English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Angen mwy o gig yn y cawl: Cymunedau’n Gyntaf – y stori hyd yn hyn

The apple pie needs beefing up

Gary Foreman yn edrych ymlaen at ddatblygiad pellach Cymunedau’n Gyntaf

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Bu Cymunedau’n Gyntaf, rhaglen flaenllaw Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael ag amddifadedd a gwella amodau byw a rhagolygon pobl yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, yn destun archwiliad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cyhoeddodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a’i dîm adroddiad cynhwysfawr a chlinigol ar hynt y rhaglen hyd yn hyn.

I grynhoi, mae’r adroddiad yn awgrymu fod llawer o waith effeithiol wedi cael ei wneud i ddatblygu pobl, partneriaethau a chymunedau ledled Cymru, ond bod yna le – erwau o le – i wella o safbwynt ‘plygu rhaglenni’. Pan fydd anghenion dyfn-wreiddiedig mewn cymunedau dynodedig yn galw am ymyriad penodol gan asiantiaid prif-ffrwd, mae’r broses o ‘blygu’ adnoddau cenedlaethol a rhanbarthol tuag at hynny yn ymddangos braidd yn arthritig. Pan ddaw hi’n fater o fynd i’r afael â chrynoadau o angen dwys ar lefel cymdogaeth, mae yna ddiffyg hyblygrwydd mewn strwythurau a systemau a ddyluniwyd i ateb anghenion ymarferol a diogelu yn erbyn gwario arian cyhoeddus yn anghyfrifol neu’n ddiegwyddor. Gan ailadrodd, o reidrwydd, ffaith amlwg, mae’r adroddiad yn pwysleisio nad oes gan y cymunedau sydd wedi eu heithrio y gallu i blygu rhaglenni i unrhyw raddau sylweddol, ac ‘mai darparwyr gwasanaethau sy\’n bennaf gyfrifol am blygu rhaglenni’, cyrff nad oes gan gymunedau ‘unrhyw awdurdod a dim ond dylanwad bach drostynt’.

Cymunedau yn rheoli?

Dro ar ôl tro, mae’r mater hollbwysig hwn o (an)allu cymunedau i reoli’r ddarpariaeth o wasanaethau yn dod i’r amlwg yn yr adroddiad, gan fygwth tanseilio’r rhaglen. Pa ddiben rhoi llais i bobl ddim ond i’w anwybyddu, neu gynyddu cymhwyster cymuned i . . . i wneud beth? Cydnabod ei statws yn y mynegai amddifadedd lluosog, darganfod beth yn union y mae diffyg gallu i weithredu yn ei olygu, a monitro dirywiad parhaus? A ydy’r rhaglen yn ei hanfod yn or-uchelgeisiol, neu a fydd arweiniad a phrosesau gwleidyddol a chyhoeddus yn esblygu, ochr yn ochr â chymunedau mwy mentrus ac entrepreneuraidd i fathu atebion ‘trydedd-ffordd’ creadigol ac effeithiol?

Rhesymau dros fod yn bositif …

Dyna’r gobaith. Mae Cymunedau’n Gyntaf yn rhaglen eofn sy’n cynnig y posibilrwydd, o leiaf, o gydweithrediad cydgysylltiedig o fewn a rhwng asiantaethau i gynhyrchu budd gwirioneddol i gymunedau lleol ac i Gymru gyfan. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn tanlinellu swyddogaeth Partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf a gweithwyr proffesiynol, sy’n helpu i ddatgelu buddiannau rhaglenni cenedlaethol a rhanbarthol, gan alluogi adnoddau i gael eu cyfeirio at gymunedau dan anfantais yn y modd mwyaf effeithiol. Hybysrwydd leol – fel gwybod ble i gynnal neu i beidio â chynnal eich sioe deithiol er mwyn sicrhau’r cyfranogiad mwyaf, neu bod â wyneb cyfarwydd gweithiwr datblygu wrth law pan fydd pobl broffesiynol o’r tu allan yn ymweld â’r ardal i roi gwybodaeth i breswylwyr lleol – yw’r gwahaniaeth yn aml rhwng sicrhau canlyniad llwyddiannus a chamgyfeirio adnoddau yn llwyr. ‘Canfuom hefyd fod bodolaeth partneriaeth a\’i staff wedi helpu rhai cyrff cyhoeddus i gyflwyno prosiectau mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf lle y byddent wedi\’i chael hi\’n anodd fel arall.’ Yn yr un modd, mae’r adroddiad yn canmol gwaith datblygu cymunedol gweithwyr proffesiynol, gweithredwyr a gwirfoddolwyr ymroddgar a chryf eu cymhelliant sydd, gyda chefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf, yn cynnig lefel uwch o gymorth na’r hyn a gynigir fel arfer gan asiantaethau prif-ffrwd. ‘Er enghraifft, trefnodd y gweithwyr datblygu fod person ifanc lleol yn gweithio fel prentis mewn garej lleol . . . byddai\’r gweithwyr datblygu yn ei ddeffro, yn ei helpu i baratoi ar gyfer gwaith ac yn sicrhau ei fod yn cyrraedd y gweithle yn brydlon.’ Mae symlrwydd y syniad hwn yn celu ei bwysigrwydd. Dyma newid diwylliannol ar waith. Dyma integreiddio fertigol ymarferol. Mae Cymunedau’n Gyntaf wedi bachu ar gyfleoedd sydd ar gael drwy raglenni ‘brig-i-lawr’ a gweithredu prosesau ‘gwaelod-i-fyny’ er mwyn elwa i’r eithaf yn lleol. Wrth gwrs, bydd dadlau tragwyddol ynglŷn â phwy sy’n haeddu’r clod neu’r tic yn eu blwch, ond mae Cymunedau’n Gyntaf wedi hwyluso creu arena neu ryngwyneb lle mae cysylltiadau’n cael eu gwneud, lle ceir cynnydd mewn cyfalaf cymdeithasol ac, yn y pen draw, lle mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a’r gymdeithas gyfan yn elwa.

Felly, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno asesiad gonest a chytbwys o’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf hyd yn hyn. Mae astudiaethau achos unigol a chymunedol yn arddangos llwyddiant. Mae llu o fentrau cymunedol sy’n datrys problemau mewn meysydd allweddol fel iechyd, dysgu, diogelwch y gymuned, yr amgylchedd, swyddi, busnes a chynhyrchu incwm, a thlodi plentyndod wedi lliniaru anfantais a dod â gwelliannau. Serch hynny, er gwaethaf hyn oll, mae elfen o siom a rhwystredigaeth yn dal i fodoli ymhlith cymunedau dynodedig, cefnogwyr, archwilwyr a beirniaid, fel ei gilydd. Mae llawer wedi cael ei gyflawni ond mae pobl yn disgwyl llawer iawn mwy.

Ac yn obeithiol ….

Unwaith eto, mae yna obaith. Yn ôl yr adroddiad mae Cymunedau’n Gyntaf yn cychwyn ar gyfnod newydd wedi ei nodweddu gan fwy o allu a dealltwriaeth yn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, a chefnu ar ganlyniadau ‘meddal’ (ymdrechu i ddiffinio ystyr meithrin gallu, a gwerthuso sut mae hynny’n gweithio o ran gwerth am arian) a symud at ganlyniadau ‘caled’ (nodau SMART mwy gweladwy a phendant, gyda thystiolaeth gliriach o gynnydd). Ceir hefyd y Gronfa Ganlyniadau newydd â’r bwriad o newid y cydbwysedd grym a gwella’r broses o blygu rhaglenni (gyda cheisiadau gan Bartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf yn elwa ar gyllid cyfatebol gan bartneriaid prif-ffrwd) ynghyd â dull mwy cyd-gysylltiedig o ymdrin â Cymunedau’n Gyntaf gan Gyfarwyddiaethau’r Cynulliad a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Gwin newydd mewn crwyn newydd, tybed? Mecanwaith sy’n galluogi rhaglen genedlaethol i sianelu adnoddau drwy systemau adfywiedig, mwy ymatebol o fewn asiantaethau’r sector cyhoeddus i ateb anghenion amrywiol o fewn gwahanol gymunedau ar lefel leoledig dros ben?

Un gymuned sy’n gweld tebygrwydd mawr rhwng canlyniadau Swyddfa Archwilio Cymru a’i phrofiad a’i gobeithion ei hunan yw Penywaun, cymuned â phoblogaeth o bron 4,000 mewn 1,200 o gartrefi yng Nghwm Cynon, Rhondda Cynon Taf, i’r gogledd i Aberdâr ger ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd. Mae pennod Penywaun yn hanes Cymunedau’n Gyntaf hyd yn hyn yn arddangos pwysigrwydd presenoldeb cymunedol ei sail er mwyn angori buddiannau sy’n deillio o raglenni prif-ffrwd. Un enghraifft o blith nifer yw Dapper FM, gorsaf radio gymuned dan arweiniad gwirfoddolwyr (www.dapperfm.co.uk), a ddarparwyd mewn cydweithrediad â rhaglen Communities 2.0 Canolfan Gydweithredol Cymru, a gyllidir gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd, ac a gefnogir gan Gr8 Radio, sy’n mynd i’r afael ag agenda cynhwysedd digidol y Cynulliad. Ond heb gyfranogiad pobl gyffredin, fyddai canlyniadau’r project hwn ddim wedi bod mor llwyddiannus.

Er y byddai rhai yn ei feirniadu fel math o gawl maethlon am ei ffordd anffurfiol a chefnogol o fynd ati, ni ddylid tanbrisio gwerth gwaith datblygu cymunedol o ran datblygu pobl a chymunedau. Yn yr un modd ag y bydd darllenwyr yr ethygl hon efallai’n cydnabod, o edrych yn ôl, eu bod wedi elwa ar gyfraniad gweithgaredd cymunedol a gwirfoddol ar ryw adeg yn eu bywyd, felly hefyd y bydd gweithwyr datblygu cymunedol profiadol yn tystio i werth hynny mewn cynyddu hunan-barch, hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol, lliniaru eithafion cymdeithasol, unioni ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a hybu democratiaeth gyfranogol a dinasyddiaeth weithredol. Yn eironig, tra bod gwaith datblygu cymunedol yn llwyddiannus, ni sylweddolir ei wir werth. Hebddo, buan y byddai’r gost i goffrau’r wlad yn amlwg, ar ffurf ymyriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol, mwy o afiechyd, galwadau ar yr heddlu a’r gyfundrefn gyfreithiol, yn ogystal â gostyngiad mewn refiniw gan bobl na fyddai’n cael eu cefnogi i mewn i swyddi. Yn ychwanegol at hynny, hyd oni fydd mwy o gydymddibyniaeth proffesiynol rhwng datblygu cymunedol ymatebol ac archwilio cyhoeddus adolygol, caiff amser ac arian anghymesur eu gwastraffu ar ddatrys mân ddadleuon yn deillio o wahanol ddiffiniadau o weithgaredd y gellir ei gyfiawnhau a’r hyn sy’n gymwys i dderbyn gwariant. Nid israddio datblygiad cymunedol mo’r her ond, yn hytrach, datblygu prosesau gwerthuso a monitro boddhaol a fydd yn asesu’r elw ar fuddsoddi yn y modd priodol a chynnig canllawiau gwell ar gyfer archwilio gwleidyddol a chyhoeddus.

Angen mwy o gig

Ar ôl dweud hynny, mae angen mwy o gig yn y cawl. Ers dyfodiad Cymunedau’n Gyntaf, mae Penywaun wedi colli ei Glinig Iechyd, ei Ganolfan Addysg Gymunedol, a’i Glwb Ieuenctid. Mae pryder mawr hefyd ynglŷn â dyfodol ei Wasanaethau Plant. Pan fo unrhyw gymuned yn dioddef colledion o’r fath i’w hisadeiledd, mae’n anodd brwydro ymdeimlad cyffredinol o ddirywiad. Pan fo’r gymuned honno yn agos at frig y mynegai amddifadedd lluosog, mae anhapusrwydd a dadrithiad yn parhau, ac mae’n hawdd deall mai egwan yw’r lleisiau sy’n canmol Cymunedau’n Gyntaf fel rhaglen flaenllaw. Mae’r ysgol gynradd leol newydd dderbyn cyllid ar gyfer gwelliannau, ond doedd dim cysylltiad rhwng hynny a’r broses Cymunedau’n Gyntaf sy’n cynnwys y Bartneriaeth Leol. Yn y cyfamser, dydy trafodaethau uniongyrchol rhwng y gymuned a chynrychiolwyr Cymunedau’n Gyntaf a swyddogion sector cyhoeddus ar lefel uwch hyd yn hyn yn dangos yr un arwydd o ddatrys problem diffyg cyfleusterau iechyd yn y gymuned neu wasanaethau amgen ar gyfer ieuenctid lleol, nac unrhyw sicrwydd yr eir i’r afael â phroblemau cymhleth tlodi plant wedi mis Mawrth 2010. Ni all datblygu cymunedol ar ei ben ei hun adfywio Penywaun na chymunedau eraill yng Nghymru sydd dan yr un anfanteision.

Rhaid i asiantaethau allanol ddod o leiaf hanner y ffordd i gwrdd ag ymdrechion gwaelod-i-fyny i ddod o hyd i atebion cynaliadwy. Yn achos Penywaun, mae hyn yn golygu negydu i sicrhau cyfleusterau iechyd yn y gymuned. Mae’n golygu hwyluso adeiladu Canolbwynt Cymunedol, gan ddenu cytundebau tenantiaeth o’r sectorau preifat a chyhoeddus a fydd yn cynnal y cyfleuster a noddi gofod ar gyfer gwasanaethau nad ydynt ar gael i drigolion lleol ar hyn o bryd. Mae’n golygu gwneud pwrcasu yn arf gwleidyddol mwy pwerus, ystyried lle sefydliadau fel Build Wales, Cwmni Menter Cymunedol wedi ei gyfyngu gan gyfranddaliadau y mae PEP (Partneriaeth Menter Penywaun – y Corff Arweiniol ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf ym Mhenywaun) yn un o’i gyfarwyddwyr corfforaethol. Mae Build Wales eisoes yn cwblhau projectau adeiladu a thirlunio o safon uchel tra’n creu swyddi a hyfforddiant ar gyfer pobl leol. Mae am archwilio’r posibilrwydd o weithio gyda mwy o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymreig er mwyn ymestyn y buddiannau (gwell amgylchedd, creu swyddi a mwy o lefydd i rai dan hyfforddiant) a chynhyrchu elw i’w ailfuddsoddi yn y busnes a’i atgyfeirio at weithgaredd elusennol ym Mhenywaun a chymunedau eraill dan anfantais. Mae’r fath fentrau yn gweld proses Cymunedau’n Gyntaf fel sbringfwrdd ar gyfer adferiad, yn hytrach na lloches yn erbyn realiti, sy’n adlewyrchu’r newid pwyslais wrth i Cymunedau’n Gyntaf gychwyn ar gyfnod newydd.

A fydd Cymunedau’n Gyntaf yn diwygio ymhellach ar sail argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru? A fydd hynny’n helpu i ddyrchafu Penywaun o dlodi i ffyniant? Mae’r stori’n parhau . . .

Gary Foreman BD MSt (Cantab) yw Cyd-drefnydd Cymunedau’n Gyntaf, Penywaun, [email protected]


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »