English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Pleidlais dros gartrefi

Gyda’r etholiad mwyaf arwyddocaol ers datganoli ychydig dros dri mis i ffwrdd, mae’r rhifyn Gaeaf hwn o WHQ yn edrych yn fanwl ar y rhagolygon ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru.

Clywn yn gyntaf gan y chwe phrif blaid am yr hyn yr ystyriant yw’r materion pwysicaf a beth fydd eu blaenoriaethau os byddant yn ennill pŵer ar Fai 7. Mae’n dal yn rhy gynnar am fanylion maniffesto ond rhydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Plaid Werdd Cymru, Llafur Cymru, Plaid Cymru a Reform Wales ragolwg i ni ar yr hyn y byddant yn siarad amdano yn ystod yr ymgyrch.

Ceir barn annibynnol gan Bob Smith, sy’n crynhoi ei waith ar gyfer Canolfan Gydweithredol Tystiolaeth Tai y DU cyn etholiad diwethaf y Senedd. Mae’n dadansoddi record Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac yna’n edrych ar yr hyn sydd ei angen i ddatblygu gweledigaeth strategol gynhwysfawr a rennir ar gyfer tai yng Nghymru.

Bu holl brif sefydliadau tai Cymru wrthi’n datblygu eu maniffestoau eu hunain yn yr wythnosau diwethaf. Clywn gan wyth ohonyn nhw am yr hyn maen nhw ei eisiau gan lywodraeth nesaf Cymru a gan Shelter Cymru am sut, fel yr awgryma’r polau piniwn, y bydd yr argyfwng tai yn dylanwadu ar sut y bydd etholwyr yn bwrw’u pleidlais.

Mewn rhannau eraill o’r rhifyn hwn, rydym yn dathlu tri phenblwydd: 20fed Tai Pawb fel y llais cenedlaethol dros gydraddoldeb mewn tai, 10fed Rhentu Doeth Cymru fel awdurdod cynllun cofrestru a thrwyddedu’r sector rhentu preifat, ac un cyntaf Tai ar y Cyd fel prosiect i ddatblygu cartrefi fforddiadwy, carbon-isel. Penblwydd hapus iddynt oll.

Safodd Robin Staines i lawr o Raglen Datblygu Awdurdodau Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Mae’n myfyrio ar ddatblygiad polisi tai ers datganoli ac mae ganddo 10 awgrym am yr hyn ddylai ddigwydd nesaf.

Mae lleithder a llwydni hyd yn oed yn nes at frig yr agenda tai yn sgil atodiad newydd i Safon Ansawdd Tai Cymru. Clywn gan Michelle Morris am waith yr ombwdsmon yn y maes hwn a chan Duncan Forbes ar wersi a ddysgwyd yn Trivallis.

Mae Damian Joseph Bridgeman yn herio Cymru i wireddu ei gwerthoedd gyda thai i bobl anabl. A gallwch ddysgu mwy am drethi eiddo datganoledig gan Wendy Dearden ac am ffyrdd o ddatgloi datblygiad tai fforddiadwy gan Sarah MacGregor a Caroline Jones.

Gobeithio y gwna hyn oll, ynghyd â’n diweddariadau rheolaidd ar bolisi, cyllid a chymorth tai ac o ymchwil y Senedd, hwn yn rhifyn â rhywbeth at ddant pawb sy’n gweithio ym maes tai Cymru.

JULES BIRCH, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »