English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Swyddogaeth dai strategol – ymaflyd yn y dyfodol neu aros yn y gorffennol?

Simon Inkson yn amlinellu dau brognosis ar gyfer y swyddogaeth dai strategol . . .

Mae llawer wedi cael ei sgrifennu a’i ddweud yn ddiweddar ynglŷn â strategaeth dai strategol awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond a ydym yn gwirioneddol ddeall ac yn derbyn pwysigrwydd y swyddogaeth? A sut allwn ni fynd ati i wella’r ffordd mae’r swyddogaeth yn cael ei chyflawni’n ymarferol gan awdurdodau lleol Cymru?

Pam mae’r swyddogaeth dai strategol mor bwysig?

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd a gynhyrchwyd gan y llywodraeth ganol wedi annog awdurdodau lleol i fynd ati mewn ffordd fwy strategol wrth ddarparu tai, sy’n golygu cydweithrediad closach rhwng yr holl wahanol agweddau ar dai a gweithgareddau cysylltiedig. Mae’r swyddogaeth dai strategol yn mynnu cydweithio clos, yn enwedig rhwng adrannau tai a chynllunio, i sicrhau ffordd fwy deallus o fynd ati i gynllunio ar gyfer tai ym mhob deiliadaeth a darparu gwasanaethau tai integredig.

Disgwylir i’r swyddogaeth dai strategol:

  • sicrhau darpariaeth ddiwnïad o wasanaethau tai ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a darpar-ddefnyddywr y gwasanaeth
  • sicrhau cysylltu mwy effeithiol rhwng gwahanol weithgareddau tai er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd
  • cyfrannu at nodau ac amcanion corfforaethol mwy cyffredinol

Mae pwysigrwydd y swyddogaeth dai strategol wedi cynyddu wrth i dai, yng nghyd-destun yr awdurdodau lleol, fynd yn fater mwyfwy cymhleth. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol bennu cyfeiriad gwasanaethau tai mewn ardal neilltuol, mewn amgylchedd lle mae:

  • marchnadoedd tai yn gweithredu mewn ffordd fwyfwy dynamig y tu hwnt i ffiniau awdurdodau lleol, ar draws rhanbarthau ac o’u mewn
  • nifer ac amrywiaeth cynyddol o ddarparwyr gwasanaethau tai a rhai’n ymwneud â thai yn gweithredu ar lefel leol
  • angen ystyried nodau a blaenoriaethau rhyng-gysylltiedig llywodraeth leol a’r llywodraeth ganol
  • marchnad dai ganolraddol wedi ymddangos
  • gwahanol drefniadau ar gyfer cyllido a rheolaeth tai wedi ymddangos
  • yr amrywiaeth o ymyriadadau sydd ar gael i awdurdod lleol a’i bartneriaid allweddol wedi cynyddu, ac mae angen deall eu heffaith ar y farchnad lleol
  • yn angenrheidiol gwneud polisi ar sail tystiolaeth

Mae’r swyddogaeth dai strategol o bwys hanfodol, i lywodraeth ganol a llywodraeth leol, am ei bod yn allweddol i’r broses o ddarparu gwasanaethau tai integredig, ac oherwydd pwysigrwydd tai o ansawdd da i les economaidd a chymdeithasol y boblogaeth.

Mae gwasanaethau tai integredig yn hollbwysig mewn gyfnod o gyfyngu ar fuddsoddi sector cyhoeddus mewn tai newydd. Dydy’r buddsoddi yng Nghymru, yn enwedig buddsoddi mewn datblygu tai cymdeithasol newydd, ddim yn gymesur â’r twf mewn angen na’r twf mewn buddsoddi sector cyhoeddus mewn meysydd polisi eraill. Felly, ar lefel genedlaethol, mae cyflawni amcanion niferus Cartrefi Gwell i Bobl Cymru bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar swyddogaeth dai strategol ddatblygedig, wedi ei hariannu’n ddigonol, yn gweithredu’n effeithiol ym mhob ardal.

Felly, ble rydym ni arni yng Nghymru?

Mae’r angen am swyddogaeth dai strategol gref mewn awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn cynyddu, yn bennaf oherwydd effaith anghydbwysedd yn y farchnad dai a’r prinder tai fforddiadwy sydd wedi datblygu mewn llawer rhan o Gymru. Ar yr un pryd, mae pryderon difrifol nad yw pwys canolog tai a phwysigrwydd y swyddogaeth dai strategol ddim yn cael eu deall yn iawn ar unrhyw lefel.

Tra bod rhai cynlluniau cenedlaethol yn cydnabod mor ganolog yw tai i’w gallu i gyflawni eu nodau a’u hamcanion, mae cyfraniad tai fel pe bai’n cael ei fychanu mewn eraill, fel Cynllun Gofodol Cymru, neu’n cael ei anwybyddu bron yn llwyr, fel yn Cymru: Economi yn Ffynnu.

Tanlinellwyd pwysigrwydd y swyddogaeth dai strategol a’i gwendidiau ymddangosiadol ar lefel leol yn yr Arolwg o Gartrefi Gwell a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio Llywodraeth Leol a Thai yn 2004. Roedd yr arolwg o Strategaethau Tai Lleol a wnaed gan Lywodraeth y Cynulliad hefyd yn tanlinellu gwendidau yn y swyddogaeth dai strategol ar lefel leol, gan nodi fod angen i’r Cynulliad gefnogi’r swyddigaeth drwy weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion tai strategol.

Ar lefel leol, swyddogaeth dai strategol wan yw un a amddifadwyd o adnoddau, lle mae gweithgareddau tai yn dal i ddigwydd mewn celloedd ar wahân gan ddarparu gwasanaethau tai digyswllt ac, yn bwysicaf oll, lle nad oes cydnabyddiaeth i swyddogaeth allweddol tai o fewn awdurdodau lleol. Mae hon yn sefyllfa llawer rhy gyffredin mewn llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Felly pam yr ydyn ni ble’r ydyn ni?

Mae llawer o resymau pan rydyn ni yn y sefyllfa yma. Yn Lloegr a’r Alban ill dwy, mae swyddogaeth dai strategol awdurdodau lleol yn fwy datblygedig nag yw yng Nghymru, ond ddim i raddau mawr iawn. Yn y ddwy genedl, yr hyn sy’n wahanol yw’r lefel o gefnogaeth a roddir i awdurdodau lleol gan y llywodraeth ganol ac asiantaethau rheoliadol, sydd yn cyfarwyddo ac yn meithrin y swyddogaeth yn effeithiol.

Yn Nghymru, rydym ar ei hôl hi braidd, am nifer o resymau.

Yn gyntaf, pan ad-drefnwyd llywodraeth leol ym 1996, crewyd 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru; mae nifer o’r rhain yn fach a heb y gallu na’r adnoddau i gyflawni’r swyddogaeth dai strategol yn effeithiol.

Yn ail, nid yw Llywodraeth y Cynulliad, er ei bod yn hyrwyddo’r swyddogaeth ar lefel leol, fel pe bai’n deall y swyddogaeth yn llawn. Ar adegau, mae’r Cynulliad wedi bod yn euog o ddatblygu a gweithredu mentrau polisi sy’n tanseilio’r swyddogaeth yn ddifrifol. Enghraifft nodedig yn ddiweddar yw’r trefniadau newydd ar gyfer dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol (GTC). Mae sefydlu consortia datblygu a dyrannu GTC i’r cyrff hynny yn gwneud bywyd yn haws i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad, ond mae wedi tanseilio’r swyddogaeth dai strategol leol yn ddifrifol. Wrth wneud hyn, mae’r Cynulliad wedi caniatáu i’r broses o ddatblygu tai cymdeithasol newydd gael ei phennu gan gysylltiadau personol rhwng prif weithredwyr cymdeithasau tai yn hytrach nag ystyriaethau lleol neu ranbarthol a allai fod wedi adlewyrchu’r rhai a gynhwysir yng Nghynllun Gofodol Cymru. Yn ychwanegol at hynny, gellir cyhuddo’r Cynulliad hefyd o fethu cefnogi datblygiad y swyddogaeth dai strategol hyd yn hyn drwy beidio â chynnig cyfarwyddyd ar sut y dylid cyflawni’r swyddogaeth yn ymarferol, na chefnogi cynlluniau i hyfforddi a datblygu’r staff sy’n gyfrifol am gyflawni’r swyddogaeth yn lleol.

Yn drydydd, credaf fod awdurdodau lleol yn euog o fethu deall y swyddogaeth a’i phwysigrwydd ac, o ganlyniad, nid ydynt yn darparu’r adnoddau angenrheidiol ar ei chyfer. Mewn nifer o gynghorau yng Nghymru, un swyddog sy’n gyfrifol am gyflawni’r swyddogaeth dai strategol ac mae hwnnw/honno, yn amlach na pheidio, yn gyfrifol am amrywiaeth o weithgareddau eraill. Mae disgwyl i un swyddog gyflawni’r swyddogaeth dai strategol yn effeithiol yn chwerthinllyd. Yr hyn sy’n fwy o destun pryder i mi yw’r ffaith nad yw nifer o awdurdodau lleol yn cymryd y swyddogaeth o ddifri – llai na hanner y 22 awdurdod lleol a ymatebodd i holiadur diweddar am y swyddogaeth dai strategol, a gylchredwyd gan Banel Prif Swyddogion Tai Cymru, erbyn y dyddiad cau.

Yn olaf, y prif reswm dros i ni gael ein hunain yn y sefyllfa hon yw’n methiant ninnau fel proffesiwn. Rydym wedi dioddef o ddiffyg syniadau, ceidwadaeth gynhenid a methiant i ymateb i her newidiadau yn yr agenda bolisi. Rydym wedi mynd am y dewis diogel a glynu wrth wneud yr hyn rydym yn fwyaf cyfarwydd ag ef, yn hytrach na’n datblygu’n hunain a’n proffesiwn. Prin y gallwn gwyno am ddiffyg pwysigrwydd tai ar lefel leol pan ellir dweud mai ni sy’n gyfrifol am hynny, am i ni fethu datblygu mewn ymateb i amgylchedd sy’n newid ar garlam, a methu ymaflyd yn y swyddogaeth sydd mor bwysig i ddyfodol tai awdurdodau lleol. Rydym oll fel pe baem yn cydnabod mai’r swyddogaeth dai strategol yw swyddogaeth allweddol awdurdodau lleol yn y maes tai – yn awr ac yn y dyfodol. Felly pam parhau i ddarparu hyfforddiant gyffredinol ar gyfer myfyrwyr yn y maes tai, gan ganolbwyntio ar reolaeth tai, yn hytrach na chydnabod yr angen i sicrhau fod cyfran o fyfyrwyr yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu cyflawni’r swyddogaeth dai strategol?

Gwneud yn siŵr fod y swyddogaeth dai strategol yn gweithio’n dda

Mae’n rhaid i ni sicrhau fod y swyddogaeth dai strategol yn gweithio’n dda yng Nghymru er mwyn gwarantu y bydd y dyfodol o ran tai, y proffesiwn tai a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn well. Pan fo’r swyddogaeth yn gweithio’n dda, mae’n sicrhau:

  • fod ymyriadau parthed tai yn digwydd yn y lle iawn, ar yr adeg iawn gan y partner iawn, gan sicrhau fod y farchnad dai yn gweithio’n dda
  • y buddsoddir cymaint ag sy’n bosibl mewn tai a’r isadeiledd cysylltiedig, a bod yr economi leol yn elwa cymaint ag sy’n bosibl ar y buddsoddiad
  • fod tai yn cysylltu’n effeithiol â gweithgareddau corfforaethol ac aml-asiantaeth eraill
  • fod gan Lywodraeth y Cynulliad well gobaith o gyflawni’r nodau ac amcanion polisi a gynhwysir yn Cartrefi Gwell i Bobl Cymru ac unrhyw strategaeth olynol
  • y cydnabyddir fod tai yn hollbwysig o ran cyflawni nodau ac amcanion corfforaethol awdurdodau lleol

Lle nad yw’r swyddogaeth dai strategol yn gweithio’n dda, gallwn ddisgwyl mwy o’r hyn rydym wedi ei brofi yn ystod y degawd diwethaf – gostyngiad cyson yn y statws a’r adnoddau a roddir i dai o fewn llywodraeth leol yng Nghymru.

Er mwyn datblygu’r swyddogaeth yng Nghymru:

  • dylai Llywodraeth y Cynulliad ddarparu cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ar sut i gyflawni’r swyddogaeth yn effeithiol a rhywfath o gyfarpar ar gyfer awdurdodau lleol y gallant ei ddefnyddio i ddarganfod ble a sut mae angen atgyfnerthu’r swyddogaeth
  • dylai Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddatblygu cyfres o ‘ddosbarthiadau meistr’ i alluogi aelodau staff allweddol awdurdodau lleol i ddysgu’r amrediad eang o sgiliau sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r swyddogaeth
  • dylai awdurdodau lleol ymrwymo adnoddau digonol er mwyn gallu cyflawni’r swyddogaeth naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd ag awdurdodau eraill

Fel y dywedodd un swyddog awdurdod lleol yn ddiweddar ‘mae’n bryd i ni ddechrau cenhadu o ddifri ynglŷn â’r swyddogaeth dai strategol’. Mae angen i ni, fel proffesiwn genhadu er mwyn lledaenu’r neges yn effeithiol, pryd bynnag a ble bynnag y medrwn. Mae methiant yn rhywbeth na ellir meddwl amdano.

Y swyddogaeth dai strategol yw swyddogaeth allweddol y dyfodol i awdurdodau lleol – mae’r dyfodol yn ein dwylo ni oll.

Mae Simon Inkson yn ymgynghorydd tai annibynnol; gellir cysylltu ag ef ar 01792 202764 neu ar simon@simoninkson.com.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »