English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Cyfweliad gyda’r Prif Weithredydd

Mewn cyfweliad gyda WHQ, mae Prif Weithredydd y Sefydliad Tai Siartredig, Sarah Webb, yn pwyso a mesur pethau.

C – Fel Prif Weithredydd newydd STS, beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad, a pha newidiadau y gallem eu gweld yn y sefydliad yn y misoedd nesaf?

A – Fedra’i ddim credu pa mor ffodus ydw i i fod yn y swydd yma – rwy’n wirioneddol falch o’r gwaith mae’r STS wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf ond wrth gwrs, mae’n rhaid i ni adnewyddu’r hyn sydd gennym i’w gynnig beunydd, yn enwedig gan fod y byd o’n cwmpas yn newid gymaint. Felly, mae gennyf ddwy brif flaenoriaeth. Yr un allanol yw lleoli ein hunain wrth galon yr agenda lunio-llefydd newydd – yn arwain y ffordd tuag at ddyfodol lle mae gwahaniaethau traddodiadol ar sail deiliadaeth yn pylu a lle mae eich llwyddiant fel busnes a ysgogir gan ei gwsmeriaid yn llawer pwysicach. Fy mlaenoriaeth fewnol yw gwireddu ‘llinyn aur y STS’ sy’n cysylltu ein gwaith polisi ‘awyr-las’ – a’n cefnogaeth ar arfer ac ymgynghori – gyda’n gweithgareddau dysgu. Does dim diben i ni ddylanwadu ar y ddadl genedlaethol ynglŷn â chynhwysedd ariannol heb i ni gynnwys sgiliau mewn meithrin gallu i drin arian yn ein hyfforddiant casglu ôl-ddyledion.

C – A ydych chi’n gweld unrhyw beth sy’n her neu broblem neilltuol i STS Cymru sy’n wahanol i rai a wynebir gan y sefydliad yn ei grynswth?

A – Mae’r ddwy broblem uchod yn amlwg yn berthnasol i STS Cymru – fel y mae sawl her rydym yn ei hwynebu yn y sector, ond mae yna broblemau neilltuol yn ein hwynebu ni a’r sector yng Nghymru, yn enwedig yr angen am gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru fel rhan o gynlluniau adfywio ehangach. Mae nifer o ardaloedd yn dal heb benderfynu sut maent yn mynd i gyrraedd SATC, ac mae’r rheini sydd wedi gwrthod trosglwyddo fel dull yn dal i orfod ymateb i’r miloedd o denantiaid sy’n byw mewn tai nad ydynt yn cyrraedd y safon. Os ychwanegwch her y 27% o allyriant CO2 sy’n dod o dai, yna mae gennych broblem sylweddol a chostus, yn enwedig gan fod gobeithion Llywodraeth y Cynulliad o gyrraedd statws carbon sero erbyn 2011 ar y blaen i’r targed o 2016 ar gyfer Lloegr.

C – Mae’r STS yn sefydliad rhyngwladol – sut ydych chi’n credu y gellir defnyddio’r sail ryngwladol hon yn fwyaf effeithiol o fewn Cymru, e.e. i:

  • ysgogi arloesedd
  • gwella arfer/gwasanaethau
  • cefnogi’r proffesiwn tai yn well, ac ati

A – Mae gennym bellach aelodaeth ryngwladol o 20 o wledydd mewn pum cyfandir ac rydym yn gweithio gyda phobl broffesiynynol yn y maes tai mewn amrywiaeth eang o lefydd, o China i Nigeria, o Malta i Montserrat. Rydym wedi lansio e-grawn rhyngwladol rheolaidd o’r enw ‘Housing World’ (ceir enghraifft ar-lein yn www.cih.org), a thrwy hwnnw a grwpiau trafod ar y wefan, gobeithio y gallwn weithredu fel porth ar gyfer cyd-ddysgu ym mhedwar ban y byd. Efallai yr ymddengys yn or-uchelgeisiol, ond ar yr ymweliadau rhyngwladol rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynd arnynt yn y ddwy flynedd ddiwethaf, synnais i’r fath raddau yr ydym oll yn wynebu’r un problemau yn y bon. Gobeithio y bydd ein hymdrechion i syllu y tu hwnt i derfynau’r DU yn awgrymu syniadau a dulliau newydd o weithio a all, yn eu tro, wella’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i weithwyr proffesiynol yn y DU. Hoffwn hefyd i ni allu hwyluso nifer o secondiadau a lleoliadau gwaith rhyngwladol fel ffordd o gefnogi datblygiad personol a rhannu dysg.

