English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

LLOEGR

Nodi safleoedd trefi newydd

Croesawodd Llywodraeth y DU adroddiad annibynnol yn argymell 12 lleoliad ar gyfer cenhedlaeth newydd o drefi newydd posibl.

Mae gweinidogion wedi ymrwymo i ddechrau gweithio ar o leiaf dri ohonynt o fewn y senedd hon a symud ymlaen gymaint ag sy’n bosibl gyda’r lleill.

Argymhellodd y Tasglu Trefi Newydd y dylid adeiladu cymysgedd o gymunedau graddfa-fawr gan gynnwys estyniadau trefol, adfywio trefol ac ar safleoedd tir glas ar wahân.

Dywedodd y dylai pob tref newydd fod ag o leiaf 10,000 o gartrefi gydag uchelgais o 40 y cant o leiaf yn dai fforddiadwy, a hanner y rheini ar rent cymdeithasol.

Yn ei hymateb cychwynnol, croesawodd y llywodraeth bob un o’r 12 lleoliad a argymhellir ac argymhellion ehangach y tasglu ar gyflawni a gweithredu.

Dywedodd y llywodraeth mai’r tri safle yn Tempsford yn Swydd Bedford, Crews Hill yn Enfield a Leeds South Bank sy’n edrych yn fwyaf addawol.

Reed yn olynu Rayner

Addawodd yr ysgrifennydd tai newydd Steve Reed i adeiladu’n helaeth ar drywydd targed maniffesto y llywodraeth o 1.5 miliwn o gartrefi newydd yn y senedd hon.

Penodwyd y cyn-ysgrifennydd amgylchedd yn yr ad-drefnu a ddilynodd ymddiswyddiad yr ysgrifennydd tai a’r dirprwy brif weinidog Angela Rayner dros faterion treth.

Roedd hi wedi sicrhau £39 biliwn yn yr adolygiad gwariant ar gyfer Rhaglen Cartrefi Cymdeithasol a Fforddiadwy deng-mlynedd gan addo, dro ar ôl tro, ‘yr hwb mwyaf i dai cymdeithasol a fforddiadwy mewn cenhedlaeth’.

YR ALBAN

Cap ar godiadau rhent

Pasiwyd deddfwriaeth newydd i drawsnewid gwaith atal digartrefedd a gwella safonau mewn tai ar rent gan Senedd yr Alban.

Bydd Bil Tai (Yr Alban) yn:

  • Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol i atal pobl rhag colli eu cartrefi trwy holi am eu sefyllfa dai a gweithredu
  • Ehangu pwerau gweinidogion i weithredu ‘Cyfraith Awaab’ i fynd i’r afael â pheryglon iechyd
  • Rhoi pŵer i weinidogion weithredu system o reolaethau rhent hirdymor, gan gadw rhenti’n fforddiadwy i denantiaid

Bydd y Bil yn galluogi gweinidogion i ddynodi meysydd lle ceir capio codiadau rhent yn y sector preifat ar Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr + 1% hyd at derfyn o 6 y cant.

Ymddengys yr eithrir unedau canol y farchnad, datblygiadau prynu-i-rentu a llety myfyrwyr o’r rheolaethau. Ond galwodd ymgyrchwyr yr eithriadau yn ‘drychinebus’ a chyhuddo lobïwyr landlordiaid o weithio i lastwreiddio’r rheolaethau rhent a’u gwneud yn ‘weithredol ddiwerth’.

Gweinidog yn cyflwyno cynllun argyfwng

Addawodd yr ysgrifennydd tai Màiri McAllan i wahardd plant rhag byw mewn llety dros-dro bellach, cefnogi grwpiau diymgeledd, a chynyddu’r buddsoddiad mewn Cynllun Gweithredu Argyfwng Tai. Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Ymrwymiad newydd i fuddsoddi hyd at £4.9 biliwn dros y pedair blynedd nesaf, i ddarparu tua 36,000 o dai fforddiadwy erbyn 2029-30
  • Dyblu buddsoddiad mewn caffaeliadau eleni i £80 miliwn, a fydd yn helpu i ddod â rhwng 600-800 o blant allan o lety dros-dro
  • Cyfraith Awaab mewn grym o fis Mawrth 2026, i ddileu lleithder a llwydni

GOGLEDD IWERDDON

System ‘heb fod yn ateb gofynion sylfaenol’

Mae heriau tai sylfaenol yng Ngogledd Iwerddon yn dyfnhau er gwaethaf cynnydd mewn rhai mannau, rhybuddiodd gweithwyr tai ar ôl cyhoeddi ystadegau newydd.

Datgelodd bwletin Ystadegau Tai Gogledd Iwerddon 2024–25 fod cynnydd o 4 y cant mewn rhestrau aros tai cymdeithasol a chynnydd o 6 y cant mewn aelwydydd dan straen tai.

Yn fwy positif, gostyngodd derbyniadau digartref o 6 y cant a chychwynwyd ar 1,504 o dai cymdeithasol newydd yn 2024/25, sy’n cwrdd â’r targed blynyddol ond yn methu’r 2,200 sydd eu hangen i ateb y galw.

Dywedodd Justin Cartwright, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Gogledd Iwerddon: ‘Mae’r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y rhestr aros tai cymdeithasol a straen tai yn gyfrifoldeb moesol na allwn ei anwybyddu. Mae’n arwydd nad yw ein system bresennol yn ateb anghenion sylfaenol nifer cynyddol o bobl.’

 

LLYWODRAETH CYMRU

Dyfarniad o blaid landlordiaid mewn achos rhenti

Dyfarnodd yr Uchel Lys o blaid cymdeithasau tai mewn achos gyda miliynau o bunnoedd mewn taliadau rhent o bosibl yn y fantol.

Daeth y dyfarniad yn ail gam achos prawf a ddygwyd yn dilyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd yn ymwneud â rheoliadau a gyflwynwyd yn 2017 sy’n cynnwys gofyniad i landlordiaid ddarparu adroddiadau amodau trydanol (ECRs) i ddeiliaid contract (tenantiaid) erbyn canol mis Rhagfyr 2023.

Mewn dyfarniad yn dilyn cam cyntaf yr achos ym mis Tachwedd 2024, dyfarnodd yr Uchel Lys fod methu â rhoi’r adroddiadau i’w tenantiaid (yn hytrach na bod â nhw ar gael) yn golygu nad oedd yr eiddo yn addas i bobl fyw ynddo ac nad oedd yn ofynnol i ddeiliaid contract dalu rhent. Dywedwyd bod tua £60 miliwn mewn rhent yn y fantol ar draws pum cymdeithas dai.

Roedd a wnelo’r ail achos â gwrth-hawliadau i’r achos gwreiddiol, gyda landlordiaid a thenantiaid fel hawlwyr a diffynyddion a Llywodraeth Cymru yn ymyrryd. Roedd y gwrth-hawliadau’n cynnwys y cwestiwn hanfodol a allai tenantiaid a oedd eisoes wedi talu eu rhent ei adhawlio. Y pwynt oedd a gawsai’r rhent ei dalu oherwydd camgymeriad yn y gyfraith.

Clywodd y Llys dystiolaeth y gwnâi fersiwn cynharach o’r rheoliadau hi’n ofynnol i gymdeithasau fod ag ECR, ond y dywed y fersiwn terfynol bod rhaid iddynt sicrhau y rhoddid copi i ddeiliad y contract. Mewn dyfarniad yr wythnos diwethaf dywedodd y barnwyr: ‘Beth sy’n anffodus o edrych yn ôl yw

na alwyd sylw i’r newid mewn geiriad o reoliadau ymgynghori 2017, y canolbwyntiwyd llawer o amser a sylw arno o’r blaen gan landlordiaid fel yr hawlwyr. Nid oedd yr hawlwyr yn beio Llywodraeth Cymru. Fe wnaethant gydnabod, yn eu tystiolaeth, iddynt wneud camgymeriad oherwydd camddealltwriaeth, y gwnaethant gymryd yr holl gyfrifoldeb amdano. Ond roedd hwn yn ein barn ni yn gamgymeriad dealladwy. Cafodd ei weld yn gyflym iawn ac, ar ôl ei weld, ei gywiro ar unwaith a heb unrhyw brocio gan unrhyw ddiffynnydd.’

Canfu’r llys nad oedd dim o’r rhent a wrth-hawliwyd wedi’i dalu o ganlyniad i gamgymeriad yn y gyfraith. Golygai hyn y methodd yr holl wrth-hawliadau eraill, yn cynnwys a gawsai’r landlordiaid eu ‘cyfoethogi yn anghyfiawn‘ o ganlyniad i’r camgymeriad ac a dramgwyddwyd eu hawliau dynol. Daw’r dyfarniad i’r casgliad: ‘Am y rhesymau hyn, yn bennaf am nad oedd y camgymeriad yn yr achos hwn yn achosol yn nhaliad rhent y diffynyddion pan nad oedd angen ei dalu, ond hefyd am nad yw hi’n anghyfiawn i’r hawlwyr gadw rhent o’r fath, a hefyd am na ddylem ganiatáu iawndal pan fo’r contract yn bodoli ac na ddioddefwyd unrhyw niwed hyd yn oed os tybir y bu tor-contract, mae gwrth-hawliadau’r tri diffynnydd yn methu ac yn cael eu gwrthod.’

Roedd apêl yn yr achos cyntaf yn dal heb ei chynnal wrth i WHQ fynd i’r wasg, gyda’r gwrandawiad i fod yn gynnar y flwyddyn nesaf ond bu dyfalu y gellid ei thynnu’n ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Rydym yn croesawu’r sicrwydd a’r eglurder i ddeiliaid y contract a’r landlordiaid a ddarperir gan ddyfarniadau’r Llys.

‘Gan fod apêl yn parhau ar hyn o bryd mewn perthynas â’r achos hwn, ni fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.’

Dywedodd llefarydd ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Rydym yn ddiolchgar i’r Uchel Lys am roi eglurhad pwysig ar y materion hyn, a’r holl bartïon sy’n ymwneud â dod ag ymchwilio i’r achos prawf hwn.

‘Yn sicr, fodd bynnag, yr oedd ac y mae cartrefi cymdeithasau tai yn ddiogel i fyw ynddynt – pwynt technegol cyfreithiol oedd hwn. Mae cymdeithasau tai yn cymryd materion diogelwch a ffitrwydd o ddifri calon, ac yn cadw at y safonau uchel a bennir gan Lywodraeth Cymru a’r rheoleiddiwr.’

Gweinidog yn nodi setliad rhent deng mlynedd

Cymeradwyodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant safon rhent deng-mlynedd ar gyfer tai cymdeithasol i roi ‘sicrwydd a sefydlogrwydd i landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid ledled Cymru’.

Bydd Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth Llywodraeth Cymru 2026-2036 yn gweld rhenti tai cymdeithasol yn codi yn ôl Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (CPI) + 1%. Dyma’r cynnydd uchaf a ganiateir unrhyw flwyddyn lle mae’r gyfradd CPI ym mis Medi rhwng 0 y cant a 3 y cant.

Pan fo CPI mis Medi rhwng 3 y cant a 5 y cant, yr uchafswm cynnydd fydd CPI + 0 .5%, ond os yw CPI mis Medi yn fwy na 5 y cant, bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu’r cynnydd priodol i’w godi ar gyfer y flwyddyn honno.

Cododd CPI i 3.8 y cant ym mis Awst ac roedd ffigur mis Medi i fod i gael ei gyhoeddi wrth i WHQ fynd i’r wasg.

Yn ogystal, gellir lleihau, rhewi neu gynyddu rhenti tenantiaid unigol ‘hyd at £2.55 ychwanegol yr wythnos’ ar yr amod nad yw cyfanswm y cynnydd mewn incwm rhent yn fwy na’r fformiwla genedlaethol.

Ni chynhwysir codiadau tâl gwasanaeth yn y safon ar y sail eu bod yn cael eu llywodraethu gan ystod o ffactorau lleol ac eiddo-benodol. Ond bydd disgwyl iddynt fod yn ‘rhesymol a fforddiadwy’ a bydd yn ofynnol i landlordiaid eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian i denantiaid a’u bod yn fforddiadwy.

Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto ar fater o gydgyfeirio rhent. Esboniodd Jayne Bryant mewn datganiad ysgrifenedig: ‘Deil fforddiadwyedd wrth wraidd ein polisi rhent cymdeithasol ac rwyf wedi ymrwymo i ymgorffori hyn ymhellach drwy ddatblygu fframwaith fforddiadwyedd, a ddaw â mwy o eglurder a chysondeb i sut y pennir rhenti ledled Cymru.’

‘Rwyf wedi gwrando ar ymatebwyr a chydnabyddaf y potensial ar gyfer cydgyfeirio rhent i gynhyrchu incwm rhent ychwanegol a hyrwyddo mwy o gysondeb ar draws y sector. Mae cydgyfeirio, fodd bynnag, yn gynhenid gymhleth, gydag oblygiadau sylweddol i fforddiadwyedd. Dyna pam y byddwn yn dadansoddi ymhellach ochr yn ochr â’n gwaith ar fforddiadwyedd i lywio ystyriaeth o p’run ai, pryd, a sut y gellid ceisio cydgyfeiriad o fewn y dirwedd dai a chyllidol ehangach.’

Fel rhan o’r setliad, cytunodd landlordiaid cymdeithasol i barhau i beidio â throi neb allan oherwydd caledi ariannol ac i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i denantiaid sy’n dioddef caledi ariannol yn ogystal â defnyddio’r stoc tai cymdeithasol presennol i’r eithaf ac adeiladu ar sail eu hymgysylltiad â thenantiaid.

Cosmeston fydd datblygiad tai sero net ‘mwyaf y DU’

Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb gyda Barratt Redrow i ddarparu’r hyn y dywed fydd yn ddatblygiad tai carbon sero-net mwyaf y DU.

Bydd safle Fferm Cosmeston ym Mro Morgannwg yn darparu 576 o gartrefi newydd a fydd yn cyrraedd carbon sero-net trwy ddylunio a thechnolegau arloesol.

Nod datblygiadau tai sero-net yw creu cartrefi sy’n cynhyrchu cymaint o ynni ag a ddefnyddir, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol a hyrwyddo cynaliadwyedd.

Penodwyd Prifysgol Caerdydd i asesu a gwirio data sy’n monitro perfformiad di-garbon y cartrefi yn annibynnol.

Bydd hanner y cartrefi yn fforddiadwy, gyda 219 ar gael ar rent cymdeithasol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys ysgol gynradd newydd, gofod agored a llwybr teithio egnïol, gan greu cymuned gynhwysfawr gynaliadwy.

Ar ymweliad â’r safle, dywedodd yr ysgrifennydd tai, Jayne Bryant: ‘Mae’r datblygiad hwn yn gosod safon newydd ar gyfer tai cynaliadwy nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt.

  ‘Nid yw hyn ynglŷn â chodi cartrefi yn unig – mae a wnelo â chreu cymunedau ffyniannus a mynd benben ag argyfwng yr hinsawdd. Mae ein polisi sero net yn ysgogi buddsoddi real a newid real yn ein ffordd o adeiladu’r cartrefi sydd arnom gymaint o’u hangen. 

‘Mae’r cytundeb gyda Barratt Redrow yn newid sylfaenol sy’n dangos beth sy’n bosib pan rown bobl a’n planed yn gyntaf, a dwi’n arbennig o falch o’u hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a phrentisiaethau, gan helpu i feithrin sgiliau a gyrfaoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.’

Dywedodd David Thomas, prif weithredwr Barratt Redrow: ‘Bydd y datblygiad yn esiampl ac yn lle gwych i fyw ynddo, gyda chyfleusterau cymunedol anhygoel, ymrwymiad cryf i dai fforddiadwy a dulliau cynaliadwy arloesol. Caiff pob cartref hynod ynni-effeithlon ei wresogi gan bwmp gwres ffynhonnel-daear a’i bweru gan baneli ffotofoltäig a batris, gan leihau carbon a gostwng biliau i breswylwyr y dyfodol.’ 

Galw i gau’r bwlch rhwng hawliau rhentwyr

Mae deddfwriaeth newydd yn San Steffan yn creu bwlch ‘cwbl annerbyniol’ rhwng Cymru a Lloegr ar hawliau rhentwyr, meddai’r ysgrifennydd tai gwrthblaid, Siân Gwenllian.

Roedd hi’n siarad yn ystod cwestiynau i’r prif weinidog ar ôl i’r AS Llafur Julie Morgan godi hawliau i rentwyr gadw anifeiliaid anwes, o dan Fil Hawliau Rhentwyr yn Lloegr.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru fod tenantiaid yng Nghymru ‘yn mynd i golli allan cyn rhy hir iawn’ ar  gael cadw anifeiliaid anwes ac yn fwy eang.

Dywedodd: ‘Dwi’n galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun gweithredu brys i ddangos yn fanwl sut rydych chi’n bwriadu cau’r bylchau i ddiogelu rhentwyr Cymru, y bylchau sydd bellach yn cael eu creu o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth newydd yn Lloegr.’

Awgrymodd y prif weinidog Eluned Morgan bod gweithredu i ddod: ‘Wel, i fod yn glir, dwi ddim am fod mewn sefyllfa lle mae’r hawliau mor wahanol yn Lloegr o’i gymharu â Chymru, felly yr hyn y byddwn yn ei wneud yw sicrhau y byddwn yn edrych ar y bylchau hynny ac yna sicrhau ein bod yn eu cau lle bo angen.’

Ysgrifennydd tai’n wynebu ‘cwestiynau anodd’ ar ddiogelwch adeiladu

Mae gwaith adfer wedi dechrau neu wedi’i gwblhau ar lai na hanner y 459 o adeiladau anniogel Cymru.

Mae diweddariad mis Medi o Raglen Diogelwch Adeiladu Cymru yn dangos y cwblhawyd gwaith ar 83 o adeiladau (18 y cant) a’i fod wedi cychwyn ar 119 (26 y cant). O’r adeiladau sy’n weddill, mae’r gwaith cynllunio ar y gweill ar 216 (47 y cant) ac does dim angen gwaith neu ni chanfuwyd pa waith adfer sydd ei angen eto ar 41 (9 y cant).

Mae’r gwaith wedi bod yn araf ar adeiladau sy’n cael eu hadfer o dan y contract a lofnodwyd gan y datblygwyr mwyaf gyda Llywodraeth Cymru. Mae gwaith wedi’i gwblhau ar chwech allan o 163 o adeiladau yn unig ac wedi cychwyn ar 48 arall.

Cyfarfu’r ysgrifennydd tai Jayne Bryant ag aelodau o grŵp ymgyrchu Cladiators Cymru ym mis Gorffennaf, gyda chyfarfod pellach i fod ar Hydref 16.

Dywedodd: ‘Fe ofynnon nhw gwestiynau anodd i mi a’i gwneud hi’n glir y byddan nhw’n parhau i fynnu gweithredu a chyflymu’r broses adfer yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar am yr angerdd a’r ymrwymiad hwnnw, a byddaf yn parhau i weithio’n ddiflino i ganfod atebion a gyrru cyflymder y broses o fewn y rhaglen.’

Gostyngiad bach yn y defnydd o lety dros-dro

Gostyngodd nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros-dro am y tro cyntaf ers 2015, yn ôl ystadegau digartrefedd ar gyfer 2024/25.

Ddiwedd mis Mawrth 2025, roedd 6,285 o aelwydydd mewn llety dros-dro, gostyngiad o 3 y cant ar fis Mawrth 2024. Bu’r cyfanswm yn cynyddu bob blwyddyn ers 2015 gan godi’n serth ers y pandemig yn 2020.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gostyngiad bach eleni, mae’r niferoedd yn dal i fod 69 y cant yn uwch nag yn 2020/21. Dengys ystadegau misol gyfanswm o 10,944 o bobl wedi’u lletya mewn llety dros-dro ddiwedd Mai, gan barhau â dirywiad ysgafn a welwyd ers dechrau 2024. O’r rhain, roedd 2,638 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 12 y cant ar fis Mai 2024 a 21 y cant ar fis Mai 2023.

Dywedodd prif weithredydd Shelter Cymru, Ruth Power: ‘Gyda’r un stori’n cael ei hadrodd gan yr ystadegau bob blwyddyn, mae’n amlwg bod angen newid radical i droi’r llanw. A gyda deddfwriaeth digartrefedd a allai fod yn drawsnewidiol gerbron y Senedd ac etholiad ar y gorwel, credwn mai dyma’r foment i bob plaid wleidyddol yng Nghymru ymrwymo i roi terfyn ar yr argyfwng tai unwaith ac am byth.’

CYMRU

Gwynedd yn colli achos llys ail gartrefi

Mae cyngor Gwynedd, y cyntaf yng Nghymru i fynnu bod perchnogion yn cael caniatâd cynllunio i droi prif breswylfeydd yn ail gartrefi ac eiddo gwyliau, wedi colli her gyfreithiol.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru bwerau newydd i gynghorau i reoli ail gartrefi yn eu hardal yn 2022. Diwygiwyd rheoliadau cynllunio i greu dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi ac eiddo gwyliau tymor-byr.

Cyngor Gwynedd oedd y cyntaf i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ym mis Medi 2024. Mae tua 11 y cant o gartrefi’r sir yn ail gartrefi neu eiddo gwyliau, cyfradd bedair gwaith yn uwch na Chymru gyfan.

Cwynodd rhai perchnogion cartrefi fod y cyfarwyddyd yn lleihau gwerth eu heiddo. Fe gollasant eu cais gwreiddiol am adolygiad barnwrol ond apeliwyd yn erbyn hynny.

Ddiwedd mis Medi caniataodd barnwr yr Uchel Lys y cais ar y sail bod aelodau’r cabinet oedd yn ystyried y cyfarwyddyd wedi cael eu ‘camarwain yn sylweddol’ gan adroddiad swyddogion nad oedd yn gwahaniaethu rhwng newid defnydd materol ac anfaterol.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, yr aelod cabinet dros yr amgylchedd: ‘Dangosodd ymchwil a wnaed cyn cyflwyno’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65 y cant o deuluoedd Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r broblem hyd yn oed yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o gartrefi gwyliau. 

‘Rydym yn hynod siomedig gyda’r dyfarniad a byddwn yn mynd ati i ddechrau’r broses apêl i amddiffyn ein penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd.’

Caerdydd a’r Fro yn llofnodi cytundeb partneriaeth

Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn addo cyfnod newydd mewn darparu tai ar ôl llofnodi cytundeb partneriaeth gyda Lovell Partnerships i ddarparu cynllun tai trawsnewidiol ar draws y rhanbarth.

Mae’r cydweithrediad yn garreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad yr awdurdodau i ddarparu cartrefi fforddiadwy a rhai i’w gwerthu ar y farchnad, o ansawdd uchel, i gymunedau yn eu hardal.

Noda’r siarter bartneriaeth weledigaeth ac amcanion y bartneriaeth o ddarparu cartrefi fforddiadwy ac adfywio cymunedau ledled Caerdydd a’r Fro, gyda rhyw 2,500 o gartrefi, yn cynnwys tua 1,600 o dai cyngor newydd, ar draws 25 safle.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas: ‘Mae’r bartneriaeth yn nodi cyfnod newydd o ran darparu tai yng Nghaerdydd a’r Fro. Drwy weithio gyda’n cydweithwyr ym Mro Morgannwg a Lovell, rydym yn arddangos ein cyd-ymrwymiad i ateb yr angen am dai a chreu cymunedau ffyniannus, cynhwysol.’

Dywedodd y Cyng. Lis Burnett, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: ‘Mae hwn yn drefniant partneriaeth cyffrous a wêl nifer fawr o dai yn cael eu codi ledled Caerdydd a’r Fro. Byddant yn ynni-effeithlon ac wedi’u hadeiladu’n gynaliadwy, sy’n unol ag Ymrwymiad Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.’

Cymoedd i’r Arfordir a’i ddatblygiad mwyaf erioed

Caiff cyn-safle ffatri ym Maesteg ei drawsnewid yn ddatblygiad tai mwyaf Cymoedd i’r Arfordir hyd yn hyn, gan ddarparu bron i 200 o gartrefi newydd ac anadlu bywyd newydd i mewn i ran o’r dref sydd wedi sefyll yn wag ers dros ddegawd.

Mae’r gymdeithas yn creu’r cynllun gwerth £41.8 miliwn gyda’r adeiladwr Avant Homes mewn dêl a gefnogir gan gwmni cyfreithiol Hugh James.

Paratowyd hen safle ffatri Revlon ar gyfer ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gyllidodd £3.5 miliwn o waith i adfer safle.

Bydd yr 193 o gartrefi yn gymysgedd o gartrefi fforddiadwy ar rent cymdeithasol, perchnogaeth cartref cost-isel, cartrefi i’w gwerthu ar y farchnad agored, a chartrefi rhent fforddiadwy, gyda’r gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2026. Disgwylir i’r cartrefi cyntaf fod yn barod ddiwedd 2026 a’r nod yw cwblhau’n llwyr erbyn 2030.

Meddai prif weithredydd y grŵp, Jo Oak: ‘Mae hon yn foment fawr i Cymoedd i’r Arfordir a Maesteg. Mae Ffordd Ewenni nid yn unig yn ddatblygiad mwyaf y grŵp hyd yma, ond yn gam beiddgar i helpu teuluoedd, parau ac unigolion â’r mwyaf o angen cartref i fwrw gwreiddiau yma ym Mhen-y-bont. Mae’n rhan o’n hymrwymiad parhaus i ateb angen ein cymunedau am dai, gan greu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd, sy’n dod â’r sefydlogrwydd a’r diogelwch mae pobl yn ei haeddu.

Dywedodd James Griffiths, cyfarwyddydd datblygu ac adfywio Cymoedd i’r Arfordir: ‘Am fwy na 12 mlynedd, bu’r safle yma’n sefyll yn wag, ond cyn bo hir bydd yn gartref i gymuned ffyniannus, yn cynnig cymysgedd o rent cymdeithasol, perchnogaeth fforddiadwy, a thai i’w gwerthu ar y farchnad agored. Gallwn felly ddiwallu ystod o anghenion tra’n creu cymdogaeth fywiog, gytbwys lle gall pobl dyfu, gweithio a perthyn.’

Fforddiadwyedd yn peri mwy o bryder i denantiaid

Datgelodd arolwg cenedlaethol o denantiaid tai cymdeithasol straen cynyddol arnynt ledled Cymru, gyda llawer yn sôn am gael eu gorfodi i mewn i ddewisiadau ariannol amhosibl.

Dengys Arolwg Pyls Tenantiaid diweddaraf TPAS Cymru mai dim ond 42 y cant o denantiaid sy’n teimlo bod eu rhent yn fforddiadwy, cwymp serth o 62 y cant y llynedd a 78 y cant yn 2023.

Mae tenantiaid yn disgrifio cael eu gorfodi i ddewis rhwng ‘gwresogi a bwyta’, torri nôl ar hanfodion neu fynd i ddyled.

Datgelodd yr arolwg hefyd:

  • Tenantiaid dan 30 sy’n ei chael hi galetaf, gyda bron i ddau draean yn dweud bod eu rhent yn anfforddiadwy. Ni ŵyr mwy na hanner y tenantiaid sut y gwerir eu rhent, ond hoffent gael gwybod.
  • Galwai 93 y cant o denantiaid ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio beth yw gwir ystyr ‘rhent fforddiadwy’, ac ni welodd bron eu hanner wybodaeth am gymorth ariannol gan eu landlord, er gwaethaf ymrwymiad gan y sector.
  • Dywed bron 1 o bob 3 tenant fod eu taliadau gwasanaeth yn anfforddiadwy, ac mae llawer heb deall sut y cânt eu cyfrifo.
  • Cefnogai 66 y cant o denantiaid y cap gweinidogol, sy’n cyfyngu ar godiadau rhent pan fo chwyddiant yn uchel.

Meddai David Wilton, prif weithredydd TPAS Cymru: ‘Mae hyn yn sobreiddiol. Y tu ôl i bob ystadegyn mae tenant sy’n poeni am gael deupen llinyn ynghyd. Rhannodd 550 o denantiaid eu profiadau yn arolwg eleni, ein mwyaf amrywiol eto. Dengys yn glir bod tenantiaid am gael tegwch, tryloywder, a system sy’n adlewyrchu profiadau bywyd go iawn – nid dim ond fformiwlâu.’

Nododd seremoni torri tir newydd gychwyn gwaith adeiladu blaengar wrth i GlwydAlyn ailddatblygu cymuned hanesyddol, sef Penref Pwylaidd Penrhos ger Pwllheli.

Cynhaliodd y safle unigryw yng nghalon Gwynedd, cyn-gartref i filwyr, awyrenwyr, llongwyr a sifiliaid Pwylaidd a gawsai eu dadleoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd (a maes awyr yr Awyrlu cyn hynny), seremoni fis Gorffennaf i ddathlu cychwyn ar ailddatblygiad y bu disgwyl eiddgar amdano.

Ymgasglodd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, conswl anrhydeddus Gweriniaeth Gwlad Pwyl, ClwydAlyn, Williams Homes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a detholiad o breswylwyr presennol a chyn-breswylwyr, i weld y seremoni.

Caerffili’n adfer tai gwag i’w defnyddio eto

Cafodd mwy na 400 o gartrefi preifat gwag hirdymor eu trawsnewid i allu eu defnyddio eto ers 2021, diolch i dîm eiddo gwag Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gweithia’r tîm gyda landlordiaid, perchnogion tai, a datblygwyr i fynd i’r afael ag eiddo sy’n broblem, gan gynyddu’r cyflenwad tai, gwella cymdogaethau, a chael gwared o ddolur i’r llygad o gymunedau lleol.

Un o lwyddiannau mwyaf y tîm yw eiddo yn Nelson a adawyd yn wag am dros ddegawd. Wedi’r tipio anghyfreithlon, y plâu, a chwynion cyson, mae bellach yn gartref i’w rentu wedi’i adnewyddu’n llwyr.

Ar ôl cefnogaeth barhaus gan y tîm, a bygythiad o godi premiwm treth cyngor ar eiddo gwag, cytunodd y perchennog i werthu trwy arwerthiant. Cwblhaodd datblygwr lleol y trawsnewidiad, gan ei ddychwelyd i’r farchnad rentu ac adfer cartref a oedd wedi mynd â’i ben iddo yn ôl i’r gymuned.

Meddai’r Cyng. Shayne Cook, aelod cabinet Cyngor Caerffili dros dai: ‘Mae eiddo gwag yn falltod ar ein cymunedau ac yn wastraff adnodd tra’n bod ni’n wynebu argyfwng tai cenedlaethol. Trwy ddod â mwy na 400 o gartrefi yn ôl i ddefnydd, rydym nid yn unig yn datrys problem eiddo gwag, ond hefyd yn creu tai mae mawr angen amdanynt ac anadlu bywyd newydd i mewn i gymdogaethau ledled bwrdeistref Caerffili.’

 

10 CYHOEDDIAD SY’N DAL Y LLYGAD

1) The impact of temporary accommodation on children and their families

Sefydliad Bevan, Medi 2025

www.bevanfoundation.org/resources/temporary-accommodation-children/

2) Arferion pennu rhenti landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru

Llywodraeth Cymru, Medi 2025

Arferion pennu rhenti landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru | LLYW.CYMRU

3) Back to the future: The next generation of new towns

Shelter, Medi 2025

england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/back_to_the_future_the_next_generation_of_new_towns

4) Homes, support, prevention – our foundations for ending homelessness

Y Grŵp Seneddol Holl-Bleidiol ar Roi Terfyn ar Ddigartrefedd/Crisis, Medi 2025

www.crisis.org.uk/media/5ffnj1hw/appg-for-ending-homelessness-report-homes-support-prevention-our-foundations-for-ending-homelessness.pdf

5) The value of housing

Nationwide Foundation/UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Medi 2025

housingevidence.ac.uk/project/the-value-of-housing-building-a-stable-foundation-how-homes-drive-health-opportunity-prosperity-and-equality/

6) Rebalancing the housing market through tax reform

Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2025

www.jrf.org.uk/sites/default/files/pdfs/rebalancing-the-housing-market-through-tax-reform-6b306b0a94aec8396ca043e7356dd9f5.pdf

7) The cost of inaction

Shelter/Cebr, Medi 2025

england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/the_cost_of_inaction

8) Building beautiful council houses

Policy Exchange, Awst 2025

policyexchange.org.uk/publication/building-beautiful-council-houses/

9) Breaking barriers: Collaborative solutions to housing delivery

The Housing Forum, Medi 2025

housingforum.org.uk/breaking-barriers

10) Who will care? How can we meet the scale of the care challenge?

Institute for Public Policy Research, Medi 2025

www.ippr.org/articles/who-will-care


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »