Yr adroddiad
Cyfeiriwyd ar Arolwg Essex, a gwblhawyd gan Sue Essex, Lisa Dobbins, Peter Williams a Robert Smith ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008, gan wahanol bobl fel ‘glasbrint’ ac ‘adroddiad arloesol’ ar gyfer y sector tai. Ehangodd cwmpas yr arolwg, a gychwynnodd fel archwiliad o reoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn sylweddol wrth iddo ddatblygu, ac y mae cynnwys ac argymhellion yr adroddiad yn berthnasol i bawb sy’n gweithio yn y maes tai yng Nghymru. Mae hefyd yn llenwi bwlch pwysig yn y broses o ystyried polisi tai ar lefel genedlaethol yng Nghymru – bwlch a oedd yn mynd yn fwyfwy amlwg o’i gymharu â’r toreth o arolygon a gwblhawyd yn ddiweddar yn Lloegr, fel:
- Arolwg Elton – ar ofynion rheoliadol a chydymffurfiol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Arolwg Hills– ar swyddogaethau tai cymdeithasol yn y dyfodol
- Arolwg Calcutt – ar y ddarpariaeth adeiladu tai
- Arolwg Cave – ar reoliad tai cymdeithasol
- Arolwg Taylor – ar yr economi wledig a thai fforddiadwy
- Arolwg Cole – ar reoliad traws-barthol ar gyfer tai cymdeithasol
Yr argymhellion
Prif fyrdwn adroddiad Arolwg Essex yw bod angen newidiadau eang, ar fyrder i’r ffordd y mae’r broses o ddarparu tai fforddiadwy yn cael ei rheoleiddio, ei chyllido, ei chynllunio, eu hasesu a’i gweithredu yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys 43 o argymhellion, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod yn rhaid i holl fudd-ddeiliaid y maes tai weithio mewn partneriaeth, yn unol â model Beecham. Mae’n pwysleisio, onid eir ati yn y modd hwn, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi arweiniad, nad yw argymhellion yr adroddiad, ac o ganlyniad ymrwymiadau Cymru’n Un ar dai, yn debygol o gael eu gwireddu.
Mae’r argymhellion wedi eu hanelu at y Cynulliad, llywodraeth leol, cymdeithasau tai/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig unigol a’r sector cymdeithasau tai/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ei grynswth. Mae’r argymhellion yn cynnwys pob deiliadaeth gan gwmpasu problemau cynllunio a materion amgylcheddol ac yn cynnwys creu gwell cysylltiadau strategol a gweithredol rhwng tai, datblygiad economaidd ac adfywio.
Gweithredu agenda Essex
Mae ymadroddion fel cydgynhyrchu cydweithrediadol ac arweinyddiaeth ddosbarthiadol yn dechrau dod yn gyfarwydd mewn cylchoedd tai, o ran disgrifio’r ffordd y bydd y Cynulliad yn gweithio gyda sefydliadau budd-ddeiliadol i weithredu llawer o argymhellion Arolwg Essex.
Nodwyd pump o ffrydiau gwaith, pob un yn gysylltiedig â chyfres o argymhellion yn yr adroddiad, gyda’r rhaglen waith yn ei chrynswth yn cael ei rheoli gan fwrdd rhaglen a bwrdd strategol wedi ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog fel y dengys y diagram. Wrth i ni fynd i’r wasg, mae aelodaeth y pum ffrwd waith yn cael ei therfynoli a disgwylir i’r grwpiau gyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf i gychwyn ar eu rhaglen waith.
Mewn perthynas â’r argymhellion ynglŷn â gallu a strwythur Adran Tai y Cynulliad ei hun, mae proses o newid rheolaeth ar y gweill, wedi ei hwyluso gan Kath Palmer. Bydd yr ad-drefnu’n digwydd ar sail tair swyddogaeth – polisi, gweithredu a rheoleiddio – gyda’r nod o weithio’n fwy call, mewn ffordd wahanol, fwy cydgysylltiedig.
Bwrdd Strategol
Cadeiriwyd gan y Dirprwy Weinidog
Bwrdd Rhaglen
SRO Matthew Quinn
CLlLC
CCC
Ffrwd Waith
Eiddo Presennol
LlyC i arwain Darparu Tai Fforddiadwy
CLlLC i arwain Gwybodaeth Perfformiad a Monitro
CCC i arwain Rheoleiddio
LlyC i arwain Cyllid
LlyC i arwain
Cynhaliwyd seminar ar y cyd rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar sut i fwrw ymlaen ag Arolwg Essex ar y 18fed o Fedi. Yn y cyfarfod, nododd y Dirprwy Weinidog Jocelyn Davies mai ei blaenoriaethau hi o ran gweithredu argymhellion yr arolwg yw:
- sefydlu trefn reoleiddio newydd
- arweiniad cryfach, cyfarwyddyd strategol a chefnogaeth alluogol gan y ynulliad
- ailffocysu’r ffordd y mae’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yn gweithredu
- mynd i’r afael â bylchau yn y data
oll o fewn cyd-destun rhaglen waith sydd yn cyd-berthyn i’r holl wahanol gyrff ac yn cael ei gweithredu ar y cyd ganddynt.
Cyhoeddodd rai enillion cyflym, gyda’r disgwyliad y bydd cylchlythyr diwygiedig ar strwythurau grŵp landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac ymgynghoriad at ffordd ddiwygiedig o fynd ati yn achos cydsyniadau adran 9 wedi eu cynhyrchu erbyn cyhoeddi’r rhifyn hwn o WHQ. Bwriedir ymgynghori ar gynnyrch HomeBuy newydd hefyd. Nododd y Dirprwy Weinidog hefyd y bydd y strategaeth dai genedlaethol newydd hefyd yn sefydlu cyd-destun cyffredinol ar gyfer polisi tai Cymru, ac y bydd yn adleisio negeseuon allweddol Arolwg Essex.
Nododd nifer o siaradwyr eraill yn y seminar yr hyn a oedd wedi digwydd yn y sector cyllidol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Roeddynt o’r farn fod parhad y wasgfa gredyd yn ei gwneud hi’n bwysicach byth gweithredu agenda Arolwg Essex ar fyrder.
Mae Arolwg Essex – Tai Fforddiadwy yng Nghymru – ar-lein yn http://new.wales.gov.uk