Yr economi: ble rydan ni? Kellie Beirne sy’n dadansoddi.
Yr argyfwng
Ym mis Tachwedd 2008, cyhoeddodd Banc Lloegr y llithrodd y DU i mewn i ddirwasgiad yn swyddogol yng nghanol 2008. Yn ei adroddiad chwyddiant chwarterol diweddaraf, dangosai’r Banc y newid dramatig yn yr economi yn y cyfnod cymharol fyr ers mis Awst 2008. Disgwylir y bydd chwyddiant yn gostwng i 1% erbyn 2010, lefel is o lawer na’r targed o 2%, sydd yn mynd â ni i dir anhysbys economi ddatchwyddol. Mae’r Banc yn darogan hefyd y bydd economi’r DU yn crebachu o 2% erbyn misoedd cynnar 2009 ac y bydd diweithdra, sydd eisoes ar ei lefel uchaf ers un flynedd ar ddeg, yn 2 filiwn erbyn diwedd 2008. Mae’r bunt yn parhau i ddisgyn ar y marchanadoedd arian rhyngwladol a gwelsom doriad llym mewn cyfraddau llog. Mae dadansoddwyr yn darogan y bydd cyfraddau’n disgyn yn is na 2%, cyfradd sail isaf Banc Lloegr er ei sefydlu ym 1694.
Mae hyd yn oed y sylwebwyr economaidd mwyaf optimistaidd wedi gorfod derbyn mai’r gwir plaen amdani yw y bydd y dirwasgiad yn parhau ymhell i mewn i 2009.
Mae’r darlun yn un diflas, hyd yn oed cyn i ni symud ymlaen ni archwilio’r sector tai, sydd wedi chwarae rhan achos ac effaith yn yr argyfwng. Rydym yn gweld y lefelau isaf o werthiant tai ers 30 mlynedd, 200,000 o deuluoedd ar ei hôl hi â’u taliadau morgais, ac ymateb ‘cyfrifiadur yn gwrthod’ gan fenthycwyr i lawer o rai sy’n dymuno prynu am y tro cyntaf. Mae pecyn £20 biliwn y Canghellor o doriadau treth cyn-Cyllideb, a’i nod o roi hwb i’r economi, yn adlewyrchu barn y llywodraeth na fydd newidiadau yn y cyfraddau log yn ddigon ar eu pen eu hunain i ysgogi’r farchnad tai, ac, o ganlyniad, yr economi. Gellid dadlau mai’r farchnad tai yw’r dylanwad mwyaf ar bolisi a llwyddiant cyllidol – yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol. Felly, roedd y ffaith nad oedd cyhoeddiad y Canghellor yn cynnwys unrhyw arian ‘newydd’ i hwyluso cyrraedd y nod adeiladu tai, gan ddibynnu yn hytrach ar ryddhau cyllid a oedd wedi ei glustnodi eisoes, yn destun cryn bryder. Mae cysgod bygythiol rownd wario gynhwysfawr newydd y flwyddyn nesaf yn ychwanegu dimensiwn diddorol. Yn y sector bancio, mae RBS wedi ymestyn y moratoriwm o dri mis cyn dwyn achos adfeddiannu i chwe mis – ond ni chafwyd cytundebau tebyg gan fenthycwyr eraill, sydd wedi arwain rhai i alw am ‘wladoli mwy ohonyn nhw!’
Boed y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi yn argyfwng economaidd neu foesol yn eich barn chi, does dim osgoi’r ffaith fod pethau’n anodd.
Yr ymateb – beth fedrwn ni ei wneud?
Rydym at ein pengliniau yn ‘y gwaethaf o amserau’ – ac eto, tybed a oes rhyw wirionedd yn yr hen air, ‘angen yw mam pob dyfais’? Dylai’r dirwasgiad achosi i ni ailystyried, a chwilio am atebion a chyfleoedd creadigol. Byddai’n hawdd meddwl am roi’r ffidil yn y to a mynd adre, ond allwn ni ddim, oherwydd fe wyddom nad yw’r dewis hwnnw ar gael i lawer o’r bobl rydym wrthi’n ceisio gwella eu bywydau.
Ar ôl dweud hynny, ni ellir canolbwyntio yng nghanol yr argyfwng credyd ar ddarparu cartrefi fforddiadwy yn unig. Os yw’r cyflenwad tai yn annigonol, cyfyngir ar ddewisiadau pobl a chaiff prisiau tai eu gwthio i fyny, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i bobl eu fforddio. Does dim amheuaeth nad yw ceisiadau cynllunio ar drai, fod safleoedd a chynlluniau yr esgorwyd arnynt mewn hinsawdd well yn cael eu gohirio ac o ganlyniad, mae cyfyngiad pendant ar y cyflenwad a gynhyrchir drwy gytundebau Adran 106. Ond dyma lle a pham y mae angen arloesedd. Does dim datblygwyr graddfa-fawr yn y farchnad am safleoedd mawr, ond bydd partneriaethau cyhoeddus-preifat a mentrau ar y cyd gan awdurdodau lleol ac adeiladwyr cartrefi yn lleihau risg ac yn sicrhau’r math o gymunedau cymysg eu deiliadaeth a’u defnydd a fydd yn ateb gofynion am dai ac yn sicrhau swyddi.
Yn Lloegr, mae model y Cwmni Tai Lleol yn magu nerth ac mae awdurdodau lleol yn ailasesu eu swyddogaeth ymyrol drwy fod yn barod i fentro mwy a derbyn mwy o gyfrifoldeb mewn partneriaethau, ond mewn perthynas â chanlyniad y gallant ddylanwadu arno. Mae partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig ac ymddiriedolaethau tir cymunedol yn dod i’r amlwg hefyd ac yn dechrau llwyddo i ddarparu tai fforddiadwy. Mae hwn yn gyfle amlwg i lywodraeth leol brofi ac arddangos ei gallu i arwain cymunedau, ac er y bydd angen buddsoddi cyhoeddus o bosib yn y lle cyntaf, a fydd yn cael ei ddisodli gan fuddsoddi preifat yn y man, gallai hyn ddod ag elw sylweddol i’r coffrau cyhoeddus, gan ddatgan ysbryd o entrepreneuriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Ond, o anghenraid, ysgogi pwerdy’r economi, sef y farchnad fenthyca, yw’r canolbwynt gweithredu. Does dim un ateb sy’n cael ei dderbyn gan bawb, ac mae’n amlwg fod angen pecyn o fesurau i helpu i adfer y farchnad. Ond byddai adfywio’r sector benthyca masnachol yn creu’r hylifedd angenrheidiol er mwyn cael prynwyr tro-cyntaf a datblygwyr yn ôl yn y gêm. Ni ddylem anghofio chwaith fod y banciau a wladolwyd yn awr yn brif gyfranddalwyr yn nifer o’r cwmnïau datbygu mawr.
Nid yw’r ffordd laissez-faire o fynd ati wedi llwyddo ac mae ymyriad y wladwriaeth yn angenrheidiol; er mwyn trwsio’r isadeiledd economaidd, bwrw ymlaen â datblygu cynaliadwy ac amddiffyn yn erbyn y math o apartheid a welir o hyd mewn rhai cymunedau lle mae getoau o dai un-ddeiliadaeth.
Mae Adroddiad Crosby, a gyhoeddwyd gan y Trysorlys ar ddiwedd mis 2008, yn enwi’r adfywiad benthyca fel y ffactor unigol bwysicaf mewn ysgogi adferiad cyllidol. Mae ei argymhellion yn cynnwys cymelliannau i ddarbwyllo banciau i fenthyca eto a’r posibillrwydd o gael y llywodraeth i warantu colledion morgais.
Mae hefyd yn amlwg fod yn rhaid i’r gwaith sydd ar y gweill i adolygu system cymhorthdal y Cyfrif Refiniw Tai fod yn rhan o’r broses. Yn ychwanegol at hynny, bydd ailddyfeisio’r farchnad rhentu preifat fel yr argymhellir yn adroddiad Julie Rugg a David Rhode yn darparu ar gyfer sector mwy proffesiynol, o dan well rheolaeth. Y gyfundrefn fawr arall sydd o dan sylw yw Budd-dâl Tai. Byddwn yn treulio llawer o amser yn trafod y miliynau a chwistrellir i mewn i dai newydd gan adeiladwyr tai – ond beth am y £19 biliwn o gymhorthdal cyhoeddus sy’n llifo i mewn i fudd-dal tai? Rhaid mynd i’r afael ag eiddo gwag fel rhan o’r cynllun – mae’r nifer o gartrefi gwag ar gynnydd – un arall o symptomau’r wasgfa gredyd. Mae’r pwerau i feddiannu eisoes yn bodoli, ond mae angen trafod yn onest y ffactorau sy’n atal gweithredu ar y raddfa sydd ei hangen.
Ailfeddwl ynglŷn â thai: sut mae gwneud hynny?
Un o’r cwestiynau y byddaf yn ofyn o hyd yw a fyddai’r dirwasgiad wedi ergydio’r farchnad tai mor galed â hyn pe baem wedi sefydlu system o ddeiliadaeth hyblyg? Mae cwestiynau ynglŷn â mecanwaith y fath raglen – ond a fyddai hi mor anodd cydweddu’r cymhorthdal tai â’r person ac nid yr eiddo? Gallai model grisiau-graddol a allai gynnwys rhentu cymdeithasol ac ar lefel is na’r farchnad, perchenogaeth tai cost-isel, rhentu i brynu, rhyddhad ecwiti a chynllun achub morgais helpu i ddarparu’r hyblygrwydd a’r ystwythder angenrheidiol er mwyn hyrwyddo dewisiadau tai a helpu i wrthsefyll y tywydd economaidd garw yn ogystal â hwylio drwy’r hindda. Nid yw hyn yn golygu herio ideolegau ynglŷn â sicrwydd deiliadaeth; i’r gwrthwyneb, mae’n fater o gydnabod fod yr oes wedi newid. Mae gwir angen i’r sector cyhoeddus chwarae rhan fwy egnïol o ran ymyriad yn y farchnad, ond o nifer o safbwyntiau gwahanol er mwyn hyrwyddo sadrwydd a dewis drwyddi draw.
Fodd bynnag, ymddengys fod syniadau’r llywodraeth ynglŷn â diwygio cyfannol yn y maes tai wedi cael eu haberthu ar allor y wasgfa gredyd; tra bo’r ewyllys yn parhau i gyrraedd targedau adeiladu-tai (‘uchelgais’), mae newid radicalaidd wedi cael ei ohirio am y tro. Rwyf eisoes wedi cyfeirio at Arolygon Crosby, Rugg a’r Cymhorthdal CRT yn ogystal â diwygio Budd-dâl Tai. Dim ond y llynedd y cyhoeddwyd Arolygon Cave a Hills, ac Essex fu ein prif bwnc trafod yng Nghymru ers 12 mis. Dylai sicrhau cydgysylltiad a chydlyniad rhwng y gwahanol agendâu hyn fod yn nod hollbwysig i’r llywodraeth. A byddant, fe fydd oblygiadau’r holl arolygon hyn yn effeithio’n sylfaenol ar Gymru! Fodd bynnag, ar lefel ymarferol, mae adeiladwyr tai, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eisoes yn darparu rhai o’r mentrau mwy arloesol yr awgrymais y gellid eu cynnwys o dan gynllun ‘deiliadaeth hyblyg’. Felly onid oes diwygiad yn digwydd eisoes ar lefel leol os nad ar lefel genedlaethol?
Y peth pwysicaf yw herio’n parodrwydd ymddangosiadol i dderbyn cylchoedd economaidd ‘boom and bust’ (rwyf finnau’n euog o hynny). Sawl gwaith glywsoch chi rywun yn dweud yn ddiweddar,‘Dwi ddim yn mynd i werthu fy nhŷ nawr – dwi’n mynd i aros am y bŵm’? Nes i’r swigen fyrstio yng Nghymru, gwelsom gynnydd o 200% mewn prisiau tai yn ystod cyfnod chwe-blynedd. Does bosib ein bod am weld yr hyn sydd wedi digwydd yn system ariannol y DU a’r system fyd-eang yn digwydd eto. Er mwyn ailfeddwl holl fater tai mewn ffordd bell-gyrhaeddol, resymegol a chynaliadwy, rhaid i ni ystyried sut i gynnal dadl gyhoeddus a mynd i’r afael â swyddogaeth y wladwriaeth a’r asiantaethau sy’n bartrneriaid iddi mewn lliniaru effeithiau negyddol ein systemau ariannol byd-eang ar farchnadoedd tai, a’r gwrthwyneb. Nid mater o frwydr rhwng gwladwriaeth or-faldodus a’r farchnad rydd mo hyn, ond mater o synnwyr cyffredin.
Kellie Beirne yw Rheolydd Strategaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Kellie.Beirne@torfaen.gov.uk. Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiadau a chyhoeddiadau hyd at yr ail o Ragfyr 2008.