Beth ddylai fod yn flaenoriaethau tai i lywodraeth nesaf Cymru? Bob Smith yn cyflwyno rhai syniadau.
RHAGARWEINIAD
Bum mlynedd yn ôl, nodais i a’m cydweithiwr Pete Mackie ein blaenoriaethau tai ar gyfer Llywodraeth Cymru 2021-26 mewn papur a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE). Yn dilyn etholiad 2021, nododd Llafur Cymru ei blaenoriaethau ei hun, a ddiweddarwyd yn dilyn y cytundeb cydweithredu (2021-2024) gyda Phlaid Cymru.
Byddai’n ddigywilydd peidio â chydnabod y bu cynnydd yn ystod y tymor presennol, yn enwedig o ran darparu mwy o dai rhent cymdeithasol, diwygio’r gyfraith ar ddigartrefedd, mynd i’r afael â phroblem ail gartrefi mewn rhannau o Gymru, a pharhau i wella rhannau o’r stoc tai bresennol. Fodd bynnag, mae Cymru yn dal i fod yng ngafael creisis tai (a elwir gan rai yn argyfwng) ac mae mynd i’r afael â hyn yn her gymhleth a hirdymor. Mae’n gofyn am ffordd system-gyfan o fynd ati a dealltwriaeth o’r dystiolaeth (a’i chyfyngiadau) a ddylai lywio datblygiadau mewn polisi ac arfer.
Mae tymor presennol y Senedd yn dod i ben ac mae etholiad Mai 2026 a llywodraeth nesaf Cymru o’n blaenau. Bydd hyn yn gweld Senedd estynedig (i fyny o 60 i 96 aelod), wedi’u hethol ar system bleidleisio fwy cyfrannol ac o bosibl newid yn lliw gwleidyddol Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n amser priodol i fyfyrio ar yr hyn a allai fod yn flaenoriaethau tai ar gyfer y llywodraeth nesaf. Mae’r erthygl hon yn elwa ar sgyrsiau a gynhaliwyd gyda sefydliadau a gynrychiolir ar Hwb CaCHE Cymru. Cyhoeddir papur mwy manwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan CaCHE yn fuan.
BLAENORIAETHAU AR GYFER LLYWODRAETH NESAF CYMRU 2026-2030
- Datblygu gweledigaeth strategol gynhwysfawr a rennir ar gyfer tai yng Nghymru
- Cynyddu’r cyflenwad tai (gyda phwyslais ar dai cymdeithasol a fforddiadwy)
- Mynd i’r afael â digartrefedd
- Mynd i’r afael â materion tir, cynllunio ac adeiladu mewn perthynas â thai
- Gwella’r stoc tai bresennol a mynd i’r afael â thlodi tanwydd
- Darparu gwasanaethau ansawdd-uchel ac ymatebol i denantiaid
- Gwella’r sylfaen dystiolaeth tai i lywio polisi ac arfer
- Datblygu’r gweithlu tai
GWELEDIGAETH STRATEGOL AR GYFER TAI YNG NGHYMRU
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dadlau bod tai yn hanfodol i lesiant yng Nghymru a bod angen ffordd hirdymor o fynd ati gyda thai. Fodd bynnag, ychydig iawn o gyfeiriadau at dai sydd yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025, a lle y ceir rhai, maent yn bennaf yng nghyd-destun swyddogaeth tai mewn datrys problemau eraill, er enghraifft, gwrthdroi colledion natur, lleihau allyriadau carbon ac atal afiechyd. Does bosib nad yw anghenion presennol a dyfodol pobl Cymru yn haeddu mwy o sylw?
Yn y blynyddoedd diwethaf, bu adfywiad diddordeb yn y syniad o strategaethau tai cenedlaethol. O ystyried natur gymhleth tai a chostau sylweddol eu cynhyrchu, ymddengys yn amlwg bod angen i strategaethau tai fabwysiadu gorwelion hirdymor, a rhychwantu sawl cylch etholiadol. Nid dogfennau polisi yn unig yw strategaethau, ond arfau ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant i gyflawni newid ac amcanion y cytunwyd arnynt dros gyfnod hwy. Dylai strategaeth dai genedlaethol effeithiol fod â dealltwriaeth gynhwysfawr o’r heriau a wynebir, yn ogystal â gweledigaeth o gyflwr terfynol i’w chwennych.
Cyn datganoli, gwnaed gwaith sylweddol, gan y Llywodraeth ac amrywiaeth o randdeiliaid, i greu fframwaith ar gyfer strategaeth dai genedlaethol gychwynnol, Cartrefi gwell i bobl Cymru. Rhoddwyd trefniadau ar waith i fonitro, gwerthuso a diweddaru’r strategaeth hon. Cyhoeddwyd ail strategaeth dai genedlaethol (lawer llai uchelgeisiol) yn 2010. Nododd Llywodraeth bresennol Cymru, yn ei Phapur Gwyn 2024 ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd, ei bwriad i ddatblygu strategaeth dai ac adfywio genedlaethol, sydd i’w groesawu. Mae hyn yn nyddiau cynnar iawn ei datblygiad ond bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru ei symud ymlaen mewn modd systematig a chydweithredol.

CYNYDDU’R CYFLENWAD TAI
Roedd adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu rhwng 2021 a 2026 yn her. Y targed dros y tymor pum-mlynedd blaenorol oedd 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, yn cynnwys rhai o dan y rhaglen Cymorth i Brynu. Symudodd y pwyslais tuag at gartrefi cymdeithasol i’w rhentu, ond nid yw ymrwymo i darged o godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yr un fath â’u cwblhau. Gwelodd y cyfnod gyfres o heriau economaidd, yn enwedig wedi Covid, yn cynnwys cynnydd mewn costau adeiladu a llafur a chyfraddau chwyddiant uwch, sy’n gwneud cyrraedd y nod yn fwy o her.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella’i dulliau casglu a chyhoeddi data ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymdeithasol. Dengys y dystiolaeth ddiweddaraf y bu cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y cartrefi ychwanegol a ddarparwyd, ond cydnabyddir nad yw’r targed yn debygol o gael ei gyrraedd, er yr awgrymir y caiff ei gyflawni erbyn diwedd 2026. Mae’r ffigurau diweddaraf, fodd bynnag, wedi cynnwys ailweithio data i ganiatáu cynnwys tai cymdeithasol gwag hirdymor a ddygwyd yn ôl i ddefnydd trwy’r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol. Dadleuai Adroddiad 2025 y Tasglu Tai Fforddiadwy y dylid cynnwys eiddo o’r fath yn y ddarpariaeth ychwanegol, er yr ymddengys yn dipyn o estyniad i gyfrif y rhain fel ‘adeiladu’ cartrefi cymdeithasol ychwanegol ac mae fel pe bai’n cyfuno darparu tai cymdeithasol newydd a rhai sy’n bod eisoes er mwyn nesáu at y targed pum-mlynedd cyffredinol.
Mae achos cryf dros i lywodraeth nesaf Cymru barhau i osod targedau heriol ond realistig ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy ychwanegol o ansawdd uchel, gyda phwyslais ar ddarparu mwy o gartrefi rhent cymdeithasol. Fodd bynnag, dylid monitro cynnydd yn erbyn targedau yn glir ac adrodd arno rheolaidd, a dylid diffinio pa dargedau a osodir yn glir ar y cychwyn, yn dryloyw, a’u mesur yn gyson.
DOD Â DIGARTREFEDD I BEN YNG NGHYMRU
Bu cynnydd sylweddol o ran newid deddfwriaethol a pholisi i fynd i’r afael â digartrefedd. Fel yr eglura Monitor Digartrefedd 2025 Crisis ar gyfer Cymru, y ffocws yng Nghymru fu cryfhau ataliaeth, ailgartrefu’n gyflym, a chael gwared ar rwystrau i ddarparu llety a chymorth priodol. Er gwaetha’r newidiadau positif, mae rhwystrau’n parhau, yn enwedig o ran diffyg tai addas a fforddiadwy, diffyg capasiti yn y gweithlu, methiannau rhai rhannau o Gymru i ddarparu ymateb priodol i anghenion pobl ddigartref, a gwendidau’n parhau yn y sylfaen dystiolaeth.
Mae Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn mynd trwy’r Senedd, gan gefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i wneud digartrefedd yn beth ‘prin, byrhoedlog, nas ailadroddir’. Daw’r ddeddfwriaeth â’r profion angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol i ben a rhoi mwy o bwyslais ar ataliaeth gynnar. Mae hefyd yn ceisio gosod dyletswydd newydd ar gymdeithasau tai i beidio â gwrthod cais i ailgartrefu ymgeisydd digartref yn ddiangen. Ond nid yw’r newidiadau deddfwriaethol (er eu bod i’w croesawu’n fawr) yn ateb llwyr. Bydd angen buddsoddi parhaus yn y cyflenwad tai cymdeithasol yn ogystal ag adnoddau ychwanegol ar gyfer cymorth tai a gwasanaethau digartrefedd llywodraeth leol dros dymor nesaf y Senedd.
DATRYS PROBLEMAU TIR A CHYNLLUNIO
Ceisia’r system gynllunio gydbwyso cyfres o ofynion sy’n aml yn cystadlu, yn ogystal â diwallu anghenion cyfredol a rhai’r dyfodol, yn enwedig o ran ateb yr angen am dai, ar draws gwahanol ddeiliadaethau ac ardaloedd. Mae system gynllunio dda, sy’n denu cyfranogiad dinasyddion, yn hanfodol i ddylunio cartrefi newydd, cymdogaethau diogel â chysylltiadau da, a chymunedau llwyddiannus ac amrywiol.
Arweinir system gynllunio Cymru ‘gan gynlluniau’. Mae tair haen ohonynt: y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, pedwar Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol a 25 Cynllun Datblygu Lleol. Unwaith eto, mae ymgais i gydgrynhoi’r deddfwriaeth gynllunio yn mynd trwy’r Senedd wrth i mi sgrifennu. Ond yr allwedd i oresgyn llawer o’r rhwystrau cynllunio a nodwyd yn Adroddiad 2025 y Tasglu Tai Fforddiadwy yw sicrhau bod y system gynllunio wedi’i hadnoddu llawn (yn enwedig ar lefel leol) ac y gellir penderfynu’n amserol ar sail y cynlluniau lleol mabwysiedig diweddaraf.
GWELLA’R STOC TAI BRESENNOL
Mae bron traean cartrefi Cymru yn fwy na 100 mlwydd oed ac, er llwyddo i wella rhannau o’r stoc gyfredol, yn enwedig yn y sector tai cymdeithasol drwy weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023, erys llawer i’w wneud o hyd. Bydd gwella ansawdd cartrefi Cymru ar draws pob deiliadaeth, ac yn benodol datgarboneiddio mwy o gartrefi presennol, yn helpu i gyflawni’r amcan ehangach o gyrraedd sero net, yn ogystal â gwella perfformiad ynni’r stoc a helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Gallai buddsoddi mewn gwelliannau tai o bosib gyfrannu hefyd at ddatblygu sgiliau mewn adeiladu, datblygiad cadwyni cyflenwi lleol a thwf economaidd.
Bydd yn bwysig i Lywodraeth nesaf Cymru daro‘r cydbwysedd priodol rhwng annog buddsoddi yn y stoc tai bresennol a buddsoddi mewn cynyddu’r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy ychwanegol. Bydd angen rhywfaint o sicrwydd cyllido ar landlordiaid cymdeithasol i barhau â’r cynnydd a wnaed o ran datgarboneiddio’u stoc a chyrraedd SATC 2023. Mae maint yr her yn y sector preifat hyd yn oed yn fwy a bydd angen ystyried sut y gellid annog perchnogion tai a landlordiaid preifat i wella eu cartrefi a’u datgarboneiddio.
DARPARU GWASANAETHAU YMATEBOL O ANSAWDD DA I DENANTIAID
Gyda rhai o’r problemau a nodwyd uchod, amlygwyd swyddogaeth hanfodol tai cymdeithasol. Mae manteision ehangach buddsoddi mewn tai cymdeithasol wedi’u cydnabod ers tro byd, o ran gwella canlyniadau iechyd ac addysg a hybu swyddi a’r economi, yn ogystal â darparu cartrefi diogel a chymharol fforddiadwy. Er i faint y sector cymdeithasol yng Nghymru gynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n dal i fod ymhell islaw’r hyn yr oedd hanner canrif yn ôl. Mae hefyd wedi cael ei feirniadu gan rai, gan atgyfnerthu agweddau negyddol tuag at y sector.
O ran rheoleiddio gwasanaethau tai i denantiaid, bu gwelliant sylweddol yng Nghymru dros y 10-15 mlynedd diwethaf, trwy waith rheoleiddio tai Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a (mewn perthynas â’r sector rhentu preifat) Rhentu Doeth Cymru. Fodd bynnag, pery cwestiynau ynghylch digonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i sicrhau ansawdd ac atebolrwydd gwasanaethau tai, yn ogystal â’u cysondeb. Yn sicr mae achos dros gryfhau nid yn unig rheoleiddiad gwasanaethau i denantiaid, ond i’r sector cymdeithasol ddatblygu ffordd fwy cyson o fynd ati ar draws y maes tai cymdeithasol.
SAIL TYSTIOLAETH TAI CYMRU
Ers datganoli, gofynnwyd y cwestiwn dro ar ôl tro: os yw Cymru am yrru polisïau sy’n ymateb i dirwedd dai sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth a chyfnewidiol ar garlam, sut fydd y rhain yn cael eu ‘gyrru gan dystiolaeth’ yn absenoldeb tystiolaeth gadarn a chyfoes? Fel y pwysleisiodd Jennie Bibbings, uwch ymchwilydd tai a digartrefedd Ymchwil y Senedd, y llynedd, y broblem barhaus yw, o’i chymharu â gwledydd eraill y DU, mae Cymru’n fyr o ddata.
Mae StatsWales yn darparu diweddariadau rheolaidd ar ystod o ystadegau, cynlluniau ac ymgynghoriadau tai. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol, o dan nifer o themâu gwahanol, yn cynnwys tai. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gomisiynu, cynnal a chyhoeddi adroddiadau ymchwil tai ar amryw o faterion, yn cynnwys (yn 2025) gwerthusiadau polisi o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor, Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, y Cynllun Grant Cartrefi Gwag, Rhentu Doeth Cymru a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Y tu hwnt i Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru, mae sefydliadau eraill hefyd yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth tai trwy eu hymchwil, gan gynnwys cyrff cynrychioliadol ac ymgyrchu cenedlaethol yn ogystal â rhai fel Sefydliad Bevan. Ceir cyfraniadau achlysurol hefyd gan unigolion yn y byd academaidd a maes ymgynghori. Fodd bynnag, mae’r darlun yn ei grynswth yn parhau yn un o sector lle mae diffyg dealltwriaeth fanwl o brosesau sydd ar waith yn y system ac o ryngweithiadau o fewn y sector sy’n tanseilio datblygiad ymatebion polisi effeithiol.
Efallai mai’r datblygiad diweddar mwyaf diddorol yw cymeradwyaeth yr ysgrifennydd tai ar gyfer Arolwg Tai Cymru 2027/28 newydd. Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu, ond unwaith eto nid yw’n ‘fwled hud’ o safbwynt tystiolaeth am dai. Bydd yn bwysig gweld sut y caiff ei lunio, sut y mae’n cyfannu data eraill sy’n bodoli eisoes, a sut y gellir sicrhau bod hyn yn mynd yn rhan reolaidd o dirwedd data tai Cymru.
Y GWEITHLU TAI
Mae’r rhai sy’n gweithio ym maes tai ledled Cymru yn darparu gwasanaethau gwerthfawr drwy gwblhau cartrefi newydd, cefnogi adfywio a gwella’r stoc dai bresennol, a darparu tai a gwasanaethau cymorth o’r ansawdd uchel a ddisgwylir, â phob cyfiawnhad, i denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau eraill.
Gwnaeth Cynllun Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru y ddadl dros adeiladu gweithlu gwydn a gwerthfawr, a gydnabyddir am eu harbenigedd. Nododd y Tasglu Tai Fforddiadwy ei fod yn clywed tystiolaeth reolaidd am bwysigrwydd sgiliau, ac am dagfeydd a grëwyd gan brinder ohonynt. Adlewyrchir hyn ar draws proffesiynau’r amgylchedd adeiledig, nid yn unig mewn perthynas â dylunio, adeiladu a’r broses o gynllunio defnydd tir, ond hefyd am y rhai sy’n darparu gwasanaethau i denantiaid.
Fel proffesiwn, go brin y gwelir tai mewn goleuni tebyg i iechyd, gwaith cymdeithasol neu addysg. Ond mae ymarferwyr tai yn aml yn delio ag amrywiaeth o heriau cymhleth, a byddai o fudd enfawr pe bai gallai llywodraeth nesaf Cymru weithio gyda’r sector tai i helpu i adeiladu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygiad proffesiynol y maes tai.
SYLW I GLOI
Bydd 7 Mai, 2026, yn ddyddiad pwysig yng nghalendr gwleidyddol Cymru. Fodd bynnag, bydd yr hyn a’i dilyna hyd yn oed yn bwysicach o safbwynt parhau i ymateb i’r heriau lu gyda thai yng Nghymru. Rhaid i lywodraeth nesaf Cymru roi cynlluniau a pholisïau tai seiliedig ar dystiolaeth wrth graidd ei rhaglen.
Mae Bob Smith yn Uwch-gymrawd ymchwil anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn frocer cyfnewid gwybodaeth Cymru (rhan-amser) Canolfan Gydweithredol Tystiolaeth Tai y DU (CaCHE)