Yr agenda bolisi a datganoli

C – Beth, yn eich barn chi, yw’r prif faterion polisi a fydd yn cael eu trafod a’u datblygu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf?

A – Y peth cyffrous, sydd hefyd braidd yn frawychus, yw bod cymaint ohonyn nhw. Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni drafod deiliadaeth hyblyg ac ecwiti gwrthol – fel y gallwn alluogi landlordiaid cymdeithasol i brynu canran o gartref perchennog, yn hytrach na gweld eiddo’n cael ei adfeddiannu. Yn y tymor byr, gwn fod STS Cymru wedi cynhyrchu papur cefndir yn ddiweddar sy’n archwilio posibiliadau perchenogaeth cartrefi hyblyg yng Nghymru a ddylai ennyn trafodaeth bellach. Mae pris tir ar gyfer tai yn dal yn destun pryder i mi, a hefyd y duedd barhaus i ddatblygu cynlluniau tai newydd heb gymysgedd briodol o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, a’r angen am drawsffurfio’r stadau tai monolithig sydd o dan reolaeth awdurdodau lleol (neu gyrff ALMO yn Lloegr). Yn y tymor canol, rhaid i ni ystyried addasu ein tai presennol er mwyn lleihau eu ôl-troed carbon ac mae’n rhaid i ni fod â chynllun go iawn ar gyfer ateb gofynion poblogaeth sy’n heneiddio am dai a chefnogaeth.

C – Pa sefydliadau ydych chi’n eu gweld fel prif gynghreiriaid y STC o ran datblygu’r materion hyn, a pham?

A – Rwy’n argyhoeddedig mai un o’n cryfderau allweddol yw ein gallu i weithio mewn partneriaeth, felly mai gennyf restr hirfaith o wahanol fathau o sefydliadau yr hoffwn weithio gyda nhw i ddatblygu ein syniadau. Yn ateb syml fyddai rhestru’r holl sefydliadau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol sy’n gweithio yn y maes tai – ac wrth gwrs, fe fyddwn yn datblygu cynghreiriau gyda nhw – ond dwi’n credu fod angen i ni roi gwell cynnig ar siarad â phobl y tu allan i’n sector – yn cynnwys pobl nad ydyn nhw’n hoffi’r hyn rydym yn ei wneud. Fe hoffwn i ni siarad mwy gydag Ed Balls ynglŷn â’r cysylltiadau rhwng tai gwael ac addysg wael ac, er nad oes arnaf awydd gwneud, dwi’n credu fod yn rhaid i ni ddechrau siarad â’r rhannau hynny o’r cyfryngau sy’n rhan o’r broses o ynysu a phardduo tai cymdeithasol a’u tenantiaid.

C – A ydy’r problemau hyn yn rhai cyffredinol i’r DU neu a ydych chi’n credu fod agweddau gwahanol yng Nghymru?

A – Mi fyddwn i’n awgrymu fod y pwyntiau neilltuol hyn yr un mor berthnasol yng Nghymru ag mewn rhannau eraill o’r DU. Ceir her ychwanegol mewn rhannau o Gymru yn ymwneud â thai is-safonol a’r angen am adfywio cymdeithasol-economaidd sylweddol.

C – Beth yw eich sylwadau cyffredinol am ddatganoli a thai – gan ystyried profiadau yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon?

A – Yn gyffredinol, mae’n ymddangos i mi fel pe bai hyder newydd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac mae’r tair cymuned yn amlwg yn elwa o safbwynt y drafodaeth o safon uchel sydd wedi datblygu o gwmpas amrywiaeth o broblemau cymhleth. Yn anffodus, nid yw’r holl benderfyniadau sydd wedi deillio o’r broses hon wedi bod yn wych. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r STS wedi gorfod gweithio gydag eraill i ddadlau am fwy o arian ar gyfer tai fforddiadwy ac yn yr Alban, collasom Communities Scotland fel rhan o arolwg cwangos yr SNP. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y maes tai yng Nghymru yn elwa o dan bwerau deddfu newydd y Cynulliad. Ond yn gyffredinol mae wedi bod yn bositif iawn, ac rwy’n credu fod yr STS wedi ymateb yn dda i hyn – nid yn unig gyda chreu ein Hunedau Busnes Cenedlaethol – ond hefyd o safbwynt ein dull partneriaeth o weithio gyda’r tair llywodraeth ddatganoledig.

C – Mae bob amser yn ddefnyddiol cael persbectif allanol ar bethau – fel rhywun sy’n gweithio y tu allan i’r cyd-destun Cymreig, beth yw eich barn, yn gryno, am Cymru’n Un?

A – Rwy’n ei hoffi – mae’n uchelgeisiol, mae’n gryf – gyda rhai ymrwymiadau cadarn ar broblemau anodd, fel Hawl i Brynu – ac mae’n adlewyrchu pwysigrwydd tai o ran creu cymunedau iachus, llwyddiannus. Fy mhrif feirniadaeth mewn perthynas â thai yw’r diffyg gweithredu ar fater allyriant CO2 a ffyrdd o helpu perchenogion diymgeledd mewn tai is-safonol. Yr unig sylw byr arall sydd gennyf yw fod angen i rywun fod yn gwneud y cysylltiadau polisi a chyllido rhwng y gwahanol adrannau. Diben ein rhaglen ‘Making the Case for Housing’ ac adroddiad STS Cymru, Housing and its Benefits . . . the added value oedd dangos na allwch chi gyrraedd eich nodau iechyd, addysg neu ffyniant economaidd heb dai teilwng, fforddiadwy. Gwn fod y Cynulliad yn cydnabod y cysylltiadau hyn, ond mae’n bosib fod arnom angen mwy o eglurhad o’r ffordd y bydd hynny’n digwydd yn ymarferol.

C – Unrhyw negeseuon i gloi yr hoffech eu rhoi i ddarllenwyr WHQ?

A – I mi, mae’r STS yn bodoli i gefnogi pobl sy’n gweithio yn y maes tai fel y gallant hwythau, yn eu tro, wneud eu gorau glas i gefnogi tenantiaid a phreswylwyr. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw i ni fod â chymaint o aelodau ag y gallwn, felly rwyf newydd lansio arolwg aelodaeth i ddarganfod beth mae ein haelodau presennol yn ei ddymuno gennym, a beth y gallwn ei wneud i annog rhai nad ydynt yn aelodau i gyfranogi. Os nad ydych yn aelod o’r STS, byddwn yn gwir werthfawrogi pe baech yn fodlon treulio pum munud yn cwblhau holiadur byr ar-lein. Fy nod yw gwneud yr STS yn arf hanfodol i chi, a’r ffordd orau y gallaf wneud hynny yw drwy fod â syniad clir o’r math o gefnogaeth y byddech yn ei werthfawrogi fwyaf. (Mae’r arolwg ar-lein yn www.zoomerang.com)

O, ac os ydych chi’n credu y gallech ymdopi ag ymweliad gan y ‘Brif Swyddfa\’, da chi, rhowch wahoddiad i mi ddod i weld y pethau gwych sy’n digwydd yn eich ardal chi – dyna sy’n gwneud y swydd yn real i mi.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »