English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dadl WHQ 2009: talu neu beidio â thalu?

Bu dadl Welsh Housing Quarterly, a gynhaliwyd ar yr 20fed o Ionawr 2009 ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried a ddylai cymdeithasau tai yng Nghymru allu dewis talu eu haelodau bwrdd – pwnc y mae llawer o bobl yn teimlo’n angerddol yn ei gylch.

Nododd cadeirydd y ddadl, Lucy Ferman o Tribal Consulting, fod ganddi deimlad o déjà vu am y mater, gan iddi gymryd rhan mewn llawer o ddadleuon ynglŷn â thaliadau i aelodau bwrdd ryw bum mlynedd yn ôl yn Lloegr. Pwysleisiodd mai testun y ddadl oedd galluogi cymdeithasai tai i dalu eu haelodau bwrdd, nid ei gwneud hi’n orfodol i gymdeithasau wneud hynny. Eglurodd hefyd fod dadl WHQ yn weithgaredd ar wahân i ymgynghoriad ffurfiol gan y Cynulliad ar y mater yn y dyfodol, yn sgîl argymhelliad yn Arolwg Essex:

\’Fod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal ymgynghoriad ar wahân parthed a ddylai CTau unigol fod â’r rhyddid i gynnig tâl am ymrwymiad amser aelodau Bwrdd, wedi ei bennu o fewn terfynau clir.’

O blaid rhoi’r dewis i gymdeithasau i dalu aelodau bwrdd

Y siaradwyr o blaid rhoi’r dewis i cymdeithasau i allu talu eu haelodau bwrdd oedd Peter Hughes o Gymdeithas Adeiladu’r Principality a Keith Edwards, a oedd yn cymryd rhan ar sail bersonol.

Roedd Peter yn falch fod y mater yn cael ei ailystyried yng Nghymru, a doedd e ddim yn meddwl y byddai talu aelodau bwrdd yn newid natur ddim-am-elw cymdeithasau tai yng Nghymru. Nododd fod y pwysau ar aelodau bwrdd yn mynd i gynyddu, a dyna oedd wrth graidd ei gefnogaeth i daliadau. Roedd Arolwg Essex ei hunan yn galw am fwy o amlygrwydd i gymdeithasau a’u byrddau a fydd yn cynhyrchu mwy o alwadau ar amser pobl, yn enwedig cadeiryddion. Mae’r nifer gynyddol o gymdeithasau trosglwyddo stoc, sydd yn sefydliadau cymhleth, yn ffactor hefyd. Gan hynny, roedd hi’n debygol y byddai’n mynd yn fwy anodd recriwtio a chadw aelodau bwrdd yn y blynyddoedd i ddod. Cododd bwynt o egwyddor hefyd – pa un ai sicrhau lywodraethu da neu barhau i fod ag ymddiriedolwyr di-dâl sydd fwyaf pwysig. Roedd taliadau i aelodau bwrdd, ym marn Peter, yn arf arall y gellir ei ddefnyddio i sicrhau llywodraethu da.

Agorodd Keith Edwards ei gyfraniad i’r ddadl drwy ofyn pam ar y ddaear ydyn ni’n gwahardd taliadau i aelodau bwrdd, yn enwedig mewn hinsawdd economaidd sydd yn her mor anferth. Nododd fod Arolwg Essex yn rhagweld newidiadau mawr yn sector y cymdeithasau, a bod angen i ni fynd i’r afael â phroblemau yfory nid rhai heddiw. Os ydy cymdeithasau’n mynd i ysgwyddo’r baich lle mae’r sectorau preifat a chyhoeddus wedi methu darparu, yna bydd angen pobl i ymgymryd â swyddogaeth bod yn aelod o fwrdd. Teimlai Keith fod dadl foesol ysgubol o blaid talu aelodau bwrdd – sef eu had-dalu am eu hamser. Ac o safbwynt problem budd-daliadau – galwodd Keith ar gymdeithasau i annog tenantiaid cyflogedig i fynd yn aelodau o’r bwrdd, a chefnogi tenantiaid sydd ar fudd-daliadau i ddod o hyd i gyflogaeth. Er mwyn bod â byrddau amrywiol, a thrin pob aelod bwrdd yn gydradd, ym marn Keith doedd dim dewis arall ond caniatáu taliadau.

Yn erbyn rhoi’r dewis i gymdeithasau i dalu aelodau bwrdd

Y siaradwyr yn erbyn rhoi’r dewis i gymdeithasau i allu talu eu haelodau bwrdd oedd Chris O’Meara o Gymdeithas Tai Cadwyn a John Bader, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Cymuned Somer.

Dechreuodd Chris drwy holi beth oedd y cwestiwn roedd taliadau i aelodau bwrdd yn ateb iddo. Y cwestiwn roedd hi am ddechrau gydag ef yw sut mae sicrhau llwyddiant y sector tai gwirfoddol yn y dyfodol. Er mwyn gwneud hynny, dylem edrych ar lwyddiannau’r gorffennol. Y peth allweddol, yn ei barn hi, yw crynhoi cefnogaeth wleidyddol, cymunedau a budd-ddeiliaid. Mae sector y cymdeithasau wedi treulio llawer o amser ac egni yn y blynyddoedd diwethaf ar ddatblygu dealltwriaeth mai sector menter cymdeithasol ydyw gyda chyfranogiad helaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, yn cynnwys yn ei llywodraeth. Byddai talu aelodau bwrdd, credai Chris, yn gwneud i gymdeithasau edrych fel y sector preifat, a gallai, ac mi fyddai, gwrthwynebwyr cymdeithasau yn manteisio ar hynny. Gallai talu aelodau bwrdd danseilio’r berthynas gyda thenantiaid, cymunedau a mudiadau budd-ddeiliaid hefyd. Os ydy talu yn ffordd o roi gwerth ar gyfraniad, sut felly ydyn ni fod i werthfawrogi cyfraniad aelodau bwrdd sy’’n denantiaid ar fudd-daliadau? Aeth ymlaen i gwestiynu pa mor effeithiol yw taliadau, a pha wahaniaeth maen nhw wedi ei wneud i’r cymdeithasau hynny yn Lloegr sydd yn talu. Roedd wedi edrych ar dystiolaeth o’r arolwg blynyddol o daliadau i fyrddau yn Lloegr, a chael mai gwell perfformiad corfforaethol yn sgîl talu aelodau bwrdd oedd yr effaith fuddiol a grynbwyllwyd yn lleiaf aml. Daeth Chris i ben drwy nodi os bydd rhai rhannau o sector y cymdeithasau yn gwneud pethau sy’n tanseilio’r sector yn ei grynswth, mae hynny’n beth afiach i’r cymdeithasau eu hunain, tenantiaid a chymunedau. Felly, o ganlyniad, ddylai cymdeithasau unigol ddim cael y dewis o dalu eu haelodau bwrdd.

Trefnodd John ei gyfraniad yntau ar sail pedwar cwestiwn:

  • a oes problem gyffredinol gyda recriwtio aelodau bwrdd?
  • a oes diffyg sgiliau ar fyrddau?
  • a fyddai taliadau yn dal i gadw diwylliant y cymdeithasau?
  • a fyddai’r holl aelodau bwrdd sy’n denantiaid yn gallu aros ar y bwrdd heb ddioddef anfantais ariannol?

Oni ellid ateb pob un o’r pedwar cwestiwn yn gadarnhaol, yna credai John yn gryf na ddylem fod yn ystyried talu aelodau bwrdd fel opsiwn i unrhyw gymdeithas.

Credai John fod diffyg tystiolaeth fod talu yn golygu gwell recriwtio neu well llywodraeth yn gyffredin. Gwnaeth y pwynt nad oes rhaid talu pobl sy’n ymwneud â llywodraethu i wneud y broses yn fwy effeithiol. Os mai recriwtio yw’r broblem, faint fyddai’n rhaid i chi ei dalu i ddenu’r bobl ‘iawn’ ac a fyddai hyn yn cynnig gwerth da am arian? Beth fyddai tenantiaid yn ei feddwl am daliadau? Byddai’r rheolau budd-daliadau yn dadfreinio cyfran sylweddol o denantiaid sy’n aelodau bwrdd, a fyddai’n golygu anghyfartaledd cynhenid o gwmpas y bwrdd. Mae gan denantiaid ran hanfodol mewn llywodraethu, credai, ac mae’n rhaid i ni ddiogelu cydraddoldeb rhwng yr holl denantiaid sy’n aelodau bwrdd.

Materion o’r llawr

Codwyd amrywiaeth eang o faterion gan aelodau o’r gynulleidfa:

  • a fyddai canfyddiad pobl o gymdeithasau yn newid mewn gwirionedd pe bai aelodau byrddau yn cael eu talu?
  • a oes rhaid i ni aros nes fod problem yn codi gyda recriwtio aelodau a’u cadw cyn rhoi i gymdeithasau yr hawl i dalu eu haelodau bwrdd? Dylem gael y dewis, ac yna mynd ati i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn perthynas â’r system fudd-daliadau
  • a ydy rhoi’r dewis i gymdeithasau i dalu aelodau bwrdd yn gyson â pholis’r Cynulliad ar ymgysylltu a chyfranogiad tenantiaid, sy’n mynnu fod tenantiaid yn chwarae rhan ar bob lefel, yn cynnwys mewn strwythurau llywodraethu?
  • byddai’n hunllef cysylltiadau cyhoeddus, yn enwedig pan gâi cyllidebau cyfranogiad tenantiaid eu cymharu â chyllidebau taliadau aelodau bwrdd – mae ffyrdd gwell o wario’r arian i gefnogi llywodraethu effeithiol
  • mae mater o egwyddor (ad-dalu pobl am eu hamser) a mater gweinyddol (rheolau budd-daliadau) dan sylw yma – does bosib na allwn ni ddatrys y broblem weinyddol?
  • bu bron i’r system fancio chwalu oherwydd cymhelliad ariannol
  • beth ydyn ni’n ei ddisgwyl drwy dalu pobl? Mwy o ymrwymiad? Yr unig reswm dros dalu yw cael pobl ar fyrddau na fyddai’n chwarae rhan fel arall. Os mai ymrwymiadau amser yw’r broblem, pam mae byrddau’n treulio cymaint o amser, a ydyn nhw’n gwneud y pethau iawn? Angen darganfod ffyrdd gwahanol o ddefnyddio byrddau
  • mewn egwyddor, dylai pobl sy’n mynd i golli allan drwy gyfranogi ar fwrdd cymdeithas dderbyn iawndal am eu colled. Byddai talu yn denu pobl iau
  • a oes unrhyw dystiolaeth fod talu aelodau bwrdd yn tanseilio’r berthynas gyda thenantiaid a budd-ddeiliaid?
  • a oes cydberthynas rhwng talu aelodau bwrdd a pherfformiad cymdeithasau?

Crynhoi:

  • roedd y rheini yn erbyn yn:
  • cwestiynu a oes gennym broblem o ran recriwtio a chadw aelodau byrddau’r cymdeithasau
  • nodi fod talu yn tanseilio’r safle y mae’r sector wedi ei greu dros y tair blynedd ddiwethaf
  • amau a ydy taliadau yn gweithio mewn gwirionedd
  • rhybuddio am beryglon cymharu cymdeithasau â sefydliadau sector cyhoeddus
  • nodi, os bydd rhai tenantiaid yn cael eu heithrio oherwydd y taliadau, sut y gall cymdeithasau ddangos eu bod yn glynu wrth bolisi’r Cynulliad ar gyfranogiad tenantiaid?
  • roedd y rheini o blaid yn nodi:
    • fod y cymdeithasau hynny sydd yn talu yn Lloegr wedi mynd ati o ddifrif i ymgysylltu â budd-ddeiliaid
    • ei bod hi’n hawdd cuddio y tu ôl i broblem anodd (rheolau budd-daliadau)
    • os ydy pobl yn derbyn tâl, nid yw hynny’n lleihau eu hymrwymiad i’r mudiad
    • ei bod yn bwysig gwahanu rhwng ffactorau ymarferol a materion o egwyddor
    • bod angen i ni fod yn ddyfeisgar a helpu pobl i ddod oddi ar fudd-daliadau
    • nad ydy taliadau i aelodau bwrdd yn diriogaeth frwnt – mae gan bobl hawl derbyn iawndal am eu hamser

    Rhoddodd Keith Edwards her i’r gynulleidfa, gan ddweud nad oedd gan rywun a oedd ag ‘amheuaeth resymol’ ynglŷn â thalu aelodau bwrdd ai peidio ddim dewis amgen ond pleidleisio o blaid cadw’r opsiwn o dalu aelodau bwrdd yn agored.

    Y canlyniad

    Holwyd barn y gynulleidfa cyn a ddadl ac ar ei hôl – y canlyniad oedd, o blith y rheini a fwriodd bleidlais, fod ychydig yn fwy o bobl o blaid rhoi’r gallu i gymdeithasau ddewis talu eu haelodau bwrdd ar ôl clywed y dadleuon nag oedd ar ddechrau’r digwyddiad.

    Y dystiolaeth o Loegr

    Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg o Loegr lle mae rhyw draean o’r cymdeithasau bellach yn talu o leiaf rai o’r haelodau bwrdd. Bydd ymgynghoriad y Cynulliad ar y pwnc yn gallu elwa ar gyhoeddiad gan Ffederasiwn Tai Genedlaethol Lloegr a fydd yn ymddangos yn y dyfodol agos sydd yn archwilio’r profiad Seisnig. Mae cadeirydd y ddadl, Lucy Ferman, wedi chwarae rhan yn y gwaith yma, ac ar ôl yr ail bleidlais, cyflwynodd rai o’r prif ddarganfyddiadau:

    • Mae cydberthynas rhwng maint cymdeithasau yn Lloegr a pha mor debygol y maent o dalu aelodau bwrdd. Serch hynny, dydy rhai o’r cymdeithasau mwyaf, fel Peabody, ddim yn talu
    • lefel ganolrifol taliadau yn Lloegr yw rhyw £8,500 i gadeiryddion a £3,500 i aelodau bwrdd
    • mae llawer o’r dau-draeon o gymdeithasau nad ydyn nhw’n talu wedi cynnal dadl ar y pwnc, ac wedi penderfynu peidio â thalu
    • mae rhywfaint o dystiolaeth i gysylltu perfformiad cymdeithasau â thaliadau i aelodau bwrdd
    • mae’n ofynnol i gymdeithasau ymgynghori â thenantiaid fel rhan o’r broses o benderfynu talu aelodau bwrdd, ac roedd hi’n syndod cyn lleied o wrthwynebiad a fu ymhlith tenantiaid llawer o gymdeithasau sydd yn talu
    • y maes mwyaf anodd o hyd i gymdeithasau sydd yn talu yw problem budd-daliadau

    Bydd WHQ yn cynnal dadleuon pellach ar faterion cyfamserol. Carem glywed eich barn ynglŷn â testunau posibl – da chi, cysylltwch â’r golygydd ar editor@176.32.230.6 â’ch syniadau – edrychwn ymlaen at glywed gennych.


    Sign up to our email newsletter

    Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

    Sign up for the email newsletter »

    Looking to advertise in our magazine?

    Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

    Find out more »