English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dod o hyd i’r cydbwysedd cywir

Pa mor effeithiol yw’r system atal digartrefedd newydd? Mae Jennie Bibbings yn adrodd ar ganlyniadau’r darn cyntaf o ymchwil i ofyn i bobl ddigartref eu hunain.

Yn gynharach eleni, cafodd Jonah* ei hun yn cysgu ar y strydoedd ar ôl colli ei gartref. Ar ôl ofni bod canser arno, fe’i cafodd yn anodd ymdopi â’r straen oherwydd ei anhwylderau iechyd meddwl. Am na fyddai bob amser yn cydweithredu â’i landlord neu weithwyr cefnogi yn ystod y cyfnod hwn, aethant ag ef i’r llys a’i droi allan yn y man.

‘Fe gaeais fy hun i mewn am fod arna’i gymaint o ofn wedi canlyniadau’r profion’, meddai. ‘Roedd y gweithwyr yn anobeithiol, yn dweud bod rhaid i fi weithio gyda nhw, ond ‘mod i ddim yn ateb y drws. Pan fyddwn i’n ateb, byddent yn gofyn i mi a oeddwn i’n iawn, ac yna’n mynd … fe daflon nhw fi allan yn y pen draw.’

Ar ôl colli ei gartref, aeth Jonah i weld y meddyg ynglŷn â’i iechyd meddwl a chafodd ei atgyfeirio at wasanaethau digartrefedd yr awdurdod lleol. Roedd mewn cyflwr gwael yn mynd yno: ‘Rôn i’n rhacs, wedi bod yn yfed llwythi, ac roedd fy iechyd meddyliol a chorfforol yn wael.’

Cafodd staff Atebion Tai le iddo y diwrnod hwnnw mewn hostel sych, a’i atgyfeirio am gefnogaeth cyffuriau ac alcohol. Pan siaradon ni â Jonah, roedd yn dal yn yr hostel yn aros i fynd i mewn i lety â chymorth, ac roedd yn hapus iawn â’r ffordd y cawsai ei helpu.

‘Mae gen i broblem yfed’, meddai, ‘ond mae’r lle yma’n gwneud lles mawr i fi. Dwi’n cael llawer o gefnogaeth, a dwi hyd yn oed yn gwirfoddoli.’

Ar ôl defnyddio gwasanaethau digartrefedd yn y gorffennol, dywedodd Jonah bod ei brofiad y tro yma yn dra gwahanol.

‘O’r blaen, byddwn wedi gorfod mynd â’m sach gysgu, fy fflasg, oherwydd byddech chi yno drwy’r dydd’, meddai. ‘Byddai’r staff i gyd â gwep ddiflas, i mewn ac allan o stafelloedd yn cwyno, chi’n gwbod. Y tro ‘ma, roedd hi’n gwbl wahanol. Maen nhw’n siarad â chi ar lefel bersonol, ar sail well. Maen nhw’n eich deall chi.’

Roedd Jonah yn un o 50 o bobl a gyfwelwyd gennym am eu profiadau o wasanaethau digartrefedd ers i Gymru newid y gyfraith ym mis Ebrill 2015.

Mae arwyddion cynnar calonogol yn y stadegau swyddogol ynglŷn â sut mae pethau’n mynd – ac ysbrydolwyd Lloegr gan yr heip a’r sylw a gafodd model Cymru i sefydlu system debyg yn y Mesur Lleihau Digartrefedd.

Ond hyd yn hyn, ni chlywyd dim gan y bobl eu hunain ynglŷn â sut y cawsant eu helpu.

Gyda’r adroddiad hwn, Camau Rhesymol, mae Shelter Cymru yn ceisio torri drwy rywfaint o’r heip hwnnw, a dod â’r sgwrs yn ôl at y brofiadau bywyd pobl.

Yr hyn a gawsom oedd gwasanaeth sy’n dal i fod yng nghanol cyfnod o newid. Buom yn siarad â rhai a deimlai iddynt gael eu helpu’n effeithiol a rhai a deimlai iddynt gael eu gwthio o’r neilltu gyda’r mymryn lleiaf o help, er eu bod wedi cysylltu â’r un awdurdod, ar yr un pryd.

Yn aml ymddangosai gwasanaethau yn brysur iawn, heb allu neilltuo digon o amser i ganfod achosion gwraidd digartrefedd a mynd i’r afael â hynny.

Serch hynny, cawsom lu o enghreifftiau’n arddangos dull person-ganolog o fynd ati – yn aml â chanlyniadau gwych. Mae’r ffaith y llwyddodd staff i gynorthwyo rhai pobl i’r fath lefel ddwys, er gorfod ymdrin â chymaint o achosion, yn rhywbeth y dylid ei gydnabod a’i ganmol.

Ond yng nghanol yr arfer da yma, roedd digon o enghreifftiau o benderfyniadau gwael a chyngor cyfreithiol gwallus i fod yn destun pryder i ni.

Cawsom hefyd bod tuedd glir ymhlith cynghorau i syrthio’n ôl ar amrediad cyffredinol a chyfyngedig o ymatebion sef, fel arfer, cynnig rhestr o landlordiaid preifat ac addo helpu gyda rhent o flaen llaw a bond. I rai pobl, dyna’r cwbl roedd ei angen arnynt, ond dywedodd eraill wrthym fod arnynt angen mwy o help na’r hyn a gawsant.

Doedd y gorchwyl o ailgyflunio gwasanaethau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd byth yn mynd i gael ei gyflawni dros nos. Gan ein bod wedi cychwyn ar y daith hon yng Nghymru, mae’n rhaid i ni ei dilyn i’r pen.

Efallai nad oeddem yn sylweddoli, yn y dyddiau cynnar, newid mor sylfaenol y byddai Deddf Tai (Cymru) yn ei achosi. Mae a wnelo swyddogaeth newydd yr ymarferydd Atebion Tai lai â rhedeg profion a llawer mwy â darparu cefnogaeth i helpu pobl i oresgyn eu hargyfwng tai a chael eu traed tanynt unwaith eto.

Tra’r oedd llawer o waith ataliol yn cael ei wneud cyn i’r gyfraith newid, doedd disgwyliadau pobl nunlle’n agos i’r hyn y maen nhw heddiw.

Yn y pen draw, rhoddir gormod o gyfrifoldeb ar ysgwyddau Atebion Tai. Dydy atal digartrefedd ddim ynglŷn â brics a morter yn unig, ond ag asesu anghenion pobl yn eu crynswth a chynnig ymyriadau pwrpasol. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i allu cyfredol y gwasanaeth.

Argymhellir bod angen gwell cefnogaeth ar staff er mwyn gallu cyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru. Dylai hyn gynnwys gwell hyfforddiant a mwy o arweiniad mewn meysydd allweddol fel sut i ddefnyddio Cynlluniau Tai Personol; cafodd ein hastudiaeth bod y rhain i raddau helaeth yn methu’r nod fel ffordd o ymbweru defnyddwyr gwasanaethau.

O ran rhyddhau adnoddau, gellid gwneud llawer iawn mwy i gomsiynu gwasanaethau wedi eu cyllido gan Cefnogi Pobl sy’n cyflenwi gwaith Atebion Tai. Ceir enghreifftiau da eisoes o wasanaethau cefnogi tenantiaethau hyblyg, byr-dymor sy’n gweithio mewn modd cyfannol ac sy’n ennill clod eithriadol gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

Nid unig bwrpas Cefnogi Pobl yw helpu pobl o fewn 56 diwrnod o fod yn ddigartref wrth gwrs, ac ni fyddem am weld cyfyngu cyllid i lynu’n rhy glòs wrth ofynion y Ddeddf, ond gellid – ac fe ddylid – dod o hyd i gydbwysedd.

I Jonah, un o’r newidiadau mwyaf y tro hwn oedd agwedd y staff. Am iddo gael ei drin yn garedig, helpodd hynny ef i ymgysylltu â’r gwasanaeth a chael yr hyn roedd arno ei angen.

‘Maen nhw wedi bod yn ardderchog’, meddai. ‘Roedd y bobl acw yn y cyngor yn wych. Nhw ddododd fi yn fan yma, a thrwy fod yn gyfeillgar, maen nhw wedi fy helpu’n wirioneddol.’

Mae ein hadroddiad wedi helpu i nodi a disgrifio sut beth yw’r dull person-ganolog o fynd i’r afael â digartrefedd yn ymarferol.

I bobl fel Jonah, nid ‘stwff meddal’ mo hyn, ond yr allwedd i’r tebygrwydd o sicrhau canlyniad boddhaol.

* Newidiwyd ei enw

Jennie Bibbings yw rheolydd ymgyrchu Shelter Cymru

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL

  • Dywedodd 90% o’r bobl a ddefnyddiodd y gwasanaethau digartrefedd y siaradwyd â nhw â pharch a chwrteisi
  • Roedd 57% yn hyderus fod y cyngor wedi gwrando ar eu problem dai ac yn deall eu sefyllfa. Dywedodd un o bob pedwar (25%) na chredent bod y cyngor wedi gwrando arnynt na deall eu sefyllfa
  • Dywedodd ychydig yn llai nag un o bob pedwar (23%) na chawsant lefel briodol o breifatrwydd wrth drafod eu sefyllfa dai
  • Dywedodd dau o bob pump (41%) fod y cyfathrebu ysgrifenedig yn glir ac yn hawdd ei ddeall, tra dywedodd 35% nad ydoedd yn hawdd ei ddeall
  • Dywedodd eu hanner (49%) nad oedd y cyngor, wedi’r cyfarfyddiad cyntaf, wedi eu hysbysu’n gyson o’r sefyllfa ddiweddaraf gyda’u cais
  • Dywedodd mwy na’u hanner (53%) na roddwyd Cynllun Tai Personol iddynt. Ychydig dros draean (35%) a ddywedodd eu bod wedi cael un, ac yr esboniwyd iddynt beth yn union ydoedd, a sut y byddai’n cael ei ddefnyddio.
  • Dywedodd 11 o bobl y cawsant hen restr o landlordiaid, a oedd yn cynnwys cyfran uchel o landlordiaid nad oeddynt yn fodlon derbyn budd-dâl tai.
  • Mewn un cyngor, dywedodd tri pherson y gofynwyd iddynt gadw cofnod ysgrifenedig o’r amser a dreuliwyd yn chwilio am lety, a oedd yn bwysau ychwanegol arnynt.
  • Dywedwyd wrth bedwar person a oedd wedi derbyn rhybudd i ymadael â’u llety rhent preifat i fynd yn ôl a disgwyl am y beilïaid – ac fe’u cynghorwyd ar gam pe byddent yn gadael cyn hynny y byddai’r cyngor yn eu cael yn fwriadol ddigartref.

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »