Jennie Bibbings yn adrodd ar fisoedd prysur i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Gwelodd y misoedd diwethaf lu o waith craffu ar ddeddfwriaeth a’r gyllideb. Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi adrodd ar ddau Fil Tai – y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) – tra hefyd yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Efallai bod diwedd y Chweched Senedd ar y gorwel, ond mae’r Pwyllgor yn dal yn bwriadu gwneud gwaith pellach ym maes tai yn gynnar yn 2026. Darllenwch fwy i ddarganfod beth sy’n digwydd cyn diddymiad y Senedd ar 8 Ebrill.
NEWIDIADAU I’R BIL DIGARTREFEDD
Cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai drafodion Cyfnod 2 ar y Bil Digartrefedd ar 11 Rhagfyr.
Un o’r newidiadau mawr oedd dileu adran 35 yn sgil gwelliant a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian AoS, gyda Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei gefnogi.
Mae adran 35 yn rhoi’r disgresiwn i awdurdodau tai lleol benderfynu pa ddosbarthiadau o bobl sy’n “bersonau cymhwysol” neu nad ydynt yn bersonau cymhwysol i gael tai cymdeithasol yn eu hardal. Er mai’r bwriad oedd rheoli’r niferoedd ar restrau aros, dywedodd y Pwyllgor: “rydym yn bryderus iawn y bydd darparu’r pŵer disgresiynol hwn yn ein symud i ffwrdd o’r syniad cyffredinol y gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol”.
Mae newidiadau Cyfnod 2 eraill yn cynnwys:
- dyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effeithiau’r Ddeddf ac adrodd arnynt
- mwy o hyblygrwydd yn y ddyletswydd i ‘helpu i gadw llety addas’, fel bod gan awdurdodau lleol y disgresiwn i ddarparu cymorth y tu hwnt i 12 mis lle bo angen
- mwy o hyblygrwydd yn y mathau o ddyraniadau a all ddigwydd y tu allan i’r gofrestr dai gyffredin.
Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yng Nghyfnod 2.
Bydd trafodion Cyfnod 3 yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn, a fydd yn gyfle arall i’r Aelodau ddiwygio’r Bil. Caiff y dyddiad ei gyhoeddi maes o law.
DIOGELWCH ADEILADAU: ‘PRYDERON SYLWEDDOL’
Mae’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 2; rhaid cwblhau’r trafodion ar gyfer y Cyfnod hwn erbyn 6 Chwefror. Mae nifer o welliannau eisoes wedi’u cyflwyno gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ac mae gan Aelodau o’r Senedd tan 22 Ionawr i gyflwyno gwelliannau pellach i’w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 29 Ionawr.
Yng Nghyfnod 1, roedd y Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ond ychwanegodd Diogelwch Adeiladau (Cymru) ond yn nodi y ‘cafodd pryderon sylweddol eu codi mewn tystiolaeth a ddarparwyd i’r Pwyllgor mewn perthynas â gwahanol agweddau ar y Bil, ac y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â rhain ar frys’.
Ymhlith y pryderon oedd yr effaith bosibl ar wasanaethau gan gynnwys iechyd yr amgylchedd a rheoli adeiladau, sydd eisoes yn wynebu pwysau sylweddol ar adnoddau a bylchau yn y gweithlu.
Yng ngoleuni’r pwysau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi argyhoeddi y byddai’r llwyth gwaith ychwanegol yn sgil cynnwys adeiladau llai eu maint a risg is yn y drefn newydd yn ymateb cymesur i lefel y risg diogelwch yn yr adeiladau hynny.
Pryder arall oedd y diffyg mesurau i gyflymu gwaith adfer ar gyfer problemau diogelwch presennol mewn adeiladau uchel, yn enwedig y rhai y mae datblygwyr mawr yn gyfrifol am eu hadfer.
Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn rhoi mwy o fanylion am yr adroddiad Cyfnod 1.
Y GYLLIDEB DDRAFFT: TAI FEL ‘GWASANAETH ATALIOL HANFODOL’
Ym mis Rhagfyr, gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar yr elfennau llywodraeth leol, tai ac adfywio o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Roedd yr Aelodau’n siomedig mai dim ond 4.85 y cant o’r gyllideb sy’n cael ei rhoi i dai ac adfywio, sef gostyngiad bach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Galwodd y Pwyllgor o’r newydd ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru’r sylfaen dystiolaeth ar y manteision o ran cost yn sgil buddsoddi mewn tai, er mwyn defnyddio’r wybodaeth honno i lywio trafodaethau’r gyllideb ar lefel y Cabinet.
Dywed yr adroddiad fod tai yn ‘wasanaeth ataliol hanfodol’, ac y dylid blaenoriaethu’r maes hwn ar gyfer unrhyw gyllid pellach sydd ar gael cyn y gyllideb derfynol. Dylai hyn gynnwys buddsoddiad uwch yn y Grant Cymorth Tai a’r Grant Tai Cymdeithasol.
Roedd yr Aelodau hefyd yn anfodlon ag ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i gynyddu swm y Lwfans Tai Lleol y gall awdurdodau lleol ei hawlio am lety dros dro.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ‘fod yn fwy rhagweithiol’ o ran gwthio am gynnydd, gan ddweud: ‘mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond credwn fod angen ymdrechion mwy cadarn’.
Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr, gyda dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Ionawr.
BETH SYDD NESAF?
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i ddychwelyd at bwnc ei ymchwiliad polisi yn 2024 ar y cyflenwad tai cymdeithasol. Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, bydd yr Aelodau’n cynnal ymchwiliad dilynol byr, gan glywed gan dri phanel o dystion.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y gwaith sy’n mynd rhagddo i gyrraedd y targed presennol o 20,000 a sicrhau piblinell ar ôl 2026, a bydd yn ystyried cynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy.
Bydd hefyd yn ystyried rôl strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thir, a’r graddau y mae gwaith i gynyddu’r cyflenwad yn cael ei danseilio gan nodau polisi eraill. Mae cyllid, cynllunio, a gweithlu yn feysydd pwysig eraill o ddiddordeb.
Yn ogystal â’r gwaith dilynol hwn, mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr ar y gwaith sy’n cael ei wneud ym maes tai cymdeithasol Cymru i gymryd camau sy’n cyfateb i gyfraith Awaab yn Lloegr. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Pwyllgor hefyd yn llunio adroddiad gwaddol i fyfyrio ar y gwaith y mae wedi’i wneud ers 2021 ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y Pwyllgor a fydd yn ei olynu.
O ran beth fydd strwythur y Pwyllgor yn y Senedd nesaf, ni fydd penderfyniad am hyn tan ar ôl etholiad 7 Mai.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sydd ar y gorwel gan y Pwyllgor, cadwch lygad ar ei dudalen we neu gallwch ddilyn y Pwyllgor ar X.
Mae Jennie Bibbings yn uwch-ymchwilydd yn y Senedd. Mae Ymchwil y Senedd yn darparu ymchwil a dadansoddiadau sy’n ddiduedd yn wleidyddol i Aelodau o’r Senedd a phwyllgorau’r Senedd. Maent yn cyhoeddi llawer o’u gwaith i bawb ei ddarllen yn ymchwil.senedd.cymru a gallwch eu dilyn ar X yn @SeneddYmchwil.