English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dadlau’r Achos Tai

Felly pam mae tai mor bwysig? Yma, mae WHQ yn crynhoi negeseuon allweddol ymgyrch y Sefydliad Tai Siartredig i ddylanwadu ar y broses adolygu gwariant yn Lloegr.

Cefndir

Ymgyrch gan y Sefydliad Tai Siartredig (STS) yw Making the Case for Housing, â’r nod o greu’r amodau ar gyfer trafodaeth ynglyn â’r Arolwg Gwariant Cynhwysfawr nesaf. Mae’n tanlinellu gwaith y sector tai, nid yn unig o ran helpu i sefydlu cymunedau cynaliadwy, ond hefyd o safbwynt cefnogi set lawer ehangach o flaenoriaethau cymdeithasol-economaidd y llywodraeth, fel gwella perfformiad mewn addysg, gwella iechyd ac adeiladu parch. Cred y STS yw, mewn cyfnod o bwysau parhaus i wario adnoddau cyhoeddus prin ar iechyd, addysg a diogelwch, ei bod hi’n hollbwysig parhau i fuddsoddi mewn tai er mwyn gallu cyflawni ein nod o gyfrannu at les cymunedau.

Negeseuon allweddol

Mae buddsoddi mewn tai:

  • yn helpu i leihau’r nifer o bobl sy’n llenwi gwelyau yn y GIG am nad oes ganddynt unlle arall i fynd iddo
  • yn arbed arian i’r heddlu drwy leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • yn creu miloedd o gyfleoedd hyfforddi a swyddi i bobl ddiwaith
  • yn helpu perfformiad addysgol plant drwy ddarparu llefydd diogel, cynnes lle gallant astudio
  • yn annog pobl sydd wedi eu heithrio yn ariannol i agor cyfrif banc
  • yn sicrhau cynnydd gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd

Mae hefyd yn cynnig gwir werth am arian i’r coffrau cyhoeddus, gan ddenu biliynau o arian preifat, ailgylchu derbyniadau, symud o grantiau i fenthyciadau, a rhannu risg gydag amrywiaeth eang o bartneriaeth o’r sector preifat.

Bydd peidio â buddsoddi mewn tai yn golygu mwy o deuluoedd digartref a mwy o bobl ddiymgeledd yn byw mewn amodau gwael, ond bydd hefyd yn golygu:

  • costau GIG, heddlu a lles uwch
  • cynhyrchu mwy o CO2
  • canlyniadau ysgol gwaeth
  • diweithdra uwch
  • mwy o ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • llai o fentrau cymunedol, a
  • tanseilio perfformiad economaidd y DU yn ei chrynswth

Dadlau’r achos yn ymarferol

Mae Pennine 2000 yn rheoli mwy nag 11,000 o unedau tai cymdeithasol yn Calderdale, Gorllewin Swydd Efrog. Enillodd y gymdeithas wobr tai’r DU 2006 yn y categori Rhagoriaeth wrth Ddadlau’r Achos Tai am ei raglen More than Bricks and Mortar, a ddyfeisiwyd i ddod â’r budd mwyaf i’r gymuned leol. Buddsoddodd Pennine gyfanswm o £1.6 miliwn, gyda chyllid allanol cyfatebol, mewn cyflogaeth, hyfforddiant, creu busnesau, yr amgylchedd, yr agenda barch, gwaith gwirfoddol a diogelwch y gymuned.

Mae canlyniadau’r rhaglen yn cynnwys:

  • cefnogaeth i’r undeb credyd sydd wedi gallu achub 13 o deuluoedd o grafangau dyled pen rhiniog, wedi dosbarthu gwerth £117,685 mewn benthyciadau, wedi lleihau taliadau llog o £80,000 i £7,804, ac sy’n cynnwys gwarant benthyciadau gan Pennine ar gyfer benthyciadau argyfwng
  • 10 cwmni newydd wedi eu ffurfio o dan Routes Into Social Enterprise, project y gymdeithas i helpu pobl leol i sefydlu eu busnesau dim-am-elw eu hunain. Golygodd hyn fod mwy na 30 o bobl wedi cael swydd a mwy na 250 wedi derbyn hyfforddiant neu gyngor
  • cynllun prentisiaeth mewn amryw o sgiliau a gwblhawyd gan 82% o’r cyfranogwyr ac sydd â record gyflogaeth 100%
  • gwerth £200,000 o ddeunydd inswleiddio waliau a bylbiau golau arbed-ynni a ddarparwyd drwy law’r Calderdale Affordable Warmth Partnership
  • gwaith gydag ysgolion lleol i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • pedwar lleoliad gweinyddiaeth busnes i hyrwyddo amrywiaeth o fewn y gweithlu
  • cefnogaeth i weithgareddau ‘outward bound’ ar gyfer preswylwyr o Ogledd Halifax a oedd mewn perygl o droseddu
  • mentora ar y cyd rhwng y tîm uwch reolwyr, prifathrawon a disgyblion

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein ar www.ph2k.org.uk

Yr arolwg gwariant

Gan adeiladu ar sail ymgyrch Making the Case, mae’r STS, Shelter, y Gymdeithas Lywodraeth Leol, y Ffederasiwn Tai a’r Ffederasiwn Sefydliadau Rheoli Hyd-braich wedi llunio cais ar y cyd ar gyfer Arolwg Gwanrio 2008-11, gan alw ar y llywodraeth i roi blaenoriaeth i dai.

Mae’r cais yn awgrymu y bydd gofyn i’r Canghellor glustnodi £11.6 biliwn ar gyfer tai fforddiadwy newydd yn Arolwg Gwariant Cynhwysfawr 2007 er mwyn dechrau datrys problem prinder tai difrifol y DU. Y ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y cais yw:

  • bydd 209,000 o unedau teuluol newydd yn ymffurfio bob blwyddyn ar gyfartaledd am yr 20 mlynedd nesaf
  • mae 94,000 o deuluoedd mewn llety dros-dro
  • mae 1.5 miliwn o deuluoedd ar restri aros
  • mae prisiau tai yn uwch nag y buont erioed

Mae’r sefydliadau o’r farn na fu’r ddadl o blaid cynnydd mawr yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy erioed yn gryfach, ac mae’r cais yn gofyn i’r llywodraeth ddarparu rhaglen fuddsoddi estynedig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai presennol.

Beth sydd ei angen

Mae’r cyd-gyflwyniad yn dadlau’r achos dros fudddsoddi mewn tai fel a ganlyn dros y tair blwyddyn ariannol nesaf:

  • cartrefi fforddiadwy newydd – 210,000 o gartrefi fforddiadwy newydd mewn rhaglen dair-blynedd o 65,000, 70,000 a 75,000 o gartrefi’r flwyddyn, am gost o £3.6 biliwn, £3.9 biliwn a £4.1 biliwn drwy Raglen Tai Fforddiadwy Genedlaethol. Cefnogir hynny gan gyfraniad ariannol o tua £2.7 biliwn y flwyddyn ar ffurf benthyciadau a chyfraniad o gronfeydd wrth gefn o ryw £2 biliwn y flwyddyn, a fydd yn darparu cyfanswm o ryw 50% o’r hyn y bydd ei angen i ddarparu 210,000 o gartrefi newydd. Mae angen cynyddu’r cyflenwad tai newydd fforddiadwy ar rent a thai cost-isel/canolig i’w gwerthu. Dylai’r rhaglen, felly, gynnwys cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a chartrefi perchenogaeth noddedig, gan ddarparu 150,000 o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu a 60,000 o gartrefi cost-isel i’w prynu dros y tair blynedd
  • digartrefedd – cyllideb atal digartrefedd o £80 miliwn, £100 miliwn a £110 miliwn dros dair bllynedd yr arolwg hwn. Byddai hyn yn darparu £190,000 dros y tair blynedd i bob awdurdod lleol yn Lloegr i gynorthwyo gyda sefydlu a rhedeg mentrau atal digartrefedd ychwanegol. Dylai cymorth i’r Rhaglen Gwella Hosteli, cefnogi Sipsiwn a Theithwyr, a Chymorth Cyfreithiol Sifil fod yn flaenoriaeth hefyd
  • Cartrefi Teilwng – mae angen buddsoddi £3.2 biliwn dros y tair blwyddyn ariannol nesaf a £1.2 biliwn pellach yn y tair canlynol, gan gynnwys ceisiadau a ddisgwylir gan Sefydliadau Rheolaeth Hyd-braich, i gyflawni ymrwymiad maniffesto’r llywodraeth i sicrhau fod stoc tai’r awdurdodau lleol yn Gartrefi Teilwng
  • Cartrefi Teilwng yn y sector preifat – mae angen gwell fframwaith i ymdrin â diffyg teilyngdod cartrefi preifat sy’n eiddo i bobl ddiymgeledd. Mae angen rhaglen newydd i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar gynlluniau benthyca a rhyddhau ecwiti i wella eu cartrefi. Dylai’r llywodraeth sicrhau fod £40 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y tair blynedd i gefnogi rhyddhad ecwiti masnachol i ddibenion gwneud cartrefi annheilwng yn rhai teilwng
  • Cefnogi Pobl – mae ansicrwydd ynglyn â chyllido refiniw yn y dyfodol yn golygu nad yw gwasanaethau newydd yn cael eu datblygu. Er mwyn diogelu dyfodol y rhaglen Cefnogi Pobl ac i amddiffyn buddsoddiadau cyhoeddus blaenorol drwy raglenni refiniw a chyfalaf, dylai’r rhaglen Cefnogi Pobl gael ei huwch-raddio i adlewyrchu costau gwirioneddol darparwyr gwasanaethau (costau staff, yn bennaf) yn unol â chwyddiant er mwyn adfer hyder yn y gallu i ateb anghenion ac i greu lle ar gyfer lefelau cymhedrol o fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd, Mae angen rhaglen o £1.8 biliwn, £1.9 biliwn a £2.0 biliwn ar gyfer y tair blwyddyn ariannol nesaf, a dylid diogelu a neilltuo’r cyllid yma i sicrhau na ddefnyddir arian Cefnogi Pobl i lenwi bylchau mewn cyllidebau eraill
  • Swyddogaeth strategol awdurdodau lleol – mae’r Papur Gwyn Llywodraeth Leol, Strong and Prosperous Communities yn cydnabod fod swyddogaeth tai strategol awdurdodau lleol ‘wrth graidd cyflawni’r amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n rhoi ffurf i gymuned ac yn creu ymdeimlad o le.’ Dylai adnoddau fod ar gael i awdurdodau lleol i’w hannog i roi’r flaenoriaeth i dai strategol er mwyn sicrhau’r newid sylfaenol angenrheidiol o ran sgiliau a ffyrdd o fynd ati. Dylai £40 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd fod ar gael i gefnogi tai strategol dros y tair blynedd, sef swm cyfwerth â rhyw £100,000 y flwyddyn yr awdurdod lleol

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth ynglyn ag ymgyrch Making the Case for Housing ar gael ar-lein ar www.cih.org/makingthecase

Mae’r cyflwyniad llawn i’r arolwg gwariant ar gael gan y STS, ebost jill.dwyer@cih.org

Os oes gan eich sefydliad enghraifft o’r modd y mae tai yn cefnogi blaenoriaethau polisi cymdeithasol ac economaidd ehangach fel troseddu, addysg, iechyd a menter, a fyddech cystal ag anfon gair at press@cih.org


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »