Mae’r ffordd holistig o fynd ati i wella stadau a sefydlwyd gan Cymoedd i’r Arfordir (V2C) yn dechrau cyflymu. Cwblhawyd cynlluniau gweithredu a fydd yn golygu arbrofi gydag amrediad o welliannau arloesol mewn partneriaeth gyda thenantiaid a phreswylwyr lleol. Yn yr erthygl yma, mae Nigel Draper yn egluro sut yr aed ati ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cefndir
‘Gwyddem o’r cychwyn fod gwella statau cyngor sydd wedi dirywio yn golygu mwy na dim ond ceisio bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Gwyddem y byddai gwrando ar anghenion pobl leol ac yna gweithio mewn modd cydgysylltiedig yn arwain ar ganlyniadau mwy cynaliadwy.’
Dechreuodd Rhaglen Gwella Stadau (RhGS) V2C ym mis Awst 2005 gyda phenodi tîm aml-ddisgyblaethol o ymgynghorwyr, dan arweiniad Powell Dobson Urbanists (PDU), gyda chefnogaeth Ashton Associates Wales, Barbara Castle Cyf, John Campion Associates ac Anthony Jellard Associates.
‘Roedd V2C wrth ei fodd mai consortiwm lleol a enillodd y cytundeb a oedd yn agored i gynigion ledled y DU. Gwnaeth eu record argraff fawr arnom, ynghyd â’r dyfnder profiad a’r wybodaeth arbenigol a gynigai tîm PDU. Cyfiawnhawyd ein penderfyniad i’w penodi gan safon uchel eu gwaith a’r atebion arloesol, ond ymarferol iawn, a gynigir ganddynt.’
Bwriedid i’r rhaglen ganfod a mynd i’r afael â gwelliannau allweddol ar bedair stad V2C (Marlas, Wildmill, Caerau Park a Tudor). Roedd pob stad yn cyflwyno sawl her ffisegol wahanol, yn deillio o gynllun y strydoedd, dyluniad y tai a thirwedd yn ogystal â chasgliad cymhleth o broblemau cymdeithasol. Mabwysiadodd V2C fethodoleg a olygai y gallai gwersi a ddysgwyd o’r ardaloedd hyn gael eu cymhwyso i rannau eraill o stoc tai V2C.
Roedd y RhGS yn cynnwys nifer o gamau, ac ymgynghorwyd yn gyson â thenantiaid a phreswylwyr i:
- helpu i ganfod beth oedd y problemau lleol pwysig
- cadw mewn cysylltiad â realiti yn gyson, a
- chreu ymgeimlad gwirioneddol o berchenogaeth ac ymrwymiad ar bob stad
Crynhoir y camau yn y tabl isod:
Cam | Amserlen |
Archwiliad a nodi materion a phroblemau | Medi/Rhagfyr 2005 |
Ymgynghoriad cymuned rhif 1 | Rhagfyr 2005 |
Dadansoddi a blaenoriaethu problemau allweddol | Gwanwyn 2006 |
Cynigion i ddatrys/ymdrin â phroblemau allweddol | Haf 2006 |
Ymgynghoriad cymuned rhif 2 | Gorffennaf 2006 |
Datblygu projectau peilot i roi prawf ar/archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella stadau | Hydref 2006 |
Llunio cyllidebau a chynllunio’r gweithredu | Rhagfyr 2006/Ionawr 2007 |
Ymgynghoriad cymuned rhif 3 | Mawrth 2007 |
Gweithredu’r cynlluniau peilot a bwrw ati | 2007-2010 |
Problemau allweddol
Yn y cyfnod archwiliad, archwiliwyd amrywiaeth o ffactorau yn cynnwys
- lleoliad daearyddol a chyd-destun
- cynllun a’r amgylchedd adeiliedig
- tirlun a gofod cyhoeddus, preifat a dienw
- ansawdd yr amgylchedd
- symudiad a chysyllteddau
- cyflenwad a galw am dai
- dadansoddiad o aelwydydd a phroffil demograffig
- gwasanaethau cymuned a materion datblygu cymuned
Yn ogystal ag ymateb i gwestiynau’n ymwneud â’r uchod, gwahoddwyd tenantiaid a phreswylwyr hefyd i ddisgrifio’r problemau a’r materion allweddol sy’n wynebu pobl sy’n byw ar y stadau. Ymgynghorwyd mewn nifer o ffyrdd gwahanol, yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un, cerdded o gwmpas stadau gyda phobl leol, cynghorwyr a budd-ddeiliaid eraill, a chyfarfodydd ymgynghori.
Roedd y materion a gododd yn ystod yr archwiliad a’r ymgynghori gyda’r gymuned yn cynnwys:
- problemau yn gysylltiedig â pharcio, traffig a diogelwch ar y ffordd/stryd
- defnydd anaddas/ymddygiad sy’n niwsans mewn mannau cymunedol/cyhoeddus
- diffyg gofod preifat, amddiffynadwy o gwmpas cartrefi
- problemau yn gysylltiedig â gweithgareddau gwrth-gymdeithasol ar leiniau mawr o dir glas, agored ‘dienw’
- dyluniad adeiladau a chynllun strydoedd nad ydyn nhw’n addas i’w diben bellach
- diffyg cyfleusterau chwarae, difyrrwch a hamdden ar gyfer pob grŵp oedran
- diffyg cyfleusterau cymuned
Er bod staff V2C yn gwybod yn iawn am broblemau cyffredinol ar y stadau hyn, mae’r gwaith gan PDU a’r ymateb gan denantiaid a phreswylwyr wedi bod yn gymorth aruthrol i helpu V2C i ddatblygu ymateb cydlynol.
Prif gynlluniau a phrojectau peilot lleol
Yn ystod haf 2006, paratowyd prif gynllun ar gyfer pob stad a oedd yn sefydlu cyd-destun a sail gref ar gyfer y gwaith o wella pob stad mewn modd cynhwysfawr a holistig. Cyflwynodd PDU nifer o argymhellion strategol hefyd yn ymwneud â rheolaeth cymdogaethau a datblygu canolbwyntiau gwasanaethau cymuned. Mae’r argymhellion hyn yn cydfynd yn fras â strategaeth V2C ei hun ac maent yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Dîm Rheolaeth V2C.
Ar sail fwy manwl, lluniodd y tîm ymgynghorwyr aml-ddisgyblaeth gyfres o gynigion i fynd i’r afael â phroblemau allweddol mewn lleoliadau neilltuol. Rhoddwyd prawf ar y cynigion hyn drwy ymgynghori pellach ar y stadau a gweithdai ar gyfer budd-ddeiliaid cyn cael eu datblygu’n brojectau peilot annibynnol penodol yn ystod rhan olaf 2006.
Ymateb V2C
Mae V2C wedi derbyn y cynlluniau peilot arfaethedig, a gyda chefnogaeth PDU a’r tirfesurwyr costau Davis Langdon, maent newydd gwblhau cyfres o weithdai cyllidebu a chynllunio. Mae’r broses hon wedi galluogi V2C i flaenoriaethu’r ymyriadau arfaethedig a symud tuag at weithredu’r gyfres gyntaf o brojectau peilot yn 2007/08.
Mae’r projectau peilot a fydd yn mynd i’r afael â’r elfennau allweddol yn y broses o gyrraedd SATC a gwella’r amgylchedd allanol ar bob stad yn sylfaenol yn cynnwys:
Stad Marlas
- Creu gerddi amgaeëdig a darparu llefydd parcio ceir
- Cysylltu strydoedd
- Gwella gofod cyhoeddus
- Creu Parthau Cartref
- Lotmenti cymuned a gerddi cymunedol
Stad Wildmill
- Gwella fflatiau a chloddiau terfyn
- creu gerddi amgaeëdig (tu cefn)
- Gwella gerddi tu blaen
- Harddu golwg y strydoedd
Stad Parc Caerau
- Tirlunio a gwella gofod cymunedol
- Darparu llefydd parcio oddi ar y stryd
- Plannu/goleuo strydoedd
- Llwybrau troed
- Plannu i sgrinio
Stad Tudor
- Gwella’r fynedffordd a’r cynllun
- Gwneud y lloc biniau/man ailgylchu yn ddiogel
- Plannu i sgrinio
- Creu llefydd parcio o fewn golwg pobl
- Gwella’r llwybr troed i’r parc cymunedol
Creu gerddi preifat a gwell gofod amddiffynadwy
Bydd y gyfres gyntaf o gynlluniau peilot ar gyfer 2007/08 yn ceisio datrys problem lleiniau mawr o dir agored ‘dienw’ a’r diffyg gofod preifat, amddiffynadwy o gwmpas cartrefi pobl.
Mae nifer o anawsterau’n codi o ddyluniad a chynllun nifer o stadau V2C. Nid yw’r cynllun ‘Radburn’ a fabwysiadwyd gan lawer o benseiri a chynllunwyr cyngor lleol pan adeiladwyd y stadau yn addas i’r diben mwyach, ac mae angen ailddylunio sylfaenol i alluogi’r ardaloedd hyn i fod yn gynaliadwy. ‘Dwi’n cofio John Rouse o’r Gorfforaeth Tai yn Lloegr yn dweud nad oes dewis arall ond llawdriniaeth sylfaenol ac ymosodol i wneud ‘radburn’ yn gynaliadwy, ac ar sail ein profiad ninnau hyd yma, dwi’n siwr ei fod e’n iawn’, meddai Nigel.
Datgelodd yr ymgynghoriadau cymuned ar y pedair stad fod diogelwch y gymuned yn flaenoriaeth bwysig. Ar stadau Marlas, Wildmill a Tudor, yn enwedig, datgelodd yr ymgynghori alw mawr am drawsnewid tir glas dienw a chreu mathau mwy diogel ac amddiffynadwy o ofod preifat a chymunedol.
Bwriad V2C yw defnyddio proses gynllunio ymarferol, realistig a chynhwysol dros ben gyda thenantiaid a phreswylwyr lleol i ddylunio cynllun a therfynau’r gerddi newydd a’r lleiniau cymunedol. Rhagwelir y bydd prif rannau’r gwaith sydd ei angen yn gymharol syml, a bydd yn cynnwys:
- dymchwel/dileu ffiniau/waliau presennol
- creu ffiniau newydd rhwng gerddi unigol
- creu ffiniau newydd ger gofodau cyhoeddus/cymunedol
I allu delio’n gymwys â phreifatrwydd, diogelwch a diogelwch cymunedol, yn ogystal â gallu gwneud gwelliannau cynaliadwy i amgylchedd y stad yn gyffredinol, mae’n amlwg fod yn rhaid cynnwys pob eiddo mewn stryd neilltuol yn y project. Oni all V2C gynnwys pob eiddo, byddai’n methu bodloni anghenion diogelwch pobl leol.
Cyfyngiadau fforddiadwyedd
Mae holl stadau V2C yn gymysgedd o wahanol fathau o ddeiliadaeth. Y prif rai yw:
- tenantiaid V2C
- prydleswyr V2C
- perchen-feddianwyr preifat
- tenantiaid preifat
Mae ymchwil a wnaed fel rhan o’r RhGS yn dangos fod llawer o denantiaid y stadau RhGS yn ddibynnol ar fudd-daliadau. Mae llawer o berchen-feddianwyr hefyd yn ased-gyfoethog/incwm-dlawd, ac efallai’n ddibynnol ar fudd-daliadau hefyd, sy’n codi problem fforddiadwyedd a allai effeithio ar allu V2C i wneud y newidiadau angenrheidiol.
O ran tenantiaid V2C, gall y gymdeithas wneud y gwaith a’r newidiadau angenrheidiol ond sicrhau eu cydsyniad a’u cydweithrediad. Er mwyn cynnwys pob eiddo mewn stryd, mae V2C yn awgrymu sefydlu dwy egwyddor allweddol ar gyfer perchenogion preifat. Yr egwyddor gyntaf yw y bydd tir yr ardd amgaeëdig yn cael ei roi fel rhodd – trosglwyddiad rhad ac am ddim i’r perchen-feddiannwr. Rhagwelir hefyd y gofynnir i’r perchennog am gyfraniad yn seiliedig ar gyfartaledd cost y gwaith yr aelwyd.
Bydd llawer o berchen-feddianwyr yn gallu cynyddu eu benthyciad morgais neu sicrhau benthyciad o fan arall wedi ei seilio ar y cynnydd yng ngwerth eu heiddo. Fodd bynnag, lle na all pobl fforddio hynny, mae V2C yn gweithio gydag Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau dewis pellach/amgen. Os byddwn yn ystod y projectau peilot, yn dod ar draws aelwydydd lle mae gallu talu yn broblem ddifrifol, byddwn yn ymdrin â’r rhain fesul achos.
Bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu profi a’u gwerthuso drwy ymgynghori a negydu yn ystod y cyfnod peilot ac, os bydd hynny’n briodol, awgrymir gwelliannau pellach i’r broses.
Cyfyngiadau technegol
Efallai y bydd cyfyngiadau pellach, technegol eu natur, ar y projectau, yn cynnwys:
- lleoliad gwasanaethau
- hawliau tramwy sefydliedig
- llwybrau troed a phriffyrdd mabwysiedig
- trosglwyddo eiddo/teitl ar ran grŵp
- cymeradwyaeth Llywodraeth y Cynulliad
Bydd y broses beilot yn gyfle i archwilio’r materion hyn a sefydlu prosesau i oresgyn y rhwystrau hyn. Mae’n cyfarfyddiad cyntaf gydag Adrannau Cynllunio a Phriffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn hwyluso’r projectau peilot wedi bod yn bositif ac yn adeiladol.
Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw
Ochr yn ochr â’r gwelliannau a’r gwaith o greu gerddi preifat, mae Tîm Pobl a Llefydd V2C yn ymchwilio i ffynonellau grantiau a chyllid project i gefnogi datblygu sgiliau garddio ar stadau ac i hyrwyddo garddio fel elfen mewn ffyrdd iach o fyw. Mae V2C yn fwriadol wedi ymdrechu i gyfuno ffyrdd o ddatblygu cymuned er mwyn creu gallu ynddi ochr yn ochr â thrawsnewid amgylchedd allanol stadau.
Edrych ymlaen
‘Mae’r cyfle i ddechrau trawsnewid y stadau hyn yn gyffrous, ond gwyddom y bydd cyfnod nesaf ein gwaith yn gymhleth ac yn gryn her,’ meddai Nigel. ‘Fodd bynnag, rydym yn argyhoeddedig mai dulliau a methodoleg y cynlluniau peilot, ynghyd â’n hymrwymiad ninnau i weithio gyda phobl leol bob cam o’r ffordd, sy’n cynnig y cyfle gorau o lwyddiant.’
Nigel Draper yw Rheolydd Adfywio Cymunedau V2C, Nigel.Draper@v2c.org.uk.