywio olygu dymchwel weithiau – yn yr achos yma, dyna oedd y peth gorau i’w wneud yn wyneb y problemau tai a oedd gan y gymuned.
Mae projectau adfywio yn amrywio’n aruthrol, a gall hynny wneud y cysyniad yn anodd i’w egluro a’i ddiffinio. Mae a wnelo ag ailadeiladu cymunedau a meithrin hyder pobl o fewn cymunedau. A’r peth mawr yw y gall tipyn bach o arian wneud gwahaniaeth mawr – meddylwich am broject rhandiroedd yn gysylltiedig ag ysgol leol a all arwain at sefyllfa lle mae llawer o blant yn bwyta bwyd mwy iach.
Ac mae’n golygu y gallaf wthio fy nhrwyn i mewn i holl bortffolios fy nghydweithwyr – llawer gwell na gweithio’n gwbl annibynnol ar ein gilydd.
C – Yn eich barn chi, pan wahaniaeth fydd bod ag adfywio yn rhan o’ch portffolio yn ei wneud?
A – Mae llawer o gysylltiadau rhwng tai ac adfywio – efallai nad oeddwn i’n sylweddoli i’r fath raddau mae adfywiad yn gysylltiedig â thai nes i ni ddod â’r ddau bortffolio ynghyd. Mae dod â nhw ynghyd yn gyfle i leihau a, gobeithio, dileu’r rhwystrau rhwng gwahanol brosesau.
Rydym newydd lansio’r cynllun Arbed – a fydd yn gweithio ar draws pob math o ddeiliadaeth, gan ddatblygu swyddi gwyrdd a dod â budd i’r bobl dlotaf yn ein cymunedau. Gallai hyn arwain at ddatblygu technolegau a defnyddiau newydd yma yng Nghymru – gallem fod ar flaen y gad o safbwynt hyfforddi pobl i allu defnyddio defnyddiau newydd, gyda’r posibilrwydd o ddenu buddsoddi.
Dwi hefyd wedi bod yn edrych ar brojectau i wneud defnydd unwaith eto o gartrefi gwag. Mae gennym fwy o ryddid ar yr ochr adfywio mewn perthynas â symiau cymharol fychan o arian o’i gymharu â chyfyngiadau’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Gobeithio y bydd y math yma o fenter yn parhau ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2011.
Rydym am sefydlu cysylltiadau rhwng ardaloedd yn hytrach nag edrych ar y gwahaniaethau. Mae hefyd yn gyfle i feddwl y tu allan i ffiniau’r hyn y byddwn yn ei wneud fel arfer.
Dydy’r gyllideb adfywio ddim yn anferth, ond fel arfer mae’n denu arian arall – gan awdurdodau lleol, y sector preifat, adrannau eraill Llywodraeth y Cynulliad – felly mae’n gallu gwneud llawer. Mae rhai projectai adfywio yn gymhleth – rhaid rhoi trefn ar lawer o elfennau gwahanol er mwyn gallu gweithredu – ond gall yr effaith ar bobl mewn cymunedau fod yn aruthrol.
I mi yn bersonol, mae’r portffolio estynedig yn golygu y byddaf yn llawer mwy prysur – mae llawer o bobl am fy ngweld. Mae ymweld ag amrywiaeth o brojectau wedi bob yn anhygoel o ddiddorol eisoes. Mae adfywio yn ddiamau yn ychwanegu dimensiwn arall at ein gwaith – mae â wnelo lawn cymaint â’r bobl sy’n byw yn y cymunedau ag â’r tai maen nhw’n byw ynddyn nhw.
C – O edrych yn ôl, beth yw’r pethau mwyaf nodedig a gyflawnwyd gan y llywodraeth hon mewn perthynas â thai ac adfywio?
A – Gwelsom fwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn tai, yn enwedig mewn perthynas ag adeiladu tai newydd – bu hynny’n bosibl oherwydd y berthynas a sefydlwyd gyda’r sector tai. Dwi’n credu mai’r ymddiriedaeth yma yw’r canlyniad pwysicaf, ynghyd â pharodrwydd y sector i ymgysylltu â Llywodraeth y Cynulliad.
