Comisiwn Tai Casnewydd
Mae bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru yn her sy’n wynebu pob landlord cymdeithasol. Mae problem cynyddu’r buddsoddi yn y stoc tai o dan gyfyngiadau ariannol yn fwrn ar y rhai sy’n gyfrifol am benderfynu o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae’r erthygl hon yn archwilio dull Cyngor Dinas Casnewydd o fynd ati i ddod o hyd i ateb cynaliadwy i broblemau cyllido Safon Ansawdd Tai Cymru.
Y cefndir
Roedd Cynllun Busnes Cyfrif Refiniw Tai (CRT) 2004 Cyngor Dinas Casnewydd yn peintio darlun a fydd yn gyfarwydd i lu o awdurdodau lleol sef diffyg cyfalaf difrifol, £158 miliwn yn achos Casnewydd. Bydd yn rhaid i’r Cyngor fuddsoddi £240 miliwn yn y blynyddoedd cyn 2012 i wella’r stoc i’r safon angenrheidiol, ond ni ragwelir adnoddau o fwy nag £82 miliwn. Roedd y Cynllun Busnes yn dangos sefyllfa refiniw a oedd yn destun pryder cynyddol hefyd, gyda gwerthiannau Hawl i Brynu yn parhau, gan achosi llai o arbedion graddfa a fydd yn arwain at ddiffyg yn y blynyddoedd nesaf. Roedd yn amlwg i’r Cyngor fod problemau mawr i’w datrys er mwyn sicrhau y gallai barhau i ddarparu gwasanaethau tai o ansawdd uchel.
Y broses
Er mwyn ymdrin â’r materion hollbwysig yma ynglŷn â chynaliadwyedd y gwasanaeth tai yn y dyfodol, sefydlodd Cyngor Dinas Casnewydd Gomisiwn Tai annibynnol. Roedd gan y Comisiwn naw aelod – pedwar tenant, pedwar arbenigwr annibynnol a chadeirydd annibynnol. Roedd gan bob aelod o’r Comisiwn statws cydradd. Ni cheisiwyd esgus fod y tenantiaid yn sampl cynrychioladol o’r holl denantiaid, ac roedd y Comisiwn yn bendant o’r farn fod cyfranogaeth y tenantiaid yn eu crynswth yn y broses yn hanfodol. Gallai’r tenantiaid ar y Comisiwn, fodd bynnag, daflu goleuni ar sail eu profiad o fod yn denantiaid i Gyngor y Ddinas. Roedd swyddogaeth yr arbenigwyr annibynnol yn y broses yn hanfodol, gan y gallent gynghori eu cyd-Gomisiynwyr ar faterion fel cyllid tai, adfywio, ac ati. Er iddo gael ei sefydlu gan Gyngor Dinas Casnewydd, parhaodd y Comisiwn i fod yn ffyrnig o annibynnol drwy gydol y broses.
Pennodd Cyngor Dinas Casnewydd bump o amcanion ar gyfer y Comisiwn:
- astudio pob dewis ar gyfer sicrhau digon o adnoddau cyfalaf i allu bodloni’r SATC ac amcanion penodol eraill yn y maes tai
- argymell llwybr gweithredu ar gyfer bodloni’r SATC ac amcanion penodol eraill yn y maes tai
- datblygu cynllun gweithredu a fyddai’n ei gwneud hi’n bosibl dilyn y llwybr gweithredu a ddewisiwyd
- dadansoddi effaith corfforaethol pob dull o gyllido tymor-hir
- archwilio effaith a buddiannau adfywio tai cyngor ar y gymuned ehangach a’r economi
Rhoddodd y Comisiwn y gorchwyl iddo’i hun o fynd i’r afael â’r amcanion hyn mewn modd trefniedig a chynhwysfawr. Yr amcanion oedd yn gyrru a phennu ffurf gwaith y Comisiwn. O’r cychwyn cyntaf, roedd y Comisiwn yn benderfynol y byddai’r ymarferiad yn un pwrpasol o ran ymateb i her unigryw datrys problem fuddsoddi Dinas Casnewydd. Daeth y dull pwrpasol hwn o fynd ati yn thema yn ystod holl broses y Comisiwn.
Dyfeisiodd y Comisiwn raglen waith â’r nod o sicrhau y byddai’r wybodaeth gywir yn cael ei chrynhoi i sicrhau y gellid cyflawni amcanion y Comisiwn. Roedd y rhaglen waith yn hyblyg er mwyn i’r Comisiwn allu ei newid neu ei hehangu wrth i’r broses fynd yn ei blaen.
Derbyniodd y Comisiwn dystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd. Cynhaliwyd deuddeg cyfarfod tystiolaeth cyhoeddus mewn gwahanol leoliadau yn ninas Casnewydd. Cynhaliwyd chwe chyfarfod is-grŵp, yn cynnwys ymweliadau astudio, i ystyried y dystiolaeth a pharatoi’r adroddiad terfynol, dau ddiwrnod ystyriaeth, a chynhaliwyd pedwar cyfarfod golygyddol.
Ceisiai proses y Comisiwn fod yn agored ac yn eglur. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus mewn nifer o leoliadau yn y ddinas. Defnyddiodd y Comisiwn amrywiaeth o ddulliau i holi barn gwahanol bobl. Derbyniodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, aeth ar ymweliadau astudio, a chomisiynu ei waith ymchwil ei hun. Er mwyn sicrhau fod pob mater yn cael ei drafod, a sicrhau’r casgliadau cywir, roedd yn rhaid i waith y Comisiwn fod yn gynhwysfawr. Parhaodd y Comisiwn yn benderfynol o geisio atebion i’r holl gwestiynau, ac y byddai’r adroddiad yn rhoi hyder i’r Awdurdod mai’r atebion ynddo oedd y rhai cywir ar gyfer y tenantiaid, y cyngor a dinas Casnewydd.
Y dystiolaeth
Roedd y Comisiwn yn benderfynol o grynhoi tystiolaeth gynhwysfawr. Er mwyn deall y fframwaith polisi, ymgysylltwyd â Llywodraeth y Cynulliad, Shelter Cymru, CLlLC a’r Sefydliad Tai Siartredig.
Un o brif ddyletswyddau’r Comisiwn oedd datrys y broblem gyllido mewn modd a fyddai’n sicrhau darpariaeth dymor-hir o wasanaethau tai o safon uchel. Er mwyn sicrhau fod y data ariannol a oedd ar gael i’r Comisiwn yn gywir, cyflogwyd ymgynghorwyr annibynnol i wirio Cynllun Busnes y CRT a gwneud asesiad annibynnol o’r dewisiadau cyllido. Gwnaeth y Comisiwn ei asesiad ei hun hefyd o gyflwr y stoc.
Er mwyn astudio effaith posibl gwahanol ddewisiadau cyllido, gwrandawodd y Comisiwn ar dystiolaeth gan landlordiaid cymdeithasol eraill, gan gynnwys ymweliad astudio â Chyngor Sir Powys, sy’n hyderus y gall fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru gyda’r cyllid sydd ganddo. Ymwelodd y Comisiwn â V2C hefyd, unig drosglwyddiad stoc cyflawn Cymru. Cynigiwyd tystiolaeth ar opsiynau cyllido gan yr undebau llafur hefyd, a’r mudiad Amddiffyn Tai Cyngor.
Mae’r buddsoddiad cyfalaf posibl o fwy na £400 miliwn yn ystod oes ddeg mlwydd ar hugain y Cynllun Busnes yn cynrychioli cyfle adfywio anferth. Parhaodd y Comisiwn i bwysleisio’r agenda adfywio fel mater craidd o fewn y broses i sicrhau na chaiff y posibiliadau a gynigir gan y fath fuddsoddiad anferth eu gwastraffu. Ymgynghorwyd â dau sefydliad a nodwyd gan y Comisiwn am eu harfer da, sef Sheffield Rebuild (cwmni adeiladu menter gymdeithasol) a Chymdeithas Tai Whitefriars.
Roedd y Comisiwn yn benderfynol o ystyried barn pob budd-ddeiliad yn y broses. Cyflwynodd grwpiau tenantiaid dystiolaeth i’r Comisiwn a darparwyd hyfforddiant ac adnoddau ar eu cyfer hefyd er mwyn iddynt allu gwneud arolwg annibynnol o agweddau’r boblogaeth ehangach o denantiaid. Trefnodd staff Tai Cyngor y Ddinas eu cynhadledd eu hunain a chyflwyno’r canlyniadau fel tystiolaeth ger bron y Comisiwn.
Y Matrics
Yn wyneb y gorchwyl anferthol o sicrhau fod canlyniadau’r Comisiwn yn llawn adlewyrchu’r casgliad mawr o dystiolaeth a gawsai ei gynnull, dyluniwyd y Matrics. Roedd y Matrics, sef siart a ddyluniwyd mewn gwahanol liwiau, yn caniatáu i’r Comisiwn bwyso a mesur y rhan y gallai pob dewis cyllido posibl ei chwarae yn erbyn y canlyniadau allweddol a gawsai eu pennu gan y Comisiynwyr. Drwy gyfnod casglu-tystiolaeth y broses, nododd y Comisiwn naw mecanwaith cyllido posibl. Roedd y rhain yn dod, yn fras, o dan ddau ben: cadw stoc a throsglwyddo stoc. Roedd y dewisiadau cadw stoc yn cynnwys: cyllido presennol, benthyca darbodus a’r Fenter Cyllid Preifat (PFI). Roedd y mecanwaith trosglwyddo stoc yn cynnwys: trosglwyddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) sy’n bod eisoes, i LCC newydd ei greu, a throsglwyddo gan ddefnyddio’r Model Tai Cymuned Cydfuddiannol.
Asesodd y Comisiwn effaith pob un o’r naw opsiwn cyllido yn erbyn y pedwar ar ddeg o ganlyniadau a bennwyd o flaen llaw gan ddefnyddio’r Matrics. Roedd y rhain yn cynnwys ystyriaethau cyfreithiol ac ariannol, yn cynnwys yr angen am fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a chadw pen uwch law’r dyfroedd ariannol. Roedd y canlyniadau i fudd-ddeiliaid yr ystyrid eu bod yn bwysig yn cynnwys effaith pob dewis cyllido ar hawliau tenantiaid, hawliau staff ac ansawdd y gwasanaeth. Asesodd y Comisiwn hefyd effaith y gwahanol opsiynau cyllido ar amcanion ehangach fel adfywio cymunedol ac economaidd, ac ystyriaethau allanol fel atebolrwydd a’r effaith ar yr awdurdod lleol.
Casgliadau
Daeth y Comisiwn i’r casgliad mai’r unig ffordd y gellid darparu adnoddau digonol er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru a chynnal gwasanaeth o safon uchel fyddai drwy drosglwyddo’r stoc i LCC. Mae’r rheolau cyllid gweithredol gwahanol ar gyfer LCCiaid yn cynnwys dileu dyledion, y rhyddid i fenthyca cyllid preifat a’r ffaith fod cyllid gwaddol ar gael yn golygu mai dyma’r unig fecanwaith cyllido a all ddarparu cyfalaf digonol a sicrwydd ariannol tymor-hir.
Cydnabyddai’r Comisiwn y byddai’r lefelau buddsoddi y gallai LCC eu denu yn arwain at lefel heb ei ail o fuddsoddi mewn tai, gyda buddiannau anferth o bosib i’r gymuned ehangach. Er mwyn sicrhau y byddai’r LCC a fyddai’n derbyn y stoc yn cyflawni disgwyliadau’r tenantiaid, ac yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd a chymunedol, argymhellodd y Comisiwn y dylid creu LCC newydd, pwrpasol. Byddai’r cyfrwng perchnogaeth newydd hwn, y cyfeirir ato fel Y Bont, yn canolbwyntio ar denantiaid, gyda chyfansoddiad hyblyg i ganiatáu i ddylanwad y tenantiaid gynyddu wrth iddynt bennu lefel eu cyfranogaeth. Mae model y Bont hefyd yn rhoi cyfrifoldeb cyfansoddiadol ar ysgwyddau’r landlord i gyfrannu’n bositif at y gymuned leol drwy bolisïau sydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi a gwaith i breswylwyr a chyfleodd busnes posibl i gwmnïau lleol.
Sut bynnag yr ewch ati i ymdrin â phroblem bodloni’r SATC, fe gewch fod cyllid tai cymdeithasol yn ddryswch o reolau biwrocrataidd afresymegol y byddai hyd yn oed Franz Kafka yn eu cael yn rhy anghredadwy ac afresymol i’w defnyddio fel is-blot. Er gwaethaf hynny, roedd y Comisiwn yn benderfynol o sicrhau canlyniad cynaliadwy i’r broses. Roedd cynnyrch graenus y Comisiwn yn dangos:
- mor drylwyr a chynhwysol y bu’r broses
- mor gynhwysfawr oedd y dystiolaeth a dderbyniwyd, a
- mor fedrus y bu’r Comisiynwyr o ran cymhwyso’r ffeithiau i’r amgylchedd gweithredu
Daeth y Comisiwn i gasgliadau unfrydol, a chyflwynwyd yr adroddiad terfynol i’r Cyngor ym mis Hydref 2005. Mae’r Comisiwn wedi darparu ar gyfer yr Awdurdod ateb ymarferol i’r broblem gyllido, yn seiliedig ar astudiaeth drwyadl a phraff. Mae Cyngor y Ddinas wedi penderfynu caniatáu digon o amser i ystyried y canlyniadau ac ymgynghori ar yr argymhellion gyda budd-ddeiliaid cyn penderfynu ar sail y wybodaeth ym mis Mawrth 2006. Bydd yn rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd ymateb i her bodloni SATC a disgwyliadau tenantiaid.
Ceir copi llawn o’r adroddiad hwn ar www.newport.gov.uk.
Barn bersonol Chris John a Tony Hawrot, aelodau o dîm cefnogi’r Comisiwn yw’r farn a fynegir yn yr erthygl hon, ac nid barn Cyngor Dinas Casnewydd.