Mae’r rhifyn hydref hwn o WHQ yn edrych yn fanwl ar ddau bwnc a fu ar feddwl llawer o bobl sy’n gweithio ym maes tai yn ddiweddar.
Gyda Bil pwysig yn gweithio ei ffordd drwy’r Senedd, ein prif thema yw diogelwch adeiladu ac rydym yn ystyried hynny o safbwynt landlordiaid, dylunwyr a phreswylwyr. Mae Bethan Proctor yn archwilio’r ddeddfwriaeth sy’n anelu at wella diogelwch mewn adeiladau aml-feddiannaeth gan grybwyll rhai o’r pryderon a godwyd gan gymdeithasau tai. Tra bod y Bil yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfnod meddiannaeth adeiladau, mae Toby Adam yn crybwyll enghreifftiau o’r ddeddfwriaeth yn Lloegr i ystyried beth allai ei olygu i ddylunio ac adeiladu yng Nghymru. Mae Mark Thomas yn adrodd ar sefyllfa prydleswyr sy’n dal yng ngafael yr argyfwng diogelwch adeiladu ar ôl Grenfell. Yn olaf, mae Kayley Hyman yn trafod celcio a sut i fynd i’r afael â’r broblem.
Rydym hefyd yn ystyried y rhan y gall technoleg ei chwarae i wella diogelwch preswylwyr yn eu cartrefi. Mae Kevin Doughty a Gareth Williams yn dadlau’r achos dros blatfform digidol unedig ar gyfer tai cymdeithasol, a Roger Hiscott yn edrych ar fenter sy’n dangos y gall ôl-ffitio fod yn feddyginiaeth ataliol.
Ar ôl haf o gamwybodaeth ynglŷn â thai, yn enwedig mewn perthynas â mewnfudo, rydym hefyd yn ystyried y broblem hon o sawl safbwynt. Mae Catherine Evans yn disgrifio sut y bu Trivallis yn ei brwydro, mae John Perry’n chwalu mythau am fewnfudwyr a thai cymdeithasol ac Alicja Zalesinska’n dweud bod yn rhaid i’r sector tai wneud mwy i wthio’n ôl yn erbyn camwybodaeth. Mae Natalie Tate ac Ian Hembrow hefyd yn myfyrio ar sut i gyfleu ein negeseuon am dai a chartrefi newydd.
Mae’r rhifyn hefyd yn trafod dau ddatblygiad arall ag oblygiadau mawr i landlordiaid cymdeithasol, dyfarniad yr Uchel Lys sydd, gobeithio, wedi datrys y problemau ynghylch adroddiadau cyflwr trydanol a rhenti, a’r setliad rhent 10-mlynedd newydd ar gyfer tai cymdeithasol. Dywed Karel Williams a Keith Edwards bod angen i ni ystyried fforddiadwyedd yn ddwysach er mwyn creu polisi cydgysylltiedig.
Rydym hefyd yn edrych ar effeithiau gwahanol agweddau ar yr argyfwng tai ar y bobl sy’n eu dioddef. Mae Pete Johnson yn myfyrio ar staff sy’n llosgi allan a lludded tosturi a’r hyn y gellir ei wneud amdanynt, tra bod Wendy Dearden yn edrych ar effaith byw mewn llety dros-dro ar blant ac yn ystyried beth y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa.
Testun trafod arall dros yr haf oedd cyflwyno Safonau’r Gymraeg ar gyfer cymdeithasau tai. Mae Aled Davies a Gwyndaf Tobias yn ystyried oblygiadau hynny o safbwynt dwy gymdeithas o wahanol rannau o’r wlad. Mae hyn oll, ynghyd â’n holl nodweddion arferol, yn gwneud hwn yn rhifyn sydd â rhywbeth i bawb sy’n gweithio yn y maes tai yng Nghymru.
Jules Birch, golygydd, WHQ