English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Gwasanaethau Tai Conwy – Build4Life

Mae Ali Thomas yn cynnig gorolwg ar broject a gysylltodd â phobl ifanc dan anfantais a’u helpu i hyfforddi ac ennill cymwysterau mewn adeiladu a meysydd cysylltiedig.

Conwy Housing Services - Build4LifeCefndir

Fel rhan o ymgais i gael defnyddwyr gwasanaethau i chwarae mwy o ran yn y broses benderfynu, mae Gwasanaethau Tai Conwy a Chymdeithas Tai Clwyd yn cyd-redeg project â’r nod o ddatblygu mecanwaith i alluogi pobl ifanc ddigartref i gyfranogi yn natblygiad y gwasanaeth. Yn 2005, ymgynghorodd y Weithwraig Allgyrch Ieuenctid Digartref, Angela Watt, â phobl ifanc ddigartref i ddarganfod beth oedd eu hanghenion a’u gobeithion ynglŷn â llety dros-dro. Nododd y bobl ifanc y byddai adeiladu eu llety eu hunain yn ffordd o roi hyfforddiant a phrofiad gwaith iddynt ym maes adeiladu, yn ogystal â’r cyfle i fyw mewn eiddo roedden nhw eu hunain wedi helpu i’w adeiladu.

Sylweddolodd Pennaeth Tai Conwy, Andrew Bowden, fod cynlluniau i addasu dau eiddo yn llety dros-dro ar gyfer pobl ifanc yn gyfle i roi cynnig ar y fath gynllun yn ddioed. Teimlid y gellid tawelu pryderon y cyhoedd ynglŷn â’r ddau ddatblygaid pe bai pobl ifanc ddigartref yn cyfrannu at y gwaith adeiladu ac yn magu ymdeimlad o berchenogaeth ar yr eiddo. Teimlid hefyd y gallai’r project helpu i herio ystrydebau negyddol drwy arddangos y cyfraniad positif y gall pobl ifanc ddigartref ei wneud i gymdeithas.

Cafodd Cyd-drefnydd Datblygu Cymunedol adran Tai Conwy ei drosglwyddo i ddatblygu’r project Build4Life, a sefydlwyd grŵp llywio aml-asiantaeth, yn cynnwys cynrychiolwyr o:

  • Canolfan Byd Gwaith (CBG)
  • Gyrfa Cymru
  • Working Links
  • Cymdeithas Tai Clwyd
  • Dewisiadau Ieuenctid NACRO, a
  • Tîm Pathways Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cytunwyd i recriwtio dau dîm o dri pherson ifanc yr un, ac y byddai’r ddau dîm yn dilyn cwrs sefydlu byr i’w ddilyn gan chwe mis o brofiad gwaith gyda’r cwmnïau a oedd yn gwneud y gwaith ailwampio. Y bwriad oedd y byddai’r gwaith yn cychwyn ar y project cyntaf ym mis Medi 2006.

Conwy Housing Services - Build4LifeRhoi’r project ar waith

Denodd yr ymgyrch recriwtio gyntaf ym mis Mehefin 2006 ddeuddeg ymgeisydd o’r grŵp targed o bobl ifanc leol sy’n byw mewn llety dros-dro. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gwnaeth pymtheg arall gais i gael ymuno â’r ail grŵp; erbyn hynny, roedd y meini prawf cymhwyster wedi cael eu hehangu i gynnwys pobl ifanc â chefndir o ddiweithdra, diffyg cyflawniad addysgol, mewn gofal neu ar fin ymadael, neu mewn perygl o ymddwyn yn droseddol. Drwy broses gyfweld, detholwyd y chwe terfynol.

Yn y cyfamser, canolbwyntiodd y grŵp llywio ar ochr ymarferol y cynllun. Heb ddim cyllideb wedi ei chlustnodi ar ei gyfer a nemor ddim amser i bataroi ceisiadau am grantiau, roedd yn rhaid i’r project fod yn greadigol ynglŷn â sut i dalu am hyfforddiant a chyflogau. Y gred oedd y byddai gweithio drwy asiantaethau fel Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru a Working Links yn ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth a oedd yn bod eisoes ac yn gwneud y project yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Er iddi fod yn bosibl darparu hyfforddiant yn y ffordd hon, roedd y prosesau’n gymhleth a chymerodd sawl mis i ddod o hyd i lwybr drwy’r ddrysfa o ddewisiadau er mwyn creu rhaglen hyfforddi ar gyfer grŵp o ddysgwyr o wahanol oedrannau a gwahanol hawliau i fudd-daliadau. Golygai hefyd na allai’r project fod yn hyblyyg iawn ynglŷn â’r hyfforddiant y gallai ei gynnig. Y gobaith gwreiddiol oedd rhedeg cwrs ymarferol er mwyn ysbrydoli’r rhai a oedd wedi colli cysylltiad ag addysg. Fodd bynnag, roedd cyllido’r cynllun drwy Fargen Newydd CBG yn ddibynnol ar fod y dysgwyr yn ennill cymwysterau a/neu sicrhau swyddi; golygai hynny mai dim ond cwrs stafell-ddosbarth y gallai CBG ei gyllido yn y lle cyntaf, cwrs a fyddai’n arwain at dystysgrif y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CASA).

Er mwyn llenwi’r bwlch, talodd un o bartnertiaid y project am gwrs ymarferol pythefnos o hyd. Erbyn i’r ail gwrs gael ei drefnu, roedd y project wedi sicrhau cyllid i’w gefnogi gan Genesis Cymru, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy, a Cymorth, drwy gyfrwng Partneriaeth Pobl Ifanc Conwy. Diolch i’r cyllid ychwanegol, gallodd y project ddarparu gwersi gyrru a hyfforddiant fforch-godi. Llwyddodd y project i ddenu cyllid hefyd gan Sefydliad Links ar gyfer cludiant, gweithgareddau adeiladu tîm a setiau o offer personol.

Yr her nesaf oedd canfod ffynhonnell gyllid ar gyfer cyflogau wythnosol neu lwfansys hyfforddi. Yn ystod eu hyfforddiant, gallai’r rhai dros 18 oed hawlio budd-daliadau drwy raglen Bargen Newydd CBG. Fodd bynnag, doedd dim byd tebyg ar gael ar gyfer y rhai dan 18 oed, a dim ffordd y gallai’r un o’r rhai dan hyfforddiant barhau i dderbyn budd-daliadau yn ystod eu cyfnod profiad gwaith. Yn y man, cytunodd Tai Conwy i dalu cyflog i’r hyfforddedigion o’r gyllideb adnewyddu, gyda CBG yn darparu cymhorthdal cyflogau ar gyfer y rhai a oedd ar y Fargen Newydd.

Heb iddynt fod yn ymwybodol o’r problemau dyrys hyn yn y cefndir, cychwynnodd y grŵp cyntaf o hyfforddedigion ar eu hyfforddiant paratoadol ym mis Awst 2006. Yn ogystal â bod yn gyflwyniad i’r maes, roedd y cwrs yn gyfle i asesu ymrwymiad yr hyfforddedigion ac ymdrin ag unrhyw broblemau ynglŷn â phrydlondeb a phresenoldeb. Wrth ymuno â’r project, doedd y rhan fwyaf o’r hyfforddedigion ddim yn gyfarwydd â chodi’n gynnar a gweithio diwrnodau strwythuredig, a gweithiodd Cyd-drefnydd y Project yn galed i annog yr hyfforddedigion, gan eu ffonio’n gynnar yn y bore, prynu clociau larwm, curo ar ddrysau a thaflu cerrig at ffenestri. Parhaodd Cyd-drefnydd y Project, y Weithwraig Allgyrch Ieuenctid Digartref, a staff o wahanol asiantaethau a gefnogai’r project i roi cefnogaeth i’r hyfforddedigion drwy gydol y project.

Ar ôl problemau cychwynnol gyda phrydlondeb, roedd y record fynychu yn wych ar y cyfan, er mor gynnar roedd yn rhaid cychwyn, a’r daith bell ar gludiant cyhoeddus. Roedd y tystysgrif CASA, sy’n hanfodol ar gyfer gweithio ar safle adeiladu, yn boblogaidd gyda’r hyfforddedigion, yn enwedig gan y gwnaed y cwrs stafell-ddosbarth yn fwy diddorol drwy gynnwys ymweliadau â’r safle, ac ychwanegu rhai sesiynau ymarferol. Enillodd yr hyfforddedigion dystysgrifau CASA, trin a thrafod â llaw, olwynion ysgrafellog, cymorth cyntaf ac asesu risg, yn ogystal â thrwyddedau trin peiriannau fforch-godi, llwyfan gwaith uchel, a dyrchafwyr siswrn a thelesgopig.

Cychwynnodd yr hyfforddedigion o’r grŵp cyntaf ar eu cytundeb chwe-mis gyda GM Jones Cyf ym mis Medi 2006. Cawsant brofiad mewn amrywiaeth eang o grefftau, yn cynnwys plastro, peintio ac addurno, teilio a gwaith saer. Cafwyd presenoldeb o 100% drwy gydol y cytundeb.

Oherwydd oedi gyda’r caniatâd cynllunio ar yr ail gynllun ailwampio, gwahoddwyd yr ail dîm hyfforddi i dreulio cyfnod gwaith gyda thîm atgyweirio ymatebol Cynnal a Chadw Adeiladau yr adran Tai. Dewisodd un o’r grŵp fanteisio ar gynnig gwaith arall gyda chwmni fforch-godi lleol. Dechreuodd yr hyfforddedigion eraill weithio gyda Chynnal a Chadw Adeiladau a chael profiad o waith saer a gwaith plymer.

Gwerthuso

Conwy Housing Services - Build4LifeYsywaeth, roedd y tu hwnt i fodd y project i allu cynnig cymwysterau NVQ o fewn yr amser a oedd ar gael. Ni allwyd gwireddu’r syniad gwreiddiol o’r grŵp yn symud i mewn i’r llety adnewyddedig ychwaith, gan fod y rhai a gwblhaodd yr holl gwrs wedi cael llety addas arall erbyn i’r cynllun ddod i ben. Ac eto, er gwaethaf y rhwystrau hyn, cytunai’r hyfforddedigion yn y gwerthusiad ar ddiwedd y project fod Build4Life wedi rhoi cyfle unigryw iddynt, a’i fod hyd yn oed yn well na’u disgwyliadau. Roedd pob un ohonynt wedi methu yn eu hymdrechion blaenorol i sicrhau gwaith adeiladu, a chredent fod profiad gwaith chwe-mis gwarantedig Build4life wedi cynnig cyfle iddynt i ddysgu sgiliau ymarferol a chael profiad o amgylchedd gwaith go iawn, yn ogystal â sgiliau bywyd fel magu hyder, rheoli dicter a llunio cyllideb. Nodent fod y gefnogaeth gyson a pharhaus yn enwedig yn gwneud Build4Life yn wahanol i gynlluniau hyfforddi eraill:

‘Mae help ar gael i ddelio gyda phethau os ydych chi’n poeni ynglŷn ag unrhyw beth. Mae rhywun yn cadw llygad, i weld sut rydych chi’n gwneud, rydym yn teimlo mwy o ofal amdanom, yn teimlo ein bod yn cyrraedd rhywle.’


Astudiaeth unigol 1

Roedd Lindsey Roberts yn ddiwaith pan glywodd am Build4Life gan ei gweithiwr ymadael â gofal. Roedd wedi ceisio, dros ar ôl tro, am brentisiaeth gwaith saer, ond heb lwyddiant, yn rhannol oherwydd nad oedd ganddi drwydded yrru. Disgleiriodd Lindsey yn ystod ei chyfnod gwaith gyda GM Jones Cyf, a gwnaeth ei sgiliau a’i hagwedd argraff ar ei chyflogwyr, yn ogystal â’i gallu i ddal ei thir mewn gweithlu a oedd fel arall yn ddynion i gyd. Pan ddaeth Build4Life i ben, cynigodd GM Jones gytundeb gwaith pellach iddi, ar yr amod ei bod yn ennill ei thrwydded yrru o fewn chwe mis. Mae wrthi’n cael gwersi gyrru ar hyn o bryd, gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy yn talu amdanynt, ac mae’n gwneud yn wych. Yn ddiweddar, enillodd Lindsey le yng Ngholeg Llandrillo i wireddu ei breuddwyd ers cyhyd o brentisiaeth fel saer coed.


Astudiaeth unigol 2

Roedd Tom McCullum yn ddwy ar bymtheg a heb gysylltiad â gwaith, addysg na hyfforddiant pan gafodd ei annog gan ei weithiwr Cadw mewn Cysylltiad Gyrfa Cymru i ymgeisio am le ar Build4Life. Ar ôl dechreuad petrusgar, magodd fwy o ddiddordeb pan ddechreuodd hyfforddi ar gerbyd fforch-godi, ac enillodd amryw o drwyddedau â bri. Roedd ei gydweithwyr yn nhîm Cynnal a Chadw Adeiladau yr Adran Dai yn uchel eu clod wrth sôn am ei bersonoliaeth siriol a’i sgiliau ymarferol ardderchog. Er iddo fwynhau ei gyfnod gwaith gyda’r tîm, mae’n eiddgar i ddilyn gyrfa gyda pheiriannau trwm. Mae mewn safle da iawn i wneud hynny nawr, gyda CV trawiadol dros ben am rywun deunaw oed, ac mae’n bwriadu mynychu sesiynau chwilio am swydd gyda Gyrfa Cymru.


Yn ôl gwerthusiad gyda phartneriaid y project, roedd natur aml-asiantaeth y project o bwys hanfodol i’w lwyddiant. Chwaraeodd aelodau o’r grŵp llywio ran hollbwysig mewn dod â gwybodaeth ac arbenigedd i gynllunio a siâp y cynllun, gan weithio’n galed i ddileu rhwystrau. Cynhaliodd y project berthynas waith wych gyda chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant hefyd. Gweithiodd yr holl bartïon â’u holl galon ar y project, yn aml gan ddarparu gwasanaethau ac adnoddau ychwanegol o fewn terfynau amser tynn, a bu unigolion allweddol yn llefarwyr dros y project. Nodai pawb ymdeimlad o berchenogaeth ar y cynllun, a chred yn y nodau a’r amcanion y cytunwyd arnynt.

Beth nesaf?

Mae’r cynllun peilot wedi dod i ben, ond gwnaed cysylltiadau gyda grŵp aml-asiantaeth yn y sir drws nesaf, sef sir Ddinbych. Mae’r ddwy sir gyda’i gilydd yn gobeithio datblygu project a fydd yn defnyddio cymalau cymdeithasol i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Safon Ansawdd Tai Cymru a chytundebau cynnal a chadw ac ailwampio eraill sydd ar y gweill. Bwriedir cynnal digwyddiad ymgynghori gyda chynrychiolwyr o bob sector i bwyso a mesur y model arfaethedig yn feirniadol, gyda’r bwriad o ymgeisio am gyllid.

Mae Build4Life wedi dangos ei bod hi’n bosibl manteisio ar y posibiliadau a gynigir gan brojectau adfywio lleol i ymgysylltu â phob ifanc dan anfantais. Mae cynllun o’r math hwn o fudd i bawb:

  • cwmnïau adeiladu sy’n wynebu prinder sgiliau
  • asiantaethau cyflogaeth sy’n chwilio am ganlyniadau o ran hyfforddi a swyddi
  • asiantaethau cefnogi sy’n ceisio sicrhau canlyniadau positif ar gyfer eu cleientiaid
  • landlordiaid cymdeithasol sy’n ceisio darparu atebion cyfannol i broblemau eithrio cymdeithasol, ac
  • yn bwysicaf oll, y bobl ifanc eu hunain

‘Mae cynnig gwell cychwyn mewn bywyd i bobl ifanc fel ni. Mae’n helpu pobl sy’n meddwl fod ganddyn nhw ddim byd i fod â rhywbeth.’

Ali Thomas oedd Cyd-drefnydd Project Build4Life.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »