DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
ASau yn lansio ymchwiliad i dai â chymorth
Lansiodd dau bwyllgor dylanwadol o ASau San Steffan ymchwiliad ar y cyd i sut y cyllidir tai â chymorth wrth i’r dadlau barhau ynglŷn â chapio’r lwfans tai lleol (LTLl).
Bydd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau a’r Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol yn archwilio cynlluniau i gapio rhenti o 2019 ymlaen, gyda chyllid ychwanegol i lenwi’r bwlch. Gwahoddir tystiolaeth ar faterion yn cynnwys safle ffoaduriaid a thai a chymorth, sut y bydd cymorth lleoledig yn gweithio yn Lloegr, a’r effaith ar fuddsoddi a thenantiaid presennol.Mae effaith ehangach capio’r LTLl ar dai cymdeithasol yn dal yn destun dadl ledled y DU, gyda sylw wedi ei ganolbwyntio ar rai o dan 35 oed a fydd yn gweld ei budd-dâl tai wedi ei gyfyngu i’r gyfradd llety-a-rennir, ac ar y penderfyniad i weithredu cap yn achos tenentiaid presennol mewn llety â chymorth.
Gwelodd mis Tachwedd ddechrau gweithredu’r cap newydd, is (£20,000 y tu allan i Lundain) ar fudd-daliadau yn eu crynswth, a chafodd llywodraeth y DU ei threchu yn y Goruchaf Lys ar effaith y dreth stafell-wely ar bobl anabl.
LLOEGR
Tai ar frig yr agenda cyn cyhoeddi Papur Gwyn
Dechreuodd y Flwyddyn Newydd â llu o gyhoeddiadau gan y llywodraeth ar dai yn Lloegr cyn y Papur Gwyn a oedd ar fin cael ei gyhoeddi wrth i WHQ fynd i’r wasg.
Enwodd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol safleoedd ar gyfer y 14 cyntaf o ‘bentrefi gerddi’ a allai ddarparu 48,000 o gartrefi, ynghyd â thair tref erddi newydd. Cynlluniau dan arweiniad lleol yw’r rhain ar gyfer cymunedau newydd ledled Lloegr y tu allan i Lundain: datblygiadau o fwy na 10,000 o gartrefi yw trefi, gyda phentrefi’n cynnig rhwng 1,500 a 10,000 o gartrefi.
Y diwrnod canlynol, cadarnhaodd yr Adran y byddai cyllid ar gael ar gyfer ‘miloedd’ o gartrefi cyntaf mewn 30 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled y wlad, i’w gwerthu ar ostyngiad o 20% i brynwyr tro-cyntaf rhwng 23 a 40 oed. Addawai maniffesto 2015 y Torïaid 200,000 erbyn 2020 ond mae gweinidogion wedi awgrymu y bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn y diffiniad.
Yn olaf, cyhoeddodd y llywodraeth y gellir yn awr ymgeisio i’r Rhaglen Cyd-berchenogaeth a Cartrefi Fforddiadwy 2016-2020. Mae hwn eto ar gyfer cartrefi y tu allan i Lundain, gyda phenderfyniadau buddsoddi yn Llundain wedi eu datganoli i’r maer.
Bydd y rhaglen yn elwa ar y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor Philip Hammond yn Natganiad yr Hydref. Caiff Cymdeithasau Tai fwy o hyblygrwydd yn y modd y byddant yn defnyddio’u dyraniad, ond disgwylir i drwch yr arian fynd ar gynlluniau perchentyaeth.
Addawyd y byddai’r Papur Gwyn yn cynnwys gweithredu radicalaidd i ddarparu mwy o gartrefi, Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Sajid Javid mai tai oedd ei flaenoriaeth gyntaf.
Dileu Talu i Aros gorfodol
Mewn tro pedol gan weinidogion, dilewyd cynlluniau i orfodi cynghorau i godi rhenti Talu-i-Aros uwch ar denantiaid incwm-uchel.
Byddai tenantiaid ag incwm teuluol o fwy na £30,000 (neu £40,000 yn Llundain) wedi wynebu cynnydd o 15c yn eu rhent am bob £1 uwchlaw’r trothwy hwn. Fodd bynnag, cadarnhawyd cynlluniau ar gyfer tenantiaethau cyfnod-penodol gorfodol i denantiaid cyngor newydd.
Bydd Talu i Aros bellach yn wirfoddol ar gyfer cynghorau lleol yn ogystal â chymdeithasau tai.
YR ALBAN
Gweinidog yn cadarnhau cyllid ar gyfer cartrefi fforddiadwy
Cadarnhaodd yr ysgrifennydd cyllid Derek Mackay fuddsoddiad cyfalaf uniongyrchol o £470 miliwn ar gyfer 50,000 o gartrefi fforddiadwy yn ei Gyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr.
Dyrannodd £140 miliwn hefyd ar gyfer rhaglenni effeithlonrwydd ynni i ymgodymu â newid hinsawdd, a pharhau ag arian ar gyfer cyllidebau awdurdod lleol y flwyddyn nesaf.
Croesawodd cyfarwyddydd y Sefydliad Tai Siartredig Annie Mauger y penderfyniadau, yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol, a phwysleisiodd hefyd effaith y cap is ar fudd-daliadau.
GOGLEDD IWERDDON
Cynllun i newid dosbarthiad cymdeithasau tai
Cyhoeddodd y gweinidog cymunedau, Paul Givan, gynllun i wrthdroi’r penderfyniad i ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff sector cyhoeddus.
Yn unol â llywodraethau eraill y DU, lansiodd ymgynghoriad ar y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol i sicrhau bod cymdeithasau’n cael eu dosbarthu yn y sector preifat neu fel mentrau cymdeithasol annibynnol. Mae’r cynllun yn cynnwys cynigion i derfynu’r cynllun gwerthu tai statudol (hawl i brynu) neu i’w wneud yn wirfoddol.
Meddai Nicola McCrudden, cyfarwyddydd Sefydliad Tai Siartredig (STS) Gogledd Iwerddon: ‘Mae’r STS yn croesawu’r camau chwim gan y llywodraeth parthed ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus – mae’n neilltuol o bwysig gan ein bod yn llwyr ddibynnol ar gymdeithasau tai i ddarparu ein tai cymdeithasol. Pe na newidid hyn, byddai’n llesteirio gallu cymdeithasau tai i adeiladu cartrefi cymdeithasol yn ddifrifol, ar adeg o bwysau dirfawr ar restrau aros.’
CYMRU
Hwb terfynol i godi dai ac adfywio
Cadarnhaodd Cyllideb Derfynol 2017/18 Llywodraeth Cymru £53 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i gefnogi targed y Llywodraeth o 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn.
Mae’r arian ychwanegol ar ffurf £20 miliwn yn 2017/18 a £33 miliwn ar gyfer 2018/19 o’i gymharu â Chyllideb Ddrafft mis Hydref. Mae hyn yn cynyddu’r dyraniad ‘i ehangu’r cyflenwad a’r dewis o dai fforddiadwy’ o £84 miliwn i £104 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac o £50 miliwn i £84 miliwn yn 2018/19.
Cafwyd £50 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf ar gyfer adfywio, gan ganolbwyntio ar gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru a blaenoriaethau’r Llywodraeth, yn cynnwys Tasglu Cymoedd De Cymru, y Metro, a bargeinion dinesig.
Bydd cyllid cyfalaf adfywio yn cynyddu o £10 miliwn yn 2018/19, £15 miliwn yn 2019/20 a £25 miliwn yn 2020/21.
Mae hyn adfer rhai toriadau yn y Gyllideb Ddrafft, ond bydd y dyraniad ar gyfer 2017/18 yn dal i syrthio o £83.5 miliwn yng Nghyllideb Atodol Mehefin 2016 i £17.5 miliwn.
Gweinidog yn cadarnhau rhenti uwch
Bydd rhenti cymdeithasol yn cynyddu o 2.5 y cant yn 2017/18 wedi i’r ysgrifennydd cymunedau a phlant Carl Sargeant gadarnhau y bydd y fformiwla rhenti bresennol yn para am flwyddyn arall.
Mae’r fformiwla’r seiliedig ar gyfradd chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr ac 1.5 y cant. Mae hyn i’w gyferbynnu â gostyngiad o 1 y cant yn rhenti cymdeithasol Lloegr.
Meddai Stuart Ropke, prif weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad. Bydd cynnal y setliad rhent ar gyfer 2017/18 yn helpu cymdeithsau tai i chwarae eu rhan mewn cyrchu’r nod o 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon.
‘Mae ffrwd rhent ddiogel ochr yn ochr â pharhad cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol i hyfywedd cymdeithasau tai Cymru yn y dyfodol, ac mae’r sicrwydd hwn yn golygu y gall y sector barhau i adeiladu cartrefi i gyrchu’r nod o 20,000, a darparu gwasanaethau mewn cymunedau ledled Cymru.’
Partneriaid yn arwyddo Cytundeb Cyflenwi Tai
Arwyddodd Llywodraeth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gytundeb Cyflenwi i gefnogi’r targed o 20,000 o dai fforddiadwy yng nghynhadledd CCC ym mis Tachwedd.
Cadarnhaodd yr ysgrifennydd dros gymunedau a phlant Carl Sargeant gynnydd o £30 miliwn yng nghyllideb rhaglen Grant Tai Cymdeithasol 2016/17 hefyd, cyfanswm o £98 miliwn o gyllid.
O’r 20,000 o gartrefi, daw 6,000 trwy gyfrwng Cymorth i Brynu, ond mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i ddarparu 12,500 o leiaf, a bydd llawer o awdurdodau lleol hefyd yn adeiladu nifer sylweddol o gartrefi am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
Mae’r cytundeb hefyd yn addo miloedd o gyfleoedd hyfforddi, swyddi a phrentisiaethau erbyn 2021.
Dywedodd Carl Sargeant: ‘Dwi am gryfhau’r partneriaethau y gallwn drwyddynt gyflawni’r targed newydd gan y bydd hyn yn dylanwadu’n fawr ar ein dull o gyflenwi tai dros y pum mlynedd nesaf. Bwriadwn fuddsoddi mwy na £1.5b. mewn cartrefi fforddiadwy yn ystod y llywodraeth hon. Bydd parhau i gefnogi tai cymdeithasol yn hanfodol. Dydy “cario mlaen fel arfer” ddim yn opsiwn, ond bydd cynlluniau profedig fel y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai, yn chwarae rhan allweddol mewn darparu tai fforddiadwy a helpu’r mwyaf diymgeledd i sicrhau llety a dal gafael arno.’
Addawodd y gweinidog hefyd i wneud beth bynnag fyddai ei angen i wrthdroi’r statws newydd a roddwyd i gymdeithasau tai fel cyrff sector cyhoeddus, tra’n sicrhau tenantiaid na fyddai unrhyw ‘chwalfa ddadreoleiddio’.
Tai’r Glannau yn sicrhau pecyn £20m
Bydd pecyn cyllid gwerth £20 miliwn gan Affordable Housing Finance yn galluogi Grŵp Tai’r Glannau i ehangu ei borfffolio presennol o gynlluniau preswyl sydd yn helpu i adfywio canol trefi ledled de Cymru.
Gobeithia fuddsoddi mewn projectau adfywio mewn ardaloedd manwerthu a masnachol a’u cyffiniau, yn sgil llwyddiant datblygiadau tebyg yn Abertawe, Pen-y-bont a Phort Talbot.
Mae hyn yn cynnwys y Rhiw, datblygiad £9 miliwn sydd yn mynd i drawsnewid canol tref Pen-y-bont trwy ddatblygu tai fforddiadwy, gofod masnachol a maes parcio aml-lawr newydd. Bydd agwedd tai-newydd y cynllun yn cynnwys 28 fflat â llefydd parcio penodedig ar gyfer preswylwyr, gyda’r bwriad o ddenu pobl sy’n gweithio yng nghanol y dref neu gymudwyr a hoffai fyw yn agos at gysylltiadau cludiant hanfodol.
Meddai Simon Jones, cyfarwyddydd ariannol Grŵp Tai’r Glannau: ‘Rydym yn hynod ddiolchgar i Affordable Housing Finance am y gefnogaeth ariannol, a fydd yn gyfraniad mawr at gynyddu ein gallu i gwblhau projectau adfywio ledled de Cymru. Carwn hefyd ddiolch yn bersonol i’m cyd-weithwyr a weithiodd mor galed i sicrhau’r cyllid tymor-hir hwn.’
Is-gwmni i’r Gorfforaeth Cyllid Tai yw Affordable Housing Finance. Rhennir y buddsoddiad o £20 miliwn rhwng bondiau a chyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop, gyda’r £7 miliwn cyntaf yn cael ei ddarparu ar gyfradd log isel dros y 30 mlynedd nesaf.
Cofio’r gweithwyr dur
Lansiodd y grŵp gofal cymdeithasol a thai, Linc Cymru, broject ymchwil cymunedol, lle bydd ei denantiaid a defnyddwyr ei wasanaethau yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion a haneswyr i ddarganfod hanes coll mwy nag 850 o weithwyr dur lleol a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Project ar y cyd, dwy-flynedd o hyd yw Y Rhyfel Byd Cyntaf – Cofio’r Dur, a fydd yn edrych yn fanwl ar swyddogaeth Gwaith Dur Orb yng Nghasnewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lansiwyd y project yn sgil derbyn grant gyllido o £32,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd yn mynd ati i ddatgelu hanesion bywydau’r gweithwyr dur o waith Orb a fartsiodd i ffwrdd i ryfel ym 1914-1918, y rhai a ddychwelodd, a’r rhai sydd wedi eu coffáu ar Gofeb Ryfel y Gwaith Dur.
Mae’r partneriaid sydd eisoes yn rhan o’r project yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Archifau Gwent a Phrifysgol De Cymru, yn ogystal â nifer o ysgolion lleol, grwpiau tenantiaid o Linc, a Grŵp Ffocws Cymunedol Lysaght
Nid oes ffurf derfynol i’r rhaglen eto, ond disgwylir iddi arwain at arddangosfa ryngweithiol bythefnos o hyd, i’w chynnal yn y Senedd, o dan nawdd Steffan Lewis AC, yng ngwanwyn 2018, ac arddangosfa derfynol a gynhelir yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd ar achlysur canmlwyddiant Dydd y Cadoediad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cyfarwyddydd newydd i STS Cymru
Penododd STS Cymru Matt Dicks yn gyfarwyddydd newydd arno.
Yn gyn-newyddiadurwr gwleidyddol, ymunodd â’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2009 fel rheolydd cysylltiadau â’r cyfryngau, ac mae wedi trawsnewid gweithgareddau cyfryngau’r Senedd.
Yn 2013, ymunodd â bwrdd Grŵp Tai Cadarn, rhiant-gwmni Cymdeithas Tai Newydd.
Meddai: ‘Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm ymroddedig STS Cymru, y bwrdd ac, yn bwysicaf oll, yr aelodau, er mwyn sicrhau bod llais y rheini sy’n darparu tai fforddiadwy, cynaliadwy yng Nghymru yn cael ei glywed yn glir gan y rhai sy’n penderfynu yng Nghaerdydd a San Steffan. Byddaf yn canolbwyntio hefyd ar ddenu aelodau newydd i’r sefydliad a darparu cyfleoedd pellach ar gyfer yr aelodaeth bresennol, er mwyn i ni allu symud ymlaen gyda’n gilydd ac ymateb i’r her sy’n wynebu’r sector tai yng Nghymru.’
CYHOEDDIADAU: 10 I EDRYCH ALLAN AMDANYN NHW
1) Prosperity without poverty: a framework for action in Wales
Sefydliad Bevan, Tachwedd 2016
www.bevanfoundation.org/publications/prosperity-without-poverty-framework-action-wales/
2) Monitoring poverty and social exclusion 2016
Y Sefydliad Polisi Newydd/Sefydliad Joseph Rowntree, Rhagfyr 2016
www.jrf.org.uk/report/monitoring-poverty-and-social-exclusion-2016
3) ‘It’s no life at all’: rough sleepers’ experiences of violence and abuse on the streets of England and Wales
Crisis, Rhagfyr 2016
www.crisis.org.uk/data/files/publications/714_ITS_NO_LIFE_AT_ALL_violence asb_FINAL_sp.pdf
4) Managing and Delivering Gypsy and Traveller Sites: Negotiating Conflict
Sefydliad Tai Siartredig, Rhagfyr 2016
5) Turnaround towns: international evidence
Ymddiriedolaeth Carnegie y DU, Tachwedd 2016 www.carnegieuktrust.org.uk/publications/turnaround-towns-international-evidence/
6) Modernise or Die? The Farmer review of the UK Construction Labour Model
Cyngor Arweiniad Adeiladu, Hydref 2016
www.constructionleadershipcouncil.co.uk/wp-content/uploads/2016/10/Farmer-Review.pdf
7) The Poverty Premium – When low-income households pay more for essential goods and services
Prifysgol Bryste, Tachwedd 2016
http://www.bristol.ac.uk/geography/research/pfrc/themes/finexc/poverty-premium/
8) Each Home Counts: a review of consumer advice, protection, standards and enforcement for energy efficiency and renewable energy
DBEIS/DCLG, Rhagfyr 2016
9) The Redfern Review into the decline of home ownership
Panel Arolwg Redfern, Tachwedd 2016
www.redfernreview.org/wp-content/uploads/2016/01/TW082_RR_online_PDF.pdf
10) Social and political attitudes of people on low incomes
NatCen Social Research, Rhagfyr 2016
natcen.ac.uk/our-research/research/social-political-attitudes-of-people-on-low-incomes/