English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Cynaliadwyedd ymarferol

Mae llawer o’r drafodaeth a’r dadlau ynglŷn â chynaliadwyedd a thai yn canolbwyntio ar dai newydd. Dyma Nick Tune o’r Sefydliad Ymchwil Adeiladau (Cymru), yn rhoi blas i WHQ ar ddau broject sy’n ymateb i her gwneud y stoc tai presennol yn fwy cynaliadwy.

Cefndir

Nod Grŵp y Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BRE) yw adeiladu byd gwell. Gyda chefnogaeth ei riant gwmni yn Watford, mae BRE Cymru yn anelu at:

  • gefnogi datblygiad cynaliadwy yn yr amgylchedd adeiliedig drwy:
    • gynnig arweiniad i’r sectorau preifat a chyhoeddus ar ddarparu adeiladau cynaliadwy
    • wneud asesiadau costau oes-gyfan o adeiladau
    • gynhyrchu cyn lleied o wastraff adeiladu ag sy’n bosibl
    • ailgylchu ac ailddefnyddio defnyddiau adeiladu
    • annog arferion ynni-effeithlon yn amgylchedd adeiliedig Cymru
  • annog defnyddio BREEAM ac Ecohomes ledled Cymru i wella safon amgylcheddol cartrefi ac adeiladau masnachol a darparu hyfforddiant lleol ar gyfer aseswyr Ecohomes a BREEAM sy’n haws i bobl fanteisio arno
  • cyflwyno CLIP – y Rhaglen Wella Fain ar gyfer Adeiladu – i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt allu gwella cynhyrchedd ac ansawdd a chwtogi ar gostau
  • ardystio cynnyrch a llunio proffilau amgylcheddol o gynnyrch
  • dod ag arloesedd i ddiwydiant coed Cymru
  • dod ag arloesedd i’r maes tai, yn cynnwys defnyddio dulliau adeiladu modern
  • darparu hyfforddiant ar gyfer Arolygwyr Tai i baratoi ar gyfer gofynion deddfwriaethol newydd ar gyfer gwerthu cartrefi

Cynaliadwyedd a SATC

Ar hyn o bryd, nid oes yna safonau cynaliadwyedd ar gyfer ailwampio tai yng Nghymru, ac ychydig iawn o ddealltwriaeth sydd ymhlith sefydliadau sy’n cyflawni rhaglenni adnewyddu mawr, fel landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y trosglwyddwyd stoc iddynt, o’r lefelau cynaliadwyedd y dylent fod yn anelu atynt. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n amhosibl sicrhau cynnydd ystyrlon a mesuradwy o ran ailwampio cynaliadwy yn y sector tai cymdeithasol.

Yn y cyswllt hwn, aeth Cymoedd i’r Arfordir (V2C) ar ofyn Rounded Developments Enterprises (cwmni dim-am-elw yng Nghaerdydd sy’n rhedeg Canolfan Adeiladu Cynaliadwy) am gymorth i ddathblygu methodoleg a dyfais fesur y gallent eu defnyddio i fesur eu perfformiad amgylcheddol yng nghyd-destun eu rhaglen ailwampio.

Cysylltodd Rounded Developments Enterprises â BRE (Cymru) er mwyn elwa ar eu profiad a’u gwybodaeth hwythau gydag Ecohomes XB er mwyn creu dyfais safonol y gellid ei defnyddio ledled y sector LCC yng Nghymru.

Mae’r ddau sefydliad bellach yn cydweithio gyda chyfres o bartneriaid eraill ar broject, a gyllidwyd yn rhannol gan Lywodraeth y Cynulliad, sydd â’r nod o greu Safon Ailwampio Cynaliadwy Cymru, yn seiliedig ar fodel Ecohomes XB BREAAM, ond wedi ei lunio’n bwrpasol ar gyfer y stoc tai yng Nghymru.

Bydd y safon newydd yn defnyddio SATC fel baslin ac yn cynnig amrywiaeth o wahanol lefelau y gall LCCiaid ac unrhyw ddarparwyr tai cymdeithasol eraill ledled Cymru eu defnyddio i archwilio gofynion stoc tai yn gyffredinol a chanfod perfformiad amgylcheddol cartrefi unigol.

Bydd y safon wedi ei rhannu’n wahanol lefelau fel bod modd defnyddio’r model, mewn egwyddor, gyda’r holl wahanol fathau o eiddo dan reolaeth LCCiaid ledled Cymru. Bydd:

  • yn cynnwys cyfres o wahanol fesuriadau; bydd gofynion gorfodol, fel effeithlonrwydd ynni, yn rhan o rai o’r rhain
  • yn cynnwys mesuriadau datblygu cynaliadwy o ddadansoddiad cost oes-gyfan, carbon, ac ynni ymgorfforedig
  • yn darparu matrics i fesur oblygiadau cost a buddiannau gwahanol lefelau. Mae ar LCCiaid fel V2C angen canllawiau clir a fydd yn dangos pa opsiynau adeiladu sy’n cynnig y gwelliant carbon/cynaliadwyedd mwyaf cost-effeithiol i’w rhaglen ailwampio stoc
  • yn caniatáu iddynt werthuso gwahanol feini prawf cynaliadwyedd yn erbyn gwahanol fathau o dai a gynhwysir o fewn cynlluniau trosglwyddo stoc yng Nghymru; efallai na fydd yr ateb i dŷ BISF yr un â’r hyn sy’n addas ar gyfer tŷ teras cyn-1920

Rhoddir prawf ar y safonau drafft ar sampl o 10 eiddo o stoc dau LCC yn ne Cymru (Cymoedd i’r Arfordir a Melin), pump a adeiladwyd cyn 1920 a phump a adeiladwyd wedi’r rhyfel. Bydd pob un o’r cartrefi hyn yn cael ei ailwampio i safon uwch na SATC ond o fewn terfynau ariannol y LCC. Bydd y costau’n cael eu dadansoddi wedyn er mwyn eu bwydo i mewn i’r cynllun busnes 30-blynedd safonol ar gyfer cynnal a chadw. Bydd hyn yn dylanwadu ar ddatblygiad y matrics cost-buddiannau.

Bydd y project yn ymchwilio hefyd i effeithiau cymdeithasol allweddol fel cyfleoedd gwaith lleol, gofynion hyfforddi, oblygiadau rheolaeth, gofynion monitro a gwerthuso, a materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi/caffael.

Rhagwelir y bydd Safon Ailwampio Cynaliadwy Cymru a’r matrics ar gael ym mis Gorffennaf 2008.

Gweddnewid y cartref teras

Mae gan ardal Blaenau’r Cymoedd gyfran sylweddol o dai cyn-1920au nad ydyn nhw bellach yn addas at bwrpas. Mae newidiadau diweddar yn y farchnad dai wedi golygu fod llawer o bobl wedi symud o Gaerdydd i ardaloedd y cymoedd ac mae llawer o gymunedau wedi denu pobl sydd ag incwm uwch a disgwyliadau uwch o safbwynt ansawdd tai.

Mae BRE Cymru yn gweithio gyda Rhaglen Blaenau’r Cymoedd, Cymdeithas Tai Cynon Taf a Phenseiri Rio i archwilio sut y gellir diweddaru tai teras yn y cymoedd yn effeithiol a’u gwneud yn addas at fyw yn yr 21ain ganrif. Dydy hyn ddim yn golygu dymchwel tai; mae profiad y gorffennol wedi dysgu i ni nad mater hawdd ailgreu cymunedau. Doedden ni ddim yn gweld fod ymgais dila i blastro dros y diffygion er mwyn gwella’r cartrefi yn ddewis chwaith. Mae angen golwg sylfaenol ar sut i wneud y terasau hyn yn rhywle y bydd pobl, yn enwedig teuluoedd ifanc, yn wirioneddol eiddgar i fyw ynddyn nhw.

Caiff un o gartrefi Grŵp Tai Cymuned Cynon Taf ym Mhenrhiwceiber ei weddnewid yn llwyr. Agorir cefn y tŷ tri-llawr i fanteisio i’r eithaf ar y goleuni a’r golygfeydd. Crëir gofod byw cynllun-agored ac ailystyrir y ffordd mae’r gofod yn cael ei ddefnyddio, gyda gofod byw preifat ar y llawr gwaelod isaf a chegin a lle bwyta ar y llawr gwaelod. Bydd y tŷ’n cynnwys stordy beiciau diogel, cyfleusterau ailgylchu ac amrywiaeth eang o fesurau arbed ynni. Amcangyfrifwyd cost ac arbedion carbon deuocsid posibl amrywiaeth o fesurau effeithlonrwydd ynni, ac argymhellwyd y canlynol am gyfanswm o £2,360 o gost a fydd yn arbed 2.10 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn:

  • waliau dwbl a 100mm o inswleiddio yn y to
  • ffenestri o wydr allyrredd isel dros ben wedi eu llenwi ag argon
  • goleuadau ynni isel
  • dyfeisiau ynni isel eraill
  • gosod thermostat ym mhob stafell

Bydd y tai newydd yn cynnig lefelau uchel o gynaliadwyedd am gost resymol gyda’r gwelliannau ynni effeithlon yn dod yn bennaf o’r inswleiddio ac aerglosrwydd yn hytrach nag unrhyw ddyfeisiau adnewyddol ychwanegol. Bydd y project yn dangos sut y gall tai yn y cymoedd fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ac felly’n ddymunol i fyw ynddyn nhw.

Nick Tune yw Cyfarwyddydd BRE Cymru tunen@bre.co.uk

Mwy o wybodaeth

BRE Cymru www.bre.co.uk

BREEAM www.breeam.org

CLIP www.bre.co.uk

Grŵp Tai Cymuned Cynon Taf www.cynon-taf.org.uk

Ecohomes www.breeam.org

Ecohomes XB www.breeam.org

MMC www.modernmethods-construction.co.uk

Cartrefi Melin www.melinhomes.co.uk

Penseiri Rio www.rioarchitects.com

Rounded Developments www.rounded-developments.org.uk

Tai’r Cymoedd i’r Arfordir www.v2c.org.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »