English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Adfywio o’r Gwraidd

Yn y gyntaf o gyfres o erthyglau sy’n edrych ar adfywio o fewn cymunedau unigol ledled Cymru, mae WHQ yn canolbwyntio ar Grŵp Sylfaen Gellideg.

Tipyn o hanes

Mae Gellideg yng ngogledd Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Fel llawer o stadau tai yn ne Cymru, wedi i ddiwydiannau cynhyrchu trwm ac ysgafn gau yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae lefelau diweithdra, camddefnyddio cyffuriau a throseddu wedi bod yn uchel. Cafodd stad Gellideg, sy’n rhan o ward Cyfarthfa (ward Rhoi Cymunedau’n Gyntaf), ei hadeiladu ryw 50 mlynedd yn ôl; ar hyn o bryd, mae’n gymysgedd o dai cyngor ac eiddo hawl-i-brynu. Mae rhyw 2,000 o drigolion yn byw ar y stad, sy’n ffurfio ardal fechan o amddifadedd dwys o fewn y ward.

Yn wahanol i lawer o stadau eraill yn ne Cymru, nid yw Gellideg wedi bod yn rhan o gyfres o fentrau adfywio dros y degawdau. Nid tan ganol y 1990au y derbyniodd Ymddiriedolaeth Groundwork a Rhondda Cynon Taf gyllid gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ymgynghori â’r gymuned a gwneud gwelliannau i’r amgylchedd.

Yn sgîl hyn, ym 1998, gyda chefnogaeth Groundwork, ffurfiodd y trigolion Grŵp Sylfaen Gellideg i wella bywyd ar y stad. Daeth y grŵp ynghyd oherwydd fod mamau yn y cylch yn teimlo’n rhwystredig oherwydd fod cyn lleied o gyfleoedd ar gael i’w plant, a’r lefelau cynyddol o ddibyniaeth ar gyffuriau yn y cylch. Ei nod ddechreuol oedd sicrhau cyfleusterau cymunedol, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc, galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a magu hyder, a helpu pobl yn ôl i’r gwaith. I ddechrau, bu’r Grŵp yn rhedeg disgos ar gyfer plant a thîm pêl-droed gyda gwirfoddolwyr, ond doedd ganddo ddim canolfan lle gallai gwrdd neu gynnal gweithgareddau.

Gwaith y Grŵp

Nodai’r Grŵp yw:

  • gwella ansawdd bywyd holl drigolion Gellideg drwy wella’r amgylchedd cymdeithasol, economaidd, adloniadol a ffisegol
  • adfywio’r gymuned
  • gweithio ar y cyd â grwpiau ac asiantaethau eraill a’r Cyngor er y budd mwyaf i Gellideg ar lefel leol a chenedlaethol

Yn 2000, dechreuodd y Grŵp rentu fflat gan yr awdurdod lleol fel canolfan, ac yn awr maent yn talu rhent rhad am 4 fflat mewn un bloc, yn ogystal â bloc arall o 6 fflat sydd i fod i gael ei adnewyddu i gartrefu menter hyfforddi fawr gyfa chyllid Ewropeaidd. Mae’r Grŵp hefyd yn rhentu’r Neuadd Eglwys leol ac yn berchen ar lain cicio pêl mawr ei ddefnydd, a brynwyd gyda chymorth Sportslot.

Cefnogir y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Grŵp gan amrywiaeth o gyllidwyr, yn cynnwys arian Amcan 1, Cronfa Fawr y Loteri a Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Mae’r arian yn mynd ar:

  • ddarpariaeth ar gyfer ieuenctid 5 noson yr wythnos
  • clwb ar-ôl-ysgol 5 noson yr wythnos
  • meithrinfa
  • grŵp rhiant a phlentyn
  • grŵp pobl hŷn
  • canolfan byw’n iach gyda chyllid gan y Loteri Fawr
  • hyfforddiant gwaith
  • darparu gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth eang o faterion

Mae’r Grŵp wedi gweithio gyda sefydliadau eraill hefyd i wneud eu gwasanaethau’n fwy hygyrch i drigolion. Mae’r heddlu cymunedol, y swyddog tai, yr ymwelydd iechyd a Chysylltiadau Gwaith oll yn darparu gwasanaethau rheolaidd o ganolfan y Grŵp.

Trigolion y stad sydd wedi ffurfio bwrdd y Grŵp erioed, ond mae system yn bod hefyd i sicrhau fod pobl nad ydynt am fod ar y bwrdd yn gallu chwarae rhan. Mae cynrychiolwyr stryd wedi cael eu penodi ar draws y stad, sy’n cadw mewn cysylltiad â holl drigolion eu stryd. Mae’r lefel yma wedi chwarae rhan bwysig o ran datblygu Neighbourhood Watch. Mae’r Grŵp hefyd wedi derbyn hyfforddiant gan Oxfam mewn arfer cyfranogol a chydraddoldeb rhywiol ac, o ganlyniad, cyhoeddwyd Fifty voices are better than one ym mis Mawrth 2003. Edrychai hyn ar wahanol anghenion dynion a menywod sy’n byw ar y stad er mwyn sicrhau fod gwasanaethau’n cyflawni anghenion gwirioneddol yn hytrach na rhai tybiedig.

Rhoi Cymunedau’n Gyntaf

Mae Grŵp Sylfaen Gellideg yn derbyn grant o dan Rhoi Cymunedau’n Gyntaf i dalu am waith cynyddu gallu a chostau staff. Mae ymgeisio am gyllid er mwyn gallu darparu rhaglenni go iawn ar gyfer y gymuned wedi bod yn her. Mae rhai cyrff grantiau wedi ymateb i gynigion drwy ddweud nad yw’r ardal yn gymwys i dderbyn cyllid ganddynt os yw’n gymwys ar gyfer Rhoi Cymunedau’n Gyntaf.

Mae’r Grŵp wedi ei gynrychioli ar Fwrdd Partneriaeth Rhoi Cymunedau’n Gyntaf. Dyma eu sylwadau ar sut mae’r Bwrdd Partneriaeth yn gweithio:

  • mae’n bositif iawn o safbwynt cynrychioli cymunedau, sy’n sicrhau fod materion sy’n bwysig i gymunedau yn cael eu codi, ond
  • nid yw wedi bod yn effeithiol o ran dylanwadu ar benderfyniadau a herio ffyrdd presennol o weithio, ac mae fel pe bai’n gweithio ar wahân

Enghraifft benodol yw’r ffaith nad yw’r adran dai yn mynychu’r Bwrdd Partneriaeth ac eto, tai yw un o’r problemau allweddol o safbwynt Gellideg. Mae’r Cytundeb Cyfranogaeth Tenantiaid yn gweithredu ar lefel y ward gyfan, ac felly nid yw’n cynnig cyfle i fynd i’r afael â phroblemau sy’n benodol i ardaloedd unigol.

Rhwydweithiau ehangach

Mae gan y Grŵp gysylltiadau da gydag amrywiaeth o rwydweithiau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Colette Watkins, Rheolydd Project y Grŵp, yn aelod o Bwyllgor Gwaith Rhwydwaith Gwrth-Dlodi Cymru sy’n dwyn ynghyd lawer o unigolion a mudiadau lleol i ddylanwadu ar agendâu cenedlaethol ac ar ffyrdd o weithio. Mae Colette yn angerddol ynglŷn â’r angen i ddatblygiad gwaith gwrth-dlodi ac adfywio gynnwys pobl sy’n byw mewn tlodi, yn hytrach na bod y rheini’n cael pethau ‘wedi eu gwneud iddynt’. Mae’r Rhwydwaith wedi chwarae rhan yn arolwg y Cynulliad o orddyled ac mae ar hyn o bryd wrthi’n pwyso a mesur Rhoi Cymunedau’n Gyntaf mewn pedair ardal yng Nghymru o safbwynt y sector cymuned.

Ynghyd â stadau yn Wrecsam, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd, mae Gellideg hefyd yn rhan o Raglen Cymdogaeth Sefydliad Joseph Rowntree. Nod y rhaglen hon yw cefnogi ymbwru cymunedau drwy gefnogaeth ‘ysgafn ei chyffyrddiad’ a rhwydweithio, ac mae’n cynnwys 20 o grwpiau a phrojectau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Drwy hyn, mae’r Grŵp wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o’r gwahaniaethau yn y lefel o fuddsoddi cymunedol rhwng Gellideg a’r cymunedau Seisnig sy’n cyfranogi yn y rhaglen.

Y dyfodol

Mae’r Grŵp, sydd wedi cyflawni llawer iawn, bellach yn cyflogi staff o 26, gydag 20 o’r rhain yn drigolion lleol, ac mae’n darparu amrywiaeth ganmoladwy o wasanaethau a chefnogaeth ar gyfer trigolion lleol. Mae cyllideb flynyddol y mudiad yn £2.5 miliwn bellach. Bydd project hyfforddi, cyflogaeth ac entrepreneuriaeth 3-blynedd, gwerth £855,000 yn dechrau cyn bo hir.

Gan edrych tuag at y dyfodol, mae’r Grŵp:

  • yn gweithio tuag at ddatblygu cyfleuster/neuadd gymuned newydd i gymryd lle Neuadd yr Eglwys sydd mewn cyflwr gwael
  • yn archwilio sefydlu mentrau cymdeithasol gyda chytundebau lefel gwasanaeth i werthu gwasanaethau i sefydliadau eraill
  • wedi nodi’r angen am becyn cefnogaeth ar gyfer teuluoedd sy’n byw ar y stad
  • yn datblygu cynllun i ehangu gwaith cynyddu gallu i bob rhan o’r ward

Ond , medd Colette Watkins, mae’r problemau sy’n wynebu trigolion a’r cylch mor ddyrys fel na all y Grŵp ateb yr holl ofynion: mae’r rhestr yn cynnwys dyled, dibyniaeth ar fudd-daliadauu, unigrwydd, diffyg hunan-barch, diffyg dyheadau, a’r ffaith fod alcohol a chyffurfiau ar gael yn rhy hawdd i bobl ifanc. Cam nesaf allweddol, meddai, fyddai datblygu prosesau a systemau i sicrhau fod anghenion lleol yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau’r awdurdod lleol ac asiantaethau statudol eraill, a galluogi’r sector cymuned i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu ynghylch lefelau o gyllid a gwasanaethau a glustnodir ar gyfer yr ardal. Wedi’r cwbl, sicrhau fod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed yn glir yw’r hyn y dylai Rhoi Cymunedau’n Gyntaf fod yn ei wneud, meddai.

Prin ei bod hi’n syndod fod hyn yn adleisio un o gasgliadau interim y Rhaglen Rowntree y cyfeiriwyd ati uchod:

‘dylid croesawu’r pwyslais polisi cyfredol ar y gymdogaeth os yw trigolion lleol yn mynd i allu dylanwadu’n wirioneddol ar y gwasanaethau a’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Ond bydd angen newid go iawn o fewn awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill os yw eu systemau a’u diwylliannau gwaith yn mynd i gyflawni [anghenion] yr agenda gymdogaeth.’

Lending a hand: the value of light touch support in empowering communities, Sefydliad Joseph Rowntree, Gorffennaf 2005

Mae hefyd angen ffynhonnell i gyllido projectau cyfalaf a ffynonellau cyllid refiniw cynaliadwy – mae’r rhan fwyaf o’r staff a gyflogir gan y Grŵp ar gytundebau dros-dro. Ac, meddai Colette, mae angen cydnabod cyfleoedd i gysylltu’r stad ag adfywio ehangach yng nghylch Merthyr, fel Parc Adwerthu Cyfarthfa, a manteisio ar hynny. Does gan y Parc Adwerthu ddim gofal plant ar y safle, does dim cysylltiadau cludiant â’r Parc na rhaglenni hyfforddi ar gyfer datblygu sgiliau a symud i mewn i swyddi gyda chwmnïau sydd wedi eu lleoli yn y Parc, enghraifft wirioneddol o fethu cyfle.

Mae’r adroddiad Fifty voices are better than one ar gael ar-lein.

Mae’r cyfarpar sydd ar gael gyda Fifty voices, What Men & Women Want – a practical guide to gender and participation ar gael ar-lein.

Mae’r adroddiad, Lending a hand: the value of light touch support in empowering communities ar gael ar-lein.

Carai WHQ ddiolch i Colette Watkins a’r tîm yn Grŵp Sylfaen Gellideg am eu hamser a’u cymorth gyda llunio’r erthygl yma. Gellir cysylltu â Colette ar colette@gellideg.net.

Os hoffech weld WHQ yn rhoi sylw i waith adfywio yn eich cymuned chi yn y dyfodol, da chi, ebostiwch y golygydd.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »