DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Rhewi’r LHA tan 2027
Dileodd y Canghellor Rachel Reeves y terfyn dau-blentyn ar fudd-daliadau yn ei Chyllideb fis Tachwedd, cam mawr i fynd i’r afael â thlodi plant.
Cyflwynodd hefyd gyfraddau treth incwm uwch ar incwm rhent landlordiaid o eiddo a thaliad treth gyngor uwch ar gartrefi drutach.
Ond doedd dim sôn yn y Gyllideb am y cap budd-daliadau cyffredinol na Lwfans Tai Lleol (LHA).
Yn hytrach, cadarnhawyd y caiff cyfraddau LHA eu rhewi eto ar gyfer 2026/27 mewn datganiad gan yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Pat McFadden. Y canlyniad anochel fydd mwy o fwlch ariannol i denantiaid wrth i renti godi.
Doedd dim ymateb chwaith i apêl gan awdurdodau lleol am gynnydd yn y cymhorthdal llety dros-dro, sy’n dal wedi’i gyplysu â 90 y cant o gyfraddau LHA 2011.
LLOEGR
Strategaeth ddigartrefedd San Steffan
Addawodd llywodraeth San Steffan i haneru’r nifer sy’n cysgu allan yn gyson ac atal defnydd anghyfreithlon o lety gwely a brecwast ar gyfer teuluoedd â phlant fel rhan o’i ‘strategaeth genedlaethol i ddod â digartrefedd i ben’.
Er iddi addo hefyd i gynyddu’r cyfran y bobl y llwyddwyd i’w hatal rhag mynd yn ddigartref, ni osodwyd targed ar gyfer lleihau’r niferoedd digynsail o deuluoedd a phlant digartref sy’n byw mewn llety dros-dro.
A doedd dim arwydd bod llywodraeth y DU yn barod i ddilyn esiampl Cymru a’r Alban a ddiddymu neu ddiwygio’r profion angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol.
Ond mae’n ystyried ‘peirianwaith i fynnu bod landlordiaid tai cymdeithasol yn ailgartrefu aelwydydd statudol ddigartref a atgyfeirir gan y cyngor, gan gynnwys deddfu os oes angen’.
Ac mae’n addo mwy o gyllid i gynghorau allu caffael llety dro-dro a bydd yn ystyried rheoleiddio llety dros-dro costus, y telir amdano fesul noson.
Cynllunio i roi hwb i gartrefi newydd
Ailwampiwyd Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol Lloegr i gynnwys rhagdybiaeth barhaol o blaid datblygiadau wedi’u lleoli’n briodol o fewn aneddiadau, ac ‘ie’ diofyn i ddatblygu cartrefi ger gorsafoedd trên cymudo prysur.
Honnodd llywodraeth y DU y gallai ei thrydedd rownd o ddiwygiadau cynllunio ers dod i rym ddarparu ‘cannoedd ar filoedd o gartrefi newydd’ tuag at ei nod o 1.5 miliwn yn y senedd hon.
Bydd yr ‘ie’ diofyn mewn grym gyda gorsafoedd ‘â chysylltiadau da’, hyd yn oed yn y llain las ar yr amod y cânt eu hadeiladu i ddwysedd penodol.
YR ALBAN
Pŵer landlord i derfynu tenantiaeth camdrinwyr
Bydd newid yn y gyfraith yn galluogi landlord cymdeithasol i drosglwyddo tenantiaethau oddi wrth gamdrinwyr i ddioddefwyr.
Daethpwyd â rheoliadau ger bron Senedd yr Alban a’i gwna hi’n haws i ddioddefwyr cam-drin domestig aros yn ddiogel yn eu cartrefi gyda’r denantiaeth yn eu henw.
Am y tro cyntaf, caiff landlordiaid cymdeithasol, yn hytrach na dioddefwyr, weithredu i ddod â thenantiaeth camdriniwr i ben.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, daw’r rheoliadau â Rhan 2 o Ddeddf (Amddiffyn) Camdrin Domestig (Yr Alban) 2021 i rym.
Golyga hyn, o 1 Awst 2026, lle bodlonir yr amodau a nodir yn y gyfraith newydd, y gall landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchymyn llys i’w galluogi i drosglwyddo tenantiaeth o denant sy’n gamdriniwr i’w dioddefwr.
GOGLEDD IWERDDON
Twf mawr mewn pensiynwyr digartref
Rhybuddiodd gweithwyr tai am ‘drychineb moesol’ ar ôl i nifer y teuluoedd o bensiynwyr sy’n ddigartref ac yn byw mewn llety dros-dro ddyblu bron mewn blwyddyn.
Dengys ystadegau swyddogol ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Medi 2025 fod 489 o deuluoedd o bensiynwyr mewn llety dros-dro, cynnydd o 90 y cant ar y flwyddyn flaenorol.
Y prif reswm dros ddigartrefedd yw nad yw cost bresennol llety yn rhesymol, sy’n cyfrif am 1,532 o deuluoedd a dderbyniwyd. O fewn hyn, y prif reswm nad yw’n rhesymol iddynt yw oherwydd problemau iechyd corfforol neu anabledd, sy’n effeithio ar 1,011 o deuluoedd.
Dywedodd Justin Cartwright, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Gogledd Iwerddon, fod y cynnydd i’w briodoli’n uniongyrchol i fethiant tai i ymateb i anghenion cyfnewidiol pobl.
LLYWODRAETH CYMRU
Diweddaru SATC ar gyfer lleithder a llwydni
Caiff Safon Ansawdd Tai Cymru ei diweddaru i nodi amserlenni clir ar gyfer ymchwilio i beryglon a all fod yn risg ddifrifol a’u dileu.
Mae’r penderfyniad gan yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant yn sgil ymgynghoriad ar newid arfaethedig a lansiwyd wedi marwolaeth drasig Awaab Ishak ar ôl gorfod byw gyda lleithder a llwydni, a chyflwyno Cyfraith Awaab yn Lloegr.
Dywed Jayne Bryant nad yw’r mesurau’n ddewisol ac fe’u lluniwyd i gryfhau atebolrwydd a thryloywder ar draws y sector: ‘Rhaid i landlordiaid cymdeithasol gyhoeddi amseroedd ymateb ac adrodd ar eu perfformiad fel rhan o gydymffurfio â SATC, gan sicrhau y gall tenantiaid weld sut mae eu landlord yn cyflawni eu dyletswydd.’
Mae’n gweithredu, meddai, yn sgil adroddiadau diweddar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a amlygai ‘fethiant annerbyniol rhai landlordiaid cymdeithasol i ymateb i gwynion am leithder a llwydni’.
‘Mae’n hanfodol bod pob landlord yn gweithredu’n ddiymdroi pan godir problemau lleithder a llwydni, yn ogystal â pheryglon eraill. Mae’n golygu bod â systemau ar waith i ymateb yn gyflym, hysbysu tenantiaid, a thrin eu pryderon ag empathi a pharch, nid dim ond fel problemau technegol.
‘Cydymffurfio â gofynion statudol yw’r lleiafswm, ond mae gennyf ddisgwyliadau mwy. Dylid mynd ati mewn modd rhagweithiol, person-ganolog: nodi risgiau cyn iddynt waethygu, siarad â thenantiaid er mwyn deall eu hanghenion, a blaenoriaethu eu lles. Mae gwella’r modd yr ymdopir â phroblemau lleithder a llwydni yn ddisgwyliad allweddol, a rhaid wrth brosesau cadarn er sicrhau cartrefi diogel ac iach i bawb.’
Cyrraedd y nod o 20,000 saith mis yn hwyr
Mae Llywodraeth Cymru ar fin methu ei nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hwn ond mae’n disgwyl ei gyrraedd erbyn mis Tachwedd 2026.
Dengys ystadegau swyddogol y darparwyd 3,530 o gartrefi fforddiadwy tuag at y nod yn 2024/25, ynghyd ag adfer 370 o dai cymdeithasol gwag tymor-hir at ddefnydd, cyfanswm cronnus ers mis Ebrill 2021 o 13,399 o gartrefi.
Fodd bynnag, dengys gwybodaeth reoli Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar yr un pryd y daw’n agosach at gyrraedd y nod nag a dybiwyd yn flaenorol.
Gyda disgwyl y darperir 4,936 o gartrefi pellach, gan gynnwys tai gwag, yn 2025/26, y rhagamcan yw y caiff 18,652 o gartrefi eu darparu (93 y cant o’r targed) erbyn diwedd Ebrill 2026. Disgwylir i’r cyfanswm fod yn 20,182 erbyn mis Tachwedd 2026.
Meddai’r ysgrifennydd tai mewn datganiad ysgrifenedig: ‘Pan osodwyd ein nod o 20,000 o gartrefi carbon-isel ychwanegol ar rent yn y sector cymdeithasol erbyn 2026 gwyddem ei fod yn uchelgeisiol. Ond gwyddem hefyd pa mor bwysig ydoedd. Dyna pam y cefnogwyd ein hymrwymiad gan fwy na £2 biliwn o fuddsoddiad – y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. A dengys data heddiw bod buddsoddi yn dwyn ffrwyth.’
Mwy o gyllid ar gyfer ORP
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £14.1 miliwn pellach ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol, gan gynyddu cyfanswm cyllid y Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig i £107.1 miliwn eleni.
Mae’r rhaglen eisoes wedi talu am uwchraddio effeithlonrwydd ynni 31,000 gartrefi cymdeithasol ledled Cymru ers 2020, gan ostwng biliau cartrefi a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cyhoeddodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant y newyddion tra’n ymweld â chynllun tai gwarchod wedi’i ôl-ffitio yn Nhredegar a redir gan Hedyn.
Cyfarfu â thrigolion, gan gynnwys John Nicholls, cyn-genhadwr 94 oed, a welodd ei gostau ynni blynyddol yn gostwng yn sylweddol yn sgil uwchraddio’i gartref.
Meddai: ‘Dwi wedi byw yn y fflat yma ers 30 mlynedd ac dyma’r gorau a fu erioed. Mae’n wych nawr. Mae’n gynnes a gallaf gadw llygad arno drwy’r amser. Os ydw i allan, dwi’n defnyddio’r ap ar fy ffôn i gynnau’r gwres cyn mynd adre.’
Cadeirydd newydd i’r grŵp rheoleiddio
Cadarnhaodd yr ysgrifennydd tai, Jayne Bryant, benodiad Kalwant Grewal yn Gadeirydd Annibynnol y Grŵp Cynghori Rheoleiddio (RAG) am dymor tair-blynedd, y gellir ei ymestyn am dair blynedd arall, o fis Hydref 2025.
Grŵp cynrychioli rhanddeiliaid yw RAG, a’i brif gyfrifoldeb yw gwella rheoleiddio tai cymdeithasol trwy ddarparu mewnbwn a chyngor gan randdeiliaid ar strategaeth a pholisi rheoleiddio.
Cadeiriodd Kalwant Grewal bwyllgorau archwilio a risg a phwyllgorau cyllid a pherfformiad ar gyfer sawl sefydliad rheoleiddiedig, gan roi arweinyddiaeth strategol ar sicrwydd, risg a pherfformiad sefydliadol.
Bu mewn swyddi gweithredol uwch, yn cynnwys prif swyddog ariannol ac ysgrifennydd cwmni Grŵp Caffael LHC a chyfarwyddydd cyllid a risg Impact Investing Institute.
CYMRU
Bydd Codi’n ‘gwneud gwahaniaeth go iawn’
Ffurfiodd Linc a Pol Grŵp Codi ar ddechrau mis Ionawr.
Cadarnhawyd hunaniaeth newydd y grŵp cyfunedig ym mis Mehefin. Mae’r ddau sefydliad wedi dod ynghyd yn ffurfiol o dan un hunaniaeth a strategaeth a rennir, gan gwblhau’r hyn a ddywedant fydd yn drawsnewidiad i un endid newydd â phwrpas a chyfeiriad clir, â ffocws ar ddefnyddio cryfder torfol i greu dyfodol gwell i bobl a lleoedd mewn ffordd gynaliadwy, hirdymor.
Meddai Scott Sanders, prif weithredydd grŵp Grŵp Codi: ‘Mae cwblhau’r uno a’r trawsnewidiad i Codi yn gam sylweddol ymlaen. Mae Codi yn dwyn ynghyd gryfderau ac etifeddiaeth dau sefydliad cryf â gwerthoedd a rennir a gwreiddiau dwfn yn eu cymunedau, gan roi i ni’r maint a’r raddfa i wneud gwahaniaeth go iawn tra’n aros yn lleol i’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.’
Hwb i Ben-y-bont ar Ogwr
Derbyniodd Cymoedd i’r Arfordir £1.7 miliwn trwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i ddod â bywyd a phwrpas newydd i Dŷ Wyndham, adeilad pwysig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Nod y prosiect yw darparu manteision cymdeithasol, economaidd a chorfforol hirdymor i’r gymuned, gan gynnwys mwy o ymwelwyr i hybu’r economi leol gyda gweithlu o dros 300 yn dod i’r swyddfa bob wythnos, gofod masnachol wedi’i diweddaru i ddenu busnesau lleol, a chartrefi newydd yng nghanol Pen-y-bont sy’n cefnogi canol tre ffyniannus, lle mae pobl yn byw.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, a chaiff cerrig milltir allweddol a dyddiadau cwblhau eu rhannu wrth i’r prosiect symud at ei gyflawniad eleni.
Cronfa’n trawsnewid tir diffaith

Mae rhaglen ariannu fawr Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC) yn troi tir diffaith yn gymunedau newydd, gan ddarparu 2,500 o gartrefi a chefnogi mwy na 3,000 o swyddi ledled y de-ddwyrain.
Hyd yn hyn, cefnogwyd 14 o ddatblygiadau tai ar draws naw awdurdod lleol gan y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai (HVGF) werth £35 miliwn, gan fynd i’r afael ag un o’r rhwystrau mwyaf i adfywio: cost afresymol adfer safleoedd tir llwyd na fyddai fel arall yn cael eu datblygu, a chodi tai.
Mae naw prosiect eisoes wedi derbyn eu dyraniad cyllid yn llawn, gyda phump arall ar y gweill. Mae pob un yn cynnwys tai fforddiadwy, gyda chyfran hynny o’r cyfanswm yn cael ei bennu ar hyn o bryd.
Un o’r enghreifftiau mwyaf gweladwy o’r gronfa ar waith yw Parc y Ddraig, datblygiad deiliadaeth-gymysg o 200 o gartrefi yn Abercanaid, Merthyr Tudful. Mae’r safle bellach yn barod i dechrau gwerthu, fel Dôl-y-Ddraig.
Yn waith yr adeiladwyr lleol Davies Homes gyda grant PRC gwerth £3.5 miliwn, mae’r prosiect o fewn Ardal Adfywio Strategol Hoover, parth a fu’n gysylltiedig ers oesoedd â threftadaeth ddiwydiannol Merthyr. Mae gwaith ar y safle yn mynd rhagddo’n dda a bydd yn parhau fesul cam tan 2030, gyda 10 y cant o’r cartrefi yn gartrefi fforddiadwy.
Meddai Mike Brough, cyfarwyddydd twf rhanbarthol Prifddinas Ranbarth Caerdydd: ‘Ym Mharc y Ddraig gwelwn adeiladwyr lleol yn creu tai deiliadaeth-gymysg o ansawdd uchel sy’n ateb anghenion rhanbarthol a chadw budd economaidd yn y gymuned.
‘Mae’n enghraifft berffaith o sut mae buddsoddiad PRC yn troi uchelgais yn ganlyniadau byd go iawn. Buddsoddi rhanbarthol ar waith, adfywiad ymarferol, gweladwy sy’n cysylltu ein gorffennol diwydiannol â’n dyfodol tai.’
Cyngor yn braenaru’r tir ar gyfer cartrefi Caerffili

Cadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod y gwaith adfer a’r gwaith daear ar hen safle Glofa Windsor bellach wedi’u cwblhau, a’r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cychwyn ar ail gam y gwaith adeiladu ar ddatblygiad mawr o 152 o gartrefi a ddarperir gan United Welsh.
Bydd y cynllun deiliadaeth-gymysg yn darparu 70 y cant o dai fforddiadwy, yn cynnwys cartrefi anghenion cyffredinol ac eiddo ar rent canolradd, ochr yn ochr â llety o ansawdd uchel ar gyfer preswylwyr sengl. Gwerthir gweddill y cartrefi ar y farchnad agored o dan frand gwerthu United Welsh, Harmoni Homes (gweler uchod).
Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru trwy Grant Tai Cymdeithasol a Chyllid Bwlch Hyfywedd Tai gan Brifddinas Ranbarth Caerdydd, mae’r prosiect yn fuddsoddiad sylweddol yn y gymuned leol.
Caiff y cartrefi eu hadeiladu gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh. Bydd Celtic Offsite yn cynhyrchu’r strwythurau ffrâm bren o’i ffatri yng Nghaerffili, a’r cartrefi’n cael eu cwblhau ar y safle gan y contractwr M&J Cosgrove.
Love wrth y llyw ym Mron Afon
Bydd Catherine Love yn cymryd yr awenau fel prif weithredydd Tai Cymunedol Bron Afon ym mis Chwefror wedi i Alan Brunt ymddeol.
Ymunodd â Bron Afon yn 2019 fel cyfarwyddydd profiad cwsmeriaid a mynd yn gyfarwyddydd gweithredu ac yn ddirprwy brif weithredydd yn 2023.
Fe’i penodwyd wedi proses recriwtio a oedd yn cynnwys aelodau’r bwrdd, cydweithwyr a chwsmeriaid.
Dywedodd cadeirydd Bron Afon, Craig Nowell: ‘Cytunodd y panel dethol yn unfrydol fod angerdd a gwybodaeth Catherine am y sector tai yng Nghymru, ein cwsmeriaid a’n cymunedau, yn creu hyder yn y bwrdd y gall adeiladu ar sail llwyddiant Bron Afon fel yr arweinydd trawsnewidiol sydd ei angen arnom i gyflawni ein huchelgais.
Ychwanegodd Alan Brunt: ‘Cefais y pleser o weithio gyda Catherine ers iddi gychwyn ym Mron Afon. Mae’n aelod gwerthfawr o’n tîm arweinyddiaeth uwch a dwi wedi gweld fy hun ei hangerdd dros gwsmeriaid, cymunedau a chydweithwyr.’

Roedd Sarah Alcock yn un o’r preswylwyr cyntaf i symud i’w cartrefi newydd yn natblygiad Maes y Llan ClwydAlyn ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych mewn pryd i ddathlu’r Nadolig.
Symudodd preswylwyr i 21 o gartrefi newydd yn y datblygiad gwerth £11 miliwn, gyda’r 24 cartref sy’n weddill i’w cwblhau yn y Flwyddyn Newydd. Mae’r cynllun, sy’n cael ei adeiladu gan K&C Construction, yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Dinbych. Mae’r cymysgedd o eiddo newydd yn y cam cyntaf yn cynnwys 17 o gartrefi dwy- a thair-llofft yn ogystal ag 16 o fflatiau un- a dwy-lofft.
Codwyd holl gartrefi Maes y Llan gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (MMC) ac maent yn cynnwys lefelau uchel o inswleiddio, pympiau gwres ffynhonnell-aer i ddarparu gwres a dŵr poeth, a phaneli trydan solar wedi eu lleoli i elwa i’r eithaf ar wres yr haul a golau ddydd naturiol.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1) Lwfans Tai Lleol: rhwyd ddiogelwch yn datod
Shelter Cymru, Tachwedd 2025
sheltercymru.org.uk/wp-content/uploads/2025/11/LHA_Report_2025-CYM-1.pdf
2) Criminal landlords in the shadow private rented sector in England
Prifysgol Efrog, Rhagfyr 2025
eprints.whiterose.ac.uk/id/eprint/235030/
3) A national plan to end homelessness
Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU, Rhagfyr 2025
4) New lessons for new towns
Y Fforwm Tai, Hydref 2025
housingforum.org.uk/reports/key-publications/new-lessons-for-new-towns/
5) Forward planning: a vision of ageing at home
Fabian Society, Centre for Ageing Better, Tachwedd 2025
fabians.org.uk/publication/forward-planning/
6) Flat Britain: The urban density gap and how to close it
Centre for Cities, Tachwedd 2025
www.centreforcities.org/publication/flat-britain-the-urban-density-gap-and-how-to-close-it/
7) Late movers: how the shortage of housing affects our ageing population
Age UK, Hydref 2025
8) How do house prices affect social mobility?
Institute for Fiscal Studies, Ionawr 2026
ifs.org.uk/publications/how-do-house-prices-affect-social-mobility
9) Restoring security: Understanding the effects of removing the two-child limit across the UK
Institute for Public Policy Research, Rhagfyr 2025
10) 2025 UK Housing Review Autumn briefing paper
Y Sefydliad Tai Siartredig ayyb, Hydref 2025
www.cih.org/publications/2025-uk-housing-review-autumn-briefing-paper/