Mae Steve Curry yn egluro.
Heb ddymuno gwneud i ormod o ddarllenwyr syrffedu cyn cychwyn, dwi’n dwli ar fapiau.
Mae mapiau’n dweud wrtha’i beth i’w ddisgwyl pan fyddaf yn mynd am dro, sut i osgoi clogwyn creigiog drwy ddilyn y llethr glaswelltog i’r chwith iddo. Roedd mapiau’n gam allweddol ymlaen yn ein gwareiddiad, o beintiadau ogofeydd yn dangos lle gellid casglu bwyd, i systemau rhyngweithiol tri-dimensiwn i hwyluso canfod y lleoliad gorau ar gyfer tyrbeins gwynt.
Mae’n amlwg fod yn rhaid wrth ffordd ddarluniadol o gyfleu gwybodaeth ofodol yn yr enghreifftiau uchod, ond beth am fathau eraill o wybodaeth a ffyrdd o’u cyflwyno? Does neb yn cynhyrfu gymaint â Peter Snow ynglŷn â ‘Swingometer’ y BBC ar noson etholiad, ond, ymhlith dyfeisiau darluniadol eraill, mae’n ein helpu i ddeall beth sy’n digwydd a beth y gallai hynny ei olygu i Dŷ’r Cyffredin newydd, ac mae’n mapio hynny â’i ASau coch, glas, melyn a gwyrdd.
Mewn swydd flaenorol, bûm yn defnyddio system Mosaic Experian sy’n prosesu llwyth o wybodaeth am ddefnyddwyr i gynhyrchu 61 gwahanol ‘fath’ o gwsmer y gall pawb, o Tesco i’r Torïaid, eu defnyddio i dargedu llefydd a allai fod yn gydnaws â rhywbeth neilltuol maen nhw’n ei gynnig. O ‘Asian Enterprise’ i ‘Caring Professionals’ i ‘Industrial Grit’ – maen nhw’n gwybod pwy ydych chi ac maen nhw’n gwybod lle rydych chi’n byw – sef, yn yr enghraifftiau hyn, Harrow, Brighton, a chymoedd de Cymru! Mae’r System Ddosbarthu Cymdogaethau hon yn llawer iawn gwell na systemau gwybodaeth cwsmeriaid y rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol, ac mae’n rhoi ystyr gwirioneddol i ddata o safbwynt cymdogaethau a’r bobl sy’n byw ynddyn nhw.
O’r gore, felly beth sydd gan hyn i’w wneud â thai, a beth ydy GIS? Mae Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn casglu, storio, dadansoddi, trefnu a chyflwyno data yn gysylltiedig â lleoliadau. Gallwn ddadlau o fore gwyn tan nos p’run ai bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ymwneud â phobl neu â lle – fodd bynnag, mae’r cymdeithasau cymunedol hŷn yn ogystal â’r cyrff Trosglwyddiadau Stoc Graddfa Fawr (LSVT) yn ddaearyddol eu sail ac mae disgwyl iddyn nhw chwarae rhan gynyddol mewn adfywio cymunedau, a da hynny – nid yn unig am fod hyn wedi codi i frig yr agenda bolisi yn ddiweddar ond am fod ein lefelau o asedion ac incwm a’n cenhadaeth gymdeithasol yn ein cymell i wneud hynny.
Sefydlodd Adroddiad Syr John Egan yn 2004 y cysyniad o ‘gymunedau cynaliadwy’ ac mae gennym raglenni blaenllaw gan Lywodraeth y Cynulliad fel Rhoi Cymunedau’r Gyntaf ac Ardaloedd Adfywio Strategol sy’n canolbwyntio buddsoddi ar ardaloedd dadfreintiedig fel na fydd eu trigolion yn cael eu gadael ar ôl. Dangosodd Adroddiad Hills (2007) fod tai cymdeithasol yn darparu ar gyfer cyfran fwyfwy tlawd o’r boblogaeth beunydd, a bod yn rhaid i landlordiaid wneud mwy i helpu i wella bywydau eu tenantiaid a gwella’r llefydd lle maen nhw’n byw.
Mae gennym fapiau yn ein swyddfa, ond ddim ond i ddangos ein tai a’n tir o fewn cymunedau. Beth hoffwn i fyddai map rhyngweithiol a fyddai’n dweud wrtha’i nid yn unig pa mor gynaliadwy (neu beidio) y mae ein cymdogaethau (lle mae angen i ni fuddsoddi) ond hefyd pa argraf mae ein gwaith yn ei wneud arnyn nhw.
Dyma lle mae pethau’n mynd yn anodd – beth sy arnon ni angen ei wybod? Dywedodd Egan wrthym fod gan gymunedau cynaliadwy wyth nodwedd, sef: gwasanaethau da, dyluniad da, trefniadaeth dda, tegwch, sensitifrwydd i’r amgylchedd, ffyniant, diogelwch, a chysylltiadau da. Digon teg, ond sut mae canfod safon ein rhai ni o’i gymharu â hynny?
Mae newid diweddar yn y ffordd mae data lleol yn cael eu casglu a’u dadansoddi gan y llywodraeth wedi gwneud hyn yn fwy posibl, ac mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn gam anferth ymlaen. Mae’r Uned Data Llywodraeth Leol wedi rhoi map rhyngweithiol i ni sy’n dangos y lefel o anfantais ar draws wyth mynegydd ‘cymuned gynaliadwy’ o’u cymharu â phob cymuned yng Nghymru ac, yn bwysig iawn, mae gennym bellach Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Lefel-Is (LSOA) yn lle Wardiau, a oedd yn rhy fawr ac yn debygol o weld eu ffiniau’n cael eu newid. Felly nawr, mae gennym wybodaeth yn agos iawn at lefel cymdogaeth, a gallwn weld y newidiadau dros amser mewn cyflogaeth, iechyd, sgiliau, tai, amgylchedd, incwm, a hygyrchedd gwasanaethau. Yn union fel llun pelydr-x, mae’n dangos i ni beth sydd o dan y croen neu yr hyn sydd, i raddau helaeth, wedi ei guddio y tu ôl i’r drws ffrynt.
Dydy hwn ddim yn ddarlun cyflawn, serch hynny. Mae angen gwybod hefyd, er enghraifft:
- os yw ein cymunedau wedi eu heithrio’n ariannol, heb ddim mynediad i gyfrif banc, yn dioddef tlodi tanwydd, yn ysglyfaeth i fenthycwyr carreg-drws, ac ag aml-ddyledion
- i ba raddau mae pobl yn ymgysylltu – gyda ni, gydag addysg, drwy ddigwyddiadau cymunedol, trwy wirfoddoli, a chyfranogi yn y broses benderfynu
- pa rwystrau eraill sy’n eu dal yn ôl – diffyg hyder, salwch meddwl, diffyg sgiliau sylfaenol, ofn trosedd, tai gorlawn?
Mae angen i ni ddal dwylo gyda’n partneriaid – yr awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd, y sector gwirfoddol a chymunedol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, LlyC, ac yn y blaen – er mwyn dechrau rhannu mwy o wybodaeth a dechrau mapio honno ar ein cymunedau.
Mae pethau diddorol yn digwydd mewn mannau eraill. Yn Greenwich, mae’r GIG, y cyngor, yr heddlu, a Phrifysgol Llundain yn gwneud astudiaeth dymor-hir o’r berthynas rhwng agweddau corfforol a chymdeithasol amgylcheddau preswyl a lles meddyliol, Datgelodd arolwg yn 2003 fod pethau fel lleithder, sŵn, ofn trosedd, gofodau agored hygyrch, tai gorlawn, a chludiant – 13 o ffactorau, i gyd – yn diffinio lefel iechyd seicolegol y trigolion. Bydd dwy gymdogaeth yn parhau i gael eu hastudio i ddangos sut mae buddsoddi mewn gwelliannau i gartrefi a’r gymdogaeth yn effeithio ar les pobl.
Mae’n sicr o fewn ein gafael i allu gweithredu mewn ffyrdd rhesymegol, wedi eu targedu’n fanwl a’u cynllunio’n dda, ac astudio effeithiau’r ymyriadau hynny. Ond mae angen gwella’n ffynonellau gwybodaeth er mwyn cyflawni’r nod honno.
Dydy systemau GIS ddim yn rhad ac mae casglu a dadansoddi data cymhleth yn gostus hefyd. Ni ddylem fethu’r cyfle oherwydd diffyg adnoddau ac arbenigedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig unigol. Dylem ddod at ein gilydd a thalu i ddefnyddio gwasanaeth pellennig (fel Uned Data Cymru) a gwahodd ein partneriaid i fwydo’r data y byddan nhw’n eu casglu, a’r data sydd arnom ni eu hangen, i mewn i’r system – efallai y gallai hynny fod yn destun cais am Gyllid Ewropeaidd ‘Gwneud y Cysylltiadau’ gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Gallaf ddychmygu Peter Snow y BBC wrthi, yn dweud ‘edrychwch ar yr holl gymunedau anghynaliadwy yma’n troi’n gynaliadwy, edrychwch ar yr holl fusnesau newydd yna, yr holl sgiliau newydd yna, yr holl aelodau undebau credyd newydd yna, yr holl ddigwyddiadau cymunedol yna, maen nhw’n troi’r map o goch i wyrdd!’ Dwi nid yn unig yn hoffi mapiau, dwi’n breuddwydio amdanyn nhw hefyd!
Steve Curry yw Rheolydd Adfywio Cymunedol Cymoedd i’r Arfordir Steve.Curry@v2c.org.uk
Datblygu gwybodaeth ar lefel y gymdogaeth
Mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi cyllido project tair-blynedd i ddatblygu ei Fonitor Tai a Chymdogaeth (sydd yn cynnig dadansoddiad defnyddiol o dueddiadau allweddol mewn tai a chymdogaethau ac asesiad o berfformiad polisi’r llywodraeth ganol) er mwyn creu fframwaith monitro cyson ar draws y DU ac o fewn y gwledydd sy’n rhan ohoni. Bydd rhifyn yr hydref o WHQ yn cynnwys erthygl yn seiliedig ar gamau cyntaf y project.
Mae Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) wedi ei gyd-gyllido gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU a bydd yn tynnu ynghyd ac yn adeiladu ar sail yr arbenigedd presennol mewn dulliau ymchwilio a methodolegau ansoddol a meintiol sy’n bodoli ym Mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor, a Morgannwg. Fe’i cyd-drefnir gan Brifysgol Caerdydd ac mae ganddo bedair rhaglen integreiddiedig a chydgysylltiedig o weithgarwch:
- nodi, archifo, cyfuno a rheoli setiau data Cymreig presennol, gan gynnwys canfod meysydd lle mae data’n ddiffygiol, ac archwilio problemau, anawsterau a chyfleoedd yn ymwneud ag arloesedd methodolegol a datblygiad ‘dulliau cymysg’
- astudio gwahanol fröydd ledled Cymru a fydd yn gweithredu fel lleoliadau casglu data (ansoddol a meintiol) a datblygu methodolegau
- dadansoddi a gwerthuso polisi, a fydd yn cynnwys dau faes llafur gwahanol: i) datblygu a gweithredu dulliau ymchwil cymysg er mwyn gwerthuso ymyriadau polisi cymhleth yn fanwl-gywir; a ii) dadansoddiad polisi cymharol
- meithrin gallu ymchwil, hyfforddi a rhwydweithio a fydd yn arwain at ddatblygu timau ymchwil rhyng-sefydliadol gyda phwyslais cryf ar lenwi’r bylchau a nodwyd mewn sgiliau ymchwilio yng Nghymru
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar-lein yn www.cardiff.ac.uk/wiserd