English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Cynnal tai teras?

Peter Draper yn darparu cyngor ar wella tai teras de-ddwyrain Cymru.

Tipyn o hanes

Mae’r terasau unffurf sy’n glynu wrth lethrau’r bryniau ac yn britho canol trefi a dinasoedd y cylch yn siŵr o daro unrhyw ymwelydd â de-ddwyrain Cymru. Maent yn rhan gynhenid o’r ardal, gyda’u nodweddion a’u harddull yn helpu i adlewyrchu hanes a hefyd yn helpu i ddiffinio’r cymunedau sy’n byw yma.

Mae’r stoc tai, fodd bynnag, wedi bod o dan bwysau ers amser maith, ac mae cymeriad sylfaenol y tai yn newid yn gyson wrth i ‘welliannau’ gael eu gwneud. Mae uPVC gwyn yn cymryd lle drysau a ffenestri pren lliwgar, mae simneiau’n diflannu wrth i wres canolog nwy ddisodli glo, mae ‘pebble dash’ yn addurno llawer o’r hen waliau cerrig a brics, ac mae gerddi a oedd gynt yn gynhyrchiol wedi eu palmantu er hwylustod. Ar y tu fewn, mae concrid solet wedi cymryd lle lloriau pren crog, caiff waliau eu peintio â phaent cegin neu stafell ymolchi anhydraidd, mae waliau eraill yn cael eu dymchwel i greu stafelloedd byw ‘agored’, a chafodd plastr ei grafu ymaith i wneud lle i gyrsiau ‘diogelu rhag lleithder’.

Gwelir llawer o’r newidiadau hyn fel cynnydd: mae awdurdodau lleol a chymdeithasau tai wedi bod yn rhan o’r broses wrth iddynt ‘wella’ eu stoc. Fodd bynnag, rydym ar drothwy oes newydd yn hanes yr hil ddynol a’i pherthynas â’r byd naturiol. Does dim angen manylu ar newid hinsawdd yn y fan yma, a sut y rhagwelir y bydd yn newid y math o dywydd a geir yng Nghymru; digon yw dweud fod pobl yn sylweddoli fwyfwy fod yn rhaid i ni ddechrau parchu’r blaned a’i phrosesau naturiol unwaith eto, ac ymaddasu i’r newidiadau anochel a fydd yn cael eu gorfodi arnom.

Felly, mae’n bryd myfyrio, ond mae angen gweithredu ar fyrder hefyd. Mae gwneud y ddau beth ar yr un pryd yn anodd, oherwydd, yn anorfod, ceir ymateb otomatig, difeddwl. Eisoes, rydym yn gweld y ffocws ar garbon a nwyon tŷ-gwydr fel thema hollgynhwysfawr. Rydym yn gwneud hyn yn naturiol gan ein bod yn ei gweld fel y brif broblem i’w datrys, ond a ydym yn gwneud hynny ar draul ffactorau eraill? Gallai ychydig mwy o ddealltwriaeth o natur y problemau ein hachub rhag llawer mwy o waith adfer dianghenraid yn y dyfodol. Yr hyn sydd yn hanfodol yw osgoi gwneud pethau i’n tai yn awr y bydd yn rhaid i ni fynd yn ôl a’u dadwneud ymhen ychydig flynyddoedd.

Myfyrdod

Mae 45% o stoc tai Cymru yn eiddo waliau-solet, a’r math mwyaf anodd i’w ddeall ac ymdrin ag ef yw tai teras Fictoraidd ac Edwardaidd de-ddwyrain Cymru. Mae’r tai yn tueddu i fod wedi eu llunio o gymysgedd damwain-a-hap o ithfaen a fewnforiwyd, gwahanol fathau o dywodfaen, a brics wedi eu cynhyrchu’n lleol, a’r cwbl wedi ei ddal ynghyd gan gymysgedd o galch, llwch a lludw o’r ffatrïoedd a’r ffwrneisi. Maen nhw’n tueddu i fod o wneuthuriad gwael, yn sicr yn ôl safonau heddiw. Mae’n bwysig deall y prosesau a’r ffactorau sy’n gynhenid iddynt, yn cynnwys:

  • bod y tai fel rheol wedi eu hadeiladu ar seiliau bas iawn gan ddefnyddio gwastraff diwydiannol (clincer ac ati)
  • defnyddiwyd deunydd rendro pwti calch a morter i rwymo’r garreg a’r fricsen ynghyd
  • roedd y tai wal-gerrig lawn rwbel yn llythrennol yn cynnwys teilchion brics a hen gerrig a daflwyd i mewn iddyn nhw i lenwi’r gwacter, ac felly maent yn frith o dyllau a holltau
  • cafodd y tai eu hadeiladu, fel rhai heddiw, cyn gynted ac mor rhad ag oedd yn bosibl; felly, er gwaethaf trwch eu waliau, dydyn nhw ddim bob amser yn solet, o anghenraid
  • roedd tanwydd y cyfnod yn golygu fod drafftiau yn angenrheidiol

Mae’n ffordd ni o geisio datrys rhai o’r problemau hyn wedi golygu gosod defnyddiau modern ar hen adeiladau. Felly, yn hytrach na gwella’r tai teras, a’u diweddaru mewn ffordd gyfaddas, rydym wedi eu mygu mewn haenau o sment anhydraidd ac wedi eu haddurno â phlastig. Drwy wneud hynny, rydym wedi creu llu o broblemau fel:

  • lleithder a malltod
  • llai o allu i gadw gwres
  • rendro sydd wedi ymryddhau a hollti
  • paent yn disgyn ymaith
  • atgyweiriadau cyson i gafnau a phibau glaw
  • niwed strwythurol lle mae dŵr wedi treiddio i mewn

Yn anffodus, mae’r ymateb yn tueddu i olygu mwy o fesurau dal-dŵr, gan ddefnyddio’r un dulliau oherwydd cost canfyddedig dewisiadau amgen, a chario ymlaen i wneud y pethau rydym wedi eu gwneud erioed.

Gweithredu – gwneud pethau mewn ffordd wahanol

Felly, a allwn wneud pethau yn wahanol er mwyn adfer yr hen derasau hyn yn gynaliadwy, a’u gwneud yn addas ar gyfer cymdeithas y dyfodol? Yr ateb yw, gallwn, wrth gwrs.

O fewn cwmpas cynllun busnes 30-mlynedd, mae cyfle i edrych yn strategol ar gost cynnal a chadw cynlluniedig a chynnal a chadw adweitheddol. A ydy’r holl waith sy’n gysylltiedig dros amser â’r gwaith o atgyweirio a chynnal a chadw cafnau a phibau dwr glaw plastig, a’u tuedd i ollwng a chymhlethdodau eraill, yn gwrthbwyso costau cyfalaf ychwanegol system ddur, dyweder? Dyna yw barn Cyngor Caerdydd. Ac a allwn ninnau fforddio peidio â gwneud? Drwy ddefnyddio defnyddiau a fydd yn creu gofynion cynnal-a-chadw ychwanegol at y dyfodol (ac sy’n ymgorffori lefel uchel o ynni) yn hytrach na defnyddio defnyddiau cydnaws a fydd i bob pwrpas yn datrys nifer o broblemau cynnal a chadw ac atgyweirio, rydym yn ein condemnio ein hunain i broblemau gwaredu gwastraff parhaus. Mae hyn oll yn golygu defnyddio mwy o garbon ac felly’n gwaethygu problemau newid hinsawdd.

Felly beth yw’r atebion?

Yr elfen allweddol mewn adfer cynaliadwy yw’r term ‘cynaliadwy’. Mae hyn yn golygu mwy na dim ond ystyried yr ôl troed carbon, mae’n ymwneud â’r ôl troed ecolegol, y pwysau cymdeithasol a’r gofynion economaidd. Felly, rhaid edrych ar faterion fel ymddangosiad, defnyddiau, hanes, effeithlonrwydd dŵr ac ynni, cost, hyfforddi a sgiliau.

Un o’r materion allweddol yw diogelu gallu adeiladau i ‘anadlu’, gan ganiatáu i wlybaniaeth ddianc a thrwy hynny ddatrys llawer o broblemau lleithder a malltod, a waliau sy’n gweithio’n wael (wedi’r cwbl, mae wal wleb yn wal aneffeithiol gan fod dŵr yn trosglwyddo gwres yn dda iawn). Felly mae defnyddio rendro pwti calch a phlastr calch yn brif ffactor o ran adfer y tai i’w cyflwr blaenorol. Mae defnyddiau a thechnegau perthnasol eraill yn cynnwys:

  • mathau o baent sy’n gallu anadlu
  • cynnal a chadw a gwella lloriau crog, drwy sicrhau fod y tyllau awyr yn gweithio a’r lloriau wedi eu hinswleiddio, gan ddefnyddio pilenni hydraidd a deunydd inswleiddio anadlol
  • inswleiddio waliau solet gan ddefnyddio technegau anadlol fel rendro calch neu inswleiddio ffibrau pren
  • chwistrellu hufen i ddiogelu rhag lleithder – neu ddulliau amgen fel dull yr Iseldiroedd o sychu waliau brics solet neu ddulliau electrostatig ar gyfer waliau carreg a rwbel
  • drysau a ffenestri pren effeithlon iawn neu wydro eilaidd fel ffordd o ddiogelu hen ffenestri plwm
  • diogelu simneiau drwy osod dyfeisiau atal treiddiad dŵr ar simneiau segur, neu osod cyrn simneiau sy’n dal dŵr ar rai a ddefnyddir yn achlysurol
  • mae bwyleri cyddwyso yn tueddu i fod yn rhatach i’w prynu, eu cynnal a’u cadw na bwyleri cyddwyso combi, ac maent yn datrys nifer o broblemau gyda gostyngiad mewn pwysedd a falfiau cymysgu thermostatig
  • gosod paneli adlewyrchol ychwanegol ar bob rheiddiadur allanol ac inswleiddio pibau dŵr poeth
  • goleuadau ynni isel
  • dulliau arbed dŵr gan osod dyfeisiau mewn toiledau, cawodydd a thapiau, a rhoi casgenni casglu dŵr glaw mewn gerddi
  • mesurau diogelu ar gyfer y dyfodol fel cadw tanciau dŵr poeth fel rhan o systemau gwresogi, gwaith gwifro ar gyfer paneli ffotofoltaïg neu dyrbinau meicro, a defnyddio fframweithiau pren o safon uchel ar gyfer ceginau

Gyda chynlluniau i gynhyrchu mwy na 100% o anghenion trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy yn y blynyddoedd nesaf, a’r pwysau cymdeithasol-wleidyddol a allai ddeillio o’r dibyniaeth gynyddol ar nwy sydd yn adnodd cyfyngedig, beth am bympiau sy’n tynnu gwres o’r awyr? Ac ar raddfa ehangach lle ceir cynlluniau ailwampio fesul stryd gyfan, beth am y posibilrwydd o wresogi cymunedol? Wrth ymgymryd â gwaith adnewyddu sylweddol, a fyddai hi’n bosibl creu cyntedd i atal drafftiau?

Gellid gosod systemau awyru gwres-gyfnewid, un-stafell, a reolir gan lefelau goleithder, mewn stafelloedd ymolchi, ond bydd angen gofal gan fod yn rhaid eu gosod ar waliau sy’n wynebu’r dwyrain neu’r gogledd (bydd gwyntoedd y gorllewin yn eu chwythu ynghau o hyd, gan olygu na fyddant yn gweithio’n iawn).

Fel y gallwch weld, mae llu o atebion ar gael, sy’n cynnwys amrywiaeth o ddewisiadau: fydd pob un ddim yn briodol/fforddadwy/angenrheidiol ar gyfer pob eiddo. Fodd bynnag, mae rhai o’r prif ffactorau fel defnyddiau anadlol ac effeithlonrwydd ynni a dŵr, yn hanfodol i adnewyddiad cynaliadawy y tai hanesyddol hyn sy’n ein hamgylchynu. Felly, er mwyn diogelu a gwella’r stoc tai teras, bydd angen sefydlu system reolaeth wybodus a chlyfar.

Bydd yn rhaid nodi egwyddorion sylfaenol a’u dilyn, er mwyn sicrhau, fel y bo angen gwaith ar y tai hyn, ein bod yn glynu wrth ddulliau cynaliadwy fel na caiff gorchwylion eu dyblygu, bod cyn lleied o wastraff ag sy’n bosibl, a’n bod yn elwa i’r eithaf ar adnoddau. Mae hyfforddi a chynyddu ymwybyddiaeth holl staff y sefydliad, yn ogystal â chontractwyr, o’r pwys mwyaf. Dylai pobl sy’n ateb y ffôn fod yn gwybod beth a olygir wrth anadladwyedd, aerglosrwydd, effeithlonrwydd ynni a dŵr fell y gallant ateb cwestiynau gan denantiaid. Rhaid i staff cynnal-a-chadw a datblygu wybod sut mae adeiladau’n gweithio a bydd angen cyfarwyddo contractwyr hefyd i ddefnyddio’r defnyddiau a’r technegau cywir. Rhaid i reolwyr fod â’r gallu i ailystyried y blaenoriaethau a’r angen am wneud pethau’n wahanol; i’r diben hwnnw, rhaid iddynt ddeall pam mae hyn yn bwysig.

Mae’r hen dai teras hyn wedi dioddef yn fawr dan ddwylo diwydiant adeiladu anwybodus, ond mae yna ffyrdd o’u gwella a diogelu cymeriad de Cymru am genedlaethau. Wrth i’r pwysau gynyddu o blaid tai mwy ynni-effeithiol, a gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y carbon a ollyngir, onid gwell fyddai adnewyddu ein stoc presennol i safon uchel mewn ffordd sy’n gydnaws â’i wreiddiau, gan ddefnyddio deunyddiau effaith-isel a rhoi gofal a sylw i’r manylion er mwyn i’r hen derasau droi’n enghreifftiau disglair o ragoriaeth?

Gwybodaeth bellach

Gellir cysylltu â Peter Draper ar info@rounded-developments.org.uk

Am fwy o fanylion am adnewyddu cartrefi, adeiladu cynaliadwy a chyngor adeiladu pwrpasol, da chi, cysylltwch â’r Ganolfan Eco-gartrefi yn Nhreganna, Caerdydd. Gweler www.ecohomecentre.co.uk neu tel 029 2037 3094.

Un o brojectau Rounded Developments Enterprises yw’r Ganolfan Eco-gartrefi. Cwmni dim-am-elw cyfyngedig drwy warant yw RDE sydd â’r nod o hyrwyddo adeiladu cynaliadwy yng Nghymru.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »