Cyfarfu Golygydd WHQ, Tamsin Stirling, â’r Dirprwy Weinidog Tai, Jocelyn Davies AC ar ddiwedd mis Tachwedd 2007.
Gosod yr olygfa
C – Beth, yn eich barn chi, yw her fwyaf y portffolio tai a sut fyddwch chi a’ch cydweithwyr yn mynd ati i ymateb i hynny?
Yn gyntaf, mae pawb yn sôn am dai ac mae’r galw am dai fforddiadwy yn effeithio ar bob cymuned a phob teulu ledled y wlad. Fodd bynnag, cyn gynted ag y daw cais cynllunio i law, ceir llawer o wrthwynebiadau. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddarbwyllo pobl. Mae’n anodd iawn i gynghorwyr bwrdeistref i beidio â chael eu tynnu i mewn i ymgyrchoedd yn erbyn tai newydd ar lefel y gymuned. Yn y cyd-destun hwn, bydd cyrraedd ein nod ar gyfer tai newydd fforddiadwy yn her.
Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau lleol effeithiol, Ymwelais â Chrucywel lle’r oedd yr Hwylusydd Tai Gwledig wedi gweithio gyda chymunedau lleol a chynghorwyr lleol i ateb gwrthwynebiadau i gynigion ar gyfer tai newydd fforddiadwy – ac erbyn hyn, mae galw anferth am y cynllun gan bobl leol.
Yn ail, gall her cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) lenwi fy oriau ar-ddihûn. Os ydy awdurdod lleol am gadw ei stoc tai, mae hynny’n iawn o’m rhan i – wrth reswm, bydd yn rhaid i’r awdurdod gyflwyno cynllun busnes – ond dylent hefyd gofio’r amodau mae tenantiaid yn byw ynddyn nhw – dyna sy’n hollbwysig, nid cwestiwn perchenogaeth.
Fel hoffwn i weld datblygiad un denantiaeth tai cymdeithasol unffurf, gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ystyried defnyddio pwerau’r Cynulliad i’w gyflawni.
Yn olaf, gall gweithio gyda llywodraeth leol fod yn her, er enghraifft, lle mae gwahaniaeth barn wleidyddol. Fy ffordd i o fynd ati yw bod yn deg, yn gyson ac yn agored, a sicrhau fod unrhyw eithriadau yn eithriadau gwirioneddol.
Cydgysylltu
C – Sut fyddwch chi’n cydgysylltu gwahanol faterion, rhai o fewn eich portffolio eich hunan ac ym meysydd cyfrifoldeb gweinidogion eraill?
Mae’n dda o beth fod tai yn rhan o bortffolio sydd hefyd yn cynnwys yr amgylchedd, cynaliadwyedd a chynllunio. Fel y gallwn weld yn Cymru’n Un, bydd llawer o’r gweithredu i ddarparu tai fforddiadwy yn golygu defnyddio mecanweithiau cynllunio.
Gweithio gyda Jane Davidson yw un o’r pethau rhwyddaf ynglŷn â’m swydd newydd – mae hi’n alluog dros ben ac â meddwl agored. Gall tai chwarae rhan fawr yn y broses o gyrraedd y nod ar gyfer lleihau carbon sydd o fewn ei phortffolio hi. Er enghraifft, bydd yn rhaid i’r holl dai y bydd y Cynulliad yn eu cyllido/yn dylanwadu arnynt gyrraedd graddfa Ardderchog BREEAM. Rydym hefyd yn ystyried datganoli rheoliadau adeiladu ac mae SATC yn cynnwys ffactorau effeithlonrwydd ynni.
Dylai’r Cynulliad yn bendant fanteisio ar y cyfle i fod â safonau amgylcheddol uwch ar gyfer tai yng Nghymru – fe fydd y sector preifat yn addasu – maen nhw’n dda iawn am addasu. Bydd gwneud y safonau’n uwch yn gorfod bod drwy reoliadau – dydy codau gwirfoddol ddim yn ddigon effeithiol. Mae cyfle i Gymru arwain y ffordd yn y maes yma. Mae Bwrdeistref Llundeinig Merton wedi bwrw ati ar ei ben ei hun ac mae’n mynnu safonau uwch o safbwynt lleihau effaith tai newydd ar yr amgylchedd – dylai’r Cynulliad wneud hynny ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n rhaid i ni gael pobl i dderbyn fod yn rhaid i ni wella safonau effeithlonrwydd ynni – pam na ddylai’r safonau ar gyfer tai cymdeithasol fod cyn uched, os nad yn uwch, nag ar gyfer y sector preifat?
Mae llawer o arfer da yn bodoli – ond dydy ei ledaenu a chael pobl i’w fabwysiadu ddim yn hawdd bob amser.
O safbwynt adfywio, roedd Leighton Andrews yn gyfrifol am dai ar un adeg, er mai dim ond am gyfnod byr – mae hynny’n golygu ei fod yn deall rhai materion, yn enwedig y ffaith y gallai cyrraedd SATC helpu o safbwynt adfywio. Bydd manteisio i’r eithaf ar fuddsoddi SATC yn hollbwysig – i ddarparu cyfleoedd hyfforddi ac adfywio ar gyfer yr holl gymuned.
Mae cysylltiadau clir gydag iechyd hefyd, ac mae gan Edwina Hart ddealltwriaeth dda iawn o’r maes tai.
Mae tai yn flaenoriaeth uchel o fewn Cymru’n Un ac mae gweithio gyda Gweinidogion/ Dirprwy Weinidogion eraill sydd yn deall tai yn ddefnyddiol iawn o ran sicrhau cydgysylltu’r gwahanol agendâu.
Rydym yn gwneud y cysylltiadau mewn ffyrdd ymarferol hefyd, er enghraifft, drwy gyllido ardaloedd adnewyddu sy’n edrych ar bob agwedd ar gymuned leol. Rydym ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth am yr argraff a wnaed gan ardaloedd adnewyddu ar amrywiaeth o ffactorau sy’n bwysig i fywydau pobl – dylai’r wybodaeth hon fod ar gael yng ngwanwyn 2008.
Adnoddau
C – A oes digon o arian wedi ei glustnodi ar gyfer tai?
Mae tai yn flaenoriaeth yn y ddogfen Cymru’n Un ac adlewyrchwyd hynny yn y gyllideb. Fodd bynnag, fyddai’r un Gweinidog byth yn gweud ei fod/bod yn gwbl fodlon ar yr arian sydd ar gael ar gyfer y portffolio. Mae’n gam i’r cyfeiriad iawn – os dangoswn ein bod yn gallu defnyddio’r arian yn ddoeth, yna efallai y gellir darbwyllo’r Gweinidog Cyllid i gynyddu ein hadnoddau unwaith eto.
Mae’n rhaid i ni edrych ar y system gynllunio hefyd a gwella’n gallu i negydu gyda’r sector preifat. Mae Caerdydd yn enghraifft dda yn y fan hon, e.e. datblygiad Aquilla ym Mae Caerdydd. Ond mae yna ffyrdd gwahanol o wneud pethau, e.e., fel Powys a gefnogodd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol drwy wneud rhodd o’r elw ar werthu darn o dir am werth y farchnad agored. Dylai awdurdodau lleol archwilio’r opsiynau sy’n gweddu orau iddynt.
Bydd bod â swyddogion Adran 106 pwrpasol yn helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol o fewn yr awdurdodau. Mae’r Pecyn Gwerthuso Datblygu wedi helpu hefyd a gellir ei ddefnyddio i herio datblygwyr. Dwi’n credu fod yr awdurdodau lleol am fynd i’r afael â’r materion hyn.
Rydym yn ceisio gwneud y gorau y gallwn gyda’r arian sydd ar gael ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat ill dau. Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o bwerau mewn perthynas â stoc y sector preifat a dylent fod â’r polisïau iawn wedi eu sefydlu, e.e. defnyddio benthyciadau yn lle grantiau.
Bydd yr arolwg o’r system reoli sy’n cael ei wneud gan Sue Essex yn edrych ar ffyrdd callach o ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael o fewn sector y cymdeithasau tai/LCCiaid.
Rhaid manteisio i’r eithaf ar yr arian ychwanegol.
Os bydd tenantiaid yn pleidleisio na i gynigion lleol i drosglwyddo’r stoc, fe fyddant i bob pwrpas wedi pleidleisio na i welliannau i’w cartrefi. Bydd yn rhaid i’r awdurdodau hyn gynnal trafodaethau pellach ac ailystyried eu hopsiynau. Mae yna broblem ynglŷn â hysbysrwydd – mae’n hanfodol fod tenantiaid yn cael gwybod beth yw oblygiadau pleidleisio na. Does dim 4ydd opsiwn.
Cyflawni
C -Beth ellir ei wneud i sicrhau y cyflawnir ymrwymiadau Cymru’n Un yn effeithiol?
Rhaid i awdurdodau lleol wneud asesiad anghenion, dod o hyd i gyflenwad tir pum-mlynedd, a bod â chynlluniau gweithredu i gyflawni’r nod o ddarparu tai newydd fforddiadwy – does dim llawer o le i wingo yn y fan hon – felly dwi ddim yn siŵr a oes angen i ni ystyried unrhyw fath o gosb.
Y ffordd dwi am weithio ynddi yw drwy ddenu awdurdodau lleol i ymuno â ni ar y daith.
O safbwynt y swyddogaeth dai strategol, dwi’n credu y bydd bod heb unrhyw stoc tai yn helpu rhai awdurdodau i sylweddoli fod y swyddogaeth strategol yn bodoli a’i bod hi’n bwysig. Efallai nad ydynt wedi bod yn canolbwyntio ar hynny hyd yma – a bydd trosglwyddo yn gyfle i ddatblygu’r swyddogaeth. Rhaid cofio, serch hynny, hyd yn oed os yw awdurdodau’n dal gafael ar eu stoc, fod ganddynt swyddogaeth strategol hefyd.
Rwy’n gwir gredu fod gan Gymru y gallu i ddatblygu ei hagenda ei hun mewn perthynas â thai a’i gweithredu yn effeithiol. Dwi’n aelod o Blaid Cymru, wedi’r cwbl! Mae gennym ein syniad ein hunain o beth yw cymunedau a beth yr hoffem iddynt fod.
Mae llawer o frwdfrydedd ynglŷn â’r gorchwyl sy’n ein hwynebu – dylem fanteisio ar hynny a lledaenu arfer da. Mae llywodraeth leol wedi teithio ymhell. Gyda dyfodiad Byrddau Gwasanaethau Lleol, rhaid i ni ofalu na fydd hyn yn atal awdurdodau rhag gweithio ar draws ffiniau – mae hynny’n rhywbeth i’r BGLlau peilot i’w archwilio. Mae cynllunio gofodol yn rhywbeth pur anodd i’w amgyffred – mae’n dipyn mwy na dim ond cynllunio.
Tai gwledig
C -Mae llawer o sylw yn cael ei roi i broblemau tai gwledig yng Nghymru ar y foment – sut hoffech chi weld y Cynulliad yn mynd i’r afael â phroblem diffyg fforddiadwyedd tai mewn ardaloedd cefn gwlad?
Rywf wedi cyfeirio eisoes at Hwyluswyr Tai Gwledig sy’n gwneud gwaith ardderchog yn darparu mewn cymunedau. Hoffem fod â mwy ohonynt, wedi eu cefnogi gan uned ganolog. Gallai Hwyluswyr weithio’n dda gydag Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol – rydym wedi clustnodi £100,000 ar gyfer Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol – ac mae tri chynllun peilot ar y gweill ym Mhowys. Mae llawlyfr yn cael ei gynhyrchu – dylem weld canlyniadau pendant yng ngwanwyn 2008.
Dwi’n credu y byddai swyddogion Adran 106 pwrpasol yn ddefnyddiol iawn hefyd ym mhob ardal.
Edrych tua’r dyfodol
C -Beth, yn eich barn chi, fydd y prif newidiadau mewn tai ar ôl 4 blynedd o’r llywodraeth gyfredol?
Wel, mi fydda’i wedi ymlâdd! Byddwn wedi cyflawni neu ragori ar ein nod o 6,500 o dai newydd fforddiadwy. Byddwn hefyd yn gweld buddiannau cyflwr gwell y stoc tai cymdeithasol. Bydd yr Hawl i Brynu wedi cael ei ohirio lle mae awdurdodau lleol yn gweld fod hynny’n broblem, a bydd ymrwymiadau Cymru’n Un wedi cael eu gwireddu, os nad yn llwyr, yna ymhell ar y ffordd tuag at hynny.
C -Allwch chi ddweud rhywbeth wrth ein darllenwyr amdanoch chi’ch hunan nad ydyn nhw’n debyg o fod yn ei wybod eisoes?
Cefais fy ethol yn gynghorydd lleol ym 1987 ar ôl cwrdd ag Aneurin Richards, cynghorydd Plaid Cymru ers tro byd yn Islwyn, yn dod allan o’r swyddfa bost. Gofynnodd i mi os gwnawn i sefyll am sedd leol a fedrwn i ddim meddwl am esgus digon da i wrthod. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ethol ond mi wnes.