English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Adeiladu tai neu greu cymunedau?

Crynodeb gan WHQ o arolwg y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy o berfformiad y llywodraeth o ran creu cymunedau cynaliadwy.

Cefndir

Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy sy’n arolygu datblygu cynaliadwy ar ran Llywodraeth y DU, ac mae’n atebol i Brif Weinidog y DU a Phrif Weinidogion Cymru a’r Alban. Mae’r Comisiwn wedi gwneud arolwg thematig o’r Cynllun Cymunedau Cynaliadwy a lansiwyd yn 2003 fel rhaglen gynhwysfawr o adnewyddu a thwf tymor-hir. Er bod y Cynllun Cymunedau Cynaliadwy yn gynllun penodol i Loegr, mae canlyniadau’r arolwg yn berthnasol i Gymru hefyd.

Y diffiniad o gymunedau cynaliadwy a ddefnyddir yn y Cynllun yw:

‘Mannau y mae pobl am fyw a gweithio ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol. Maent yn ateb anghenion amrywiol preswylwyr presennol a rhai’r dyfodol, yn sensitif i’w hamgylchedd ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd da. Maent yn ddiogel ac yn gynhwysol, wedi eu cynllunio, eu hadeiladu a’u rhedeg yn dda, ac yn cynnig cyfle cyfartal a gwasanaethau da i bawb.’

Cymharer hyn ag egwyddorion datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth a fynegwyd yn Strategaeth Ddatblygu Cynaliadwy 2005, Securing the Future:

‘rydym am gyflawni ein nod o fyw o fewn terfynau amgylcheddol a chymdeithas gyfiawn, ac fe wnawn hynny drwy gyfrwng economi gynaliadwy, llywodraeth dda a gwyddoniaeth ddibynadwy.’

Mae’r arolwg yn archwilio, yn enwedig, yr hyn a wneir – ac y dylid ei wneud – i gydbwyso ymyriadau’r llywodraeth yn ardaloedd twf de-ddwyrain Lloegr a’r ardaloedd adnewyddu marchnad dai yng ngorllewin a gogledd y wlad â’r egwyddorion sy’n ganllawiau ar gyfer datblygiad cynaliadwy.

Beth yw effeithiau amgylcheddol polisïau tai a chymunedau’r llywodraeth?

Mae canlyniadau allweddol yr arolwg yn cynnwys y canlynol:

  • mae effeithiau adeiladu tai newydd ar newid hinsawdd a’r cyflenwad a’r galw am ynni yn debyg o fod yn anferth, yn enwedig gan nad yw safonau sylfaenol adeiladu tai hyd yma yn canolbwyntio ar ddarparu yng nghyd-destun anghenion economi sy’n gorfod cyfyngu ar garbon. Er bod camau newydd, e.e. datblygiadau carbon-sero, yn cael eu datblygu, mae’n amlwg y bydd y mwyafrif o fentrau adeiladu tai cyfredol a rhai sydd yn yr arfaeth rhwng 2006 a 2016 yn cyfrannu at gyfanswm allyriadau carbon y DU
  • rhaid mynd i’r afael â rhaglenni ailwampio tai ac adfywio gyda’r un egni ag adeiladu tai newydd o safbwynt gwella effeithlonrwydd ynni
  • mae effaith y rhaglen dai ar y defnydd a wneir o dir ac adnoddau naturiol yn anferth. Mae angen dybryd am ddatblygu polisïau a mesurau i fynd i’r afael â phrinder dŵr. Mae cynyddu dwysedd tai trefi a dinasoedd presennol yn llawer mwy cynaliadwy na chreu cymunedau newydd yn tu allan iddynt
  • mae’r ffordd yr ymdrinir â gofodau gwyrdd a’r amgylchedd naturiol yn amrywio’n aruthrol. Mae gan y llywodraeth ran i’w chwarae o ran sicrhau dull llawer mwy systematig o gynyddu faint o ofod gwyrdd a geir ym mhob datblygiad. Mynegir pryder neilltuol ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’r drefn gynllunio a allai danseilio arfer da mewn cynllunio neu ddatblygu cynaliadwy

A ydy polisïau tai a chymunedau’r llywodraeth yn helpu i hyrwyddo cymdeithas gref, iach a chyfiawn ac economi gynaliadwy?

Mae canlyniadau allweddol yr arolwg yn cynnwys y canlynol:

  • er mwyn i’r llywodraeth allu cyflawni ei gweledigaeth o gymunedau cynaliadwy yn llawn, bydd yn rhaid wrth ymyriad a chyllid cyhoeddus sylweddol, ochr yn ochr ag ymdrechion preifat, dros gyfnod maith. Dydy hi ddim yn amlwg y bydd y cyllid priodol ar gael ar yr adeg briodol, a gyda sicrwydd digonol, i allu gwireddu bwriadau da. Mae’r ardaloedd adnewyddu marchnad dai, yn enwedig, yn dioddef oherwydd y terfynau amser byr iawn ar gyfer dyrannu cyllid sy’n ei gwneud hi’n anodd cynllunio a darparu ar gyfer y tymor hir
  • mae nifer o faterion yn codi mewn perthynas â chydlynedd cymunedol. Does gan ddatblygiadau tai ‘noswylio’ mewn rhai ardaloedd ddim sail gymunedol. Mewn cyferbyniad llwyr, mae rhaglenni dymchwel tai yn yr ardaloedd adnewyddu marchnad dai wedi ennyn gwrthwynebiad cryf gan y gymuned. Gall cynllunio a dyluniad tai effeithio’n ddramatig ar gydlynedd cymdeithasol a hiliol. Mae’r ffaith fod dymchwl ac ailadeiladu yn yr ardaloedd adnewyddu marchnad dai yn fwy deniadol nag ailwampio stoc presennol oherwydd ffactorau cyllidol yn cael ei weld fel canlyniad gwrthnysig i raglen sydd i fod i hyrwyddo cynaliadwyedd
  • nodwyd enghreifftiau da o gyfathrebu â’r gymuned gan yr arolwg, ond mae hynny wedi cyfrannu at asesiadau negyddol gan y Comisiwn Archwilio o ran cyflymdra’r gweithredu mewn ardaloedd adnewyddu marchnad dai. Mae angen i’r cyfathrebu â’r gymuned fod yn drylwyr ac yn helaeth, a dylid cydnabod a chefnogi hynny drwy drefniadaeth arolygu
  • cafwyd fod enghreifftiau o ddiffyg cyswllt difrifol rhwng y ddarpariaeth dai a darparu gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, cludiant, gofal iechyd, ac ati, y gellid eu priodoli, i raddau, i fodolaeth ffrydiau cyllido gwahanol. Mae angen sicrhau cyllid o flaen llaw ar gyfer cludiant cynaliadwy ac isadeiledd gwasanaethau cyhoeddus fel bod y rhain yn eu lle yr un pryd â’r tai
  • dylai cymunedau gael eu cynllunio a’u datblygu o’r cychwyn cyntaf i fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle i wella iechyd pobl leol a lleihau anghydraddoldeb iechyd. Os bwrir ymlaen â pholisi tai a chynllunio heb ystyried egwyddorion datblygu cynaliadwy, yna bydd nodau’r llywodraeth o wella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldeb iechyd a mynd i’r afael â gordewdra yn llawer anos eu cyflawni
  • tuedd i weld ffyrdd fel yr unig ateb i anghenion cludiant ardaloedd newydd eu datblygu
  • nid yw’r problemau adfywio economaidd sydd mor ddifrifol mewn llawer o ardaloedd gogledd a chanolbarth Lloegr yn cael eu cyd-gysylltu’n ddigonol gyda’r agenda dai mewn rhai ardaloedd

A ydy polisïau tai a chymunedau’r llywodraeth yn cael eu gweithredu a’u monitro’n effeithiol?

Mae canlyniadau allweddol yr arolwg yn cynnwys y canlynol:

  • mae’r prosesau gweithredu a monitro a sefydlwyd gan y llywodraeth yn tueddu i fesur canlyniadau a thargedau tai tymor-byr yn hytrach na chanlyniadau ehangach o ran cymunedau cynaliadwy

Argymhellion

Mae’r arolwg yn cynnig nifer fawr o argymhellion, yn cynnwys y canlynol:

  • dylai’r llywodraeth gynyddu’r lleiafswm dwysedd tai mewn canllawiau cynllunio i ddisgwyliad o 50 annedd yr hectar, lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • dylai’r targed tir brown y DU gynnwys eiddo masnachol yn ogystal â thai annedd, a dylai gynyddu i 75% erbyn 2008
  • dylid diweddaru canllawiau cynllunio ar sail egwyddorion datblygu cynaliadwy 2005
  • y llywodraeth i ddatblygu a hyrwyddo defnydd Cod Cartrefi Cynaliadwy a fydd yn cynnwys cartrefi presennol
  • y llywodraeth i lunio amserlen ar gyfer codi safonau’r rheoliadau effeithlonrwydd dŵr mewn cartrefi newydd
  • cyd-drefnu mwy effeithiol rhwng adrannau’r llywodraeth fel y gellir darparu ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gydamserol â datblygiadau tai lleol
  • y llywodraeth i ystyried caniatáu cyfnod mwy hyblyg a hwy ar gyfer gwario cyllid, a mwy o hyblygrwydd yn y rhaniad rhwng arian cyfalaf a refiniw
  • TAW o 5% ar bob cartref newydd gyda’r un gyfradd ar waith adnewyddu
  • rhaglenni adfywio a gyllidir ag arian cyhoeddus i gael eu hadeiladu i safon uchaf y Cod Cartrefi Cynaliadwy, gan roi cyhoeddusrwydd eang i astudiaethau achos o arfer adnewyddu da