Roedd gennym ein nod ar gyfer tai newydd fforddiadwy a dywedodd y sector, rydym am eich helpu i gyrraedd y nod. Medrwn ddweud wrth gyd-Weinidogion, os rhowch chi arian i’m maes i, gallwn ei wario a chael canlyniadau da am yr arian hwnnw.
Mae’r berthynas gydag awdurdodau lleol wedi gwella’n fawr – mae’n fwy aeddfed ar bob ochr bellach. Mae’r meicro-reolaeth wedi mynd, dydy Cyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth y Cynulliad ddim yn suddo mewn cors o fanylion ac mae’n well arnom ni i gyd. Mae wedi bod yn fraint cael y cyfle i weithio yn y ffordd yma.
Mae’r camau tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru hefyd yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Dydy’r dirwasgiad ddim yn golygu llacio ar Safon Ansawdd Tai Cymru – rhaid ei gyflawni o hyd. Fe ddatblygon ni’r rheolau cymunedol cydfuddiannol ac mae tenantiaid yn teimlo’n fwy cysurus ynglŷn â throsglwyddo o’r herwydd. Os pleidleisia tenantiaid dros drosglwyddo stoc, mae’n golygu buddsoddi’n fuan mewn ardal mewn cyfnod o ddirwasgiad, a all gael effaith wirioneddol ar gymunedau.
A chynhyrchu Arolwg Essex ei hunan, roedd hynny’n gyflawniad pwysig.
C – Gan edrych ymlaen at y flwyddyn rhwng nawr ac etholiadau’r Cynulliad yn 2011, beth fydd yr her fwyaf?
A – Mae toriadau yn y gyllideb yn mynd i fod yn her. Bu tai yn flaenoriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, yn wahanol i’r blynyddoedd cyntaf ar ôl datganoli. Byddwn yn dal i geisio darparu’r gwasanaethau mae ar bobl eu hangen er gwaetha’r toriadau – bydd pob Gweinidog yn wynebu’r un her.
Mae yna fusnes anorffenedig mewn sawl maes – rhenti, y Cyfrif Refiniw Tai a Chefnogi Pobl. Dwi am greu consensws ynglŷn â pha ardaloedd fydd yn mynd yn Ardaloedd Adfywio a pha brojectau adfywio gaiff eu cyllido. Yna, mae mater datblygu Ymddiriedolaeth Buddsoddi Tai Cymru – rhywbeth cwbl newydd a fydd yn helpu i wneud i fuddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad fynd ymhellach.
Mae angen cynnal y cysylltiadau da rydym wedi gallu eu creu hefyd.
Fydd y dirwasgiad ddim yn para am byth, ond rydym am sicrhau na chaiff y maes tai ei anghofio a’i adael fel rhywbeth sydd ond yn cael ei wneud mewn cyfnodau llewyrchus.
Gobeithio y bydd tai, wedi etholiad nesaf y Cynulliad, mewn safle da y gellir symud ymlaen ohono. Mae bod â Gweinidog penodol ar gyfer tai yn sicr wedi newid pethau yn y blynyddoedd diwethaf.
C – Fe lansiwyd y strategaeth dai genedlaethol gennych ym mis Ebrill – beth yw ei negeseuon allweddol?
A – Dogfen fer yw’r strategaeth. Y brif neges yw bod tai yn fwy na mater o frics a morter yn unig, ac nad yw ynglŷn ag un ddeiliadaeth yn unig – mae angen agwedd gyfannol.
Dylai cartrefi fod yn rhan o gymunedau, ac mae’n wych bod adfywio yn sail i hynny. Ond mae’r cartref yn ganolog i lawer agwedd ar fywyd, yn cynnwys lles; mae’n hanfodol na ddylai pobl fod â chywilydd gadael ymwelwyr i mewn i’w cartrefi am eu bod mewn cyflwr gwael.
C – Oes yna rywbeth arall yr hoffech ei ddweud wrth ddarllenwyr WHQ?
Yn ôl yng nghanol y 1980au, roeddwn i’n un a elwodd ar gynllun adfywio, a gallaf dystio i’r hyder a roddodd i mi i fynd ymlaen a gwneud pethau eraill.