Bil i ateb y galw?
Mae cyflwyno Bil Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol (Cymru) yn foment nodedig, y cam diweddaraf yn y daith i wneud digartrefedd yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir. Y Bil Digartrefedd yw thema’r rhifyn Haf hwn o WHQ, ac archwilir y ddeddfwriaeth newydd o sawl cyfeiriad. Mae Debbie Thomas a Suzanne Fitzpatrick yn edrych ar y ffordd tuag at newid trwy’r Panel Adolygu Arbenigol a’r papur gwyn, a’r broses ddilynol o lunio’r cynigion yn y Bil. Yn y cyfamser, mae Claire Shiland yn archwilio un o’r cynigion mwyaf radical, y dyletswydd ‘gofyn a gweithredu’ ar wasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae cryn ddadl o’n blaenau wrth i’r Bil fynd trwy’r Senedd. Mae Robin White yn croesawu’r cynnig i ddileu’r profion angen blaenoriaethol a bwriadoldeb ond mae’n poeni am oblygiadau parhau â‘r prawf cysylltiad lleol, a dod â dyletswydd i ben yn wyneb ymddygiad annerbyniol. Mae Alicja Zalensinska yn rhannu’r uchelgais ond yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau nad yw rhai grwpiau’n cwympo trwy’r bylchau, tra bod Bill Rowlands yn poeni y gallai cefnogaeth fod yn brin i bobl ifanc.
Bydd cyflawni yn hanfodol os yw’r system newydd am weithio. Gan elwa ar brofiad rhyngwladol, dadleua Lígia Teixeira bod angen i Gymru fynd mor adnabyddus am ei weithredu’n feiddgar ag ydyw am ei deddfwriaeth. Dywed Katie Clubb y dylid gweithredu fesul cam a bod yn rhaid i awdurdodau lleol gael adnoddau digonol. Edrycha Elly Lock ar yr hyn y mae angen i gymdeithasau tai ei gyflawni, tra dadleua Clare Budden mai darparu cartrefi i’r digartref ddylai fod eu prif bwrpas eisoes.
Canolbwyntiai rhifyn y Gwanwyn yn fanwl ar gyflenwad a chynllunio ac mae gennym ddiweddglo i hynny mewn cyfweliad â Lee Waters AoS am y Tasglu Tai Fforddiadwy a gadeiriwyd ganddo. Yma eto, meddai, mae cyflawni’n hanfodol. Mae’n rhannu ei feddyliau ar y liferi y mae angen eu tynnu a’r cyfaddawdu y bydd yn rhaid ei wneud â pholisïau eraill.
O gartrefi i’r rhai sy’n byw ynddynt: clywn yr achos o blaid llais tenantiaid annibynnol cenedlaethol sydd bellach, dadleua Emma Nicholas, yn ysgubol yn sgil tân Tŵr Grenfell a sgandalau diweddar yn Lloegr.
Mae Rob Milligan a Vickie Cooper yn ystyried profiadau tenantiaid o waith datgarboneiddio, tra bod Satish Bk yn archwilio’r cysylltiadau rhwng dulliau coginio, awyru ac ansawdd aer dan do.
Gan droi at brofiadau staff tai rheng-flaen, mae Tegan Brierley-Sollis yn edrych ar dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o effaith ymdrin â thrawma yn feunyddiol arnynt. Mae Joe Stockley a Gareth Leech yn trafod gwaith panel newydd Dyfodol Tai Cymru.
Mae hyn i gyd, ynghyd ag erthyglau ar rentu preifat a’n diweddariadau rheolaidd ar gyllid, polisi, llywodraethiant, ymchwil a’r Senedd, yn creu WHQ newydd â rhywbeth at ddant pawb. Gobeithio y cewch y rhifyn yn un diddorol.
Jules Birch, golygydd, WHQ