Mae’r adroddiad llawn â’r papurau cysylltiedig ar gael ar-lein.


Cynaliadwyedd ar waith yng Nghymru

Ar ddiwedd 2006, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ymgynghorwyr i ddatblygu polisi datblygu cynaliadwy ar gyfer tai, fel dogfen y gellid cyfeirio ati wrth iddo lunio ei strategaeth dai leol.

Defnyddiwyd y dull Spectrum Appraisal ar gyfer y gwaith, a wnaed gan Powell Dobson Urbanists a Chanolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Dinasoedd Iach a Pholisi Trefol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae’r dull Spectrum Appraisal, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Gydweithio ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, yn galluogi’r rhai sy’n penderfynu i fwrw golwg gyflym ond gyfannol ar broject datblygu neilltuol o safbwynt cynaliadwyedd. Mae’n crynhoi cryfderau a gwendidau project, ac felly gall fod yn ddefnyddiol mewn trafodaethau cyhoeddus a gwleidyddol yn ogystal â rhai proffesiynol a thechnegol. Pennir cyfres o feini prawf y bydd datblygiad yn cael ei farnu yn eu herbyn. Er y byddid yn mynd ati i gytuno ar feini prawf penodol ar gyfer pob project unigol gyda budd-ddeiliaid, gallai’r meysydd y byddai’n briodol eu hystyried gynnwys:

  • ecoleg fyd-eang – allyriadau carbon
  • cyfalaf naturiol – anifeiliaid gwyllt, tir, dŵr, dulliau a deunyddiau adeiladu
  • darpariaeth gymdeithasol – y stoc tai a thai fforddiadwy, cyfleusterau cymdeithasol a gofod cymdeithasol
  • mynediad a symudiad – hygyrchedd, llwybrau cerdded a beicio, symudiad cerbydau a pharcio
  • yr amgylchedd lleol – ansawdd yr aer a sŵn, treftadaeth leol, diogelwch a phreifatrwydd, ac ansawdd mannau cyhoeddus
  • cyfalaf economaidd – ymarferoldeb y project, creu swyddi lleol
  • prosesau – y rhan a chwaraeir gan fudd-ddeiliaid a rheolaeth feunyddiol

Gyda phob maen prawf y cytunwyd arno, gellir barnu a ydy’r project wedi cyrraedd:

  • lefel ardderchog o gynaliadwyedd lle mae’r maen prawf cynaliadwyedd wedi ei fodloni’n llwyr
  • lefel dda o gynaliadwyedd lle mae’r maen prawf cynaliadwyedd wedi ei fodloni ar y cyfan, o leiaf i’r lefel sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau ar hyn o bryd
  • lefel sy’n agored i drafodaeth, lle ceir mesur sylweddol o arfer anghynaliadwy neu amheus y gellid (yn ddamcaniaethol, o leiaf) ei unioni drwy ddulliau ymarferol
  • lefel sy’n broblem ddifrifol, lle nad yw’r maen prawf yn debyg o gael ei fodloni yn foddhaol heb ailasesu sylfaenol, newid tybiaethau sylfaenol y datblygiad, neu weithredu mewn maes cysylltiedig (ond annibynnol)
  • lefel annerbyniol lle nad yw hi’n bosibl bodloni’r maen prawf

Mae’r dull yma yn nodi y dylai buddsoddwyr fod yn dymuno ennill graddau ardderchog neu dda ar draws yr holl feini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer y datblygiad. Ond y peth allweddol yw sicrhau’r ateb gorau posibl mewn sefyllfa neilltuol. Felly, dylid cymharu gwahanol opsiynau, a chymharu’r opsiynau hynny gyda’r sefyllfa pe byddid yn ‘gwneud dim byd’ neu’n ‘gadael llonydd i bethau’.

Mae gwybodaeth ynglŷn â gwaith y Ganolfan Gydweithio ar gyfer Dinasoedd Iach a Pholisi Trefol ar gael ar-lein.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »