English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Arloesedd mewn dylunio

Greg England yn egluro sut mae United Welsh yn darparu tai fforddiadwy sy’n gynaliadwy o safbwynt y preswylwyr, yr amgylchedd a’r gymdeithas tai.

Mae United Welsh yn darparu amrywiaeth eang o dai ar gyfer pobl Cymru, gydag ychydig dros 3,600 o gartrefi o dan ei reolaeth. Mae’r nod barhaus o adeiladu cartrefi cysurus, diogel a chelfydd eu dyluniad y gall pobl fforddio eu rhentu neu eu prynu yn allweddol i waith datblygu’r gymdeithas. Mae cynaliadwyedd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith datblygu yma.

Mae gan United Welsh record gref o ran dylunio mewn modd cydnaws â’r amgylchedd. Ym 1999, cwblhaodd y gymdeithas gynllun preswyl yn Dan-y-Bryn, Gilwern. Roedd y safle’n cynnig cyfle i ddatblygu cynllun i’r lefel briodol a fyddai’n ennill gwobr Amgylcheddol Cartrefi ar gyfer Byd Gwyrddach y BRE. Yn fwy diweddar, mae’r gymdeithas wedi anelu at gynnwys o leiaf ddwy nodwedd amgylcheddol gydnaws ym mhob project datblygu newydd. Mae nodweddion o’r fath yn cynnwys:

  • paneli ynni’r haul
  • systemau carthffosiaeth trefol cynaliadwy
  • pibellau haul
  • adeiladedd ffrâm bren â lefel uchel o inswleiddio

Mae gosod nod fel hon wedi bod yn her: rhaid sicrhau fod y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn dal i fod yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn ddymunol, yn awr ac yn y dyfodol.

Silver StreetSilver Street

Silver Street

Enghraifft dda o ymrwymiad y gymdeithas i ddatblygu cynaliadwy yw datblygiad Silver Street ger Cross Keys. Roedd y project yn un o gynlluniau Rhaglen Arloesedd Tai Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad. Nod y rhaglen hon yw datblygu tai o ansawdd uchel sy’n cynnig mwy na gofynion dyluniadau’r llyfr patrymau safonol ac yn arddangos arloesedd ym mhob agwedd ar ddarparu tai. Mae’r datblygiad yn gwneud y defnydd gorau o hen dir diwydiannol ac yn darparu tai dwy- a thair-llofft a fflatiau un-llofft.

Denyddiwyd dulliau dylunio ac adeiladu cynaliadwy dros ben ar sail egwyddorion syml ac effeithlon wrth wireddu datblygiad Silver Street. Mae nodweddion arbennig yr adeiladu yn cynnwys:

  • fframiau pren arloesol sy’n defnyddio ‘meicro-ffatri’ unigryw ar y afle ei hun lle bydd timau cydosod yn prosesu defnyddiau a chydrannau i gynhyrchu’r ffrâm bren derfynol mewn modd cost-effeithiol
  • waliau pyst pared 140mm â lefel uchel o inswleiddio, lloriau distiau-eco, a chyfuniad o doeon cyplog a thoeon distiau pren adeiledig i greu gofodau yn y to
  • defnyddio cydrannau’r adeilad mor effeithlon ag sy’n bosibl er mwyn creu cyn lleied o wastraff ag sy’n bosibl a darparu mwy o ofod byw
  • arbed costau drwy ddylunio ac adeiladu effeithlon, er mwyn gallu gwariou arian ar ddarparu gwell safonau gofod a gwerth ychwanegol, e.e. gwresogi dwr ag ynni’r haul, gofod ar gyfer gweithio gartref, rhwydweithio cartref ac offer TG

Mae’r strategaeth ddylunio ar gyfer yr holl gartefi yn clystyru gofodau byw o gwmpas craidd gwasanaethau sy’n cynnwys ardaloedd gwlyb, ceginau, cylchrediad a gwasanaethau (awyru goddefol, paneli ynni’r haul, gwasanaethau dosbarthu dwr poeth ac oer, gwresogi, trydan a TG). Mae posibilrwydd y gellir cynhyrchu’r elfen graidd yma oddi ar y safle a’i chludo yno fel elfen fodylaidd/gyfeintiol.

Mae paneli ynni’r haul ar bob cartref yn lleihau costau ynni ar gyfer cynhesu dwr o 50-80%. Y bwriad yw fod y paneli’n rhag-gynhesu’r brif gronfa ddwr poeth gan ychwanegu at effeithlonrwydd bwyler cyddwyso nwy band-A. Mae’r system wresogi yn ymateb yn sensitif iawn ac mae’n cynnwys rheolaeth fesul parth y gellir ei raglennu’n llawn. Mae’r nodweddion hyn, ynghyd â cyfran uched o oleuadau ynni-isel a deunydd adeiladu tra effeithiol yn sicrhau’r gyfradd SAP uchaf o 116. Mae hyn yn golygu y gall United Welsh dderbyn mwy o incwm rhent o’r cartrefi hyn a bod tenantiaid yn elwa ar gostau ynni sylweddol is.

Cynhwysir System Ddraenio Gynaliadwy sy’n derbyn dwr glaw o’r toeon ac arwynebeddau parcio caled i bydew llawn gwastraff adeiladu wedi ei ailgylchu, sydd wedi ei leoli o dan y maes parcio. Bydd y system hon yn golygu fod y datblygiad yn effeithio cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd ac yn ysgafnhau’r baich ar yr isadeiledd presennol drwy atal llif brig eithriadol i mewn i’r system garthffosiaeth ac atal llifogydd yn ystod glaw trwm.

Datblygu cynaliadwy a thai â chefnogaeth

Mae datblygu cynaliadwy yn cynnwys tai â chefnogaeth hefyd. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd United Welsh yn dechrau gweithio ar ganolfan ddydd â’r cyfarpar diweddaraf ar gyfer pobl ag awtistiaeth yng nghyffiniau Caerffili. Nid yw’r project yma wedi ei gyllido gan grant, a bydd yn arddangos amrywiaeth o nodweddion cynaliadwy.

Aerial view

Mae’r nodweddion dylunio allweddol yn cynnwys:

  • adeilad unllawr ffrâm-dur gyda rendro lliw drwodd at y gweddlun gogleddol
  • stribedi fertigol o gaenen sgrîn-law bren at y gweddlun deheuol
  • to un-goleddf wedi ei orchuddio gan system o ddecwaith metel asiad-dyrchafedig, gydag ymyl deheuol y to yn gorgyrraedd i ddarparu cysgod heulol ar gyfer y gweddlun gwydrog
  • dalwyr-gwynt ar y to fel rhan o’r strategaeth awyru naturiol, sy’n tynnu aer cynnes o’r stafelloedd islaw tra’n gollwng aer ffres i mewn i’r adeilad ar yr un pryd

Bydd y project £1 miliwn yma’n digwydd drwy gytundeb partneriaeth ac mae’r gwaith i fod i gychwyn ar y safle ym mis Hydref 2006, i’w gwblhau o gwmpas mis Mawrth 2007.

Fel y gwna gyda thai anghenion cyffredinol, ceisia United Welsh gynnwys nodweddion arbed ynni yn ei holl dai â chefnogaeth. Mae nodweddion o’r fath yn cynnwys gwresogi drwy ynni’r haul, gwydro triphlyg, awyru goddefol a nodweddion eraill â’r bwriad o sicrhau’r graddfeydd SAP uchaf posibl.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu tai sy’n cynnwys nodweddion cynaliadwy, yn y cynnyrch terfynol ac yn y broses adeiladu ill dau. Rydym yn benderfynol o gael y cydbwysedd cywir rhwng cynnwys dulliau gwyrddach o adeiladu, cynnig buddiannau i denantiaid drwy bethau fel biliau ynni is, a chreu gwasanaeth y gall United Welsh barhau i’w ddarparu yn y tymor hir.

Greg England yw Rheolydd Marchnata a Chyfathrebu United Welsh, ebost gengland@uwha.co.uk


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »