English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Heneiddio, tai a’r agendâu mawr

Ian Thomas yn disgrifio’r maes a her i ddarparwyr tai

Cefndir

Mae yna rai ffeithiau amlwg a phlaen y mae’n rhaid i ni eu ystyried wrth edrych ar y problemau’n gysylltiedig â phobl hŷn, iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Yn syml iawn, does neb sy’n darllen yr erthygl yma’n mynd yn iau. Dywedir ein bod bellach yn byw mewn cymdeithas sy’n heneiddio, ac mae hynny’n effeithio ar bawb.

Mae ystyriaethau cymdeithasol-economaidd poblogaeth sy’n heneiddio yn awr yn eitemau allweddol ar yr agenda bolisi. Mae’r rhain yn cynnwys yr ‘argyfwng’ pensiynau yn y DU yn gyffredinol, y ffaith fod mwy ohonom yn byw yn hwy ac felly’n debygol o ofyn mwy gan wasanaethau, a’r tebygrwydd y bydd yn rhaid i lawer ohonom weithio am flynyddoedd y tu hwnt i’r oedran ymddeol presennol. Canlyniad y newidiadau hyn yw y bydd Cymru, fel gwlad, yn edrych yn lle gwahanol iawn ymhen degawd neu ddau.

Ers gwawr cyfnod Llafur ‘Newydd’, ac yn sicr ers datganoli yng Nghymru, cawsom addewidion lu o ‘feddwl gydgysylltiedig’ o gwmpas y llywodraeth a meysydd polisi allweddol. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu fod yr addewid yn dal heb ei wireddu. Ond er mwyn sicrhau fod pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu trin ag urddas, parch a’r un ystyriaeth â rhannau eraill o’r boblogaeth, dylem ystyried beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i’n helpu ni oll i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac a yw’r cynlluniau hynny’n realistig ac yn bosibl eu cyflawni.

Meddwl mawr yng Nghymru

Mae’r ‘meddwl mawr’ mewn llywodraeth yng Nghymru yn wir wedi ehangu ei gwmpas ers sefydlu’r Cynulliad. Gyda’r cyfrifoldeb am iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu datganoli iddo, gwelodd y Cynulliad yn dda i gyflwyno strategaethau tymor llawer hwy ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r strategaeth dymor-hir ar gyfer iechyd, Designed for Life , yn ceisio cynllunio ar gyfer y cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn y boblogaeth, ac i gynllunio’n fwy manwl ar gyfer eu hanghenion iechyd. Ar lawer agwedd, fel dogfen strategol, mae’n weledigaeth ddewr, er y bydd beirniaid yn dadlau nad yw’n trosi’n dda i lefel darpariaeth gwasanaethau. Bydd ei bartner mewn gofal cymdeithasol, Designed for Care, yn yr un modd yn ddewr ei gwmpas a’i agwedd. Bwriedir i’r ddwy ddogfen weithio ochr yn ochr i gynnig darlun mwy unedig o iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Wrth ystyried y ddwy strategaeth yma, mae’r her fawr gyntaf yn yn weddol amlwg. Bu’r angen am gomisiynu gwasanaethau ar y cyd yn amlwg ers amser, a heb hynny yng nghyd-destun y dogfennau ‘Designed’, rhaid cwestiynu sut y bydd yn gweithio. Os cofiwn hefyd y ffaith fod 22 o awdurdodau lleol a 22 o fyrddau iechyd lleol yn comisiynu gwasanaethau ledled Cymru, mae’n darlun hyd yn oed yn fwy dyrys. Mewn cyferbyniad, mae camau yn Iwerddon tuag at greu un corff comisiynu ar lefel y llywodraeth. Mae yna awgrym yn dod o’r Cynulliad, fodd bynnag, y gwelir uno ym maes cyd-gomisiynu a fydd yn mynd beth o’r ffordd tuag at ddatrys problem y ddarpariaeth dameidiog bresennol.

Er bod hyn yn ymddangos fel cam tuag at symleiddio ym myd strategaeth, dylem hefyd ystyried dogfennau polisi allweddol eraill mewn perthynas â phobl hŷn, fel y Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol (NSF) a’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a gynhyrchwyd, ill dau, gan y Cynulliad. Bydd yn rhaid ystyried llawer o bobl hŷn hefyd o dan y fframwaith ar gyfer iechyd meddwl, a bydd llawer o bobl hŷn sydd â dementia hefyd yn derbyn gwasanaethau gan dimau iechyd meddwl.

A thai ….

Gellir dadlau nad yw tai, un o’r meysydd angen allweddol ar gyfer pob un ohonom, ni waeth beth fo’n hoedran neu’n hanghenion cymdeithasol neu iechyd, yn chwarae rhan ddigon pwysig yn y meysydd strategaeth ehangach. Ac eto, gall partneriaid yn y maes tai helpu i gyflenwi blaenoriaethau allweddol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r cwestiwn allweddol y dylem oll fod yn ei ystyried yn y fan hon eto yn un syml, sef pa fath o le ydyn ni am fyw ynddo wrth i ni fynd yn hŷn?

Efallai fod y £41 miliwn a addawyd yn ddiweddar gan y Cynulliad ar gyfer tai gofal ychwanegol yn sylweddol, ond a ydy hyn yn golygu fod gofal ychwanegol yn bwysicach na dim byd arall? ‘Na’ yw’r ateb, wrth gwrs; dim ond un math o lety yw hwn a all gyflawni anghenion rhai pobl hŷn. Mae angen ystyried amrywiaeth o ddarpariaethau ar gyfer pobl hŷn. Pan ofynnir iddynt, bydd y rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod am fyw gartref cyhyd ag sy’n bosibl. Mae’r holl strategaethau allweddol a nodwyd uchod yn ymrwymedig i hwyluso hynny. Ond pan fydd pobl hŷn yn datblygu problemau iechyd meddwl neu rai’n ymwneud â dementia, maent yn aml yn cael eu cludo o’u cartref i ysbyty i ofal nyrsio mewn byr amser. Does gan lawer o gynlluniau gofal ychwanegol mo’r ddarpariaeth o safbwynt cyfleusterau arbennig neu statws cofrestredig i fedru ymdopi.

Os ystyriwn bobl â dementia yn unig, mae rhyw 42,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn dioddef ohono, Alzheimer’s neu ddementia fascwlaidd yn bennaf. Bydd yn effeithio ar un o bob pump o rai dros 80. Yn wyneb yr ystadegau yma, does dim angen llam rhesymegol mawr i weld y dylai darparwyr tai fod yn ystyried posibiliadau’r farchnad ar gyfer pobl hŷn, boed y rhain yn dioddef o ryw ffurf ar ddementia neu beidio. Mae’n amlwg fod lle i ddatblygu tai arbenigol islaw lefel gofal nyrsio, a hyd yn oed modelau sy’n cynnig cefnogaeth islaw’r trothwy gofal a fynnir gan Safonau Gofal. Edrych ar yr hyn sy’n bosibl yw’r ateb.

Mae’r agenda wirioneddol ar gyfer tai yn dechrau ymddangos wedyn, yng ngoleuni diffygion yn y ddarpariaeth bresennol. Mae’r sefyllfa gyfredol yn awgrymu fod angen cynyddu’r ddarpariaeth tai prif-ffrwd ar gyfer pobl hŷn, a bod angen datblygu darpariaeth arbenigol ochr yn ochr â hynny. Byddai’n ddiddychymyg peidio ag ystyried posibiliadau eraill – pam na ellir cael mwy o ofal ychwanegol gyda darpariaeth arbenigol ynghlwm wrth hynny mewn rhai meysydd arbennig? Mae condemnio pobl hŷn i orfod symud o’u cartref i ysbyty yn groes i ysbryd Deddf y GIG a Gofal Cymuned, darn allweddol o ddeddfwriaeth â’r bwriad o leihau’r nifer o sefydliadau, yn enwedig rhai ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Rhaid i ni sicrhau na welir twf mewn sefydliadau ‘newydd’ ar gyfer pobl hŷn oherwydd nad oedd gan neb y rhagweledigaeth i gynllunio o flaen llaw na’r dychymyg i ddatblygu modelau newydd o lety i ateb anghenion.

Mae sicrhau fod strategwyr tai yn cael eu dwyn i mewn i’r broses feddwl yn bwysig, ond dim ond un rhan o’r byd tai ydyn nhw, a ddylai fod yn meddwl o ddifri ynglŷn â phobl hŷn. Dylai penseiri a dylunwyr fod yn hyblyg yn eu dylunio, gan sicrhau fod gan dai newydd wahanol ffyrdd o ymdopi ag anghenion pobl hŷn. Dylai’r adeiladau fod mor an-sefydliadol eu dyluniad ag sy’n bosibl. Mae ailddarparu’r stoc bresennol yn ffactor allweddol hefyd. Awgrymir fod llawer o gynlluniau tai gwarchodol categori un a dau yn mynd yn anodd eu gosod. Mae angen bod yn greadigol wrth ailddarparu yn y fan yma. Yn achos llety gofal ychwanegol nad yw, ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer pobl hŷn sy’n datblygu anghenion cymdeithasol a iechyd, mae’r neges yn llawer mwy llym. Mae’r preswylwyr yn y cylluniau hynny yn heneiddio, ac felly’n debycach o ddatblygu mwy o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Beth fydd darparwyr presennol yn ei wneud pan fydd hynny’n digwydd? Troi pobl allan i’r ysbyty?

Cynllunio yw’r ffordd amlwg ymlaen yn y cyswllt yma, a rhaid i ddarparwyr tai ddeall beth mae’r strategaethau mawr ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddweud, a sut y gall y ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes, neu sydd ar y gweill, gael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau hanfodol i denantiaid a phreswylwyr, yn awr ac yn y dyfodol. Os ydym am drin ein poblogaeth hŷn ag urddas a pharch, rhoi ansawdd bywyd da iddyn nhw ac, yn bwysig iawn, sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gydradd ac yn deg, yna mae’n rhaid i bob un ohonom sicrhau ein bod yn gwybod beth mae’r polisïau a’r strategaethau allweddol yn ei ddweud a beth, yn ei hanfod, maen nhw’n ein galluogi i’w wneud.

Ian Thomas yw Cyfarwyddydd Cymru y Gymdeithas Alzheimer’s Ian Thomas

www.alzheimers.org.uk.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »